Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
I S. WILLIAMS (LLANRWST). LTD, LUDaUD HUUSH" USDfWSt. I. The Universal Drapery and Clothing' Providers. f Lace Curtains, Blankets, Sheets, Bed and Table Linen. j Costumes, Coats, Skirts, Blouses. Millinery and Dressmaking on the Premises. I.. Gents' and Boys' Suits and Overcoats. Carpets, Rugs, Linoleums, Blinds, &c. J Largest Stock! Best Selection! Lowest Prices! ^S yr uchcd y gwahanol ANGLES y If gan /,3 yr uchcd y gwahanol ANGLES y I! ar Iffyg fod ar y IIygaid fel ag i effeithio ^wg. Y gwydrau angenrheidiol i ?eH ?.?'?yshwn (sef ASTIGMATISM) ydyw ? 'Mi ??Isuses. A golygfa fod y sawl 18ydd y? deall rhywbeth ar y naill neu y } ?. 3ql ???du ar bronad maith ar wydrau ? ??'r f? "?MbroRygolwg. YrunigdduU j o'r j ac ar brofi y golwg. Yr unig ddull ? 0 §w?bodaeth unrhyw un ar unrhyw a.  ?? hyn 0 bryd ydyw trwy ARHOLIAD, a. ??? pwys yr Arholiad yn ngolwg y ey. ? C'Y h oedd, a gwerth y tystysgrifau ar safle a »0 ^8trsvy(M yr Arholwyr. Mae yn Llun- ? Wydd yr Arholwyr. Mae yn LIun- Sy???ygymdeithas (a dim ond dwy) ?0Ydfl Y' rhoddi Graddau a Thystysgrifau i ICIA.NS h 1 0? ??' a g??s? ?yoy ar ol i'r ymgeis- ydd f y?ed trwy Arholiadau, ac ni ehaniat- ej {I eb ???y? rholiad os na all ddangos ? f r)?edi cael o leiaf saith mlynedd o hm mewn OPTICS. RheoHr y cymdeith- ?sauh Y? gan rai o brif Wyddonwyr y eyrtag, ? chydnabyddir fod yr Arholwyr iaeo lIth y rhai uchaf mewn Gwyddon- ?eth  ????ygiaeth. Amean y Cymdeith- asau h n Y?y? diogelu y cyhoedd rhag ?Vl! Y? nglyn a gwerthu Spectols a phro6 go Wg dd' d y ?g) a'r graddau a roddir ydynt F.S.M.C., D.B.O.A. y????Qdain WHOLESALE FIRMS sydd ^rh ] Tystysgrifau i'w cwmeriaid. er t? ?? sawl sydd yn eu meddu allu dane, °S ?yw fath o Dystysgrif fel ag i arWa Y ?yhoedd i gredu en bed yn meddu ar °(^ae^1 mewn Optics yn hollol yr un %h P? ?ai yn Grocer, Draper, neu T? a phe bai yn Grocer, Draper, neu allar, ? efnyddio tystysgrif oddiwrth y ?r?s? o?ent yn delio gyda hwy i ddangos i'r ? ? ?? ? pherohenog yn meddu ar r '3YhOedd ei pherchenog yn meddu ar bodaeth ? ? adranau °y?' Mae y "Yhoed'i ??? cael eu twyllo yn y cyfeiriad htyjj ?? sydd yn myned o dy i dy i Wert ? Spectols. ht'  ^yw pedair blynedd a'r ddeg o Wofiacj mewn profi y golwg ac astudio an dell?l-s a Spectols o bob math yn ?rth ?ywbeth i'r cyhoedd ac os yw enill tyst S^f^aU (mynwch wel'd y rhai hyn) a.r o?" ? (mynwch we i d y rhai hyn) ar 0j °???? o flaen Prif Wyddonwyr y C S yn werth rhywbeth, yna hawliaf fy ? ? ? ?eall ychydig am Spectols a'r go? °' a Ssllir sicrhau na wneir cam a neb ?0?"'?nrhywfodd. Dyru syr^ y? rhyfedd, gwerthir ^Peet" T J'11 rhatach yn y MEDICAL na Wne'  y? rhatach yn y MEDICAL na ??,??onynunmau. Cofier y Cyfeiriad:- lIUGH JONES, < F.S.M.C., D.B.O.A., CERTE?EQ OPTICIAN, lVIDl0  ^dical hall, Biaenau Ffestm!?g/
IBWRDD Y GWAROHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
I BWRDD Y GWAROHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod yn Nhylotty y Penrhyn dydd Mawrth diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol—Mri William Williams, E. M. Owen, W. W. Morris, Richard Williams, Wrn. Owen, Richard Roberts, Owen Jones, William Jones, John Roberts (Talsarnau), Cadben Morgan Jones, Morgan Roberts, D. Tegid Jones, Edward Llewelyn, R. W. Vaughan, John Pierce, Owen Evans, David Pugh, Robert Richards, O. V. Lewis, John Roberts (Trawsfynydd), William Williams, R. O. Williams, D. Fowden Jones, Mrs. Lucy Casson, John Pritchard, a W. Thomas, R. Parry, J. B. Jones (Swyddogion Elusenol), Thomas Roberts (Clerc), D. Jones (Clerc cynorthwyol), D. J. Jones (Meistr y Ty). Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Gwarcheidwaid ar ol yr Etholiad diweddaf, a chymerwyd y gadair gan y Clerc (Mr Thomas Roberts). Wedi iddo ddarllen canlyniad yr Etholiad yn ol gofynion y gyfraith, gilwodd arnynt i ddewis Cadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. I Dewis Cadeirydd. Mr R. O. Williams, a gynygiai eu bod yn ail ddewis Mr Owen Jones yn Gadeirydd am flwyddyn eto. Cefnogwyd gan amryw, a dew-I iswyd ef yn unfrydol. Dewis Is-Gadeirydd. 1 Cadben Morgan Jones a gynygiai fod i Mr W. Jones gael ei ail-ddewis fel Is-gadeirydd. Cefnogodd Mr Richard Williams a phasiwyd yn unfrydol. I Gwarcheidwaid Cydweithiol. Y Cadeirydd a eglurodd fod gan y Gwarch- eidwaid hawl os y byddant yn barnu yn ddoeth i ddewis dau Warcheidwaid Cydweithiol atynt. Mr. W. Owen a gynygiai eu bod yn gwneyd hyny, a chefnogai Cadben Morgan Jones. Fel gwelliant, cynygiai Mr. D. Tegid Jones nad oeddynt i wneyd hyny, ond ni chafodd gefnog- ydd, a phasiwyd y cynygiad gwreiddiol. Mr. W. Owen a gynygiai a Mr. W. Williams a gefnogai eu bod yn dewis Mr. J. Vaughan Williams fel un. Cadben Morgan Jones a gynygiai Mr. John Williams, Tremadog, a chefnogwyd gan Mr. E. Llewelyn. Mr. D. Tegid Jones a gynygiai Mr. G. Parry Jones, Penrhyn, ond ni chefnogwyd. Mr. R. O. Williams a gynygiai a chefnogai Mr. E. Llewelyn eu bod yn dewis Mr. J. Parry Jones, Penlan. Mr. R. Richards a gynygiai a chefnogai Mrs Lucy Casson, eu bod yn dewis Mr. E. Bowen Jones. Rhoddwyd yr enwau i fyny i bleidais, gyda'r canlyniad isod;— J. V. Williams, 14; John Williams, 20; J. Parry Jones, 5; E. Bowen Jones, 9. Dewisiwyd y Mri J. V. Williams, a John Williams. I Y Pwyllgorau. Ail-ddewiswyd yr oil o'r Pwyllgorau fel yr oeddynt y flwyddyn ddiweddaf, ond fod yr 1 aelodau newyddion i gymeryd lie y rhai oedd I wedi myned allan o swydd. I Y Ty. I Ebrill 12, daeth Mary Hughes, 32 oed a'i phlentyn i'r Ty, trwy archeb J. B. Jones. Ebrill 16, daeth Ann Ellen Morgan, 37 oed, i'r Ty trwy archeb W. Thomas. Ebrill 18, daeth Hugh Tecwyn Griffith, 7 oed, plentyn Ann Griffith, Llanfair, i'r Ty trwy archeb J. B. Jones. Ebrill 22, aeth Edmund Roberts, o Caeclyd, Ffestiniog, allan i fyned i chwilio am waith, ond daeth yn ol heddyw. Ebrill 10, gwrthododd John Jackson, tramp, wneyd ei waith yn y Ty, ac aed ag ef o flaenyr Ustusiaid, ac anfonwyd ef i Gaernarfon am 14 diwrnod. Ebrill 20, bu Gobeithlu Carmel, Penrhyn yn rhoddi Cyngerdd yn y Ty, a mwynhaodd y tlodion ef yn ardderchog. Dioichwyd iddynt. Yn y Ty 85, ar gyfer 81 yr un amser y llynedd, ac ymwelodd 19 o dramps ar gyfer 50 yr un adeg y llynedd. I Arianol. Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos ddi- weddaf fel y canlyn:-Dosbarth Tremadog, £ 75 14s. Ffestiniog, ;6117 15s. 7c. Deu- draeth, ^68 13s. 3c. sef cyfanswm o £ 362 2s. 10c. o'i gyferbynu a ^259 13s. llc. yr un amser y Itynedd. Yn yr Ariandy £ 1846 6s. Y Cadeirydd a ddiolchodd am yr anrhydedd j oeddynt wedi ei osod arno, ac hefyd am y teimlanau caredig oeddynt wedi ddangos tuag ato ar ol y Bwrdd diweddaf, oherwydd yr ychydig waeledd oedd wedi ei gyfarfod. Sylwodd Mr. Jones yn fanwl ar waith Gwarcheidwaid, ac hyderai y byddai i bob un o honynt weith- redu yn deg tuag at bawb. Hefyd sylwodd ar y gwahanol gyfreithiau ac archebion oedd yn eu dal yn gyfrifol am eu gweithrediadau. I Achos Dyrus. I Yr oedd dyn o'r Penrhyn yn gofyn am elusen ac yr oedd y meddyg wedi rhoddi tystysgrif ei fod yn analluog i wneyd dim, ac hefyd ei fod i aros yn y ty, ond daliai rhai o'r Gwarcheid- waid iddynt weled y dyn hwn yn Ffestiniog yr wythnos ddiweddaf. Pasiwyd iddo ddod i'r Ty os yw allaw o berygl i gael ei symud. Costau Claddu. I Derbyniwyd llythyr oddiwrth ysgrifenydd Clwb Corris yn hysbysu iddynt dalu 4_7 19s 6c ar farwolaeth William Francis (yr hwn a fu farw yn y Ty).—Pasiwyd i'r Clerc gael cyfrif manwl o'r arian wariwyd ar ei gladdedigaeth.
CYNGOR DOSBARTH DEUDRAETH.I
CYNGOR DOSBARTH DEUDRAETH. I Cynhaliwyd yr uchod yn Tylotty yr Undeb ddydd Mawrth diweddaf, ac yr oedd yn bres- enol Mri John Roberts (Talsanau), Robert Richards, W. Jones, David Pughe, Owen Evans, John Pierce, R. W. Vaughan, John Roberts (Trawsfynydd), William Williams, Thomas Jones (Arolygydd), a Thomas Rob- erts (Clerc). Cymerwyd y Gadair i ddechreu gan y Clerc. Hysbysodd mai gwaith cyntaf y Cyngor oedd dewis Cadeirydd. Ar gynygiad Mr W. Jones a chefnogiad Mr R. Richards, dewiswyd Mr D. Tegid Jones yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. Pasiwyd i beidio dewis Is-gadeirydd, ond i fyned ymlaen fel y flwyddyn ddiweddaf heb nodi yr un. Dewiswyd Mr William Jones i gynrychioli y Bwrdd ar BwyUgor Iechydol Sir Gaernarfon. Pasiwyd fod y Cyngorau Plwyfol i weithredu fel Pwyllgorau Cyngor Dosbarth. Trwsio y Ffyrdd. I Yr oedd y milwyr yn Trawsfynydd yn cynyg £ l am bob catrawd oedd yn myned i'r Wersyll- fa tuag at wellhau y ffyrdd. Barnai rhai o'r aelodau mai y peth goreu ydoedd i'r milwyr dalu yr hyn fyddai wedi ei wario yn ychwanegol at drwsio y ffyrdd. Gadawyd y mater i'r Clerc i wneyd ymchwil- iad trwyadl iddo, ac i anfon atebiad yn ol fel y gwelai yr amgylchiadau. t Amrywiol. I Hysbyswyd fod Mr. A. Osmond Williams wedi cadw y Cynghor heb roddi caniatad iddynt fyned a'u carthffosydd trwy ei dir, ac felly yr oeddynt wedi gorfod gohirio y gwaith. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Dr Frazer yn hysbysu ei fod wedi edrych i mewn i'r adrodd- iad fod Gweinyddes wedi symud o le neillduol tra yn dioddef o dan ddolur gwddf. Pasiwyd i anfon hysbysrwydd o'r amgylchiadau i Dolgell- au. Cwynai y Surveyor fod amryw o dai yn y dosbaath mewn sefyllfa adfydus, ac heb fod yn unol a Deddfau lechyd i gael eu trigianu. Yr oedd rhai, meddai, y gallai dyn fyned i mewn trwy y to. Pasiwyd i roddi rhybudd i'w perch- enogion i'w gwneyd i fyny yn mhen 21 diwrnod. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Mas- nach y byddent y flwyddyn nesaf yn cymeryd cyfrif o bob gwaith am y flwyddyn hon sydd yn cael ei wneyd yn mhob man fel ag a gymerir o rif y boblogaetb.-Aelod, "Cost eto." Ysgrifenai Mr. Foster, Engineer, i ofyn am cheque o £ 20 ar gyfrif gwaith oedd wedi ei wneyd i'r Cynghor. Dywedai y Clerc fod eisieu myned trwy gyfrif Mr. Foster yn ofalus cyn el dalu.—Pasiwyd i roddi cheque am £ 10. Diolchwyd i Arglwydd Winchelsea, Harlech, am ei ganiatad i fyned trwy ei dir ynglyn a gwaith tlwfr Harlech.—Ar gynygiad Mr. W. Jones, pasiwyd i'r Clerc anfon at ei Arglwydd- iaeth i ddiolch iddo yn y modd mwyaf caredig. Pasiwyd i roddi £ 10 o rodd i Mr. Thomas Jones, y Surveyor, am y gwaith ychwanegol oedd wedi wneyd ynglyn a'i swydd. I
[No title]
Ganwyd tri o fechgyn i briod Mr. Ellis W. Davies, A.S., Caernarfon. Gwnaeth y Wasg Seisnig hobi fawr o'r peth, a daliodd y clefyd rai o ohebwyr y Senedd. Hysbysir fod y fam a'r babanod yn gwneyd yn dda.
I CYNGOR DOSBARTH LLANRWST.
I CYNGOR DOSBARTH LLANRWST. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cyngor ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Roberts, John Davies (Capel Garmon), John Davies, (Gwytherln), Parch. H. Rawson Williams, Rowland Hughes, William Williams, Meredydd Owen, William Evans, Edward Edwards, David Lewis, David Owen, Robert Williams, ac Isaac Hughes, gyda R. R. Owen (Clerc), a Maurice Roberts (Arolygydd). Dewis Cadeirydd. Mr. John Roberts a gynygiodd y Parch. H. Rawson Williams i fod yn Gadeirydd. Yr oeddynt oil yn gwybod am gynwysder Mr. Williams i swydd o'r fath.—Mr. Edward Edwards a gefnogodd, ac hyderai weled Mr. Williams pan elai ar y Faingc Ynadol yn gweithredu yn anibynol, yn lie gwneyd fel y rhai newyddion, y rhai a blygent yn wasaidd i'r hen Ynadon gorthrymus. Pa reswm oedd anfon Peter Hughes, ac un arall, i garchar am dri mis am ddal pysgodyn wrth Felinycoed? Amddiffyn game y mawrion yr oedd yr Ynadon presenol. Hyderai y gweithredai Mr. Williams yn gydwybodol ac anibynol.—Mr. John Davies, Gwytherin, a gynygiodd Mr. John Roberts, y cyn-gadeirydd; ond dywedodd Mr. Roberts ua wnelai weithredu, Bu yn y Gadair am dymor hir, a dylid cael newid.—Mr. John Davies, Capel Garmon, a ategodd yr hyn ddy- wedwyd am Mr. Rawson Williams. Yr oedd yn ddrwg ganddynt oil golli gwasanaeth gwerthfawr Mr. Roberts o'r Gadair, wedi iddo ei Ilenwi gyda'r fath urddas am ddeuddeng mlynedd. Yr oedd Mr. Williams yn Gymro glan, a byddai yn fantais ei gael ar y Faingc yn nghanol y twr o Saeson oedd arni, ac yr oedd angen mawr am ddynion o'r fath yn eu plith.— Dewisiwyd Mr. Williams yn unfrydol, a diolchodd yntau am yr anrhydedd. Is-Gadeirydd. Dewisiwyd Mr. John Davies, Capel Garmon, yn Is-gadeirydd gydag unfrydedd, ar gynygiad Mr. William Williams a chefnogiad Mr. John Davies, Gwytherin, a diolchodd yntau. Pwyllgorau. -1 Pasiwyd i'r holl Gyngor fod yn Bwyllgor Ffyrdd ac Iechyd a dewisiwyd y personau canlynol at y Cadeirydd a r Is-gadeirydd yn Bwyllgor Arianol, Mri John Roberts, Meredydd Owen, William Evans, Rowland Hughes, a David Owen. Y Cyfarfodydd. Pasiwyd i gynal y cyfarfodydd ar yr un amser a dull ag arferol. Y Galwadau. Pasiwyd i wneyd Galwadau ar y Plwyfi yn unol a'r Daflen ddarparwyd gan y Clerc. -At y Ffyrdd, £ 1035; cyflogau £ 202 costau etholiad, £ 15; a'r swyddfa £ 30; cyfanswm o £ 1282, gyda'r gofyn am £ 300 i fod mewn llaw yn gwneyd £ 1582. Fe ddeuai -6632 i mewn at y swm hwnw i'w dynu i lawr i £ 950 i'w casglu trwy dreth o 10c y bunt, yr hyn ydoedd yn ddimeu uwch na'r llynedd oherwydd amryw welliantau oedd ar law. 10c ydoedd cyfartaledd y dreth am y pum' mlynedd diweddaf.—Mr. Rowland Hughes, A beidia yr aelodau newyddion gael y bai o fod wedi codi y dreth newydd iddynt ddod i mewn ?"— Clerc, Yr hen aelodau sydd yn gyfrifol am hyn, gan fod eu gwaith ar ei ganol ar Ffordd Maesgwyn a lleoedd eraill." Adroddiad yr Arolygydd. I Ar gymeradwyaeth yr Arolygydd pasiwyd I cynllun ty newydd i Mr. Owen Owen, Topan Eddi, Eglwysbach. Grant. u Cafwyd Rhodd o £100 lis 3c o dan Ddeddf Amaethyddiaeth at dreuliau y Cyngor. Meddygol. Dr. Frazer a adroddodd i 10 o enedigaethau gael eu cofrestru yn mis Mawrth ar gyfer yr un nifer y llynedd, a ganwyd 7 ar gyfer 2. Ffieidd-dod. Ysgrifenodd Mr. David Hughes, Llythyrdy, Talycafn d gwyno o herwydd y ffieidd-dod ddeuai o le Mr. Burgess, Talycafn Hotel.—Bu siarad maith ar hyn, ac yr oedd yr adroddiadau am y lie mor gymysglyd fel nad ellid gwybod pwy oedd yn gyfrifol amyr aflendid cydnabydd- ig oedd yn dod i'r ffordd allan o'r lie. Yn y diwedd, dywedodd yr Arolygydd mai y cron- bwll (c?N?oc?) yn nghardd y Gwesty oedd allan j' o drefn, a phasiwyd ar gynygiad yr Is--aleirydd a chefnogiad Mr. Rowland Hughes i wasan- aethu rhybudd ar y Perchenog i glirio y cronbwll mewn 14 niwrod. I lawn i Weithiwr. Yn Llys Sirol Bangor, ddydd LIun, gofynai Edward Hughes, Crossing Wig, Aber, ger Bangor, i'r Mri Darbishire, perchenogion chwarelau, Penmaenmawr, arwyddo cytundeb am iawn a honid oedd rhyngddynt, ar gyfrif damwain a ddigwyddodd iddo pan yn eu gwasanaeth. Tystiodd iddo gael tori ei goes trwy i ddarn o'r graig gwympo arni. Buwyd yn saethu, a chanwyd y Corn, yr hyn meddai ef, oedd yn arwydd o ddiogelwch. Aed ag ef i Lerpwl ar gais y perchenogion, ac ynocafodd goes bren, Nis gallai gerdded i fyny i'r chwarel pe cawsai Benmaenmawr am wneyd hyny. Talai'r Mri Darbishire swm yn bythefnosol iddo. Ond yn ddiweddar dywed- wyd wrtho fod gwaith iddo yn y chwarel. Gwnaed y taliad olaf iddo wythnos i ddydd Llun diweddaf. Dywedodd y Barnwr mai gwaith anhawdd oedd cael gwybod beth oedd y cytundeb, a pbetb rhyfedd oedd fod y Cwmni yn talu £ l 12s lc yn bythefnosol, sef y swm oedd yn ofynol fel iawn dan Ddeddf lawn i Weithwyr. Dyfarnodd o blaid yr apelydd 10/- yr wythnos hyd nes deuai yn abl i weithio.
JPENMACHNO.
PENMACHNO. Da oedd genym weled un o blant yr ardal yma yr wythnos ddiweddaf, sef y Parch R. Stephen Roberts, B.A., Vicar Hereford. Mab ydyw ef i'r diweddar Mr Owen Roberts a Mrs Barbara Roberts, Tabor. Bu yn pregethu yn Eglwys y Plwyf nos Sul diweddaf, a chafodd llawer y fraint o'i glywed, yr oedd yr Eglwys yn llawn. Pregethodd yn rymus iawn, ac mewn Cymraeg da. Gwyddom mai hefo'r Saeson y gwasanaelha Mr Roberts. Bu yn ddisgybl-athraw yn Ysgol y Llan, ac efe ydyw y cyntaf o'r Ardal hon i raddio yn B.A. Llawer o lwyddiant iddo ef a'i deulu. Dydd Sadwrn diweddaf bu Claddedigaeth Miss Annie Roberts, Maesgwyn, Pentrefoelas (gynt o Bryn Crug a Hafodwyryd, Penmachno). Yr oedd y chwaer hon yn nodedig o weithgar gyda phob achos da. Mae yma lawer yn bwriadu myn'd i'r Cwm i'r Eisteddfod dydd Sadwrn nesaf a deallwn fod rhagolygon disglaer iddi. OWAIN WYN.
'- --- TREFN OEDFAON Y SUL
TREFN OEDFAON Y SUL ST. DAVIDS CHURCH HALL.—Special English Anniversary Services Sunday April 28, 1907. Preacher, Canon Davies, Bangor Cathedral. Full Choral Services. Morn- ing 10-30 a.m., Anthem, "Let God Arise." Evening 6-30 p.m., Anthem, "King of Kings. Y METHODISTIAID. < PENIEL.—Parch. R. H. Evans, Llanrhaiadr. ENGEDI.-Parch. Owen S. Jones, Deganwy. GWYLFA-10, Parch. Thos. Hughes, B.A., Rhiw; 6, Parch R. R. Owen, Aberllefeni. BETHESDA.—10, Parch. R. R. Owen, Aber- llefeni; Parch Thos Hughes. B.A., Rhiw. TABERNACL.—Parch. G. Ceidiog Roberts. MAENOFFEREN.—Parch. R. E. Morris M.A. GARREGDDU.—Parch. R. R. Morris. BOWYDD—Parch Hugh Ellis Maentwrog. RHIW.—Parch.- J. O. Thomas, M,A., Menai Bridge. BETHEL.—Parch. H. Roberts, Rhydymain. CAPEL SEISNIG (English Chapel).—Rev. John Owen, M.A. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—Parch R. T. Phillips. HYFRYDFA.—Parch. J. Williams-Davies. BETHANIA.-IO, Parch. George Davies. B.A., 6. Parch. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM.—Myfyriwr o GolegBala-Bangor. BRYNBOWYDD.—10, Parch. J. Rhydwen Parry. 6, Parch. George Davies. SALEM.—10, Cyfarfod Gweddi. CARMEL.—10, Pregeth. Y WESLEYAID. EBENEZER.—10, Parch. W. Roberts, Maen. twrog. DISGWYLFA.—10, Parch D. D. Jones. SOAR, RHIW.—10, Mr. J. R. Jones. 6, Parch. T. Isfryn Hughes. TANYGRISIAU.—10, Farcb. T, Isfryn Hughes, Parch. D. D. Jones, FFESTlNIOG.-IO, Parch R. Morton Roberts. Y BEDYDDWYR, I SEION.—Parch. Moses Roberts. [CALFARIA.—10._ Parch. E. Cefni Jones. 6. | Parch. R. Hughes, Llanberis. MORIAH.-10, Parch R. Hughes, Llanberis; 6, Parch.. Cefni Jones. CAEESALFM.—David Garfield Owen. PISGAH.—Mr. Robert Humphreys. <