Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Pwngc y Colegau. I
Helynt Llogi Olwynfarch yn I Wrecsam. Yn ein rhifyn diweddaf cyhoeddasom hanes Heddlys Wrecsam, lie y cyhuddwyd Mr. A. Walwyn Evans, mab y Parch. M. O. Evans o o ladrata Olwynfarch perthynol i'r Denbigh Cycle Co. Yr oedd yr amgylchiadau yn syml fel hyn :-Llogodd Mr. Evans olwynfarch am wythnos gyda chytuno i dalu pan ddychwelai. Gadawodd hysbysrwydd o hyny yn ei lety yn Wrecsam lle'r oedd eiddo perthynol iddo ddwbl gwerth yr olwynfarch. Cododd S. H. Duckett, goruchwiliwr y Cwmni wys yn erbyn Evans, a mynai bwyso am warant i'w dddal gan nad oedd yn bresenol yn y Llys pan alwyd yr achos. Gwrthododd y Faingc roddi gwarant hyd nes cael prawf i Evans gael y wys, a phrawf gael ei roddi eifod wedi lladrattayr Olwynfarch. Erbyn hyn, y mae Duckett wedi ysgrifenu yr ymddiheuriad canlynol i'rwasg lle'r ymddang- osodd hanes y Llys, a theg a Mr. Evans ydyw i ninau gyhoeddi y cyfryw :—" Syr, A wnewch chwi ganiatau i mi trwy gyfrwng eich papur, ac fel Rheolwry Denbigh Cycle Co., WrecSam, i glirio cymeriad Mr. A. Walwyn Evans, mab y Parch M. O. Evans, diweddar o'r dref hon. Cyhuddwyd Mr. Evans ddoe o ladratta olwyn- farch gan fy nghwmni, a methodd ymddangos mewnateb i'r cyhuddiad yn Heddlys Gwrecsam. Y mae Mr. Evans, achos yr hwn a gyhoeddwyd yn eich newyddiadur ddoe, wedi fy nghyfienwi a phrawf o'i ddieuogrwydd o geisio lladratta, ac yr oedd ei ab^e^oldeb o'r Llys yn ddyledus i'r ffaith na wy.. i fod gwys yn ei erbyn. Y mae yr Olwynfarch wedi ei ddychwelyd i fy nghwmni, y rhai a dynant y wys yn ol, wedi eu cwbl foddloni nad oedd unrhyw fwriad o ladrad o du Mr. Evans, Bydd eich cyhoeddiad o'r Ilythyr hwn, yr wyf yn gobeithio, adfer i'r dyn ieuangc hwn ei enw da blaenorol. Yr eiddoch, &c., S. H. Duckett, Chester Street, Wrecsam, Hydref 3, 1906."
I __- - - ' ' - - - IYr Ymerodraeth…
I Y Ddirprwyaeth Eglwysig. Dechreuodd y Ddirprwyaeth Eglwysig ar ei r-vaith dydd Gwener yn Westminster Llundain, C oedd yr holl aelodau yn bresenol. Llywydd- l gan yr Arglwydd Farnwr Vaughan Williams Cadeirydd y Ddirprwyaeth. Yr aelodau eraill ydynt,-Arglwydd Hugh Cecil, Syr John Williams, Archddeacon Owen Evans, y Prif- athraw Fairburn, Proff, Henry Jones, Mr. S, T. Evans, A.S,, Mr. Frank Edwards, A,S., Mr. J. E. Greaves, a'r ysgrifenydd( Mr. R. M. Thomas). Penodwyd y Ddirprwyaeth i (l), Edrych i mewn ddechreuad, natur, swm, a'r defnydd o'r meddianau, gwaddoliadau, a eiddo eraill Eglwys Lloegr yn Nghymru a swydd Mynwy ac yn (2) i'r darpariaethau wnaed a'r gwaith a wneir gan Eglwysi yr holl Enwadau yn Nghymru a Swydd Mynwy er budd ysbryd- oi bob!, a'r graddau i ba rai y gwneirdefnydd o vfrywganybobl. Wedi bod yn eistedd yu -frinachol am gryn amser, gwahoddwyd y wasg i mewn, ac eglurodd y Cadeirydd amcan achylchjy gwaith a benodwyd i'r Ddirprwyaeth Yr qeddynt am fyned trwy y cofiiodion ar papurau Seneddol, adroddiadau y Dirprwywyr Eglwysig a Rheolwyr y Queen Anne'? Bounty, gan ddechreu gydag adroddiadau 18^5; ac adroddiadau y gwahanol Enwadau Crefyddol. Wedi myned trwy y papurau hyny, bwriedid cynal y cyfarfodydd yn gyhoeddus, a derbyn tystiolaethau. Byddai y cyfarfodydd yn agored i'r wasg, a gofelid am roddi hysbys- rwydd dyladwy am danynt mewn pryd.
IY Ddirprwyaeth Eglwysig.…
Helynt ion Plaid Llafur. Mae y Blaid y dysgwylid llawer iawn oddi- wrthi yn y Senedd, wedi siomi pawb trwy fyned i gweryla y naill adran gyda'r llall. Gadawodd y Cyngrair a gynhaliodd y Blaid yn Caerdydd yr wythnos ddiweddaf argraff anffafriol iawn gan mor gynhyrfus fu y cyfarfodydd, a phriod- olir yr anrhefn i'r adran eithafol o Gymdeith- aswyr oeddynt yno. Daliai Mr. Richard Bell, A.S.. mai fel Rhyddfrydwyr Llafurawl yr etholwyd y nifer luosocaf o honynt, a bod llawer o honynt wedi cynorthwyo Rhyddfryd- wyr i enill seddau, a'r Rhyddfrydwyr wedi eu cynorthwyo hwythau ond* ni fynai y Cym- deithaswyr wrrndaw, a'r diwedd fu apelio at y Cymdeithasau Llafur. a chafwyd dros naw mil o fwyafrif dros beidio gweithredu yn Blaid Anibynol yn y Senedd. Y mae Mr. Joseph A. Pease, A.S., un o Whips y Llywodraeth yn rhybuddio Plaid Llafur am waith y Cymdeith- aswyr yn pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth bob cyfle a gant i geisio ei dymchwelyd, tra y mae y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddwyn i mewn fesurau llafurawl ar ran gweithwyr y deyrnas. Y mae yn amlwg y bydd yn rhaid i Blaid Llafur geisio dod i ddealltwriaeth gwell a'u gilydd cyn y bydd un gobaith iddynt allu llwyddo i wneyd dim effeithiol dros y bobl ydynt o'u henillion yn cyfranu at eu cadw. i w cynrycbioli, a dadleu am eu hawliau. Hyder- wn yn fawr mai felly y bydd, a hyny cyn i bethau fyned yn rhy bell.
Helynt ion Plaid Llafur.
I' I wneyd Sausages? Dydd Sadwrn, yn Bridlington, dirwywyd Thomas Cork, cerbydwr, i bunt am weithio ceffyl tra mewn cyflwr anghyfaddas. Prof- odd y tystion fod yr anifail yn gorfod cerdded ar ei drithroed. Dywedodd y Diffynydd ei fod ar ol hyny wedi gwerthu y ceffyl i fyned dros y dwr.—Y Cadeirydd, I wneyd sausages ydych yn feddwl ?"—Diffynydd, "Ie, rhywbeth tebyg i hyny."
I' - - - - - I wneyd Sausages?,I
I Crogi yn He Priodi. Yr oedd Harrv GoLild, Yr oedd Harry Gould. argranydd yn gwneyd masnach dda yn Newmarket, i briodi bonedd- iges ieuaingc dydd Llun. Aeth i'r Eglwys nos Sul, lle'r oedd yn aadolwr cyson, ac ni welwyd ef ar ol hyny y noson hono. Boreu dydd LIun cafodd ei frawd hyd iddo yn hongian wrth dylath wrth ddwy ffedog argraffwyr wedi eu rhwymo wrth eu gilydd. Yr oedd y dyn ieuangc yn dyoddef oddiwrth ddiffyg cwsg.
I - --Crogi yn He Priodi.
Bygwth Sefylq Allan. I Y mae Cyngrair y Mwnwyr yn datgan pen- derfyniad cryf ac unol i sefyll allan trwy yr holl deyrnas oni bydd i'r gweddill o fwnwyr weithiant yn y cloddfeydd ymuno a'r Undeb. Y maent fel hyn am orfodi pob mwnwr i fod yn Undebwr, gan nad ystyrient yn deg i rai fedi y fantais o Undeb heb dalu dim at y trtuliau. Golygir y bydd yr holl weithwyr ar borthladdoedd y Clyde sefyll allan. Y mae 11 mil eisoes wedi gadael eu gwaith, ac uno y gweddill o fewn y bythefnos nesaf oni chant yr hyn a geisiant, felly bydd 70 o filoedd allan ar streic.
Family Notices
Pwngc y Colegau. I Achlysurodd araeth nerthol y Parch. Hugh Michael Hughes, B.A., Caerdydd, ar Golegau Cymrugyffro mawr trwy y wlad, ac nid oedd ball ar yr ymosodiadau fu arno o herwydd hyny. Y prif bwynt y cwynid o'i herwydd yd- oedd, y cyfeiriad a wnaed at fod diodydd meddwol yn cael lie ac yn cario dylanwad mewn Coleg a'i gyngherddau ysmygu. Dy- wedwyd yn bendant fod y cyhuddiad yn un anghywir, ac yn arbenig felly gyda golwg ar Goleg Bangor ac Aberystwyth, dros y rhai y rhoddwyd gair, bron ar Iw, eu bod yn berffaith Ian oddiwrth ddylamvad diodydd meddwol. Profodd Mr. O. M. Edwards, yn y Cymru yn wahanol am Aberystwyth pan oedd ef yno, gan fod dau Athraw ag arogl diodydd arnynt bob dydd yn eu hystafelloedd dysgu, ac i ddau o'r xnyfyrwyr dysglaeriaf oedd yno gydag ef syrthio i fedd y Meddwyn. Fflangellid Mr. Hughes am na buasai wedi gwrthdystio yn erbyn dod a'r ddiod feddwol i Goleg Caerdydd ag yntau yn aelod o Gyngor y Coleg hwnw, yn lie ei gyhoeddi mewn cwr pellaf o'r wlad oddi- wrth y Coleg. Gwyddai Mr. Hughes yn well na'i athrawon a'i gynghorwyr hunan-benodedig beth i'w wneyd er cyrhaedd ei nod, ac nid efe yw y dyn sy'n rhy Iwfr i fynegi ei syniadau o flaen unrhyw Lys y bo amgen am hyny. Caf- odd gyfle i wneyd hyny yr wythnos ddiweddaf, ac er y gwadu a'r haeru nad oedd y pethau a ddywedodd yn Blaenau Ffestiniog yn wir, y mae taw bythol wedi ei roddi yn awr ar yr ymosod- wyr, a geiriau Mr. Hughes wedi eu gwireddu bob sill o honynt. Dodwn yma adroddiad o weithrediadau Cyngor Coleg Caerdydd, a gad- awn ef i ystyriaeth bwyllog ein cydgenedl Llywyddodd Syr Alfred Thomas, A.S., dros gyfarfod o Gyngor Coleg Caerdydd ddydd Mercher.-Y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, a gynygiodd, Nad oedd diodydd meddwol i gael ei dwyn i mewn i unrhyw gyf- arfod gynhelid o fewn terfynau v Coleg, ac yn cael eu mynychu gan edrychwyr. "—Bu trafod- aeth faith ar ol hyny, a chollodd y cynygiad i'r mater gael ei gyflwyno i is-bwyllgor.—Y Prif- Athraw Griffiths a ddywedodd mai vr unig gyfarfodydd yn y rhai yr oedd diodydd medd- wol wedi eu defnyddio oeddynt cyfarfodydd blynyddol yr efrydwyr meddygol, ac yr oerV yr hywestedd (hospitality) yn yr achos hw;v wedi ei gyflenwi gan feddygon y dref y rh" oeddynt gyfeillion i'r Ysgol Feddygol. Yn aghyfarfod cyntaf y corph hwnw yfwyd wisci a chwrw, ond mewn cyfarfod dilynol cyfyngwyd y ddiod i gwrw, te a choffi. Tra yn cwb! gydsynio ag ysbryd y penderfyniad teimlai y byddai yn ddoeth i'r Cynghor beidio bod yn rhy frysiog mewn unrhyw gamrau a gymerant. —Esgob Llandaf a ofidiai fyned i orfodaeth, a dadleuai dros y priodoldeb o drosglwyddo y mater i Senedd y Coleg.—Y Prif-athraw Edwards o Goleg y Bedyddwyr, a dywedodd y dylai y coleg fod yn glir oddiwrth ddiodydd meddwol.-Syr Marchiant Williams a ddywed- odd ei fod wedi synu at y safle a gymerodd Esgob Llandaf. Yr oedd yr Esgob ac yntau yn hen ddirwestwyr a'u bod eill dau yn gwybod fod y ddadl os na chaffai pobl ddiod unffordd y mynid hi mewn ffordd arall yn un o'r rhai hynaf a salaf ddygid yn mlaen yn erbyn y mudiad dirwestol. Defnyddiwyd ef pan ddaeth Mesur Cau ar y Sul yn mlaen ond yr oedd wedi ei brofi fod llai o ddiodydd yn cael eu hyfed yn awr yn Nghymru ar y Sul nag oedd cyn cau y tafarndai.—Y Proff. Burrows a alwodd sylw at sylwadau y Proff. O. M. Edwards, y rhai a gyhoeddwyd, a gwrthdystiai i Goleg Caerdydd gael ei enwi yn Goleg Ilithio.Y Parch. H. M. Hughes a ddywedodd y dylai y Colegau newyddion fod yn rhydd oddiwrth yr ystaen hon.-Proff. Burrows a ddywedodd fod y cyfarfodydd y cyfeiriwyd atynt wedi eu myn- ychu gan ddynion amlwg o Gyngor y Coleg, ac ni ddeilliodd unrhyw niwed i'r un myfyriwr. —Yna cynygiodd Syr Marchiant Williams welliant, Fod y Cyngor, ar ol clywed fod Cyngerddau Ysmygu wedi eu cynal unwaith yn y flwyddyn o fewn muriau y Coleg, bod diodydd meddwol wedi eu hyfed yn y cyfryw gyngerdd- au, yn awr yn penderfynu yn unfrydol fod diodydd meddwol yn cael eu gwahardd yn y cyfryw gyngherddau, fel y maent wedi eu gwa- hardd bob amser yn yr holladloniadau eraill. Cefnogodd y Parch. W. E. Winks.—Dr. W. J. Edwards a dystiodd am ymddygiad rhagorol pawb yn yCyngherddau Ysmygu o dan sylw, ac na bu ymddygiad yr efrydwyr meddygol erioed yn well nag ydoedd yn bresenol.—Tynodd y Parch. H. M. Hughes ei gynygiad yn ol yn ffafr gwelliant Syr Marchiant Williams yr hwn a basiwyd yn unfrydol. 11
Helynt Llogi Olwynfarch ynI…
I I Yr Ymerodraeth Brydeinig. Ni theyrnasodd yr un dyn erioed dros Ymer- odraeth mor eangfawr a'r Brenin Iorwerth vii. Teyrnasai ei Fawrhydi dros un cyfandir, cant o or-ynysoedd, pum cant o bentiroedd, mil o lynau, dwy fil o afonydd, a deng mil o ynys- oedd. Esgynodd y Frenhines Buddug Orsedd Ymherodraeth a gynwysai 8,329,000 o filldir- oedd ysgwar, a daeth drosodd o'i Haw i'r Brenin Iorwerth gyda thair miliwn o filltiroedd wedi eu hychwanegu ati. Cafodd y Frenhines gyllid yr Ymerodraeth yn £ 75 miliwn, a gad- awodd y cyllid yn;6225 miliwn. Y mae dwbl y nifer yn y fyddin i'r peth ydoedd ar ddechreu teyrnasiad Buddug, ac y mae y Llynges yn fwy bedair gwaith. Y mae 70 allan o bob cant o longau ar y mor yn chwifio y faner Brydeinig. Yr oedd yr Ymerodraeth a gafodd Buddug i deyrnasu arni yn 1837 yn gorchuddio un ran o chwech o holl dir y ddaear ond gorchuddia yr Ymerodraeth hono yn awr un ran o bedair o'r tir. Y mae y faner Brydeinig wedi agor o newydd uwchben dwy erw o derfynau newydd- ion am bob eiliad ar yr awrlais er y flwyddyn 1800. Llywodraetha y Brenin Iorwerth dros Ymerodraeth 53 o weithiau cymaint a Ffraingc, 52 o weithiau cymaint a'r Almaen, tair gwaith a haner cymaint a'r Unol Dalaethau, a thair gwaith cymaint ag Ewrob. Mae ganddo dair gwaith gymaint o ddeiliaid a'r Czar, a theyrn- asa dros fwy o diriogaethau yn yr Unol Dal- aethau nag a wna yr Arlywydd. Boed iddo ef a'i ddeiHaid nawdd a gwenau y Goruchaf i ystyr; eu cyfrifoldeb cyfatebol, ac i wneyd llawv rldaioni i'r teyrnasoedd cylchynol.
lBygwth Sefylq Allan. I
Cynydd Masnachoi y Deyrnas. I Y mae cyfrifon Bwrdd Masnach am y naw mis diweddaf wedi eu cyhoeddi o £32,620,135 mewn dadforion, a chynydd o ^"40,805,143 mewn allforion, ar y naw mis cyferbyniol y llynedd. Yr oedd cynydd o;61,172,693 o all- forion o'u cydmaru a mis Medi y llynedd. Gwelir fel hyn fod Masnach y wlad wedi troi yn ddiamheuol ar adfywio, ac nad yw yr anwadalwch blaenorol yn achosi dirwasgiad yn awr fel y bu.
I -Cynydd -Masnachoi -y Deyrnas.-I
I- Y Fasnach Lo. I Wrth anerch cyfarfod cyhoeddus yn Merthyr ddydd LIun. dywedodd Mr. D. A. Thomas, A.S., eu bod igael blwyddyn nodedig o lwydd- ianus yn y Fasnach Lo yn Neheudir Cymru y flwyddyn hon un fwy llwyddianus nag a gaf- wyd er llawer o flynyddoedd. Ceid prisiau uwch i'r meistri, a gwell cyflogau i'r gweith- wyr. Y mae glowyr Phoenix Colliery Coedllai, Swydd Gallestr yn sefyll allan oherwydd fod dynion heb fod yn Undebwyr yn cael gweithio yno. Y mae y Perchenog (Mr. Higginbottom, Lerpwl) yn gwrthod ymyraeth, gan y dail allan fod pob gweithiwr i fod yn rhydd ewyllysydd gyda'r Undeb fel pobpeth arall.
I- -----I Y Fasnach Lo.I
Y Gweinidog Dail o Trallwm.' Yr oedd Capel y Bedyddwyr yn Trallwm yn or-lawn nos Sul, pryd yr aeth y Parch. David Griffith trwy wasanaeth yr Ordinhad o fedydd am y tro cyntaf. Dwy foneddiges a fedyddiwyd ganddo, ac er ei fod yn gwbl ddall ni bu unrhyw anffawd nac anhwylusdod o r herwydd. Yn ddiweddar, aeth trwy y ddefod yr un mor rwydd a phe yn meddu ei olwg. Brodor o Cefnmawr ydyw Mr Griffith.
|Y Gweinidog Dail o Trallwm.'…
Peidio myn'd at ei waith. I ;e i ? i o m y n I e i I Yn Heddlys yr Wyddgrug ddydd Llun, gwrandawyd achos pwysig iawn i Weithwyr. Ymddangosodd Mr. Howard Evans i erlyn gweithiwr o'r enw George Williams yr hwn a gyhuddwyd gan Gwmni yr Alun Steel Tinplate am drosedd o dan ddeddf y Cyflogydd a'r Gweithiwr, 1875. Eglurodd Mr. Evans i un o'r melinau fod yn sefyll trwy'r nos oherwydd i'r Diffynydd wrthod myned at ei waith, a trwy hyny beri colled o ddwy bunt. Tystiwyd gan y Rheolwr a'r Nos-wyliwr. Anfonwyd dyn i lety y Diffynydd a'r ateb roddodd ydoedd, nad oedd am ddod at ei waith y noson hono.- Gorchymynwyd i'r Diffynydd dalu y ddwy bunt golled, a'r 17s 6c costau yn nglyn a'r achos.
Peidio myn'd - at ei waith.…
I Priodi Dranoeth y Boreu. Cafwyd drama ddoniol ar zylch bychan yn Trallwm diwedd yr wythnos o'r blaen. Caf- odd merch ieuaingc o wlad Powys bofiad rhyfedd ar foreu penodedig ei phriodas trwy absenoldeb ei darpar-wr, er fod y ty, y fodrwy, a'r deisen briodas wedi eu paratoi. Wedi i'r Cwmni priodasol ddysgwyl am awr, awd i chwilio am y dyn ieuangc, ond methwyd cael golwg arno yn unman. Erbyn hyn y mae y dirgelwch wedi ei esbonio. Foreu y briodas, cadwyd y dyn ieuangc gartref gan ei deulu, y rhai oeddynt yn erbyn y briodas: cadwyd ei ddillad, a bu yntau yn garcharor am y dydd. Fodd bynag, caniatawyd iddo fyned at ei waith boreu dranoeth, ac aeth yntau i'r Swyddfa a phriododd yn ei ddillad gweithio.
I ' --Priodi Dranoeth y -Boreu.--I
PEDWAR OWR. Bu helynt llwybr Roewen, Felinheli o dan sylw Cyngor Sirol Arfon yn eu cyfarfod di- weddaf. Cofir i'r Cyngor golli y gyfraith yn y Frawdlys, ac erbyn hyn y mae £ 1,009 i'w dalu am y cyngaws hwnw. Pasiwyd i'r Cyngor Sirol dalu yr haner. a'r Cyngor Plwyf- ol yr haner arall. Y mae y Parch W. Lewys Davies, Prestatyn. yn mhlith eraill wedi cydsynio i fyned drosodd i Awstralia, lie y dywedir fod prinder Gweinid- ogion. Y mae Chwarel Llwyngern, un o'r rhai mwyaf yn Corris, wedi cael ei phrydlesu o'r newydd. a chymerir nifer fawr o weithwyr i mewn ar unwaith. Bydd hyn yn newydd da i'r ardal, gan fod y dirwasgiad yn cael ei deimlo yn llym yno, ac amryw wedi gorfod myned i'r Deheudir i weithio a llawer wedi ymfydo. Caniataodd y Barnwr Harris Lea, hawliad costau, a thai i gyfreithiwr John Howell, West Felton, yn erbyn Cwmni y Champion Cycle, yn Croesoswallt. Yr oedd yr hysbysiad yn dywedyd fod eu Holwynfeirch yn herio cystadleuaeth," y rhoddid yr arian yn ol os na byddent yn foddhaol, &c. Gwrthodwyd cym- eryd yr Olwynfarch werthwyd i Howell yn ei ol er ei fod yn hollol anfoddhaol. Dywedodd y Barnwr fod yn rhaid i'r Cwmni sefyll wrth eu hysbysiad er ei fod fel Chwedlau Tylwyth- au Teg." Y mae un Proffesor Joseph Newack, o Awstria, wedi glanio yn Plymouth, yr hwn a ddaeth a phlanhigion gydag ef o Cuba. Hona fod y planigion hyn mor dyner a byw i ysgog- iadau, &c., fel y rhaghysbysant bron fis yn mlaen, a daeargrynfaoedd dair mil o filltiroedd o gartref y Proffesor Well done Newack Y mae Cynghor Sirol Arfon wedi pasio i gofrestru pob un sydd allan o waith yn y Sir, gyda'r manylion lie y bu yn gweithio ddiwedd- af, lie y cynygiwyd gwaith iddo, a lie y bu yn ceisio gwaith. Yr amcan yw cael allan pwy ydynt y gweithwyr gonest ydynt yn methu cael gwaith, oddiwrth y rhai ydynt yn ddiogwyr o dan enw gweithwyr allan o waith." Cwynodd Cysodydd o Kingston fod ei gym- ydoges yn ei boeni trwy gadw 30 o ielr, 2 geil- iog, 6 o hwyaid, 7 cath, 3 ci. Cafodd y perch- enoges y creaduriaid amrywfath, ei dirwyo i ddwy bunt, a'i gorchymyn i chwalu y genfaint uchod. Fel yr oedd un o fforddohvyr y Rheilffordd, yn Clapham yn darllen hanes y galanastra mawr ddigwyddodd i'r tren yn Grantham, dy- wedodd, Rhaid fod gyrwr anffodus y tren wedi cael gwasfa," ar hyny syrthiodd i freich- iau ei wraig yn farw, Yn Libertyville, Illinois, gwnaeth tri dyn gyngwystl am fwyta caws, gyda'r canlyniad i un o'r enw Miller farw, ac y mae y ddau arall yn debyg o golli eu bywyd. Yn dilyn y chwedl am iar wedi dodwy wy a darn arian chwech cheiniog ynddo, enfyn go- hebydd o Hayward's Heath hanes am iar wedi dodwy wy a haner sofren ynddo. Hwyrach mai y peth nesaf glywir fydd am iar wedi dod- wy wyau yn cynwys papurau pum punoedd. Crybwyllir enw y Parch. Thomas Edwards (Gwynedd), Rheithor Aber, gerllaw Bangor, fel un tebygol o gael ei ddewis fel olynydd y diweddar Archddiacon Thomas Williams. Y mae Gwynedd yn Eisteddfodwr selog, yn Eglwyswr o safle a dylanwad yn ngolwg y genedl, ac yn hynod o gymeradwy yn mhob cylch. Cyfranodd Mr. Andrew Carnegie £ 125, at brynu Organ newydd i Eglwys Seisnig y Pres- byteriaid yr Abermaw. Cymer Cyngor Dosbarth Treffynon olwg an- ffafriol iawn ar fater y Modurio sydd yn y wlad Penderfynasant i anfon deiseb yn eu cylch i Fwrdd y Llywodraeth Leol, ac yn y cyfarfod nesaf, cynygir dodi tollbyrth trwy y dosbarth er mwyn atal peth ar rwysg y Modurwyr. Y mae cyfeillion Llangollen yn llawn gwaith gyda dewis Swyddogion at Eisteddfod 1908. Mr. E. Lloyd Edwards, U.H., Trefor, ddewis- wyd yn Llywydd y Pwyllgor cyffredinol, a'r Parch. W. Foulkes yn Is-lywydd, a Mr. Henry Lloyd yn Drysorydd. Pasiwyd i hysbysebu am Ysgrifenydd Cyffredinol am y cyflog o £ 100 a phump y cant ar y Tanysgrifiadau. Golygir y bydd eisieu iair mil a haner o bunau at ddwyn traul yr Wyl. Mae gwyliadwriaeth fanwl i'w chadw ar Fyfyrwyr Coleg Aberystwyth iddynt fod yn eu llety erbyn haner awr wedi deg y nos. Y mae £ 77,000 mewn llaw at Goleg newydd Bangor, a disgwylir Tywysog Cymru, yno ddechreu y flwyddyn fel Cangellydd Prif Ysgol Cymru i osod y garreg sylfaen. Y mae cyfeillion Eglwysig yn nosbarth Llan- dudno wedi ei cyffroi yn enbyd trwy waith Pwyllgor Addysg y Sir yn eu hysbysu y bydd- ant yn gyfrifol am ddeg y cant o gyflogau ath- rawon yr Ysgolion Eglwysig o Chwefror laf yn mlaen. Yr oedd rhai am ymladd, ac eraill am gael eglurhad, a'r oil yn credu mai amcan y Pwyllgor ydoedd Iladd eu hysgolion." Galwyd cyfarfod yn Mangor i'r diben o ys- tyried y priodoldeb o redeg Ymgeisydd Llafur yn yr Etholiad Dinesig nesaf. Bu Mr. Phillip Snowdon, A.S r-yno ychydig ddyddiau yn gynt yn ceisio goleuo y lie ond pan bwyswyd dros pwy yr oedd amryw yn siarad, atebent mai dros y Gymdeithas Llafur, Wrth bwyso yn mhellach cafwyd nad oedd Cymdeithas felly wedi ei sefydlu, a rhaid fu gadael pethau yn y niwl. Mae Mr. C. S. Dennis, Ysgrifenydd a Rheolwr Cyffredinol Reilffyrdd y Cambrian wedi cael ei ryddhau oddiwrth ddyledswyddau yr Ysgrifenyddiaeth, a Mr. Samuel William- son, yr hwn weithredai er's blynyddoedd fel prif gynorthwywr i Mr. Dennis, wedi ei benodi yn ei le. Bydd i Mr. Dennis barhau yn Brif Reolwr. Dydd Sadwrn, penderfynodd Plaid LIafur yn Nghanolbarth Morganwg i beidio gwrth- wynebu Mr. S. T. Evans, ond i fod yn barod at unrhyw alwad yn y dyfodol os el y sedd yn wag. Tro call iawn, am nad allent gael yr un cynrychiolydd sy'n caru lies meibion llafur yn fwy nag ydyw Mr. Evans, Y mae Mr. Evans wedi ei ail ethol ddydd Llun. Dr. Rolant Rogers a benodwyd yn Organydd Eglwys Gadeiriol Bangor allan o 204 o ym- geiswyr. Bu yn dal yr un swydd hyd yr anghydwelediad dorodd allan rhyngddo a'r awdurdodau Eglwysig rhyw ddwy flynedd a'r bymtheg yn ol. Y mae dyn yn gwneyd mwy o dwrf gyda gyru ei Modur ar hyd yr heolydd nag a wnaeth y Creawdwr wrth vru holl ser y nef ar hyd heolydd y wybren," medd y Parch. Richard Smith, Gweinidog Wesleyaidd mewn gwyl diolchgarwch yn Bentford ddydd Llun. Gwnaeth Cwmni Ysmyglys yn Ffraingc dros ddeugain mil o bunau mwy yn mis Awst na'r cyffredin o'u derbyniadau. Priodolid hyny i'r ffaith fod yr Ysgolion yn nghauad, a r hogiau yn cael rhyddid i smocio cigarettes. Y mae garddwr yn Acomb (York), wedi cael ail gnwd y flwyddyn hon o fefus, eirin, ac afalau, a dywedid fod y mefus yn nodedig o flasus. Y mae Charles Joseph Edney o Warboro Putney, fasnachai yn New Bond Street fel Walter Truefitt, Eilliwr," wedi gadael y swm 0[23,585 ar ei ol. Arian go lew wrth eillio a gwalltio, onide ? Wrth i Farnwr siarad a rhyw ddyn mewn Llys, dadleuai y troseddwr nad oedd yn ddrwg- weithredwr ond yn rhaib (victiiit,) .Rhaib i beth ?" gofynai y Barnwr.—" Rhaib i'r ffigiwr tri a'r ddeg," meddaiy dyn.—Y Barnwr, "Tri- a'rddeg ?"Ie," atebai y dyn, Un Barnwr a deuddeg o Reithwyr." Y mae yn arferiad er's canrifoedd yn Eglwys Yarmouth i ofyn am fenditl, ar y rhwydi pen- waig, ac awd trwy y ddefod hono eleni gyda defosiwn mawr. Yr oedd degau o rwydi wedi eu dwyn i mewn i'r Eglwys er mwyn cael y fendith. Prynodd Frank Blint ffarm yn Lee County, Iowa, am fil o bunau, a chafodd naw mil o bunau mewn hen ddyfrgist ar y lie. I
! PEDWAR OWR.
TANYGRISIAU. CYFARFOD CYSTADLEUOL HOREB (A.)— A gynhaliwyd dydd Sadwrn, Hydref 6ed. Ya y prydnawn cafwyd gwledd i'r corph wedi ei ddarparu gan y boneddigesau canlynol:- Misses Jones a Roberts, Bodlondeb; Mrs. Jones a Miss Jonos.Afon Row Mrs. Hughes, Mrs. Jones, Castell Barlwyd; Mrs. Parry, Barlwyd Terrace; Mrs. Jane Jones, Penybont; Mrs. Thomas, Bodychain Mrs. Lloyd, Bryn- gwyn; Mrs. Roberts, Heulfryn Terrace Mrs. Jones, Rhydygro; Mrs. Williams, Castell Barlwyd; Mrs. Hughes, Bronhyfryd; Mrs. Roberts, Horeb House; Miss Hughes, Pant Coch, Yn yr Hwyr cafwyd gwledd i'r meddwl o dan lywyddiaeth y bonejjdwr anrhydeddus ac haelionus Mr. R. O. Jones, Cyfreithiwr, gan yr hwn y cafwyd araeth rhagorol ar y pwysigrwydd o ddiwyllio'r plant, a chyflwyn- odd rodd anrhydeddus at y cyfarfod. Arwein- iwyd gan Mr. Morgan Roberts. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai canlynoI :-Am ganu i rai dan 7 oed, "Mae lesu Grist," 1, Katie Jones, Rhydygro; 2, Hugh Hughes, Cae'r- ffridd. Adrodd y Salm gyntaf, 1. Griffith E. Jones 2 (gydradd), Laura Jones, Gladys Blodwen a Catherine Lewis. Deuawd i rai dan 13 oed, 1, Jennie Roberts, Fronoleu, ac Anne Gabriel, Penlan 2, Robert Ll. Roberts a Maggie Jones. Adrodd Salm 96, Myfanwy Roberts, Gwynfryn: 2, Gwennie C. Jones, Glanaber. Unawd. "Ni bydd nos yno," I, Jennie Roberts; 2, Morfudd Williams. Adrodd Emyn 224, i rai dan 7 oed, 1, Lily Jones, Rhydygro 2, Willie Jones, Castell Barlwyd. Unawd, "Llythyr fy Mam," Maggie Jones, Buarth Melyn. Unrhyw Adroddiad, goreu, Mary W. Jones, Dolrhedyn. Adrodd rhan o'r Chweched Benod yn Matthew, Blodwea Thomas, Bodychain. Her Unawd i unrhyw lais, Mary Lee." Dyfarnwyd Richard Vaughan, Glandwr, yn oreu allan 060 ym- geiswyr, a Griffith Jones, Afon Row, yn ail, i'r hwn y rhoddwyd gwobr gan y Llywydd. Beirniadwyd y Cerddorion gan Mr. E. Ffestin Jones, yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmol- adwy iawn. Beirniadwyd yr adroddiadau gan Mri. John C. Roberts, Cadwaladr Roberts a Morgan Roberts. Gwasanaethwyd yn feistrol- gar iawn ar yr offeryn gan Miss Maria Jane Roberts, Bodlondeb.—UN OEDD YNO. DAMWAIN.—Nos Sul, digwyddodd damwain boenus i Evan Thomas, bachgen Mr. a Mrs. William Owen, Gorsaf-feistr Tanygrisiau. Ymddengys ei fod wedi dodi capsen ar ben gwialen, ac yn chwareu gyda hi wrth y tan, gyda'r canlyniad i'r gapsen boethi a ffrwydro, a pheri niweidiau i'w goes.
Archddiaconiaeth Meirion.
Y Cyngor Cenedlaethol Cymreig. Y mae dros 1800 o gynrychiolwyr o bob ran o Gymru wedi derbyn y gwahoddiadau i ddod i gyfarfodydd blynyddol y Cyngor Rhydd- frydig Cenedlaethol Cymreig yn Caerdydd ddoe a heddyw (dydd Iau). Neithiwr yr oedd gwahoddiad Syr Alfred Thomas a Mr. D. Lloyd George wedi ei dderbyn gyda boddbad neillduol, a thua deg-a'r-hugain o Aelodau Seneddol Cymreig yn bresenol yn y Neuadd Drefol. Heddyw boreu cynhaliwyd cyfarfod busnes y Cyngor o dan lywyddiaeth Mr. Lloyd George, Llywydd y Bwrdd Masnach, ac efe lanwai y gadafr yn y cynulliad mawr cenedl- aethol yn Park Hill.
TANYGRISIAU.
Y Cloch-leir a Mr. S. T. Evans. Dydd Llun, cynhaliwyd dau gyfarfod mewn addoldai yn Maesteg, gan Mr. S. T. Evans, A.S., dros Ganol-barth Morganwg, i ddiolch i'w etholwyr am ddangos eu hymlyniad wrtho trwy ei ail-ethol ar ol ei benodfifel yn Gofiadur Abertawe. Daeth rhyw ddynes benchwibanol i'r naill addoldy a'eillall i clochiaru ar "hawliau merched hawliau merched i ddynwared Epaod gyda llais cyfunryw a'r hil hir-glustog, mae'n debyg. Rhyw brangciau felly y mae y dosbarth cymysgryw hyn yn ddangos, a'r syn- dod yw fod yn bosibl i fath y ddynes hon gael neb i'w chefnogi yn Nghymru oleuenig. Sicr ydym na chawsai hyny yn Ngogledd Cymru, canys eu cario yn daclus o'r cyfarfodydd a wneid yn ardal Rhiwabon a'r Rhos, a'u dodi yn y Trams i fyned o'r lie. Beth ddaw o'r tryblith presenol ar wleidyddiaeth ein gwlad ? Ar un Haw y mae pentwr o ferched gegwrth yn gwaeddi am y peth hwn a'r peth arall, yn He bod adref yn gofalu am eu cartrefi; ar y llaw arall y mae y bobl gymysg "-y Blaid Llafur. -sydd yn cynwys cynrychiolwyr cywir affydd- Ion i'r gweithwyr, y sosialwyr nad ydynt yn credu mewn neb na dim ond hwy eu hunain, a nifer fawr na wyddant eu meddyliau eu hunain am fwy na diwrnod; a cherllaw iddynt y mae yr Eglwyswyr, y Pabyddion, a'r Arglwyddi yn dadleu am i bob diwygiad gael ei atal a phob anghyfiawnder fo'n elw a mantais iddynt hwy gael aros dros byth. Yn nghanol y cyfan, llawenydd yw meddwl fod genym ddynion cryfion wrth lyw y Llywodraeth, ac y gellir dibynu arnynt am Fesurau llesol yn ymerodrol gwladol a chymdeithasol.
Y Cloch-leir a Mr. S. T. Evans.
Y Brawdlysoedd Hydrefol. Mae yr Arglwydd Farnwr Walton am gynal y Brawdlysoedd fel y canlynCaernarfon, Hydref 25: Rhuthyn, Hydref, 30; Caer, Tachwedd 3 Caerfyrddin, Tachwedd 12; Aberhonddu, Tachwedd 14 Abertawe, Tach- wedd 20.
Y Brawdlysoedd Hydrefol.
Archddiaconiaeth Meirion. Hysbysir ar sail dda, meddir, fod lie gwag y diweddar Archddiacon Williams, Llanystum- dwy wedi ei gynyg i a'i dderbyn gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Criccieth, yr hwn sydd yn Gánon o Eglwys Gadeiriol Bangor. \AAAA A A AAA^AAaaaaaaaaaaa^. A A ▲
Y Cyngor Cenedlaethol Cymreig.
Y mae Golygydd y Drych wedi cymeryd yn ei ben i'weled beiau yn Englyn Blodau'r Grug," o waith Eifion Wyn. Un bai ynddo, yn ol y Beirniad hwn yw, nad ydyw lliw y blodau yn cael ei nodi! Beth nesaf. Onid oes luaws o liwiau iddynt ?