Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Cynghor Dinesig Ffestiniog.

IBwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst.

News
Cite
Share

I Bwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst. Cyfarfu y Bwrdd dydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mri John Roberts (Cadeirydd) Hugh Roberts (Is-gadeirydd) Edward Edwards; O. Lloyd Jones; Parch John Gower Edward Mills Meredydd Owen Parch H. Rawson Willian* D. G. Jones Parch J. Ll. Richards W. G. Jones; John Hughes T. T. :Roberts; John Davies (Gwytherin) E. W. Roberts Isaac Hughes; William Evans John Davies (Cabel Gar- mon) David Owen Rowland Hughes R. T. Ellis Robert Williams William Wil- liams R. R. Owen (Clerc) a'r ddau Swyddog Elusenol, Mri. T. C, Roberts, ac O. Evans Jones. Yr Elusenau a'r Tlodion. Taloddd Mr. O. Evans-Jones £123 2s 6c yn nosbarth Llanrwst; a Mr. T. C. Roberts £ 79 10s Oc yn nosbarth Pentrefoelas.—Hysbysodd y Clerc fod 325 o dlodion trwy'r Undeb, yr hyn oedd yn gynydd o dri ar y mis blaenorol a 10 ar yr un amser y llynedd.—Y Cadeirydd, "Rhyfedd fod cynydd yr adeg hon o'r flwydd- yn. At y Gauaf y bydd cynydd yn gyffredin." I Dinas Noddfa'r Tlodion. I Sylwodd y Cadeirydd fod nifer y tlodion oedd yn byw yn nhref Llanrwst yn uchel iawn.- Yr Is-Gadeirydd, Mae haner tlodion Llanrwst wedi dod yma o leoedd eraill os nad oes fwy na'u haner."—Cadeirydd, Mae yn ofnus ein bod yn rhy garedig yma, ac felly yn gefnogol iddynt ddod yma."—Is-Gadeirydd, "Y mae llawer o wir yn hyny. Yr wyf yn cofio i'r Bwrdd hwn wrthod dyn oedd yma o Gaernar- fon, a phasiwyd iddo fyned i'w blwyf ei hun, a phan ddywedwyd hyny wrtho, atebodd, Rhaid i ni weithio yno, ac nid bod yr un fath ag yma."—Y Swyddog, "Mae rhai yn dod i fyw i'r dref o leoedd eraill yn yr Undeb. Dyma y nesaf, Martha Evans, Daeth yma o Trefriw. Mae yma dai ar gyfer pob math, ac y mae yn dyweyd ei bod wedi ei throi o'i thy yn Trefriw, a hi a'i phlant bach."— Galwyd Martha Evans o flaen y Bwrdd, ond nid oedd Mr. Gower yn digwydd bod i fewn &r y pryd. Holwyd hi gan y Cadeirydd, a dy- wedodd iddi hi a'i gwr Hugh Evans (garddwr), fod yn denantiaid i'r Parch J. Gower am tua phum mlynedd. Bu farw ei gwr saith wythnos yn ol, ac yn mhen tri diwrnod ar ol ei gladdu trowyd hi a'r plant allan o'r ty, a chymerwyd ei dodrefn. Yr oedd rhent y ty yn 9/6 y mis, ac yr oedd mewn dyled o £ 3 18s am rent, a'r tebyg oedd i Mr. Gower ei throi allan am y ddyled hono.—Mr. Rowland Hughes, "Dylas- ai Mr Gower fod yma i glywed pethau fel hyn." -Y Swyddog, Yr oedd yma ychydig fynudau yn ol."—Mr. Rowland Hughes, "Yr oedd Martha Evans dipyn yn hoff o ddawnsio pan oedd ei gwr yn fyw, a byddai yn myned yn ami oddiwrtho i St. Helen's.Gohiriodd y Bwrdd yr achos hyd nes y deuai Mr. Gower i mewn, ac yn mhellach yn mlaen ar y gweithrediadau gosodwyd adroddiad Martha Evans o'i flaen, a'i bod wedi cael 15/- o gynorthwy gan y Swyddog Elusenol yn ystod y mis.—Mr Gower Gwell genyf beidio dywedyd dim yn yr achos hwn. Un rhyfedd iawn yw Martha Evans. Byddai yn cymeryd yn ei phen i fyned adref at ei theulu yn St. Helen's yn ami iawn, ac yn gadael ei gwr ymdaro goreu y gallai. Daeth yn ei hoi a gadawodd ei baban ar gareg drws un o'r tai yn Nhrefriw. Y tebygrwydd yw i Hugh ei gwr gael anwyd wrth fyned i'r ty a chysgu yno lie nad oedd tan wedi bod er's peth amser."—Mr. John Davies (Capel Garmon) Y mae y ddynes hon wedi dywedyd pethuu wrth y Bwrdd caled iawn am Mr. Gower, ei fod wedi cymeryd ei dodrefn a'i throi hi a'i phlant allan o'r ty yn mhen tri diwrnod ar ol iddi gladdu ei gwr." Mr. Gower, "Ni throais hi allan o gwbl, ac ni welais ddim o'i dodrefn. Daeth hi a'r allwedd i'r Rectory, ac aeth i mewn i'r ty yn y nos, a chariodd y dodrefn i gyd o hono. Ni bu i mi ymyraeth ynddi hi na'i dodrefn. Buasai lawn gystal genyf gael Satan yn denant a chael ei bath hi. Gwerth- odd y Gwn gafodd gan Mr. Davies, a chafodd £ 20 o'r Clwb fel y clywais. Byddai hi a'i gwr yn ymladd a chwareu a'u gilydd bob yn ail un hynod iawn yw hi.Y Swyddog, Yn an- ffodus, y mae y ddynes hon wedi dod i'r dref lie y mae llawer iawn o rai tebyg iddi eisieu gwaith, ac y mae hi yn myned drosodd i Tref- riw i weithio. Pe buasai wedi aros yn Trefriw i fyw buasai yn llawer gwell iddi Dywedodd wrthyf fi mai £ 3 10s Oc a gafodd o'r Clwb at gladdu ei gwr. Y mae y plant wedi myned at y Pabyddion, ond y mae y baban oedd ganddi ar ei breichiau yma heddyw, yn rhy ifanc gan- ddynt i'w gymeryd." Wedi cryn siarad yn mhellach, pasiwyd i oedi ystyried ei chais am ,elusen am fis, ac i'r Swyddog yn y cyfamser wneyd ymholiad pellach i'r achos. Symud. xmddangosodd Mr P. Mclntyre o flaen y Bwrdd yn nglyn ag achos James Lloyd, 85 mlwydd oed, oedd yn yr Elusendai. Yn Pen- craig yr arferai fyw, ac yr oeddid yn teimlo mai y Ty oedd y lie goreu iddo gan ei fod yn anall- uog i ofalu am dano ei hun, ac ofnid irhywbeth ddigwydd iddo yn y fan yr oedd. Yr oedd ganddo 9p. 13s. 3c. yn yr Ariandy, a byddai yn well i'r Bwrdd drefnu gyda'r eiddo hwnw.- Pasiwyd i dderbyn Lloyd i'r Ty. Adroddiad y Meistr. Mr Thomas a hysbysodd fod 26 yn y Ty ar gyfer 30 yr un tymor y llynedd; ac i 75 o grwydriaid alw yn ystod y mis ar gyfer 80 yr un mis y llynedd.—Daeth James Lloyd, Heol Scotland, i'r Ty wedi tori ei fraich gyda choed- en, Yr oedd yn ymddangos ei fod yn ceisio llifio coeden yn y coed ar ffordd y Bettws, ac i hono syrthio arno a thori ei fraich.—Mr Gow- er, I pwy oedd c'n gweithio.Y Swyddog, Iddo'i hun.Mr Gower, 'Does dim siawns cael compensation ynte."—Cadeirydd, "Na, ni ddeuwn allan o honi hi y ffordd yna. Yr oedd y dyn hwn mewn lie na ddylasai fod, a thorwyd ei fraich."—Y Meistr a hysbysodd yn mhellach i grwydryn o'r enw Michael Kerry dori ffenestr swyddfa y clerc wrth fyned o'r Ty wedi bod yno yn aros dros y nos. Torodd hi yn wir- foddol, ac anfonwyd ef i garchar am fis.-Yr y gadair a archwyd at wasanaeth dyn oedd yn y Ty yn anghymwys i'r pwrpas ei bwriadwyd, phasiwyd i gael un arall. I Gwyliau. I Caniatawyd wythnos o wyliau i Mr. O. Evans-Jones, y swyddog elusenol, ac hefyd, fod y rhai oedd yn y ty yn cael myned gyda'r trip perthynol i'r Ysgolion Sabbothol i Lan- dudno. I Yswirio. I Y Clerc a eglurodd fod yn ofvnol yswirio y rhai oedd yn ngwasanaeth y Bwrdd i fyny i /680, ac yr eedd wedi cael telerau 14 o Gym- deithasau y rhai a amrywient o £ 2 8s 4c i 17/ Pasiwyd i Yswirio gyda'r Broker's Insurance am 17/- y flwyddyn. Rheswm am yr Elusen. I Pan ddadleuwyd dros roddi elusen i wraig dlawd, gofynodd Mr. Gower, "Beth yw yr achos bod hon yna yn cael 3/6 ?"—Y Swyddog, (Mr. O. E. Jones), "Am ei bod yn dlawd mae'n debyg (chwerthin mawr). Costau Buchfrechu. I Y Clerc a roddodd gyfrif o gostau y Buch- I frechu trwy yr Undeb. Cyfartaledd y costau jam y pedair blynedd cyn 1898 ydoedd £ 40 8s 6c ac o 1898 hyd yn bresenol yr oedd y costau blynyddol yn £ 130 8s 4c.-Mr, John Hughes a roddodd rybudd o gynygiad ar y mater at y Bwrdd nesaf. Yr oedd y cynydd mawr yn y costau yn beth y dylid ei ystyried yn bwyllog. Yr oedd Undebau eraill yn symud yn mlaen at leihau costau yn yr un cyfeiriad. Oed Mawr. I Gofynodd y Swyddog Elusenol am iddynt barhau elusen mewn achos lle'r oedd y gwr a'r wraig yn llesg, a'r ddau yn 65 mlwydd oed. Awgrymid y dylasent wneyd ar lai na 6s.-Mr. John Davies (Capel Garmon), "Mae yr oed yn fawr ac ni ddylem wasgu mewn achosion fel hyn. Y mae y ddau yn tynu yn mlaen at y terfyn addawedig."—Mr. Gower, "Byddwch chwi, Mr. Davies, yn gweithio pan fyddwch yn 85 yw wyf yn sicr.Mr. Mills, "Yn mha le, tybed ?"—Y Cadeirydd, Nid yw oed bob amser yn safon i fyned wrtho. Cyflwr iechyd y rhai sydd yn dod o'n blaen, yn fwy na'u hoed, a ystyrir genym. Mae ambell i ddyn cryf ac iach pan ar fin ei bedwar ugain, ac er- aill yn llesg cyn cyrhaedd ugain. Ystyried pob achos wrtho'i hun ddylem."—Pasiwyd i barhau yr elusen. Yn Gwella. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. Cox, Dinbych, yn hysbysu fod William Jones, Llan- ddewi, a Sarah Edwards, Bwlch, Dolwyddel- en, yn gwella yn rhagorol, a'r ddau yn dod allan o'r sefydliad yno. Eiddo Margaret Williams, Melinycoed. I Yr oedd y Clerc wedi derbyn y £ 27 perthyn- ol i M. Williams, sydd yn awr yn Ninbych, ac wedi eu dodi yn yr Ariandy. Pasiwyd i dalu dau fil dyledus ami allan o'r swm. Addysg y Plant. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr.. J. Er Humphreys, Clerc Bwrdd Addysg y Dosbarth, yn galw sylw at fod plant i dlodion dderbynient elusen, yn absenoli eu hunain o'r ysgolion.— Mr. O. E. Jones a ddangosodd gardiau presen- oldeb y plant, a dywedodd nad oedd yr un y dylid cwyno llawer yn eu cylch. Gwyddai am ddau achos arall, ond nid oeddynt yn derbyn elusen parhaol.—Y Cadeirydd, Dylem fod yn ofalus iawn gyda chael y plant i'r ysgolion. Byddai yn well i'r Clerc anfon at Mr Humph- reys am enwau y rhai y cwynir yn eu cyIch. Pasiwyd i anfon am yr enwau. Ail Brisio. Y Clerc a ddywedodd fod Cyngor Sirol Din- bych wedi ail-brisio y deg plwyf perthynol i'r Undeb oeddynt yn y Sir hono. Yn 1903 yr oedd eu gwerth trethiadol yn 32,344 10s., ac awr yr oedd yn 32,635p. Codwyd 594p. yn ngwerth trethiadol pedwar o'r plwyfi, a gos- tyngwyd 275p. 10s. mewn chwech o honynt.yn gadael codiad terfynol o 288p. 10s. A

HARLECH. -^^-I

LLANFROTHEN. I

Bethesda ac Ymweliad y Brenin.-

-PENMACHNO. _..E

BETTWSYCOED. -4

.-yyYYPORTHMADOG- yj )

TREFN OEDFAON Y SIUL,