Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Cynghor Dinesig Ffestiniog.

News
Cite
Share

Cynghor Dinesig Ffestiniog. Cynhaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf, yn Swyddfa y Cyngor, o dan lywyddiaeth Mr. D. Williams, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri Cadwaladr Roberts, W. J. Rowlands, R. C. Jones, Hugh Teigl Jones, E. M. Owen, Ben. T. Jones, R. T. Jones, T. J. Roberts, Richard Roberts, J. Cadwaladr, J. Lloyd Jones (ieu.), W. Edwards, Hugh Lloyd, Lewis Richards, Dr. R. Jones (Swyddog Meddygol), W. E. Alltwen Williams (Peir- ianydd), George Davies (Arolygydd Iechydol), R. O. Davies (Clerc), ac Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol). Profi y Cement. Gan fod cymaint o Cement vn cael ei ddefn- yddio gyda'r Gwelyau Bacteraidd, pasiwyd ar argymelliad y Peirianydd, a'r Goruchwylydd Gwaith i gael Peiriant at brofi y Cement a ddefnyddir er mwyn gweled a ydyw yn dod i fyny a'r hyn ddylai fod mewn gwaith mor bwysig. Hysbvsodd Mr. Alltwen Williams y gellid cael un ail-law am C4 10 0. Ymweliad ei Fawrhydi. Hysbysodd Mr. Owen Jones iddo dderbyn pellebyr oddiwrth Mr. L. D. Jones (Llew Tegid) yn hysbysu y byddai i'w Fawrhydi Iorwerth VII ddod trwy Capel Currig ar ei ymweliad a Bangor, a gofynai am i'r Cyngor wneyd trefniadau ar gyfer hyny.-Ar gynygiad Mr. O. Jones a chefnogiad Mr. Richard Jones pasiwyd i ddatgan gofid y Cyngor fod y Pwyllgor cyfrifol am y trefniadau yn nglyn a'r ymweliad Brenhinol wedi cau Ffestiniog allan gan fod ei Fawrhydi yn dod mor agos i'r lle.- Pasiwyd i Gadeirydd y Cyngor gynrychioli y Dosbarth yn Nghaer yn nglyn a'r Ymweliad, ac os nad all ef fyned fod y Clerc i wneyd hyny ar ran y Cyngor. Ty Cwch. Pasiwyd i ofyn am gynygion am godi ty cwch wrth Lyn y Morwynion yn ol y planiau baratowyd gan Beirianydd y Cyngor. Codi Cyflog. Gofynai y Goruchwylydd Gwaith gyda'r Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd am gael codi ei gyflog. Cyflwynodd y Pwyllgor Gwaith y cais i'r Pwyllgor Arianol, a phasiodd y Pwyllgor hwnw i oedi y mater am y presenol. Cymeradwyodd y Cyngor waith y Pwyllgorau yn yr hyn a wnaethant. Llvdru Afonvdd. j y Gan fod cwynion parhaus yn nglyn a llygru afonydd trwy y dosbarth gan bersonau yn taflu ysgarthion a budreddi iddynt, pasiwyd i erlyn y cyntaf a geid yn euog o hyny o hyn allan, a bod yr ynadon yn cael eu gofyn i osod y ddirwy drymaf am y trosedd, lawn am Niweidiau. Pasiwyd i'r Clerc wneyd ymchwiliad i'r ceisiadau ddaeth i law am iawn oherwydd y niweidiau wnaed ar dir y Gelli, &-c., gyda'r Carthffosydd newyddion.—Pasiwyd yn mhell- ach i ofyn caniatad y perchenogion tiroedd nr y lie cyn myned yn mlaen gyda'r gwaith yn Capel Gwyn, LIar:, er gosod y lie mewn cyflwr iechydol. Adeiladu Waliau. Pasiwyd i gynyg y gwaith o wneyd Waliau yn y Gwelyau Bacteraidd i Mr. Henry Williams ar yr un telerau a'r gwaith a wnaeth yn yr un, lie yn flaenorol, sef 5/6 y llath. Gwaith Seiri. Pasiwyd i ofyn am gynvgion gan Seiri i wneyd y gwaith angenrheidiol yn y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd. Arianol. Pasiwyd taflen y Biliau a'r cyflcgau, yr hon oedd yn cyraedd y swm o £ 758 9s 7c. Y Cae enwareuon. I Pasiwyd i gael amcan-gyfrif am y gost o wneyd y gwaith gofynol yn y Cae Chwareuon, a bod y caniatad i wneyd hyny trwy dir y perchenogion yn cael ei sicrhau cyn symud yn mlaen yn mhellach. Meddygol. I Darllenwyd adroddiad Dr. Jones am fis Mai. Cofrestrwyd 22 o enedigaetbau yn ystod y mis, a 14 o farwolaethau. Yr oedd nifer y marwol- aethau a chyflwr iechyd yr ardal yn ystod y mis yn foddhaol. Adroddiad yr Arolygydd. I Hysbysodd yr Arolygydd i 4 o achosion o I Glefydon Heintus gael eu Nhodi yn ystod y I mis: 3 Gwddfglwyf ac 1 Taniddwf. Mvneåbvst. I Mr. Lewis Richards a ddywedodd ei fod yn dymuno galw sylw at y pwysigrwydd o gael Mynegbyst yn yr ardal i gyfeirio dyeithriaid i'r lleoedd yr oedd ganddynt eisiau myned. Yn ddyddiol fe welir pob! yn cerdded tua tair milldir o'u ffordd trwy gamgymeriad, ac y mae y Motor Cars yn gwneyd yr un camgym- eriacl hefyd, ond rid oedd ganddo ef unrhyw gydymdeimlad a'r rhai hyny (chwerthin), ond pan y gwelid rhai yn gorfod teithio ar draed tua thair neu bedair milltir o'u ffordd, a hyny o achos na fuasai mynegbyst i'w cyfeirio yn iawn, yr oedd yn orrnod o beth, a dyna oedd yn syn, plwyf Ffestiniog oedd yr unig un hebddynt, a phaham y dylem fod ar ol yn hyn o beth. Yr oedd y Surveyor wedi dyweyd pan alwodd ef (Mr. Richards) sylw at y peth o'i blaen, mai y Cynghor Sirol oedd i wneyd y gwaith, ond yr cedd yn cynyg eu bod hwy fel Cynghor Dinesig yn ei wneyd, neu heb ei wneyd am byth fyddai ei hanes. Mr. Richard Roberts A oes genym ni hawl i osod y rhai hyn ? Y Peirianydd Y Cyngor Sirol sydd i wneyd y gwaith, ac nid y ni, a dylem bwyso arnynt i'w wneyd. Mr. Lewis Richards Pam na wna nhw fo ynte ? Pwy sydd i b'.vyso ? Y Surveyor Y Clerc, am mai yn ei ofal ef y mae yr holl ohebiaethal1. I Mr. T. i. Yr y-ri cyii,?,? cin bod i ofyn i'r Cyngor Sirol eu gosod i fyny, ac ein 1 I bod yn gofyn i'r aelodau dros Ffestiniog ar y Cynghor Sirol bwyso i gael gwneyd y gwaith rhag blaen.—Pasiwyd hyny. I Tenders y Ty Cwch. Derbynlwyd Tenders am wneyd Ty Cwch yn Llyn y Morwynion gan y personau canlyn- ol :— J. Lloyd, Manod Road, £ 30 7s 6c; D. Jones, Contractor. £ 29 15s; G. Roberts, Benar View, £ 23 5s; Arthur & Co., C46 15s. Yr oedd y Pwyllgor wedi pasio i dderbyn eiddo Mr. G. Roberts, ond yn y Cynghor darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. G. Roberts yn hysbysu ei fod wedi gadael allan wrth anfon ei bris, dal am gario y coed, &c., at y llyn, ac yr oedd yn gofyn i'r Cynghor ychwanegu £ 3 at ei bris ar gyfer hyny. Mr. Cadwaladr Roberts a ddywedai fod peth fel hyn yn hollol anheg, yr oedd yn ym- ddangos iddo ef fod y dyn yma wedi gwybod rhywbeth am brisiau y lleill, ac yr oedd ef yn cynyg ei roddi i'r pris agosaf ato. Mr. Hugh Jones (Chemist), a sylwai fod pris Mr. Griffith Roberts yn is na'r un o'r lleill ar ol ychwanegu y L 3. Yr oedd y dyn wedi gwneyd camgymeriad, ac yr oedd hyny yn bosibl i unrhyw ddyn, ond cyncael rhybudd swyddcgol fed ei tender wedi ei dderbyn y mae yn ei gywiro, ac yr oedd hyny yn degwch a'r Cynghor ac a'r Contractor. Mr. Cadwaladr Roberts Dylem ei ohirio am fis, a rhoddi cynyg i'r lleill i gael dod i lawr yn eu prisiau os y dewIsonk Mr. T. J. Roberts; Yr wyf yn gweled Mr. Cadwaladr: Roberts yn myned yn rhy bell i hysbysu y lleill. Y mae yn myned i wneyd peth ynglyn a'r rhai hyn y maeyn ei gondemn- io ynglyn a Griffith Roberts. Ar gynygiad Mr. Hugh Jones (Chemist), pasiwyd i dderbyn eiddo Mr. Griffith Roberts. Mr. Cadwaladr Roberts: A ydyw yn ddigon clir yn y specifications nad oes yr un o'n dynion ni i roddi help o gwbl iddo. Y Peirianydd Ydyw, yn hollol glir. Mr. Cadwaladr Roberts: Yr oeddych yn dweyd yr un peth ynglyn a'r cario, ond dyma y dyn yma heb roddi y cario i mewn. Y Peirianydd Yr oedd y manylion yn ddigon clir ynglyn a hyny hefyd, ond fod Mr. G. Roberts wedi gwneyd camgymeriad fel y mae pawb o honom yn wneyd weithiau. Derbvniwvd vr eelurhad. I Y SefyUfa Arianol. Mr. Richard Roberts a ddywedai y byddai yn ddymunol cael gwybod pa fodd y cyfartalai y Sefyllfa Arianol yn awr a'r adeg yma y flwyddyn ddiweddaf. Y Clerc: Yr ydym yn well yn y Bank o £ 700 (clywch, clywch). Mr. T. J. Roberts: Yr oedd yn credu yn ngwyneb sefylfcfa bresenol yr ardal y dylid galw yn amlach am dreth y dwfr, hyd yn oed pe byddai rhaid rhoddi un arall i gynorthwyo y casglyddion, eor mwyn rhoddi cyfle i bobl dlod- ion dalu y dreth mor ysgafn ag oedd bcsibl. Mr. J. Cadwaladr: £ 30 ydyw y derbyniadau oddiwrth Dreth y Dwfr yn llai y flwyddyn hon na'r flwyddyn ddiweddaf, ac ystyried sefyllfa masnach yr ardal y mae hyn yn galonogol iawn. Y Motor Cars. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Cy- I hoeddus yn gofyn am gynorthwy Cynghor Dinesig Ffestiniog i wneyd rhywbeth er codi tai am y niwed a wneid i ffyrdd, &c., gan y Ceir Modur. Mr. R. Roberts: Yr oedd ef yn bleidiol iawn i gynorthwyo gyda stopio y rhai hyn. Mr. Cadwaladr Roberts a ofynai a oedd ddim yn bosibl gwneyd rhywbeth i atal y giwaid hyn ar y Sul. Fe ddaeth un ar y Sabbath i lawr at Station Tanygrisiau ac fe fethodd fyned ymhellach, a pity garw ei fod wedi gallu myned yn ol, ac yr oeddwn yn clywed am un wedi ceisio myned i Cwmorthin hefyd (chwerthin). Yr wyf fi yn ei siarad yn ddifrifol beth bynag yw fy nghymeriad i fy hunan (chwerthin mawr). Pasiwyd i ddeis- ebu. Adeiladu Waliau. Derbyniwyd Teftders am Adeiladu Waliau yn y Gwelyau Bacteria gan y personau canlyn- ol :—Henry Williams, 7/- y lkth H. S. Wil- liams, 5/6 y llath D. Jones, 7/6 y Hath. Wedi Hawer o ddadlu, pasiwyd i roddi y gwaith i H. S. Williams am 5/6 y llath. Y Cadeiryddd Y mae llawn digon o siarad wedi bod, a siarad digon afreolaidd hefyd. Gobeithio na ddigwydda eto (clywch, clywch). [Erfyniwyd ar i'r Gohebwyr beidio cofnodi y ddadl yn nglyn a'r uchod.] Ymweliad y Brenin a Chymru. Y Clerc a ddywedodd fod ymdrech yn cael ei wneyd i gael gan y Brenin pan ar ymweliad a Bangor i alw yn Bettwsycoed, ac yr oedd Dr. Jones wedi ceisio ei gael i ymweled a Blaenau Ffestiniog hefyd, ac yr oedd yn credu y buasai llawer eisieu myned yno i'w weled, ac yr oedd Cadeirydd Cynghor y Bettws yn awgrymu cael Album o ddarluniau o Bettws ycoed a Ffestiniog i'w roddi iddo, gan fod yr amser yn rhy fyr i roddi anerchiad iddo. Mr. Hugh Jones Pe bai yn dod i Ffestiniog yr oedd yn credu y dylent wneyd rbywbetb, ond gan nad oedd felly, credai mai gadael iddo I cedd oreu. Yr oedd ef mor deyrngarol, a neb i'r Brenin. Mr. R. T. Jones Yr oedd yn cynyg peidio gwneyd dim. Nid oedd yn gweied yn dda ddod i'r un Sir a ni heb son am Ffestiniog. Mr. Richard Roberts Efallai y buasai y dyn yn dod o hono ei hun, oni bai ei fod yn llaw y Pwyllgor. Y Pwyllgor sydd yn ei reol- eiddio (chwerthin). Gadawyd y mater. Mynwent y Llan. Gadawyd mater Mynwent y Llan mewn llaw Pwyllgor i adrodd arno. Llythyrau. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. D. Jones,, Builder, yn dyweyd ei fod wedi gorphen y tai yn Jones Street, ac fod y lie yn bared i'r Cynghor ymweled ag ef. Llythyr oddiwrth Dr. Roberts, Plaswaenydd yn diolch am eu llythyrau o gydymdeimlad. Llythyr oddiwrth Mr. Bowton yn cwyno fod pibellau dwfr sydd yn arwain i'w dy wedi eu cau yr adeg oeddynt yn glanbau y pibellau yn Hendreddu.—Gadawyd y mater yn llaw y Peirianydd. I

IBwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst.

HARLECH. -^^-I

LLANFROTHEN. I

Bethesda ac Ymweliad y Brenin.-

-PENMACHNO. _..E

BETTWSYCOED. -4

.-yyYYPORTHMADOG- yj )

TREFN OEDFAON Y SIUL,