Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTfiNOSOL.-I

News
Cite
Share

NODIADAU WYTfiNOSOL. Agoriad y Cdadl ar Dy'r Arglwyddi. Yr oedd Ty'r Cyffredin yn orlawn nos Lun pan gododd y Prif-weinidog i gynyg y panderfyniad at yr hwn y cyfeiriasom yr wythnos ddiweddaf. Yr ydym eisoes wedi traethu ein barn am y penderfyniad hwnw cyn belled ag y mae y geiriau a'i cyfansodd- ant yn myn'd. Ychydig oleuni a deflir gan- ddo ar fwriadau y Llywodraeth a'i chynllun i rwystro Ty'r Arglwyddi rhag sefyll rhwng y bob! a chyflawniad o'u hewyllys wedi iddi gael ei mynegi gan eu cynrychiolwyr ethol- edig yn Nhy'r Cyflredin. Am hyny, yr oeddym fel p3.wb eraill yn disgwyl am araeth y Prif-weinidog gyda theimlad ag yr ydym yn petruso ei alw yn bryder am fod hwnw yn air rhy gryf i'w ddesgrifio; mwy priodol fyddai ei alw yn ddyddordeb. Rhaid i ni addef fod yraiaeth wedi ei siomi. Nid ydym yn cyfrif fod genym achos i feio ar yr hyn a ddywedodd am Dy yr Arglwyddi. Dywed- odd y gwir yn hollol ddifloesgni ac eglur, a dangosodd fel y mae yn byw ac yn bod i wneyd yn ofer i fesur mwy neu lai waith Ty'r Cyflredin pan fydd y mwyafrif o'i ael- odau yn Rhyddfrydwyr, ac i gofrestru y pen- derfyniadau ac i selio'r mesurau a anfonir iddo o'r Ty hwnw pan fydd y mwyafrif o'i aelodau yn Doriaid a'r Weinyddiaeth yn Doriaidd. A'r oil a ddywedodd ar y pen yma yr ydym yn cytuno. Prin y mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr oil a geir yn y rhan hon o'i araeth wedi ei ddywedyd lawer gwaith o'r blaen gan eraill, ond nid yw gwir ddim yn waeth o gael ei adrodd drosodd a throsodd drachefn pan y bydd rhywbeth yn galw am hyny. Y rhan o'i araeth sydd yn egluro cynllun y LIywodraeth i gyfyngu ar awdurdod yr arglwyddi sydd wedi ein siomi. Mae'n eglur nad oes ganddi fwriad o gwbl i newid dim ar gyfansoddiad y Ty uchaf fel y'i gelwir. Gadewir hwnw fel y mae yn gyfansoddedig o ddynion am y rhan fwyaf o'r rhai y mae'n wir nad ydynt yn cynrych- ioli'neb ond eu hunain nac yn gofalu dim am fuddianau neb ond eu buddianau eu hunain. Yn unig bwriada osod iddynt derfynau fel nad elont drwyddynt. Dyma'r cynllun: Os gwrthyd Ty'r Arglwyddi basio mesur fydd wedi myn'd trwy Dy'r Cyffredin, bydd Ty'r Cyffredin yn rhydd i'w anfon iddynt dra- chefn ymhen chwe' mis: os gwrthodir y mesur am yr ail waith, cynhelir Cynhadledd, y naill haner o aelodau'r hon fydd yn cyn- rychioli Ty'r Cyffredin a'r haner arall Dy'r Arglwyddi, i ystyried y mater. Os llwydda hono i ddyfod i gytundeb, da: oni lwydda, anfonir y mesur i Dy'r Arglwyddi y drydedd waith. Yna os gwrthodir ef drachefn, cyn- helir Cynhadledd drachefn fel o'r blaen. Os cytuna aelodau hono, da t oni chytunant, rhoddir grym deddf yn y mesur heb gydsyn- iad Ty'r Arglwyddi. Dywedwn heb betruso dim nad yw y cynllun hwn yn gredyd i'w Iunwyr nac yn foddhaol i'r w!ad. Y cwbl a wna ydyw gosod amser terfynedig i'r ar- glwyddi i wneyd drwg. Ymddengys i ni y gadewir iddynt, os bydd ganddynt ewyllys rwystro mesur am ddwy flynedd. Golyga hyny y byddant yn rhydd i osod math o angenrhaid ar Gynrychiolwyr y Bobl i dreul- io dwy flynedd o amser i wneyd gwaith ag y buasai dau fis yn ddigon i'w wneyd. Am hyny yr ydym yn cyfrif y cynllun yn aneff- eithiol iawn. Yr oeddym yn ofni o'r blaen, yr ydym yn gwybod yn awr fod geiriau cryf ion Syr Henry Campbell-Bannerman yn Plymouth yn aros heb eu cyfiawnhau. Yr t hyn a wnaeth yno oedd chwythu bygythion na faidd y Llywodraeth eu cyflawni.

Advertising

Areituiau Mr. Balfour ac eraill.…

Addewid Bendant o'r Diwedd.-I

Yr Anibynwyr a'r Llywodraeth.

Cynrychiolaeth Bwrdeisdrefi…

-DOLWYDDELEN. - .

,-I%el%l - - - - -..YSBYTTY…