Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG.I

I'VVVVVLLANRWST. I

- - - -NODION --O'R -CYLCH.…

IY LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD.

-DIWEDDARAF.

News
Cite
Share

DIWEDDARAF. Rhyddhad y Carcharor. Ymddangosodd Isaac Harrison Jones o flaen ustusiaid Llangollen, dydd Mercher, ar y cy- huddiad o ladd Samuel Lloyd. Yr oedd ded- fryd o farwolaeth trwy amryfusedd wedi ei phasio yn y trengholiad y prydnawn blaenorol, ond mynai yr heddlu brofi yr achos. Tystiodd Morris Jones, plastrwr.ei fod wedi cael gormod o ddiod i wybod yn fanwl beth gymerodd le. Ond nid oedd ef na Lloyd wedi ymyryd a'r carcharor, ac na chafodd achos i daro.—John Trevor Hughes, bachgen bychan, a ddywedai iddo weled Moses Jones yn siarad wrth y car- charor ac yn ei daro. Daeth Lloyd rhyngddynt tarawyd ef a disgynodd.—Tystiodd John Evans ffarmwr, iddo weled Moses Jones yn taro y carcharor, a phan oedd yntau yn myned i daro yn ol rhuthrodd Lloyd allan o'r Bull Inn mewn osgo ymladdgar.—Tystiodd eraill yr un peth. -Wedi neillduo cafodd y Fainc nad oedd tyst- iolaeth ddigon cref i anfon y carcharor i sefyll ei brawf, a gollyngwyd ef. Anrhydeddu Cymry. Sibrydir fod enwau dau Gymro i'w cynwys yn rhest- y rhai a anrhydeddir yn fuan gan y Brenin, sef eiddo Mr. Frank Edwards, A.S., yr hwn a wneir yn farwnig, a'r Prifathro John Rhys, Coleg yr Iesu, Rhydychen, yr hwn a wneir yn farchog. Newydd Da. Neithiwr (nos Fercher) derbyniodd Mr. a Mrs Thomas J. Roberts, bellybr o Bangor, Pa. yn hysbysu fod Llewelyn eu mab yn well a'r per- ygl drosodd, yr hyn yn ddiau sydd yn achos o lawenydd i'r teulu ac i'r gymydogaeth, a mawr hyderwn y caiff Llewelyn Roberts eto adferiad iechyd a nerth a hyny yn fuan. Mr. Merbert Lewis a Dadgysyllt- iad. Wrth gwt llythyr pwysig Mr. Lloyd George ar y pwnc uchod, cyhoeddir un arall heddyw o eiddo Mr. Herbert Lewis i'r un perwyl. Yn ei ddiwedd dywed: Gyda golwg ar y dyfodol gorphwysaf ar ymrwymiad y Prif Weinidog i Mr. Lloyd George, sef os bydd i'r Senedd bresenol redeg ei chwrs naturiol, mai bwriad y Llywodraeth yw gwasgu Mesur Dadgysylltiad i Gymru trwy Dy'r Cyffredin."

a""rdd Addysg Dosbarth Geir-I…

I P -TANYGRISIAU.

?  i ?. BETTWSYCOED.I

 Cy? ?*R* DOLBENMAEN. -…

- O'r -Pedwar -Cwr.-'"'".,

Undeb yr Anibynwyr. I

Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.I