Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTfiNOSOL.-I

Advertising

Areituiau Mr. Balfour ac eraill.…

News
Cite
Share

Areituiau Mr. Balfour ac eraill. Cododd Mr. Balfour i ateb y Prif-weinidog ac ni Iwyddodd yntau i ddywedyd dim oedd yn newydd. Yr oedd yn rhy gall i honi fod gan Dy'r Arglwyddi hawl i arglwyddiaethu ar Dy'r Cyffredin ac i daflu allan drachefn a thrachefn fesur wedi ei basio ganddo. Dal- iai fod ganddo hawl i drdfyn ol i Gynrych- iolwyr y bobl waith wedi ei wneyd ganddynt yn rhy frysiog, neu fesur heb fod yn fynegiad i ewyllus y bob!. Wrth ddywedyd hyny, bwrial fod yr Arglwyddi yn gymhwysach nag aelodau Ty'r Cyffredin i ddeongli ewyllus y bobl, a chyfeiriodd at engraifft a brofai, fel y tybiai ef, fod hyny yn wir. Cofir ddarfod i Dy'r Cyffredin ychydig gydag ugain mlyn- edd yn ol basio mesur Mr. Gladstone i roddi ymreolaeth i'r Iwerddon, ac i'r mesur hwnw gael ei fwrw allan gan yr Arglwyddi. Pan apeliodd Mr. Gladstone at y wlad mewn etholiad Cyffredinol (yn 1886), enillodd y Toriaidfuddugoliaeth fawr. Nid ydynt byth yn anghofio hyn pan y gelwir arnynt i ddweyd i beth y mae Ty'r Arglwyddl dda. Hwnw oedd y tro cyntaf a'r tro diweddaf i beth feUy ddigwydd, ac mae'r digwyddiad wedi bod o wasanaeth mawr iddynt. Ond gwyr pawb mai nid am fod yr Arglwyddi yn argyhoeddedig fod y wlad yn erbyn rhoddi ymreolaeth i'r Iwerddon y taflasant y mesur hwnw allan, ond am eu bod hwy eu hunain yn casau y peth ac yn gweled y parai golled i dirfeddianwyr yr Iwerddon. Nos Lun a nos Fawrth traddodwyd llawer o areithiau gan aelodau o bob rhan o'r Ty, ond un yn unig sydd:yn galw am sylw. Araeth Mr. Kincaid Smith oedd hono. Etholwyd ef fel Rhyddfrydwr i gynrychioli Stratford-on- Avon, ond traddododd yr araeth fwyaf Tori- aidd a'r cwbl. Bu yn ddigon gonest a ffol i ddywedyd ei fod am adael i'r Arglwyddi yr awdurdod a'r gallu sydd ganddynt am ei fod yn ofni y bydd yn Nhy'r Cyffredin yn y dyfodol gryn lawer yn fwy o Gynrychiolwyr Llafur, ac nad oes ganddo ymddiried ynddynt y bydd iddynt ofalu am fuddianau yr Ymherod-raeth. Am hyny mae am gadw yr Arglwyddi fel y maent i rwvstro Cynrych- iolwyr Llafut rhag dinystrio'r Ymherodraeth. Mae'n ddrwg genym am hono os:nad oes ganddi rhywun i ofalu am dani ond yr Arglwyddi. Addefwn fod yn eu plith rai gwyr rhagorol sydd yn haeddu ac yn hawlio ac yn cael parch gan bawb; maent yn ben- defigion yn wir. Ond beth am y mwyafrif mawr o hony^t ? Nid oes ganddynl mo'r doethineb na'r gallu, na'r cymeriad ag y mae genym hawl i ddisgwyl am danynt mewn dynion yn honi eu bod yn bendefigion. Mae rhai o honynt wedi prynu eu teitlau mor wir- ioneddol ag y prynwyd dim mewn marchnad erioed, ac y mae eraill yn y lie y maent am eu bod yn hiliogaeth gordderchadon brenin- oedd. Ac eto y mae gan y Rhyddfrydwr proffesedig xKincaid Smith barch mwy iddynt ac ymddiried llawnach ynddynt nag sydd ganddo yn Nghynrychiolwyr llafur, gwyr sydd bron os nad yn hollol ddieithriaid yn deall anghenion y wlad, yn deall yn dda yn mha fodd i'w cyfarfod, ac yn barchus yn ngolwg y rhai sydd yn eu hadnabod oreu, am eu bod yn byw bywyd glan a diar- gyhoedd ac yn ymroi i wasanaethu eu cyd- ddynion. Nid oes genym i'w wneyd ond gobeithio y daw ar Mr. Kincaid Smith yr hyn y mae yn ei ofni yn ffurf chwanegiad mawr at Blaid Llafur yn Nhy'r Cyffredin. Bydd hyny yn enill dirfawr i'r deyrnas.

Addewid Bendant o'r Diwedd.-I

Yr Anibynwyr a'r Llywodraeth.

Cynrychiolaeth Bwrdeisdrefi…

-DOLWYDDELEN. - .

,-I%el%l - - - - -..YSBYTTY…