Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

I "Nid Edrychwn yn ol." I

News
Cite
Share

I "Nid Edrychwn yn ol." Ceir y geiriau hyn mewn araeth nodedig a draddodwyd gan y Prif Weinidog mewn cyfarfod yn y brif-ddinas ddydd Sadwrn diweddaf. Araeth ydyw a bair hyfrydwch i ddiwygwyr cymdeithasol, a lwyr foddlona Ryddfrydwyr, ac a derfysga feddyliau Toriaid ynghyda thirfeddianwyr esgeulus a hunangeisiol. Mae wedi gwneyd hyny eisoes. Yr hyn a gyfrifa'r rhai sydd yn gofalu am fuddianau Cymdeithas yn gyffred- inol, ac yn gwir ewyllysio daioni i'r bobl, yn addewid werthfawr, hyny y mae tirfedd- ianwyr rheibus yn edrych arno fel bygyth- iad. O herwydd hyny mae wedi peri terfysg yn eu gwersyll. Ond nid oes yn yr araeth ddim a baer yr anesmwythder lleiaf i dir- feddianwyr sydd yn ceisio gwneyd eu dyled- swydd ac yn ystyriol o'u cyfrifoldeb. A chofier fod nid ychydig o dirfeddianwyr felly i'w cael yn y wlad. Yn ol y Prif Wein- idog mae'n rhaid ymroddi yn ddiymdroi i ddiwygio deddfau'r tir. Yn mhlith y ffeith- iau y daliodd arnynt—ffeithiau nas gellir eu gwadu—mae'r ddwy yma: (a) fod nifer llafurwyr amaethyddol wedi myn'd i lawr o 963,000 yn 1881 i 689,000 yn 1901. Golyga hyn leihad o 30 y cant mewn ugain mlynedd. (b) Yr unig alwedigaeth goledig ag y mae nifer y rhai sydd yn ei dilyn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ydyw galwedigaeth ceidwaid helwriaeth. Noda y Prif Weinidog fel pethau anhebgorol i Iwyddiant y deyrnas —nifer fwy-llawer iawn mwy—o dyddynod bychain (fel y'u gelwir) a gwell tai i weithwyr yn nghyrion trefi yn ogystal ag mewn parth- au gwledig. Rhaid gwneyd y tir o'r gwas- anaeth a'r gwerth mwyaf sydd yn bosibl i'r lluaws; fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae pleser yr ychydig yn cael y flaenoriaeth ar gynhaliaeth y lluaws. Sicrheir ni gan y Prif Weinidog fod y LIywodraeth wedi penderfynu cael diwygiad, nid eithafol a chwildroadol, ond wirsylweddol a phwysig. Mae'n hysbys eisoes fod ganddi yn barod (wedi ei lunio) fesur i amlhau tyddynod heblaw hyny, mae am ddwyn ymlaen fesur i chwanegu at awdurdod Cynghorau Lleol, ac i rwyddhau y ffordd iddynt adeiladu tai gweithwyr—tai addas ag y gellir eu cael ac ni allant eu harfer heb lawer iawn o drafferth a threulio llawer iawn o amser, a gwario llawer iawn o arian. Cydnabu Syr Henry Campell-Bannerman fod y gvaith yn fawr ac yn anhawdd. Ni ellir (eb efe) ag un mesur, nag mewn un Senedd-dymor, nac mewn un Senedd chwaith, dadwneyd dryg- waith ffol oesoedd lawer. Ond dywedodd yn eglur Yr ydym wedi rhoddi ein dwylaw ar yr aradr, ac nid edrychwn yn ol." Fel y dywedasom mae cynwys a thon yr araeth wedi peri i ryw ddosbarth deimlo yn anes- mwyth dros ben, ac mae Arglwydd Lans- downe eisoes wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i alw sylw ati yn Nhy'r Arglwyddi. Ond gan ei bod mor resymol a theg, nid oes, gan y Prif Weinidog achos i ofni beirn- iadaeth neb arni.

GwcB hwyr na Hwyrach.

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

Advertising

I Addewid Bendant. I

-Newydd da o WI ad -Bell.…

 NOD?OM O'R CYLCH'