Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Cynghor Dinesig Ffestiniog.
Cynghor Dinesig Ffestiniog. Cynhaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf, yn Swyddfa y Cyngor, o dan lywyddiaeth Mr. D. Williams, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri Cadwaladr Roberts, W. J. Rowlands, R. C. Jones, Hugh Teigl Jones, E. M. Owen, Ben. T. Jones, R. T. Jones, T. J. Roberts, Richard Roberts, J. Cadwaladr, J. Lloyd Jones (ieu.), W. Edwards, Hugh Lloyd, Lewis Richards, Dr. R. Jones (Swyddog Meddygol), W. E. Alltwen Williams (Peir- ianydd), George Davies (Arolygydd Iechydol), R. O. Davies (Clerc), ac Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol). Profi y Cement. Gan fod cymaint o Cement vn cael ei ddefn- yddio gyda'r Gwelyau Bacteraidd, pasiwyd ar argymelliad y Peirianydd, a'r Goruchwylydd Gwaith i gael Peiriant at brofi y Cement a ddefnyddir er mwyn gweled a ydyw yn dod i fyny a'r hyn ddylai fod mewn gwaith mor bwysig. Hysbvsodd Mr. Alltwen Williams y gellid cael un ail-law am C4 10 0. Ymweliad ei Fawrhydi. Hysbysodd Mr. Owen Jones iddo dderbyn pellebyr oddiwrth Mr. L. D. Jones (Llew Tegid) yn hysbysu y byddai i'w Fawrhydi Iorwerth VII ddod trwy Capel Currig ar ei ymweliad a Bangor, a gofynai am i'r Cyngor wneyd trefniadau ar gyfer hyny.-Ar gynygiad Mr. O. Jones a chefnogiad Mr. Richard Jones pasiwyd i ddatgan gofid y Cyngor fod y Pwyllgor cyfrifol am y trefniadau yn nglyn a'r ymweliad Brenhinol wedi cau Ffestiniog allan gan fod ei Fawrhydi yn dod mor agos i'r lle.- Pasiwyd i Gadeirydd y Cyngor gynrychioli y Dosbarth yn Nghaer yn nglyn a'r Ymweliad, ac os nad all ef fyned fod y Clerc i wneyd hyny ar ran y Cyngor. Ty Cwch. Pasiwyd i ofyn am gynygion am godi ty cwch wrth Lyn y Morwynion yn ol y planiau baratowyd gan Beirianydd y Cyngor. Codi Cyflog. Gofynai y Goruchwylydd Gwaith gyda'r Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd am gael codi ei gyflog. Cyflwynodd y Pwyllgor Gwaith y cais i'r Pwyllgor Arianol, a phasiodd y Pwyllgor hwnw i oedi y mater am y presenol. Cymeradwyodd y Cyngor waith y Pwyllgorau yn yr hyn a wnaethant. Llvdru Afonvdd. j y Gan fod cwynion parhaus yn nglyn a llygru afonydd trwy y dosbarth gan bersonau yn taflu ysgarthion a budreddi iddynt, pasiwyd i erlyn y cyntaf a geid yn euog o hyny o hyn allan, a bod yr ynadon yn cael eu gofyn i osod y ddirwy drymaf am y trosedd, lawn am Niweidiau. Pasiwyd i'r Clerc wneyd ymchwiliad i'r ceisiadau ddaeth i law am iawn oherwydd y niweidiau wnaed ar dir y Gelli, &-c., gyda'r Carthffosydd newyddion.—Pasiwyd yn mhell- ach i ofyn caniatad y perchenogion tiroedd nr y lie cyn myned yn mlaen gyda'r gwaith yn Capel Gwyn, LIar:, er gosod y lie mewn cyflwr iechydol. Adeiladu Waliau. Pasiwyd i gynyg y gwaith o wneyd Waliau yn y Gwelyau Bacteraidd i Mr. Henry Williams ar yr un telerau a'r gwaith a wnaeth yn yr un, lie yn flaenorol, sef 5/6 y llath. Gwaith Seiri. Pasiwyd i ofyn am gynvgion gan Seiri i wneyd y gwaith angenrheidiol yn y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd. Arianol. Pasiwyd taflen y Biliau a'r cyflcgau, yr hon oedd yn cyraedd y swm o £ 758 9s 7c. Y Cae enwareuon. I Pasiwyd i gael amcan-gyfrif am y gost o wneyd y gwaith gofynol yn y Cae Chwareuon, a bod y caniatad i wneyd hyny trwy dir y perchenogion yn cael ei sicrhau cyn symud yn mlaen yn mhellach. Meddygol. I Darllenwyd adroddiad Dr. Jones am fis Mai. Cofrestrwyd 22 o enedigaetbau yn ystod y mis, a 14 o farwolaethau. Yr oedd nifer y marwol- aethau a chyflwr iechyd yr ardal yn ystod y mis yn foddhaol. Adroddiad yr Arolygydd. I Hysbysodd yr Arolygydd i 4 o achosion o I Glefydon Heintus gael eu Nhodi yn ystod y I mis: 3 Gwddfglwyf ac 1 Taniddwf. Mvneåbvst. I Mr. Lewis Richards a ddywedodd ei fod yn dymuno galw sylw at y pwysigrwydd o gael Mynegbyst yn yr ardal i gyfeirio dyeithriaid i'r lleoedd yr oedd ganddynt eisiau myned. Yn ddyddiol fe welir pob! yn cerdded tua tair milldir o'u ffordd trwy gamgymeriad, ac y mae y Motor Cars yn gwneyd yr un camgym- eriacl hefyd, ond rid oedd ganddo ef unrhyw gydymdeimlad a'r rhai hyny (chwerthin), ond pan y gwelid rhai yn gorfod teithio ar draed tua thair neu bedair milltir o'u ffordd, a hyny o achos na fuasai mynegbyst i'w cyfeirio yn iawn, yr oedd yn orrnod o beth, a dyna oedd yn syn, plwyf Ffestiniog oedd yr unig un hebddynt, a phaham y dylem fod ar ol yn hyn o beth. Yr oedd y Surveyor wedi dyweyd pan alwodd ef (Mr. Richards) sylw at y peth o'i blaen, mai y Cynghor Sirol oedd i wneyd y gwaith, ond yr cedd yn cynyg eu bod hwy fel Cynghor Dinesig yn ei wneyd, neu heb ei wneyd am byth fyddai ei hanes. Mr. Richard Roberts A oes genym ni hawl i osod y rhai hyn ? Y Peirianydd Y Cyngor Sirol sydd i wneyd y gwaith, ac nid y ni, a dylem bwyso arnynt i'w wneyd. Mr. Lewis Richards Pam na wna nhw fo ynte ? Pwy sydd i b'.vyso ? Y Surveyor Y Clerc, am mai yn ei ofal ef y mae yr holl ohebiaethal1. I Mr. T. i. Yr y-ri cyii,?,? cin bod i ofyn i'r Cyngor Sirol eu gosod i fyny, ac ein 1 I bod yn gofyn i'r aelodau dros Ffestiniog ar y Cynghor Sirol bwyso i gael gwneyd y gwaith rhag blaen.—Pasiwyd hyny. I Tenders y Ty Cwch. Derbynlwyd Tenders am wneyd Ty Cwch yn Llyn y Morwynion gan y personau canlyn- ol :— J. Lloyd, Manod Road, £ 30 7s 6c; D. Jones, Contractor. £ 29 15s; G. Roberts, Benar View, £ 23 5s; Arthur & Co., C46 15s. Yr oedd y Pwyllgor wedi pasio i dderbyn eiddo Mr. G. Roberts, ond yn y Cynghor darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. G. Roberts yn hysbysu ei fod wedi gadael allan wrth anfon ei bris, dal am gario y coed, &c., at y llyn, ac yr oedd yn gofyn i'r Cynghor ychwanegu £ 3 at ei bris ar gyfer hyny. Mr. Cadwaladr Roberts a ddywedai fod peth fel hyn yn hollol anheg, yr oedd yn ym- ddangos iddo ef fod y dyn yma wedi gwybod rhywbeth am brisiau y lleill, ac yr oedd ef yn cynyg ei roddi i'r pris agosaf ato. Mr. Hugh Jones (Chemist), a sylwai fod pris Mr. Griffith Roberts yn is na'r un o'r lleill ar ol ychwanegu y L 3. Yr oedd y dyn wedi gwneyd camgymeriad, ac yr oedd hyny yn bosibl i unrhyw ddyn, ond cyncael rhybudd swyddcgol fed ei tender wedi ei dderbyn y mae yn ei gywiro, ac yr oedd hyny yn degwch a'r Cynghor ac a'r Contractor. Mr. Cadwaladr Roberts Dylem ei ohirio am fis, a rhoddi cynyg i'r lleill i gael dod i lawr yn eu prisiau os y dewIsonk Mr. T. J. Roberts; Yr wyf yn gweled Mr. Cadwaladr: Roberts yn myned yn rhy bell i hysbysu y lleill. Y mae yn myned i wneyd peth ynglyn a'r rhai hyn y maeyn ei gondemn- io ynglyn a Griffith Roberts. Ar gynygiad Mr. Hugh Jones (Chemist), pasiwyd i dderbyn eiddo Mr. Griffith Roberts. Mr. Cadwaladr Roberts: A ydyw yn ddigon clir yn y specifications nad oes yr un o'n dynion ni i roddi help o gwbl iddo. Y Peirianydd Ydyw, yn hollol glir. Mr. Cadwaladr Roberts: Yr oeddych yn dweyd yr un peth ynglyn a'r cario, ond dyma y dyn yma heb roddi y cario i mewn. Y Peirianydd Yr oedd y manylion yn ddigon clir ynglyn a hyny hefyd, ond fod Mr. G. Roberts wedi gwneyd camgymeriad fel y mae pawb o honom yn wneyd weithiau. Derbvniwvd vr eelurhad. I Y SefyUfa Arianol. Mr. Richard Roberts a ddywedai y byddai yn ddymunol cael gwybod pa fodd y cyfartalai y Sefyllfa Arianol yn awr a'r adeg yma y flwyddyn ddiweddaf. Y Clerc: Yr ydym yn well yn y Bank o £ 700 (clywch, clywch). Mr. T. J. Roberts: Yr oedd yn credu yn ngwyneb sefylfcfa bresenol yr ardal y dylid galw yn amlach am dreth y dwfr, hyd yn oed pe byddai rhaid rhoddi un arall i gynorthwyo y casglyddion, eor mwyn rhoddi cyfle i bobl dlod- ion dalu y dreth mor ysgafn ag oedd bcsibl. Mr. J. Cadwaladr: £ 30 ydyw y derbyniadau oddiwrth Dreth y Dwfr yn llai y flwyddyn hon na'r flwyddyn ddiweddaf, ac ystyried sefyllfa masnach yr ardal y mae hyn yn galonogol iawn. Y Motor Cars. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Cy- I hoeddus yn gofyn am gynorthwy Cynghor Dinesig Ffestiniog i wneyd rhywbeth er codi tai am y niwed a wneid i ffyrdd, &c., gan y Ceir Modur. Mr. R. Roberts: Yr oedd ef yn bleidiol iawn i gynorthwyo gyda stopio y rhai hyn. Mr. Cadwaladr Roberts a ofynai a oedd ddim yn bosibl gwneyd rhywbeth i atal y giwaid hyn ar y Sul. Fe ddaeth un ar y Sabbath i lawr at Station Tanygrisiau ac fe fethodd fyned ymhellach, a pity garw ei fod wedi gallu myned yn ol, ac yr oeddwn yn clywed am un wedi ceisio myned i Cwmorthin hefyd (chwerthin). Yr wyf fi yn ei siarad yn ddifrifol beth bynag yw fy nghymeriad i fy hunan (chwerthin mawr). Pasiwyd i ddeis- ebu. Adeiladu Waliau. Derbyniwyd Teftders am Adeiladu Waliau yn y Gwelyau Bacteria gan y personau canlyn- ol :—Henry Williams, 7/- y lkth H. S. Wil- liams, 5/6 y llath D. Jones, 7/6 y Hath. Wedi Hawer o ddadlu, pasiwyd i roddi y gwaith i H. S. Williams am 5/6 y llath. Y Cadeiryddd Y mae llawn digon o siarad wedi bod, a siarad digon afreolaidd hefyd. Gobeithio na ddigwydda eto (clywch, clywch). [Erfyniwyd ar i'r Gohebwyr beidio cofnodi y ddadl yn nglyn a'r uchod.] Ymweliad y Brenin a Chymru. Y Clerc a ddywedodd fod ymdrech yn cael ei wneyd i gael gan y Brenin pan ar ymweliad a Bangor i alw yn Bettwsycoed, ac yr oedd Dr. Jones wedi ceisio ei gael i ymweled a Blaenau Ffestiniog hefyd, ac yr oedd yn credu y buasai llawer eisieu myned yno i'w weled, ac yr oedd Cadeirydd Cynghor y Bettws yn awgrymu cael Album o ddarluniau o Bettws ycoed a Ffestiniog i'w roddi iddo, gan fod yr amser yn rhy fyr i roddi anerchiad iddo. Mr. Hugh Jones Pe bai yn dod i Ffestiniog yr oedd yn credu y dylent wneyd rbywbetb, ond gan nad oedd felly, credai mai gadael iddo I cedd oreu. Yr oedd ef mor deyrngarol, a neb i'r Brenin. Mr. R. T. Jones Yr oedd yn cynyg peidio gwneyd dim. Nid oedd yn gweied yn dda ddod i'r un Sir a ni heb son am Ffestiniog. Mr. Richard Roberts Efallai y buasai y dyn yn dod o hono ei hun, oni bai ei fod yn llaw y Pwyllgor. Y Pwyllgor sydd yn ei reol- eiddio (chwerthin). Gadawyd y mater. Mynwent y Llan. Gadawyd mater Mynwent y Llan mewn llaw Pwyllgor i adrodd arno. Llythyrau. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. D. Jones,, Builder, yn dyweyd ei fod wedi gorphen y tai yn Jones Street, ac fod y lie yn bared i'r Cynghor ymweled ag ef. Llythyr oddiwrth Dr. Roberts, Plaswaenydd yn diolch am eu llythyrau o gydymdeimlad. Llythyr oddiwrth Mr. Bowton yn cwyno fod pibellau dwfr sydd yn arwain i'w dy wedi eu cau yr adeg oeddynt yn glanbau y pibellau yn Hendreddu.—Gadawyd y mater yn llaw y Peirianydd. I
IBwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst.
I Bwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst. Cyfarfu y Bwrdd dydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mri John Roberts (Cadeirydd) Hugh Roberts (Is-gadeirydd) Edward Edwards; O. Lloyd Jones; Parch John Gower Edward Mills Meredydd Owen Parch H. Rawson Willian* D. G. Jones Parch J. Ll. Richards W. G. Jones; John Hughes T. T. :Roberts; John Davies (Gwytherin) E. W. Roberts Isaac Hughes; William Evans John Davies (Cabel Gar- mon) David Owen Rowland Hughes R. T. Ellis Robert Williams William Wil- liams R. R. Owen (Clerc) a'r ddau Swyddog Elusenol, Mri. T. C, Roberts, ac O. Evans Jones. Yr Elusenau a'r Tlodion. Taloddd Mr. O. Evans-Jones £123 2s 6c yn nosbarth Llanrwst; a Mr. T. C. Roberts £ 79 10s Oc yn nosbarth Pentrefoelas.—Hysbysodd y Clerc fod 325 o dlodion trwy'r Undeb, yr hyn oedd yn gynydd o dri ar y mis blaenorol a 10 ar yr un amser y llynedd.—Y Cadeirydd, "Rhyfedd fod cynydd yr adeg hon o'r flwydd- yn. At y Gauaf y bydd cynydd yn gyffredin." I Dinas Noddfa'r Tlodion. I Sylwodd y Cadeirydd fod nifer y tlodion oedd yn byw yn nhref Llanrwst yn uchel iawn.- Yr Is-Gadeirydd, Mae haner tlodion Llanrwst wedi dod yma o leoedd eraill os nad oes fwy na'u haner."—Cadeirydd, Mae yn ofnus ein bod yn rhy garedig yma, ac felly yn gefnogol iddynt ddod yma."—Is-Gadeirydd, "Y mae llawer o wir yn hyny. Yr wyf yn cofio i'r Bwrdd hwn wrthod dyn oedd yma o Gaernar- fon, a phasiwyd iddo fyned i'w blwyf ei hun, a phan ddywedwyd hyny wrtho, atebodd, Rhaid i ni weithio yno, ac nid bod yr un fath ag yma."—Y Swyddog, "Mae rhai yn dod i fyw i'r dref o leoedd eraill yn yr Undeb. Dyma y nesaf, Martha Evans, Daeth yma o Trefriw. Mae yma dai ar gyfer pob math, ac y mae yn dyweyd ei bod wedi ei throi o'i thy yn Trefriw, a hi a'i phlant bach."— Galwyd Martha Evans o flaen y Bwrdd, ond nid oedd Mr. Gower yn digwydd bod i fewn &r y pryd. Holwyd hi gan y Cadeirydd, a dy- wedodd iddi hi a'i gwr Hugh Evans (garddwr), fod yn denantiaid i'r Parch J. Gower am tua phum mlynedd. Bu farw ei gwr saith wythnos yn ol, ac yn mhen tri diwrnod ar ol ei gladdu trowyd hi a'r plant allan o'r ty, a chymerwyd ei dodrefn. Yr oedd rhent y ty yn 9/6 y mis, ac yr oedd mewn dyled o £ 3 18s am rent, a'r tebyg oedd i Mr. Gower ei throi allan am y ddyled hono.—Mr. Rowland Hughes, "Dylas- ai Mr Gower fod yma i glywed pethau fel hyn." -Y Swyddog, Yr oedd yma ychydig fynudau yn ol."—Mr. Rowland Hughes, "Yr oedd Martha Evans dipyn yn hoff o ddawnsio pan oedd ei gwr yn fyw, a byddai yn myned yn ami oddiwrtho i St. Helen's.Gohiriodd y Bwrdd yr achos hyd nes y deuai Mr. Gower i mewn, ac yn mhellach yn mlaen ar y gweithrediadau gosodwyd adroddiad Martha Evans o'i flaen, a'i bod wedi cael 15/- o gynorthwy gan y Swyddog Elusenol yn ystod y mis.—Mr Gower Gwell genyf beidio dywedyd dim yn yr achos hwn. Un rhyfedd iawn yw Martha Evans. Byddai yn cymeryd yn ei phen i fyned adref at ei theulu yn St. Helen's yn ami iawn, ac yn gadael ei gwr ymdaro goreu y gallai. Daeth yn ei hoi a gadawodd ei baban ar gareg drws un o'r tai yn Nhrefriw. Y tebygrwydd yw i Hugh ei gwr gael anwyd wrth fyned i'r ty a chysgu yno lie nad oedd tan wedi bod er's peth amser."—Mr. John Davies (Capel Garmon) Y mae y ddynes hon wedi dywedyd pethuu wrth y Bwrdd caled iawn am Mr. Gower, ei fod wedi cymeryd ei dodrefn a'i throi hi a'i phlant allan o'r ty yn mhen tri diwrnod ar ol iddi gladdu ei gwr." Mr. Gower, "Ni throais hi allan o gwbl, ac ni welais ddim o'i dodrefn. Daeth hi a'r allwedd i'r Rectory, ac aeth i mewn i'r ty yn y nos, a chariodd y dodrefn i gyd o hono. Ni bu i mi ymyraeth ynddi hi na'i dodrefn. Buasai lawn gystal genyf gael Satan yn denant a chael ei bath hi. Gwerth- odd y Gwn gafodd gan Mr. Davies, a chafodd £ 20 o'r Clwb fel y clywais. Byddai hi a'i gwr yn ymladd a chwareu a'u gilydd bob yn ail un hynod iawn yw hi.Y Swyddog, Yn an- ffodus, y mae y ddynes hon wedi dod i'r dref lie y mae llawer iawn o rai tebyg iddi eisieu gwaith, ac y mae hi yn myned drosodd i Tref- riw i weithio. Pe buasai wedi aros yn Trefriw i fyw buasai yn llawer gwell iddi Dywedodd wrthyf fi mai £ 3 10s Oc a gafodd o'r Clwb at gladdu ei gwr. Y mae y plant wedi myned at y Pabyddion, ond y mae y baban oedd ganddi ar ei breichiau yma heddyw, yn rhy ifanc gan- ddynt i'w gymeryd." Wedi cryn siarad yn mhellach, pasiwyd i oedi ystyried ei chais am ,elusen am fis, ac i'r Swyddog yn y cyfamser wneyd ymholiad pellach i'r achos. Symud. xmddangosodd Mr P. Mclntyre o flaen y Bwrdd yn nglyn ag achos James Lloyd, 85 mlwydd oed, oedd yn yr Elusendai. Yn Pen- craig yr arferai fyw, ac yr oeddid yn teimlo mai y Ty oedd y lie goreu iddo gan ei fod yn anall- uog i ofalu am dano ei hun, ac ofnid irhywbeth ddigwydd iddo yn y fan yr oedd. Yr oedd ganddo 9p. 13s. 3c. yn yr Ariandy, a byddai yn well i'r Bwrdd drefnu gyda'r eiddo hwnw.- Pasiwyd i dderbyn Lloyd i'r Ty. Adroddiad y Meistr. Mr Thomas a hysbysodd fod 26 yn y Ty ar gyfer 30 yr un tymor y llynedd; ac i 75 o grwydriaid alw yn ystod y mis ar gyfer 80 yr un mis y llynedd.—Daeth James Lloyd, Heol Scotland, i'r Ty wedi tori ei fraich gyda choed- en, Yr oedd yn ymddangos ei fod yn ceisio llifio coeden yn y coed ar ffordd y Bettws, ac i hono syrthio arno a thori ei fraich.—Mr Gow- er, I pwy oedd c'n gweithio.Y Swyddog, Iddo'i hun.Mr Gower, 'Does dim siawns cael compensation ynte."—Cadeirydd, "Na, ni ddeuwn allan o honi hi y ffordd yna. Yr oedd y dyn hwn mewn lie na ddylasai fod, a thorwyd ei fraich."—Y Meistr a hysbysodd yn mhellach i grwydryn o'r enw Michael Kerry dori ffenestr swyddfa y clerc wrth fyned o'r Ty wedi bod yno yn aros dros y nos. Torodd hi yn wir- foddol, ac anfonwyd ef i garchar am fis.-Yr y gadair a archwyd at wasanaeth dyn oedd yn y Ty yn anghymwys i'r pwrpas ei bwriadwyd, phasiwyd i gael un arall. I Gwyliau. I Caniatawyd wythnos o wyliau i Mr. O. Evans-Jones, y swyddog elusenol, ac hefyd, fod y rhai oedd yn y ty yn cael myned gyda'r trip perthynol i'r Ysgolion Sabbothol i Lan- dudno. I Yswirio. I Y Clerc a eglurodd fod yn ofvnol yswirio y rhai oedd yn ngwasanaeth y Bwrdd i fyny i /680, ac yr eedd wedi cael telerau 14 o Gym- deithasau y rhai a amrywient o £ 2 8s 4c i 17/ Pasiwyd i Yswirio gyda'r Broker's Insurance am 17/- y flwyddyn. Rheswm am yr Elusen. I Pan ddadleuwyd dros roddi elusen i wraig dlawd, gofynodd Mr. Gower, "Beth yw yr achos bod hon yna yn cael 3/6 ?"—Y Swyddog, (Mr. O. E. Jones), "Am ei bod yn dlawd mae'n debyg (chwerthin mawr). Costau Buchfrechu. I Y Clerc a roddodd gyfrif o gostau y Buch- I frechu trwy yr Undeb. Cyfartaledd y costau jam y pedair blynedd cyn 1898 ydoedd £ 40 8s 6c ac o 1898 hyd yn bresenol yr oedd y costau blynyddol yn £ 130 8s 4c.-Mr, John Hughes a roddodd rybudd o gynygiad ar y mater at y Bwrdd nesaf. Yr oedd y cynydd mawr yn y costau yn beth y dylid ei ystyried yn bwyllog. Yr oedd Undebau eraill yn symud yn mlaen at leihau costau yn yr un cyfeiriad. Oed Mawr. I Gofynodd y Swyddog Elusenol am iddynt barhau elusen mewn achos lle'r oedd y gwr a'r wraig yn llesg, a'r ddau yn 65 mlwydd oed. Awgrymid y dylasent wneyd ar lai na 6s.-Mr. John Davies (Capel Garmon), "Mae yr oed yn fawr ac ni ddylem wasgu mewn achosion fel hyn. Y mae y ddau yn tynu yn mlaen at y terfyn addawedig."—Mr. Gower, "Byddwch chwi, Mr. Davies, yn gweithio pan fyddwch yn 85 yw wyf yn sicr.Mr. Mills, "Yn mha le, tybed ?"—Y Cadeirydd, Nid yw oed bob amser yn safon i fyned wrtho. Cyflwr iechyd y rhai sydd yn dod o'n blaen, yn fwy na'u hoed, a ystyrir genym. Mae ambell i ddyn cryf ac iach pan ar fin ei bedwar ugain, ac er- aill yn llesg cyn cyrhaedd ugain. Ystyried pob achos wrtho'i hun ddylem."—Pasiwyd i barhau yr elusen. Yn Gwella. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. Cox, Dinbych, yn hysbysu fod William Jones, Llan- ddewi, a Sarah Edwards, Bwlch, Dolwyddel- en, yn gwella yn rhagorol, a'r ddau yn dod allan o'r sefydliad yno. Eiddo Margaret Williams, Melinycoed. I Yr oedd y Clerc wedi derbyn y £ 27 perthyn- ol i M. Williams, sydd yn awr yn Ninbych, ac wedi eu dodi yn yr Ariandy. Pasiwyd i dalu dau fil dyledus ami allan o'r swm. Addysg y Plant. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr.. J. Er Humphreys, Clerc Bwrdd Addysg y Dosbarth, yn galw sylw at fod plant i dlodion dderbynient elusen, yn absenoli eu hunain o'r ysgolion.— Mr. O. E. Jones a ddangosodd gardiau presen- oldeb y plant, a dywedodd nad oedd yr un y dylid cwyno llawer yn eu cylch. Gwyddai am ddau achos arall, ond nid oeddynt yn derbyn elusen parhaol.—Y Cadeirydd, Dylem fod yn ofalus iawn gyda chael y plant i'r ysgolion. Byddai yn well i'r Clerc anfon at Mr Humph- reys am enwau y rhai y cwynir yn eu cyIch. Pasiwyd i anfon am yr enwau. Ail Brisio. Y Clerc a ddywedodd fod Cyngor Sirol Din- bych wedi ail-brisio y deg plwyf perthynol i'r Undeb oeddynt yn y Sir hono. Yn 1903 yr oedd eu gwerth trethiadol yn 32,344 10s., ac awr yr oedd yn 32,635p. Codwyd 594p. yn ngwerth trethiadol pedwar o'r plwyfi, a gos- tyngwyd 275p. 10s. mewn chwech o honynt.yn gadael codiad terfynol o 288p. 10s. A
HARLECH. -^^-I
HARLECH. Llaweyndd i'n calon ydyw deall mai y cyfaill talentog Mr. John Richards, Broncastell, o'r lie hwn oedd yn gydfuddugol yn Eisteddfod Towyn ar y Chwedl yn desgrifio Bywyd Cym- reig gan' mlynedd yn ol." Yr ydych chwi yn Ffestiniog yna, Mr. Golygydd, yn meddwl nad oes hafal i Ffestiniog am feirdd a llenorion, ond gwelwch trwy hyn y dichon da ddyfod o Nazareth. Pwy wyr nad o Harlech y bydd Cymru yn cael ei Daniel Owen nesaf. Yr ydym yn hyderu nad yw hyn ond ernes o'r anrhyd- edd sydd i ran y cyfaill hwn. Well done, J.R. ewch yn mlaen.-GoH.
LLANFROTHEN. I
LLANFROTHEN. MARWOLAETH MR. MORRIS ROBERTS, Y GARREG.—Mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth yr hen gyfaill diddan Morris Roberts, yr hyn a gymerodd le pryd- nawn dydd Llun, wedi cystudd byr ond blin. Fel y gwyr llawer, bu yn beryglus wael tua thair blynedd yn ol, ond cafodd ei arbed o safn angeu megis. Fodd bynag, bu i'r cystudd hwnw adael ei ol yn arhosol arno, ac ni bu byth yr un un ar ol hyny. Yn ymarferol, yr odd wedi ei gaethiwo i'r gongl, a chydag an- hawsder mawr y gallai fyned dim o gwmpas. Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pur a gonest, a chredaf nad oes neb a'i hadwaenai na ddywed ei fod yn ddyn duwiol mewn gwir- ionedd. Bu yn llenivi y swydd o flaenor yn eglwys Siloam am dros ugain mlynedd, a men- traf ddwe'yd, na lanwyd y swydd gan neb erioed gyda mwy o ffyddlondeb. Dilynai gyf- arfodydd crefyddol yn ddifwlch, ac ni adawai i ddim ond rhwystrau anorfod i'w luddias iddynt. Credaf iddo (yn y blynyddoedd diweddat;, wneud cam a'i iechyd, a byrhau ei ainioes trwy ei ymdrechion i gael y Moddion Crefyddol ar y Sabbathau. Chwith iawn fydd gweled ei le yn y Set Fawr yn wag. Dydd Iau nesaf. rboddir ei weddillion i orphwys yn hen fynwent y Llan. Cafodd ei ran yn helaeth o brofedlg- aethau bywyd ond bellach caiff orphwys yn dawel o "gyrhaedd pob poen a thrallod." Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i weddw hiraethus yn ei galar dwys ar ei ol. Wedi bod yn cyd- fyw am yn agos i haner can' mlynedd, c iawn iddi fydd gweled yr hen gongl ar yr eI- wyd yn wag. Nawdd y Nef fyddo r CYFAILL.
Bethesda ac Ymweliad y Brenin.-
Bethesda ac Ymweliad y Brenin. Mewn cyfarfod o reolwyr ysgolion i> nos Sadwrn, trefnwyd fod y plant i gaeI en casglu uwcblaw Ystafell y Cyngor,  y CYf- lwynir anerchiad y Cyngor i'r Brenin ar ei fYn- ediad trwy'r .He. a gofynir i cb^ Penrhyn ffurfio guard of honour. Awgrymwy' yn y cyfarfod hefyd fod dymuniad yn  anfon at dafarnwyr i gau eu tai ??" dyd ond gwrthwynebai un o'r rheolwyr "y y y £ ^an na ewyllysiai i'r Brenin feddwl ein bad yn fwy ffug-sancteiddiol nag ydym mewn 1
-PENMACHNO. _..E
PENMACHNO. _E<lr I DAMWAIN,-Yr wythnos ddiwi8,3 fyddodd John Morris, LIangernyw, SY?-dydd traction perthynol i Mr. R F Jones, 9lasnach traction perthynol i Mr. R. E. Jones, ach- ydd GIo o'r lle hwn. Yi.adengyE; id,10 fyned i lawr o'r peiriant i edrych a oedd ^wfr Y" Y tanc, gan ei adael yn ngofal bac g oedd jjU ac gydag ef. Methodd hwnw a.'i !yw°? ?grbyo t aeth i'r wal gan wasgu Morns yn e i berbya nes y torwy el goes. I.yd CYLCHWYL YR EGLWYS rynhaliw?d cylchwyl flynyddol yr Eglwys y Sadw", Sul diweddaf. Gwasanaethwyd dy gadwrn 1 gan y glaen* gan y Parch. Benjamin Thomas, j' g? Y < au Ffestiniog. Y Sabboth, am ^g,n, y Parch. R. T. Jones, GIanogwen arr, ? ddau, Y f Parch. J. LI. Richards, B.A., Dolwyddeled 6, y Parch. R. T. Jones. Pregetb?'j?gs yn y Cwm am 2. Cafwyd oedfaoo?, ;?ot.  yn y Cwm am 2. Cafwyd oedf, hagorol- J
BETTWSYCOED. -4
BETTWSYCOED. 4  Wedi gweled yn y Drych §??0?" farwolaeth yr hen gymeriad donioi ?tyoO'? pysgotwr o nod yn Bel tt?vsycoed, e- ?,Iy,oo Gwilym Glan Conwy, Bangor, Pa" I?do t6l hyn d Iiwr i Gwr enwog oedd Goronwy-a daliwrII Deiliaid afon Conwy ( Hefo plu', cadd hufen plwy » A Hog o afon Llugwy.
.-yyYYPORTHMADOG- yj )
y y Y Y PORTHMADOG- yj ) PRIODAS.-YR wythnos ddiwe jju^jpbr^ I mewn glan briodas Mr. John e Cyfreithiwr, a Miss Clarke R"sseu. mercb  W. Clark Russell, y nofelydd ??g Bath y cymerodd y briodas Ie. Mr. ANRHEGU.-Dydd Llun. ?''? ?r? Hugh Jones, 34, New Street a darltin ardd C hono ei hun a phwrs o aur fel L?ydn3,byddl. a ''th am ei lafur gwerthfawr a diaino fe Y'grifelly ,dd Undeb Cerddorol Cylchdeithiau wes!eyaldd Porthmadog a Ffestiniog. yv/vVvV** t
TREFN OEDFAON Y SIUL,
TREFN OEDFAON Y SIUL Y METHODISTIAID. wrecsam. f PENIEL.-Parch. J. Williams, B-A' wre,Csaol, ENGEDI—Parch. D. O'Brien O?si. ??fo?'? GWYLFA—10, Parch. Edward ,.?i?homas,L!? fon. !E;' d ,a,- d Thomas' ?gps. rhaiadr. 6, Parch. E. Trefor Evans. |j Llwyngwril. E_ 'r"?for s J BETHESDA.-IO, Parch. E Trefor Evas: Llwyngwril. 6, Parch. Edwaru, Tho?' 1, Llanrhaiadr. Ll? TABERNACL.—Parch, Owen Evans, L dudno. L1 d 0?0' ( MAENOFFF R EN. -Parch 0 Lloyd Owen. ( Bontndu. r0 V^ieS' GARREGDDU .-Parch. 1. Gwynoro Davte, I Abermaw.. eV CAPEL SEISNIG (English Cr^aPnel).—ReV' i John Owen, M.A. rfIJ. I, BOWYDD.-Parch. Griffith P. I-jughes, rdoria I Nefyn.. Caef- RHIW.—Parch. J. Pryce D???? A Cae' BETHEL.—Parch D. Charles Evans,eganwy YR ANNIBYNWYR. | BETHEL.-Cyfarfod Ysgol. HyFRyDFA.-?Parch.H.Da?, /Lbererch, I BETHANIA.-IO. Parch. T. Gnffltn, & Parch. J. Rhydwen Parry. Aii B D JERUSALEM -Mr. J. ?rnonLc??.AA..B P- BRYNBOWYDD,-Mr. Robert Edmunds. 6 ISm^0P^: L Parch. T. Griffith. CAR.??Jch?WiI?.Po.?  y WESLEYAID. EB?E.ER-10. Mr. Atan Griffith ^nygri-j iau. 6 !larch. R. Morton Roberts. DISGWYLI,?.-lo, ?.  .? G. G. Roberts, Blaenau, SOAR, RHIW.-Mr vV. Roberts, Maentwrog;  FFESTINIOG,-lO. Parch. R, Morton Roberts. I 6, Parch. T.- Isfryn Hu? ghes. .I Y BEDYDDWYR. I SEION.-10, Cyfarfod Gweddi. 6, parch. j Moses Roberts. j CALFARIA—Parch, E. Cefni Jone. MORIAH.-IO, Parch. Moses Robsrts. SeioD, 1 6, Cyfarfod Gweddi. CAER SALEzl. -Alr. PISGAH.—Mr. William Humphreys. J