Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
BWRDD ADDYSG DOSBARTH FFESTINIOG.…
BWRDD ADDYSG DOSBARTH FFESTINIOG. yfarlu y Rheolwyr canlynol prydnawn Iau dlweddaf, yn Adeiladau Sirol Blaenau Ffes- "Mog Parch. J. Rhydwen Parry (Cadeir- ydd), W. P. Evans, D. G. Jones, Hugh Jones, Ellis Hughes, W. J. Williams, Thom- O,s Roberts, Andreas Roberts, G. Parry Jones, R. T. Jones, Thomas Morgan, R. Roberts Jones, Richard Roberts, Richard Roberts ILlandecwyn) John Hughes (Llan), W. E. Jones, Edward Jones (Clerc Cynorthwyol), William Evans a William Jones (Swyddog- Ion GorfOdol). Adroddiad y Pwyllgor Ymweliadol. roj • W. P. Evans, a aeth trwv fanylion ad- roddiadau y Rheolwyr Lleol am bob Ysgol a Tai yr Ysgolfeistri. Argymellid yr adgyweir- i?d ?' paentio a glanhau, bob un o'r Ysgolion on??LIandecwyn yr oedd hono yn newydd ac hb e^siau dim arni. Yr oeddid wedi thod?? sylw maith a manwl i bob cais, a chyn- y„i 1 r adroddiad gael ei gymeradwyo; eiliodd ? D. G. Jones a phasiwyd hyny. v Dr. Roberts (Isallt). arn ^nfenodd Dr. Roberts i ddi?Ich i'r Bwrdd  ?y?y?delmlad ag ef yn ei gystudd.-Y eadeirydd a ddywedodd y byddai yn dda gan- ddynt °U glywed fod y Doctor poblogaidd yn ej „ a y? rhagorol, ac hyderid yn fawr am gael ei mni ?.? gynorthwy yn fuan eto. ft1 Tir Ysgolion Maenofferen. Vlhsg* nl- Y sylw difrifol at fod liidiardau yr  uchod yn agored, a bod y He yn Ila, 11 c) langciau yn cicio pel, &c. Argymellid bori->w cloi, a bod rhywun i ofalu am dan- jut T! ^y^ fod Gwifrau i'w gosod ar ben y 4li4ll terfyn fel pwy bynag a geid wedi ?yne? "?ewn i'r He ar ol hyny ei fod i'w ??' oaaenyrYnadon. tr. Athrawon.  '?y? fod Miss Mary Williams yn dod Ta"n ygrisiau, Miss M. 0. Davies wedidechreu ? Yn kf^^y^ydd, a Miss Kate Ellin Jones i fod Yu barbaol yn Maenofferen. Yr oed y sgolfeist Llanfrothen yn wael a .4yYdr syni'wyd a'r cais i'r seibiant haf gael id lkhreu yn awr yn He Gorphenaf 9, er mwyn r lktbraw gael myned am newid awyr. y ?dd Ysgol Talsarnau yn ngheuad trwy yr n,! J??"?d a wneid yno. Yr oedd y seib- ?Ot ?-yQ dechreu yno hefyd 7n bresenol. CYd,l Ygid a chais amryw P.T's. i gael aros yijj ???sanaeth y Bwrdd yn y gwahanol Ysgol- Y r no.> Arianol.  y pwyllgor wedi bod trwy y ceisiad- ?u ap, ahDol bethau at wasanaeth yr Ysgol- ioz a ?"?iateid yr oH ond yr hyn a ofynid ?Q v ??rawon at eu gwasanaeth personol eu hur^5' Mr. Andreas Roberts a ofynodd p?? PabI a ?? oedd y Hyfrau hyny yn cael eu c laltall ????sirydd, Mae'r adroddiad ydym lit ei gael yn dywedyd paham. Llyfrau yw y rha yn at wasanaeth yr atbrawon eu hun- ?a ? ? Did at wasanaeth yr Ysgolion. Y mae po? ? *? ?'?I yn gorfod prynu pethau i'w gym- ?yps?o .,)S???oi ei swydd yn deilwng, a barnai y 'S?r y dylai athrawon yr Ysgolion wneyd ?My ??- Pa reswm oedd prynu note ?o?s a phethau o'r fath i athrawon at eu PwrD_ S Ps?sonol ? Yr oeddynt wedi pender- 4'Qu ? ? lwyddyn yn ol i beidio caniatau Pct?a °r fath.-Mr. Andreas Roberts, leu cael at eu gwaith."—Mr. W. P. £ ^5 ? ydym yn gwneyd yn hollol glir ?ai); fra j,r athrawon yn bersonol yw y rhai ?th  ?vrt I ir. ?? rhoddir pethau o'r fath, ni c^\n byth ddiwedd ar roi, a bydd raid i ni hry?? Pobpeth iddynt. Mae rheswm ar wario arian ?sthdalwyr, a dylai yr athrawon brynu e, jj ?? eu hunain fel pob un o honom ni." Ysgol y Rhyd. y4 adroddiad -y Pwyllgor fu'n ?ch sanA e ? godi ysgol newydd yn y Rhyd. t'isgy °eu dewisiad ar y cae lie y mae shop ^tr. p^"j Waladr Williams, a cheid ef am tua ?? r. Q ?awaladr Williams, a cheid ef am tua ??ar ??? yn mesur naw cant 0 latheni Da. Presenoldeb. ? dr) —?d Mr. William Evans ei adroddiad ddn SK arth Ffestiniog am y mis. Yr oedd 3,295 0 blant ar y ?lyfrau, a chyfartaledd y f>resenni ?senr?" yn yr Ysgolion yn 2,064. Ymwel- o?d ? 312 0 rieni plant oeddynt yn absenoli eu ^Utiain °, r'^sgo^on' a chafodd ganddynt fod 198 adrf () er ydd salwch. Yn Sarf^ y Penrhyn a Thrawsfynydd yr °edd tvt r" 1 Jones yn hysbysu fod 1,030 ? ??t '??m Jones yn hysbysu fod 1.030 ?dd ar lyfrau yr Ysgolion Rhydd, a chyfar- ?Ii? v ?senoldeb yn 864. Ar lyfrau yr chy?? ?-glwysig yr oedd 280 o blant, a C' f y presenoldeb yn 216. Ymwelodd 1.7 ri i lant anffyddlawn, a chafodd fod Ifer C adref ??y anechyd .—Gofynwyd ? !-esw'? <°? ?? una'rddeg y cant o wahan- '? Yn \lesenoldeb y plant yn ysgol:gymysg ? ??Urb ?hagoroedd yn ysgol y babanod YLO""ac f e y Swyddog mai salwch roddid '?swm ?stynai y Bwrdd y cwestiwn yn PWVQ' lawn> a phasiwyd i'r Rheolwyr Lleol l?yda'r ? Phasiwyd i'rRheolwyrLleol ? trw??og a'r Athrawon wneydymchwil- ?gen ?? ?'r mater, a gwysio lie ceid fod ant y Traws a'r Cvnhauaf Gwair. }ldct J. Williams, dros Reolwyr Trawsfyn- Md, a of ??? am gael caniatad i ad-drefnu y rP^yliau er ?wyn cyfleusdra adeg y cyn- Uaf Ir' Gofynai a'i ni ellid gadael y ?er ?? ?heolwyr Lleol i'w benderfynu ? ?y?d? ? ell cael chwecb neu saitK wythnos ?eg y cae ohwech neu saith* wythnos V cv n5auaf gwair a llai ar y Nadolig a'r <*sg,Y -?eirydd a ddywedodd y byddai ?aniatau v -ca^s yn golygu deng wytnnos o wyl- '? tra ca¡S yn golygu deng wytnnos 0 wy ??tpi? naw wythnos mewn blwyddyn a VatIs 1 r)  ? Pwyllgor Sirol.-Mr. W. P. ? atls a ?ywedodd y golygai y caisfod y Plant 11 cael e '?rnddifadu o'u gwyliau ar hyd y • yddvn Byddai i hyny eReith- 10 yn yr ^af■ Byddai i hyny effeith- ^Oi• ol ar y Plant, ac elai eu bywyd ^sSol Vn beichus.-Mr. W. J. Williams a Syl^odd f T /r ?Solion yn dyoddef yn fawr yn ?h? tn ?y yr ysg?olion yn dyoddef yn fawr yr ,f'Od Y Plant yn myii'd i'r cynhaual gwair. Yr Ysgolion oedd yn cael cam trwy amseriad presenol y gwyliau.—Y Cadeirydd, Pa bryd y mae terfyn eich blwyddyn Ysgol yn Trawsfynydd ?"—Y Swyddog, Mai 30."— Cadeirydd, Felly gellwch drefnu eich gwyl- iau am y flwyddyn yn bresenol, ond gofalu nad ant dros naw wythnos. Mae ein blwyddyn ni yma yn diweddu yn Medi."—Mr. W. J. WA- liams, a sylwodd nad oedd gwyliau yr baf yn ddechreu hyd Gorphenaf 9, ond elai y plant i'w lleoedd ar ol y Ffair gynhelir Mehefin 29. Cynygiai fod y mater yn cael ei adael i'r Rheol- wyr Lleol.—Mr. Ellis Hughes a gefnogodd.— Mr. D. G. Jones, A ydyw y Plant i gyd yn myned i'r cynhauaf gwair ?—Os nad ydynt, beth am y rnai fydd adref yn cael eu cadw heb ysgol ?—Mr. W. J. Williams a ddywedodd fod y presenoldeb yn well yn y Nadolig a'r Pasg nag un amser o'r flwyddyn, ac mai teimlo yr oeddid am gadw y presenoldeb i fyny.—Mri. W. P. Evans, R. Roberts Jones, a J. Lloyd Jones a dalient fod 6 wythnos yn eithaf digon o wyliau haf.—Mr. Andreas Roberts, Yr wyf yn teimlo y dylem ganiatau y cais. Ardal am- aethyddol yw Trawsfynydd, a mantais i'r plant yw cael myned at y gwair er mwyn iddynt ddysgu. Dylent gael chware teg i fyned ar ol cyflogi.Mr. D G. Jones," Dylem edrych yn mhellach na chynhaeaf gwair. Nid oes gan neb hawl i gyflogi plentyn o'r ysgol. Y mae yn llawer iawn pwysicach i ni ofalu am y plant nag am wair y bobol hyn. Gosodwch rhyw- beth gwell o flaen y plant na thwyso hen geffyl gyda pherygl iddo sathru eu traed."—Pasiwyd i adael y trefniant i ofal y Rheolwyr Lleol ond nad yw y gwyliau i fod am fwy na chwech wythnos. Rhanu y Dosbarth: Cats o'r Penrhyn. Yr oedd llythyr wedi dod oddiwrth Ysgrifen- ydd Addysg y Sir yn gofyn am farn y Bwrdd ar y cais o eiddo aelodau y Penrhyn am gael myned yn Ddosbarth wrthynt eu hunain i gynwys Llanfrothen, Talsarnau, Penrhyn a Maentwrog efallai.-Yr oedd y Parch. Hugh Ellis, Gellilydan wedi anfon llythyr cryf yn erbyn rhanu y Dosbarth. Mr. R. T. Jones, Penrhyn a ddywedodd fod Cynghorau Plwyfol y Penrhyn, Talsarnau, a Llanfrothen wedi pasio penderfyniad o blaid cael ffurfio Dosbarth ar wahan i Ffestiniog. Camgymeriad y Clerc oedd dod a Maentwrog i mewn. Y rheswm dros ofyn am gael myned wrthynt eu hunain ydoedd cael pethau yn fwy hwylus i'r Rheolwyr. Ni fyddai raid dod yr holl ffordd i'r Blaenau i gynal cyfarfod, a chredai y gellid ymddiried i'r plwyfi eu hunain i gario addysg yn mlaen. Byddai y Dosbarth yn fwy nag un y Bala a Chorwen. Fel y mae yn awr y mae yn fwy na'r un Dosbarth arall yn y Sir. Yr oedd presenoldeb y Rheolwyr yn y cyfarfodydd yn bwysig iawn, ac achos mawr yr anffyddlondeb ydoedd eu bod yn teimlo nad oedd o un diben iddynt hwy, oedd yn nifer fechan, ofyn am gael dim gan fod y fath nifer lluosog yn eu herbyn o Ffestiniog. Bydd y Dosbarth os ffurfid ef yr un fath ag ydoedd o dan y Bwrdd Ysgol, ac ni byddai y gost yn fwy gan y gallai y Clerc ddod i lawr i'r cyfarfodydd yn y Penrhyn yr un mor hwylus ag oedd yn dod i'r cyfarfodydd presenol. Yr oedd ef yn cynyg eu bod yn cydweled a chais y Cyngorau Plwyfol i ffurfio Dosbarth i'r Penrhyn ar wahan. —Mr. Thomas Morgan a gefnogodd heb wneyd sylw pellach. Y Cadeirydd a ddywedodd i gynygiad o'r fath yr un oedd o'u blaen yn awr, gan ei ddwyn yn mlaen yn y Pwyllgor Sirol; ond gwrthododd y Pwyllgor hwnw ei ystyried, heb yn gyntaf gael barn y Bwrdd hwn, ac felly y daeth yma. Dywedodd Mr. R. T. Jones mai camgymeriad y Clerc oedd dod a Maentwrog i mewn ond yr oedd yn deg i'r Bwrdd ddeall nad oedd hyny yn gywir gan mai oddiwrth Ysgrifenydd y Sir y daeth y llythyr oeddid wedi ei ddarllen ar y mater, ac yr oedd aelodau y Pwyllgor Sirol yn deall fod Maentwrog i mewn yn y cynygiad neu ni fuasai Mr. Ellis wedi anfon ei wrthdystiad i mewn iddynt fel Bwrdd. Mr. Andreas Roberts a ddywedodd ei fod yn wrthwynebol i'r cais. Gwneyd y Dosbarth- iadau Addysg yn gryfion a ddylid, ac nid eu gwanhau trwy eu gwneyd yn rhai bychain dirym. Yr oedd Mr. R. T. Jones yn dywedyd fod aelodau y cwr isaf o'r dosbarth yn anffydd- lon, ond fel arall yn hollol yr oedd gyda'r aelodau newyddion, ac hyderai y parhaent. Yr oedd ef yn cynyg na byddent yn cydsynio a'r cais am na fyddai y rhaniad yn fanteisiol i addysg plant y Dosbarth.—Mr. D. G. Jones a gefnogodd. Mr. W. P. Evans a ddywedodd mai un rheswm dros y cynygiad ydoedd, anffyddlon- deb yr aelodau o'r cwr isaf, ond nid oedd ef wedi gweled dim o'r fath, a dalient gydmar- iaeth ffafriol ag aelodau y Blaenau oeddynt yn ymyl y cyfarfodydd. Yr oedd ef yn un o'r rhai a fu a rhan yn ffurfiad y Dosbarth yn y dechreu, a theimlid yn gryf ei bod yn fanteisiol i gael yr Ysgolion i gydredeg o'r Ysgolion isaf i'r rhai uchaf. Y ddadl yn y dechreu ydoedd y dylid ffurfio Dosbarth Gwledig a Dosbarth Dinesig ond yr oedd y fantais o gadw cysyllt- iad yr holl Ysgolion a'u gilydd yn gorbwyso pobpeth yn eu golwg, ac nid oedd y cynllun wedi tori lawr, ond yn hytrach bu yn llwydd- ianus iawn. Yr oedd yn fantais fawr cael cylch eang er mwyn gweithio yn llwyddianus. Oni cheid rhesymau cryfach nag a gafwyd, gadael y Dosbarth fel y mae a ddylid. Y Cadeirydd a ddywedodd fod yn ddrwg ganddo i Mr. R. T. Jones ymostwng i wneyd defnydd o eiriau cyfrinachol a ddywedodd ef wrtho i ddadlu dros ei gynygiad. Pe yn meddwl i'r geiriau gael eu llefaru yn gyhoedd- us buasai yn gwneyd hyny ei hun heb i ddim arall gael eu gymysgu a hwy. Yr unig reswm roddwyd dros y cais ydoedd, hwylusdod y Rheolwyr. Pe yn meddwl am ddim ond eu hwylusdod eu hunain dia i y buasent oil yn falch o gael rboddi i'r Penrbyn eu cais; ond nid oedd y sawl a ymgyn erai a gwaith o'r fath, ac a roddai fwy o bwys ar ei hwylusdod personol nag ar yr hyn oedcs oreu i'r plant ac 1 addysg y wlad yn deilwng i gyrirychioli ar y Bwrdd. Yr oedd yn rhaid anghofio hwylusdod personol a bod yn barod i .berthu Uawer os am fod o wasanaetb wirioneddol. Yr oedd ef, ar ol ymddiddan a dau o wyr blaenllaw y Penrhyn, yn cael nad oedd y teimlad yno o blaid rhanu, ond yn hytrach fel arall. Pan oedd dynion felly yn mynegi yn glir ei gwrth- wynebiad i'r cais yr oedd yn eglur fod rhyw- beth- heblaw hwylusdod personol mewn golwg ganddynt. Yr oedd hefyd wedi sylwi fod rhai o'r Penrhyn yn ysgrifenu i'r newyddiaduron yn erbyn y cais.—Cododd 12 eu dwylaw yn erbyn rhanu y Dosbarth; a 3 o blaid rhanu, sef Mri. R. T. Jones, Thomas Morgan, a G. Parry Jones.
ICYNGOR DINESIG LLANRWST.…
CYNGOR DINESIG LLANRWST. I Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol Mri Wil- liam Hughes (Cadeirydd) Dr. J. W. Owen (Is-gadeirydd); T. Rogers Jones, W. G. Jones, W. J. Williams, Edward Mills, Griffith Jones, D. J. Williams, R. R. Owen (Clerc), George Wynne (Arolygydd), a Evan M. Jones (Casglydd). Argymellion y Pwyllgorau. I Wedi arwyddo cofnodion y cyfarfod diwedd- af, cymeradwywyd yr argymellion canlynol o eiddo y gwahanol Bwyllgorau a gynhaliwyd yn ystod y mis:— Fod cynyg Mr. John Griffith, cariwr, am ddwfrhau yr heolydd yn cael ei gymeradwyo yn ol 8/-y dydd, neu 1/- yr awr; ac eiddo Mr. Richard Wood, am adgyweirio y drol ddwfr. Cymeradwywyd cynyg Mri Hughes a Burrows i gyflenwi y Cyngor a Brushes at yr heolydd, yn ol 25/6 y dwsin. Ar fater yr Ysbytty Unigoli, pasiwyd i anfon at y Cyngorau eraill am gydweithrediad. Pasiwyd i brynu y "Warwick Sprinkler" at y Drol Ddwfr am ddeg gini. Pasiodd y Cyngor i osod i fyny 16 0 Eistedd- leoedd o amgylch y dref er cyfleusdra i rai gael eistedd arnynt pan yn myned am dro am iechyd. Y Rheilffordd Ysgafn. I Bu y Gadeirydd, y Clerc, a Mr. W. J. Wil- liams mewn ymgyngoriad a Mr. Harper, Peir- ianydd CwmniRheilfforddyr Abbey, Dolgarog, a Threfriw, yn argymell y priodoldeb o gario y Llinell yn mlaen trwy Trefriw am Llanrwst. Dywedodd y rhoddai gyfarwyddyd i'r Surveyor wneyd mesuriad, &c., o'r lie rhwng Trefriw a Llanrwst er hyrwyddo y mater. Gofynwyd i'r Cadeirydd ofyn am gefnogaeth y Milwriad Higson er cael yr hyn a geisid gan y Cwmni. Beudai a Ilaethdai y Dosbarth. Cafwyd adroddiad maith a manwl iawn gan Dr. Frazer a'r Feudai y Dosbarth o'r rhai y gwerthid llefrith. Yr oedd 19 o honynt, gyda lie i 110 o wartheg godro. Cafodd 6 o honynt yn fudr ac anfoddhaol, ac un yn neillduol felly, sef Plas Isa. Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor Ieohydol, a bydd yn myned i'r Cyng- or Sirol yn unol a chais yr hwn y paratowyd ef gan y Swyddog. Cerrig. 1.- I Pasiwyd i brynu y cerig sydd yn mynwent I St. Mary yn ol 1/- y llwyth. Arianol. I Casglwyd o'r Dreth yn ystod y mis, £ l 18s 4c. Treth dwfr 2/- Tollau y Farchnadfa £ 4 Os 6c — £ 5 0 10s.-Derbyniwyd o'r Cyngor Sirol £ 419 8s lOc ar y contract gyda'r Ffyrdd, £ 100 am waith ar Station Road, a £ 24- 10s Oc yn nglyn a'r gwelliant ar gongl y Crown. Nid oedd dim eto yn aros yn ddyledus ar y Cyngor Sirol. Argraffu a Chario. I Pasiwyd i ofyn am gynygion am Argraffu Cofnodion y Cyngor ac am Gario pan fyddai angen hyny.—Mr. W. G. Jones a ofynodd am gael cyfrif at y Pwyllgor nesaf o'r holl draul gyda'r cario, er gweled a'i ni byddai ynrhatach i'r Cyngor brynu ceffyl at eu gwasanaeth eu hunain, na thalu am gario, &c. Y Trethi. I Pasiwyd penderfyniad ffurfiol i'r dreth fod I yn 3/- y bunt, a'r Dreth Ddwfr fel arferol. Lladd-dy. I Daeth cais oddiwrth Mr. Thomas Roberts, Windsor House, am drwydded i'r Lladd-dy yn Cae Acre. Pedwar o foch yn yr wythnos a fwriadai ladd ynO.-Daeth llythyr oddiwrth Mri. Kettle, Landor & Cope, yn erbyn caniat- au Lladd-dy yn y lie. Gwrthwynebant ar ran perchenogion Poplar Grove.—Mr. C. T. Allard, ar ran Ymddiriedolwyr y diweddar Samuel Parry, a wrthwynebodd yr un modd am y byddai y lie yn niweidiol i'w heiddo yn Carrington Terrace, ac yn Salisbury Terrace.— Bu trafodaeth faith ar y mater, a phasiwyd i beidio rhoddi y Drwydded hyd nes cael barn y Swyddog Meddygol ar y lie. Yr Awrlais Trefol. Pasiwyd i dderbyn cynygiad Mr. David Jones, Watchmaker, i adgyweirio yr Awrlais Trefol am ddwy gini. Urinal Station Road. Anfonodd Post Feistr Llandudno i gwyno yn nghylch y lie hwn. Yr oedd y Cyngor yn teimlo nad oedd nemawr sail i'r gwyn ond yr un modd a chyda phob lie cyffelyb lie bynag y byddont. Pasiwyd i ofyn i'r Heddlu gadw eu llygaid ar y lie, a bod rhybuddion i'w dodi i fyny yno. Gwddfglwy. Cafwyd adroddiad arbenig gan Dr. Frazer ar y naw achos o Wddfglwy fu yn y dosbarth yn ystod y tri mis cyntaf o'r flwyddyn. Yr oedd y Cyngor wedi gwneyd pobpeth a ellid, trwy eu Harolygydd, yn ngwyneb yr achosion hyn er atal eu lledaeniad. Meddygol. Adroddai Dr. Frazer i 2 enedigaeth gael eu cofrestru yn mis Ebrill, a 6 o farwolaethau, ar gyfer 3 genedigaeth a 5 marwolaeth y mis cyferbyniol y llynedd.
I"Catecism" yr "Hen Fam,"…
I "Catecism" yr "Hen Fam," a "HyfForddwr" yr "Hen Gorff." Paham y sonir o gwbl am y Catecism a'r "Hyfforddwr ?" Beth oedd yn galw am i'r Parch Ben Jones o Reithordy Penmachno ysgrifenu ? Pa bwys i neb beth yw cysylltiad y ddau lyfr a'u gilydd ? Pa ddyddordeb sydd i Fethodist mewn Catecism nac i Eglwyswr mewn HyfForddwr ?" A'i profi uniongrededd y Catecism oedd mewn golwg ? Ai dywed- yd wrth Fethodistiaid fod y llyfr hwnw mor uniongred fel y barnodd y pennaf o athrawon eu Cyfundeb hwy'n ddoeth gorffori rhannau helaeth o hono yn ei gatecism yntau ? ai ynte ai yr amcan oedd amddiflyn union grededd Yr Hyfforddwr ?" Nid wyf yn tybied mai y naill na'r llall. Yn hytrach, yr hyn geisir wneyd yw cyfiawnhau dysgu Catecism Eglwys Lloegri blant Anghydffurfwyr Cymru ar gost y treth- dalwyr. Ond nid trwy ddangos fod y Catec- ism,neu ran o hono,—wedi ei ddefnyddio gan Mr. Charles wrth wneyd yr Hyfforddwr y gwneir hynny. Teimlir sel yr Eglwyswyr dros ei ddysgu, nid am ei fod yn cynnwys athrawiaethau iachus y gellir eu corffori mewn Hyfforddwr heb glwyfo cydwybod y Meth- odist mwyaf llednais, ond am ei fod yn Gatecism Eglwys Lloegr. Ymladda llu o ddynion yn bybyr dros fddo gael el ddysgu, a faliant fwy mewn un helgi nag yn holl athraw- iaethau Cred. Rhaid cofio peth arall. Prin yr honnai Mr. Jones fod y Catecism," hyd yn oed yn y rhannau fenthyciwyd gan Mr. Charles ynfwy uniongred, a diogelach i blant, na'r Beibl ei hun. Ond ai nid yw Eglwyswyr y wlad a'r Deyrnas hon wedi bod yn llefain yn groch yn erbyn dysgu'r Beibl ei hun, heb nod nac esboniad, yn yr ysgolion ? Onid ydynt yn galw hyny yn grefydd yr Anghydffurfwyr"- iddynt hwy y peth mwyaf dirmygus o bob peth? Cydolygaf a'r Parch Ben Jones fod mwy o alw nag erioed am ddysgu athrawiaethau mawr duwinyddol y Catecism a'r HyRbrddwr i bobl ieuainc Cymru, er nad wyf yn rhoddi nemawr o bwys ar fod bachgen o aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn gwag-ymffrostio ei fod yn gwadu anfarwoldeb enaid a'r Bod o Dduw. Mae llawer bachgen, ysywaeth, yn colli diniweidrwydd plentyn cyn cael synwyr dyn; ac yn y cyfnod meddal hwnw gwna ambell un bethau ynfyd ryfeddbl: ac un o ynfyd-bethau ami i fachgen felly yw ymffrostio yn ei anuwiaeth. Mwy difrifol oglawer yw fod cannoedd clerigwyr Eglwys Lloegr yn anwyb- yddu duwinyddiaeth iach eu heglwys, ac yn ymroi i ddynwared ystumiau yr Eglwys Babaidd Ond ai rhywbeth i'w ddysgu i blant yr ysgol ddyddiol, gan athraw nas gwyr neb beth yw ei gymhwysderau i hyny, yw diwinyddiaeth ? A yw'r Catecism," fel Catecism un sect o blith amryw sectau Cymru, i'w ddysgu i blant pawb yn ddiwohaniaeth ? Tybier fod: mwyafrif Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon yn Fethodist- iaid tybier eto fod y Methodistiaid hynny, fel rhai yn credu yn gryf yn Hyfforddwr Mr. Charles, yn trefnu fod y llyfr rhagorol hwnnw i'w ddysgu i'r plant yn holl ysgolion y sir, a bod rhyw Eglwyswr eithafol yn codi ei lef ac yn dywedyd mai peth anghyfiawn yw dysgu Hyfforddwr y Methodistiaid i blant Eglwys Lloegr, a galw ar drethdalwyr Eglwysig i ddwyn rhan o draul y dysgu tybier ymhellach fod y Methodistiaid yn amcanu cyfarfod a cbri yr Eglwyswr drwy geisio gwasgaru ychydig belydrau o oleuni ar gysylltiad Yr Hyffor- ddwr a Chatecism yr Eglwys—beth, atolwg. a ddywedai'r Parchedig Ben Jones wrth hyny. Peth dyddorol siawn yw gweled clerigwr yn adgoffa Anghydffurfwyr Cymru am y pwys o ddysgu athrawiaethau Crefydd i'r bobi ieuainc, ac, wrth wneud hynny, yn hanner awgrymu mai'r Anghydffurfwyr sydd ar ffordd eu dysgu iddynt. Hyderaf y maddeua Mr. Jones i mi pan addefaf i mi fwy na gwenu wrth ddarllen ei sylwadau,—y mae'r syniad mor ogleisiol. Pwy tybed, a ddysgodd i genedl y Cymry hynny o dduwinyddiaeth sydd ganddi ? Pwy roddodd iddi'r goleuni a fedd ar athrawiaethyu crefydd ? Ai dysgu'r athrawiaethau hynny yw'r gwaith gymer yr Eglwys Sefydledig arni ei hun heddyw ? Pe bai hyny'n bod ni buasai galw am Ddirprwyaeth y Defodau.—Y Parch JOHN OWEN, M.A., Bowydd, yn y "Geninen," am Gorphenaf.
Cri y Bobl yn erbyn yr Eglwys.
Cri y Bobl yn erbyn yr Eglwys. Rhaid cadw urddas Archesgob Caergaint i fyny a 15,000p. y flwyddyn, gyda dau "balas enfawr ac Esgob Llunden, yntau, ar 10,000p. a dau balas." Rhaid ydyw cynysgaeddu pob esgob a phedair neu bum' mil o bunau o gyflog, a phalas." Telir i ddeaconiaid o ddwy fil i saith gant o bunnau y flwyddyn am wneyd y nesaf peth i ddim a chant, heblay hyny, dai braf i drigo ynddynt. Cyst ceffyl yr esgob, yn ei ystabl gysurus, o leiaf 200p. y flwyddyn,- mwy na gwerth haner bywiolaethau yr Eglwys. Fel hyn, tra y mae chwerw gri y pagan yn esgyn i'r Nef am athrawon i'w dysgu, gwelir fod march yr esgob yn costio yn mron cymaint ag esgob cenhadol ellid gyflogi am ryw 400p. y flwyddyn. Nid creadigaeth y dychymyg yw y felldith ddeifiol hon o brisio ag arian weinidog- aeth Efengyl sydd yn condemnio ariangarwch, eithr trefn addefedig yr Eglwys ydyw. Yn Nghyngres yr Eglwys yn Lerpwl, taer gymhell- wyd deiliaid yr esgobaeth hono i fynu Deon o'r dosbarth goreu i Brif-eglwys dinas mor urddas- ol. A sut yr anogwyd hwy i gael un felly ? Fe'u hysbyswyd y gellid prynu Deon o'r fath am fil o bunnau yn rhagor. Dyfynaf a chyfieithaf y geiriau a lefarwyd ar yr achlysur hwnw:— Y mae y swm o 5,200p. (Y flwyddvn i'r esgob) (gyda 2,000p. i'r deon a 800p. y flwyddyn yr un i'r canoniaid) lawer yn fwy na'r cyflog llai a gynygid yn adran xxii. o'r "Liverpool Cathedral Act, 1885ond gan eu bod yn disgwyl arweinyddiaeth deilwng o'r gair yn esgobaeth Lerpwl dylent fod yn barod i dalu cyflog teg am dani. Ac ni chodwyd lief yn erbyn y fath gynygiad, ac ni theimlodd neb, debygaf, ias oer o gryndod ac arswyd o'r herwydd Yr oedd y cwbl mor hynod o naturiol Os mynent gael dynion o statesmanlike ability gallent eu prynu: os mynent ddynion o allu ysprydol," rhaid fyddai iddynt roi ychydig yn ychwaneg am danynt. Gellir cael deoniaid claiar am ryw l.OOOp. neu 700p. y flwyddyn; ond cyst un brwd-rhyw real enthusiast "-ddwy fil y flwyddyn Yr oedd deoniaid ail-law a dreul- iasent eu nerth mewn gwaith cenhadol, yn y farchnad am ryw 200p. y flwyddyn ond ni wnai dinasyddion baelfrydig Lerpwl lai nag ymwregysu yn wrol i gynhal deon gwir dduw- iol ar y gost ychwanegol o 2000p. y flwyddyn Gymaint doethach a dymunolach, yn mhob ffordd, fyddai y deon dwy fil nag un geid yn ail-law o Ddeheudir Affrica Ofnadwy !— O'r "Geninen" am Gorphenaf.
IBYWYD MEWN LLEIENDY.
BYWYD MEWN LLEIENDY. (Parhad). Aeth y gwrandawiad (y rhoddasom adroddiad o hono yn ein rhifyn diweddaf) am achos ewyllys Miss Toogood yn nglyn a Lleiendy St. Mary of the Cross, yn mlaen yn Uchel-lvs Probate o flaen y Barnwr Bucknill. Tystiodd chwiorydd Miss Toogood am y driniaeth gaffai y rhai oeddynt yn y Sefydliad. Fod yn rhaid iddynt beidio siarad a'u gilydd, hyd yn nod wrth eu gwely marw. Nid oedd yn credu mewn gwaith boneddiges fel y Fam Uwchradd- 01 (Miss Skinner) yn dangos tymerau chwerwon aflywodraethus at y chwiorydd yn y Sefydliad. Yn ol y rheolau, yr oeddynt i beidio siarad "yr un modd ag yr oeddynt i ysgwyd llwch y byd oddiwrth eu gwisgoedd ar ddrws y Lleiendy." Mr. Hume Williams, K.C., a draddododd anerchiad cryf mewn amddiffyniad. Yr oedd y rhai a unent a'r lie, nid yn unig yn rhoddi eu hunain i fyny i'r gwaith, ond eu heiddo hefyd. Yr oedd y rheolau hyny yn cael eu darllen i bob un cyn ymuno, ac ar ol ymuno. Yr oedd Miss Toogood wedi cysegru ei bywyd a'i heiddo i'r gwaith ac felly hefyd Miss Skinner, yr hon a fu farw yn hollol dldowd wedi gwario tair mil o bunau yn y lie. Daeth yr achos i derfyniad sydyn trwy i'r Bar-gyfreithiwr hysbysu fod y gwrthwynebiad i'r ewyllys yn cael ei dynu yn ol. Yr oedd pob ensyniad yn erbyn y Chwaeroliaeth yn cael ei dynu yn ol yn gyfangwbl. Yr oedd tystiolaeth y chwaer Mary Dorcas, neu Jessie Clarke, yn ffafriol iawn i'r dull y cerid yn mlaen yn y lie. Tystiwyd hefyd i un chwaer wrth ymadael ofyn am ei 1'13,000 yn ol, a chafodd hwynt. Galwyd sylw y Llys at waith rhai yn ymosod ar y Chwiorydd perthynol i'r Sefydliad yn ystod y Cyngaws, a bu i'w Arglwyddiaeth gon- demnio y cyfryw mewn geiriau cryfion iawn. Yr oedd yn anfri ar wlad rydd fel hon i ymosod ar neb oherwydd ei ddaliadau crefyddol. Edrychai ar waith y chwiorydd Toogood yn tynu yn ol eu gwrthwynebiad i'r ewyllys yn weithred haelionus, ac yr oedd yn foddhaol iawn iddynt oil weled yr achos yn cael ei der- fynu ar y telerau y gwnaed.
Darfodedigaeth yn mhlith Chwarelwyr.
Darfodedigaeth yn mhlith Chwarelwyr. Hysbysir fod yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi gosod "Fibroid Phthisissef darfodedigaeth yn rhestr y clefydon ydynt yn codi o natur gal- wedigaeth y Chwarelwyr, ac felly yn dwyn yr afiechyd hwnw o fewn cylch Deddf lawn i Weithiwr am iawn arbenig. Dywedir yn mhellach fod hyn yn cael ei wneyd ar sail tyst- iolaethau roddwyd gan Dr Richard Jones, Blaenau Ffestiniog, Dr. Robert Owen, Pen-y- groes, ac amryw dystion meddygol eraill a gyflenwasant y Swyddfa Gartrefol a ffigyrau ar y mater. Ofnwn y gall hyn, os yw yn gywir, effeithio yn ddifrifol ar gyflogiad Chwarelwyr, gan nad yw vn debygol y cymerir neb i weithio i'r chwareli o hyn allan os byddant yn cwyno yn y graddau lleiaf oddiwrth ddiffyg anadl. neu rhyw anhwylder arall yn codi o'r ysgyfaint, nad yw yn debyg y bydd i Gwmni dalu dros yswiriant rhai felly pan y gallant gael cyflenwad o weithwyr heb fod acho, cwyno ar eu peirianau anadlu. Cafodd llawer un deimlo yn achos Deddf lawndal i Weithwyr, yn neillduol os byddai y diffyg lleiaf ar eu clyw neu eu golwg; ac erbyn hyn bydd anhawsderau yn codi o ffynonell arall. Pwngc heb ei brofi eto yw fod mwy o chwarelwyr yn marw o'r darfodedigaeth na'r rhai nad oes a wnelont o gwbl a gweithio mewn chwarel. Beth am ferched Blaenau Ffestiniog yn y mater hwn ? Pa nifer o honynt hw y sydd yn marw o'r darfodedigaeth ?
Undeb Corawl Eglwysig Cylch…
Undeb Corawl Eglwysig Cylch Ffestiniog. Dydd Sadwrn, yn Eglwys St. Michael, Ffestiniog, cynhaliodd Eglwyswyr y cylch eu Gwyl Flynyddol. Cynwysa y cylch, y Llan, y Blaenau, Maentwrog, a Trawsfynydd, ac er gwaethaf y tywydd anffafriol gafwyd, dangos- odd y cyfeillion ffyddlondeb mawr, a chafwyd cynulliad rhagorol. Yr Arweinydd ydoedd Mr. John Williams, Caernarfon; Cyfeilydd, Mr R. Walker Davies, Cae'rblaidd a Mr Ivor M. Humphreys, Maentwrog, yn Ysgrifenydd. Gwnaeth Mr. Humphreys ei waith yn hynod o fedrus a didramgwydd. Cafwyd rhag-brawf am 2-30, a dechreuwyd y gosper am 5 o'r gloch. Rhoddodd yr Arweinydd air uchel i'r canu, a dywedodd fod ol Ilafur ac addysgiant ar yr oil. A ganlyn ydoedd y Tonau, &c., yr awd trwyddynt:-Emyti Gorymdeithiol, y Brydnawnol Weddi, Salm 95, 100, 130, 146, Magnificat, Nunc Dimittis, Leoni, Pensylvania, Blaenycefn, De Deum, Sevenfold Amen, yn nghyda'r Anthem, "Cenwch i'r Arglwydd Gan Newydd (Eos Llechid). Darparwyd ymborth ar gyfer pawb yn y Neuadd Drefol.
[No title]
I Yr oedd yr elw i Gorphoraeth Newcastle-on- Tyne oddiwrth eu tramffordd y flwyddyn ddi- weddaf, yn wyth mil a'r hugain o bunoedd. l Mae Ffrainc yn tyfu ar gyfartaledd un fil a'r bymtheg o dunelli o Tobacco yn flynyddol. GwelJ myned i wely heb swper na chodi dranoeth mewn dyled. Gwell bod yn un llygadog nag yn hollol ddall. ) I