Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG.I

I'VVVVVLLANRWST. I

- - - -NODION --O'R -CYLCH.…

IY LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD.

News
Cite
Share

Y LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD. Llythyr Pwysig oddiwrth Mr. D. Lloyd George. Cafodd y Parchn. H. Elfed Lewis a J. Machreth Bees ymgom faith gyda Llywydd Bwrdd Masnach ar safle Dad- gysylltiad ar Raglen y Blaid Eyddfrydig, er mwyn cael gwybod pa gamrau i'w cymeryd yn Ngbastellnedd yn yr Undeb Cynulleidfaol yr wythnos hon. Y mae Mr. George wedi anfon y llythyr pwysig a ganlyn i Elfed, a gwelir ynddo fod yr hyn a fynega yn deimlad y Weinydd- iaeth ar y pwngc :— "WHITEHALL, S.W., Mehefin 24, 1907. Fy Anwyl Elfed,— Yr ydych yn gofyn i mi ddau gwestiwn o berthynas i safle Dadgysyllt- iad Cymreig ar raglen y blaid. Yn nglyn a'r ddau, nid oes genyf unrhyw betrus- der, oddiar fy ngwybodaeth o ogwydd y PrifWeinidog at gydraddoldeb crefyddol i Gymru, mewn rhoddi i chwi atebion boddhaol. I Am y cyntaf, gofynwch i mi pa un a yw yn mwriad y Llywodraeth i wthio mesur er Dadgysylltu a Dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru trwy ei holl gwrs yn Nhy'r Cyffredin, os bydd i'r Senedd bresenol redeg ei thymor arferol i'w ddiwedd. I hyn gallaf roddi atebiad di- amodol yn y cadarnhaol. Dros ymddyg- iad tebygol yr Arglwyddi pan anfonir y Mesur i fyny-neu a ddywedaf ei anfon i lawr—i'r Siamber hono yn anffodus nid ces gan y Weinyddiaeth unrhyw reolaeth. Am eich ail gwestiwn-pa un, os bydd i apel at y wlad gael ei gwneyd, oher- wydd ymddygiad yr Arglwyddi, a fydd i Ddadgysyllliad Cymreig gael safle amlwg ar y rhaglen swyddogol ar yr hon y bydd i farn y wlad gael ei gymeryd,—wrth gwrs mewn argyfwng felly rhaid i bob cwestiwn o angenrheidrwydd fod yn is- raddol i'r un pwngc mawr pa un a'i yr Arglwyddi neu y bobl gaiff lywodraethu y wlad; ond yn ddiamheuol bydd i Ddadgysylltiad Cymreig sefyll yn y He blaenaf yn mhlith y materion y bydd i'r Senedd, o dan yr amodau newyddion y gobeithiaf eu gweled wedi eu sefydlu fel canlyniad yr ymrysonfa, gael galw arni i'w trafod. Yr wyf newydd weled y Prif Weinidog ac y mae yn cadarnhau yr uchod yn Hawn fel mynegiad cywir o'i syniadau a'i fwriadau. Bydded undeb yn awr, ar fin y frwydr fawr a gelyn penaf Rhydd- id, Anghydffurfiaeth, a Chymru-Ty yr Arglwyddi! Yr eiddoch, &c., D. LLOYD GEORGE."

-DIWEDDARAF.

a""rdd Addysg Dosbarth Geir-I…

I P -TANYGRISIAU.

?  i ?. BETTWSYCOED.I

 Cy? ?*R* DOLBENMAEN. -…

- O'r -Pedwar -Cwr.-'"'".,

Undeb yr Anibynwyr. I

Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.I