Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.…

News
Cite
Share

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. I Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri J. Lloyd Jones (hynaf), Hugh Jones, E. M. Owen, Lewis Richards, David Williams, Richard Jones, John Cadwaladr, W. J. Rowlands, Evan Jones, William Evans, William Owen, Cad- waladr Roberts, Richard Roberts, Dr R. D. Evans, Hugh Lloyd, hen aelodau ynghyda Hugh Jones (Llan), R. T. Jones, R. C. Jones, Ben. T. Jones, T. J. Roberts, a William Ed- wards, aelodau newyddion R. O. Davies (clerc), Evan Roberts (clerc cynorthwýol), W. E. Alltwen Williams (Arolygydd a Pheirianydd), a George Davies (Arolygydd Iechydol). Ethol Cadeirydd. Mr Richard Roberts a gynygiodd eu bod yn dewis Mr David Williams yr Is-gadeirydd i'r swydd a chefnogodd Mr Hugh Jones, Chem- ist. Dadleuai Mr Jones dros gael newid bob blwyddyn, a byddai yn fantais fawr i gael Mr David Williams yn y gadair y flwyddyn hon oherwydd ei brofiad helaeth gyda charthffos- iaeth fel cyn Arolygydd lechydol y Cyngor. Mr Evan Jones a gynygiodd, a chefnogodd Mr Cadwaladr Roberts, eu bod yn dewis y Cadeirydd (Mr E. M. Owen) am flwyddyn arall yn ol fel yr arferwyd gwneyd ar hyd y blynyddoedd, ac eithrio un tro. Credent v dvlai Cadeirydd fod yn y gadair am ddwy flynedd. Mr William Owen a ofynodd am gael gwneyd cynygiad penodol cyn i'r ddau uchod gael eu gosod i bleidlais, sef, ei fod yn cael ei wneyd yn rheol i'r Cadeirydd gael ei newid bob blwy- ddyn yn ddieithriad, ond ei fod yn agored i'w ail-ddewis wedi cyfnod o flwyddyn: ni ddylid ethol yr un un yn Gadeirydd ddwy flynedd yn olynol. Yr cedd yn cynyg eu bod yn newid bob blwyddyn.—Y Clerc, "Nis gellir rhoddi y fath gynygiad i bleidlais gan ei fod yn anghyf- reithlon. Nid oes genym hawl i basio rheol o'r fath nac i rwymo dwylaw y Cyngor o gwbl. Eihol Cadeirydd am y flwyddyn yw yr oil sydd genym i'w wneyd yn ein cyfarfod blynyddol fel hyn." Yna dodwyd yr enwau i fyny, a chododd 13 eu dwylaw dros Mr David Williams, a 4 dros Mr E. M. Owen. Yn ddilynol cododd pawb eu dwylaw dros Mr Williams. Wrth gymeryd y Gadair dywedodd Mr Wil- liams ei fod yn ddiolchgar am yr anrhydedd. Nid oedd yn teimlo ei hun yn deilwng o'r an- rhydedd o fod yn yr Is-gadair, llawer llai gael ei osod yn y brif gadair. Yr oedd y swydd yn un o gyfrifoldeb mawr, yn neillduol wrth ys- tyried ei fod yn dilyn Cadeirwyr mor alluog ag a fti ynddi yn flaenorol gwyr rhagoraf y Sir. Hyderai am eu cynorthwy gyda'r gwaith. Liongyfarchai yr aelodau newyddion ar eu dy- fodiad i'w plith. Gobeithïai y byddent oil mor ymdrechgar i wneyd eu gwaith ar y Cyngor dros y trethdalwyr ag a fuont i gael dod yn aelodau o hono, Wrtheistedd dymunai ddiolch yn gynes am wasanaeth gwerthfawr a ffyddlon eu cyn-Gadeirydd yn ystod y flwyddyn a chefnogodd Mr Cadwaladr Roberts—Cydna- byddodd Mr Owen mewn geiriau cyfaddas, ac hyderaifyr elai pobpeth yn mlaen yn ddymunol yn ystod y fiwyddyn hon eto. Is-gadeirydd. Dr Evans a gynygiodd Mr John Cadwaladr i fod yn Is-gadeirydd a chefnogodd Mr Hugh Jones.—Mr Hugh Lloyd a gynygiodd Mr Hugh Jones, a chefnogodd Mr Cadwaladr Roberts.—Cododd 3 eu Ilaw dros Mr Jones, a'r gweddill dros Mr Cadwaladr, yr hwn a ddewisiwyd yn unfrydol. Dywedodd Mr Cadwaladr nad oedd erioed wedi breuddwydio am y fath anrhydedd, ond cydsyniai i wasan- aethu yn ol ei allu yn yr Is-gadair gan mai dyna oedd eu dymuniad fel ei gyd-aelodau. Cynrychiolwyr. Dewisiwyd y personau canlynol i gynrych- ioli y Cyngor ar Fwrdd Addysg y Dosbarth Mri Owen Jones, Richard Roberts, Dr Evans, Dr Jones, Hugh Jones, a John Cadwaladr. Ar Gorph Rheolwyr yr Ysgol Ganolraddol, dewisiwyd Mri J. Lloyd, Jones (Hynaf), R. Walker Davies, a Mrs Dr Jones, Isallt. Y Pwyllgorau. Pasiwyd i'r holl Gyngor fod yn aelodau o'r tri Prif Bwyllgor, sef y Pwyllgor Arianol, Pwyllgor lechyd, a Phwyllgor y Dwfr a'r Nwy. Ar Bwyllgor y Llyfrgell dewisiwyd Mri. W". J. Rowlands, William Edwards, Owen Jones, William Evans, J. Lloyd Jones (leu.), R. T. jones, B. T. Jones, Hugh Jones (Llan), a Lewis Richards, aelodau o'r Cyngor; a E. Lloyd Powell, R. Parry, Edward Griffith, Richard G. Lloyd, Evan D. Hughes, y Parchn. John Hughes, R. Silyn Roberts, Moses Rob- erts, a D. Hoskins, yn nghyda Mrs. R. O. Davies a Miss Baker oddiallan i'r Cyngor. Ar Bwyllgor Addysg Gelfyddydol penodwyd Mri. Owen Jones, William Owen, Richard Jones, Hugh Lloyd, William Evans, R. C. Jones, W. J. Rowlands, Evan Jones, Cadwaladr Roberts, J. Lloyd Jones (Hynaf), J. Lloyd Jones (leu.), Richard Roberts, T. J. Roberts, o'r Cyngor; a Dr. R. Jones a'r Parch. R. Silyn Roberts oddiallan i'r Cyngor. Ar y Pwyllgor Gwaith dewisiwyd Mri. Cad- waladr Roberts, William Edwards, William Owen, Owen Jones, J. Lloyd Jones (Hynaf), Hugh Lloyd, Hugh Jones, Evan Jones, J. Lloyd Jones (leu.), R. C. Jones, ac E. M. Owen. Ar yr Is-bwyllgor Carthffosawl, amcan yr hwn fydd ymweled a'r gwaith yn Cwmbowydd, etholwyd Mri. Owen Jones, William Owen, J. Lloyd Jones (Hynaf), R. C. JonSs, E. M. Owen, Hugh Lloyd, Ben T. Jones, Hugh Jones, a Dr. Evans. Ar vr Is-bwyllgor Goleuo, dewisiwyd Mri T. J. Roberts, W. J. Rowlands, E. M. O,ven,! R'chard Jones, R. T. Jones, Ben T. Jcnes, Richard Roberts a Lewis Richards. Adeiladu Gwaliau. Yr oedd y chwech canlynol. wedi anion eu cynvgion i mewn am adeiladu gwaliau o gylch y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd. Eglurodd y Peirianydd mai y llafur yn unig a ofynid fod yr holl ddefnyddiau i'w gosod wrth law yn hwylus at y gwaith, ac mai tua chan llath oedd yn ofynol eu codi ar hyn o bryd :—H. S. Williams, Saermaen, Llan, 2/6 y llath Thomas & Williams, Wynne Road, 15/- y llath; David Jones Adeiladydd, Saw Mills, 8/6 y Llath; Henry Williams, 102, High Street, Blaenau, 5/6 y llath; Thomas Evans, T-ysfynydd, 8/6 y Ilath a Robert Davies, Blaenau 8/6 y llath,—Ar gynygiad Mr Richard Jones a chefnogiad Mr Hugh Lloyd, cymeradwywyd cynygiad Henry Williams.

I CYNGOR DiNESiG LLANRWST.

ADOLYGIAD. j

Referee enwog yn condemnio…

- - - - - - Cynorthwy neu…

' - WVVVVV 1 Yr Eisteddfod…

Swyddfa y "Weekly News" arI…

-Derbyn Galwadau.

ICymanfa Gerddorol y Method-I…

'V"'V"V""'V''''''''''''"'V"V"V"VV"VV"V"-…

-Pa'm y Gefnodd Cymru ar Rufain,

I HARLECH. ro_....c-!lG! HARLECH.…

I PENRHYNDEUDAAE"1"^' hcCi--…