Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG.I

I'VVVVVLLANRWST. I

- - - -NODION --O'R -CYLCH.…

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. I Paham y rhaid i fater y Mynegbyst cyhoedd- us yn mhlwyf Ffestiniog gael ei oedi fel y gwneir ? Y mae wedi ei godi i sylw laweroedd o weithiau gan aelodau y Llan yn arbenig, gan mai yno yr ystyrient ei bod hawddaf i bobl ddieithr ddyrysu, a cholli y ffordd. Dylid ar bob cyfrif gymeryd y peth i'r Cyngor Sirol a chynyg penderfyniad cryf arno fel na byddo es- geulusdod pellach ynglyn ag ef. Tipyn yn rhyfedd y swniai y cais am i'r wasg beidio adrodd am y dadlu fu yn nghyfar- fod y Cyngor Dinesig, nos Wener, yn neillduol pan gofir y condemnio fu ar y wasg yn ddi- weddar am beidio adrodd y gweithrediadau yn llawnach. Ond adeg etholiad ydoedd pan oeddid yn llathenu y Gohebwyr, a chan fod y cyfryw wedi pasio mae'n gyfleU3 i ollwng dros gof y pethau ddywedwyd yr adeg hono. Cym- er llawer o bethau le yn y Cyngor hwn, fel yn mhob un arall, nad ydynt o ddyddordeb cyff- redinol; ac mae ambell i gynghorwr fel ambell ferch wedi colli y dant atal tafod. Fe ddiolcha pob darllenydd call am i rywun sefyll rhyng- ddo a'r cyfryw. Er cynifer o Lysoedd a gynhelir yn Llan- rwst gan y Barnwr Samuel Moss metha yn lan a gorphen mwy na haner yr achosion sydd ar y rhestr, fel y mae yn gorfod gohirio nifer fawr ohonynt bob tro. Y mae yn anfoddlon i ohir- io, ac er ceisio osgoi hyny eistedda o haner awr wedi deg hyd haner awr wedi chwech-peth newydd hollol yn hanes llysoedd Llanrwst. am ryw ddwy awr yr arferai Syr Horatio Lloyd ag eistedd, a byddai yr achosion yn llusgo am fisoedd o Lys i Lys. Yr oedd achosion pwysig o flaen y Llys ddydd Gwener, a nifer y tystion yn lluosog. Poenus iawn ydoedd yr achos o Eglwysbach gan fod y tystiolaethau yn datguddio dull pur anheilwng o dreulio prydnawn dydd angladd, Pwysai y Barnwr ar gael gan y tystion ddy- wedyd eu meddyliau yn glir a oedd y diffynydd yn feddw y diwrnod yr anafwyd ef gan yr ol- wynfarch ac yn y diwedd dywedodd" gallas- wn dybio ei fod haner yn haner." Yr oedd y tystiolaethau bron yn yr oil o'r achosion yn nodedig o anghyson a'u gilydd. a rhaid fod cryn lawer o anudoniaeth yn cymervd lie. Dywedodd y Barnwr hyny fwy nag unwaith yn ystod y dydd. Gobeithiwn y gwaredir ein llysoedd rhag gwarthrudd y nod du hwn. Parhau i ddysgwyl am gyfrif llawn o'r costau yn nglyn a'r Gwaith Dwfr y mae plwyfolion Harlech. Yr oeddid yn dysgwyl y buasai cyfrif wedi ei roddi yn y cyfarfod diweddaf o eiddo Cyngor Deudraeth, ond ni chafwyd hyny. Y mae pryder y plwyfolion yn naturiol yn fawr gan y golyga gryn faich arnynt am rai blynyddoedd. Y tebygrwydd yw y cynhelir ymchwiliad gn Fwrdd y Llywodraeth Leol cyn y caniateir benthyciad pellach yn nglyn a'r draul, a'r pryd hwnw bydd raid i fanylion y costau gael eu gosod gerbron mewn cyfarfod cyhoeddus. Wrth adrodd ar y cyflenwad Dwfr yn Harlech sylwa Dr. Frazer yn ei adroddiad fod tua deugain o dai heb eu cysylltu a'r cyfryw, ac y byddai yn fuddiol iawn i'r Awdurdodau symud yn mlaen er gweyd y gwaith. Gwelwn nad yw Dr. Frazer yn cyfeirio at Garthffosiaeth y lie. Dymunol iawn fyddai cael sylw ddyl- adwy i'r mater pwysig hwnw hefyd os am gael y dref i fyny a'r hyn ddylai fod mewn trefniad- au Iechydol. Gwnaed gwaith pwysig yn ystod y flwyddyn gyda symud Ysgarthion trwy bob rhan o Ddosbarth Deudraeth, ac yr oedd y draul o wneyd hyny yn dod i £ 120. Parheir i deimlo yr angen am gylenwad o ddwfr at wasanaeth Trawsfynydd, ac ar gynydd yr a'r teimlad hwnw oherwydd y prysurdeb sydd yn y lie oblegid y miloedd milwyr ymvvel- ant a'r ardal. Dywed Dr. Frazer fod y drafodaeth y buwyd ynddi i gael hawl i dynu dwfr o Llyn Hiraethlyn, wedi terfynu yn aflwyddianus. Prin yr ydym yn meddwl y boddheir y tri Cyngorydd Dosbarth na'r Cyngorwyr Plwyfol heb droi bob careg er mwyn cael y mater hir-lusgedig hwn i derfyniad j\ a brawf yn fendith arhosol i'r pentref. ■: V- (. v •

IY LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD.

-DIWEDDARAF.

a""rdd Addysg Dosbarth Geir-I…

I P -TANYGRISIAU.

?  i ?. BETTWSYCOED.I

 Cy? ?*R* DOLBENMAEN. -…

- O'r -Pedwar -Cwr.-'"'".,

Undeb yr Anibynwyr. I

Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.I