Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

HEDDLU MEIRION.

News
Cite
Share

HEDDLU MEIRION. Mr. Gol.-DioIch yn fawr ichwi am eich sylwadau doeth a charedig am Heddlu Meirion" yn eich rhifyn diweddaf. Yr oeddwn wedi clywed yn ddistaw am rhyw orchymyn anghydnaws wedi ei anfon i bob aelod o'r Heddlu drwy'r Sir, ond nifreuddwydiais mai yr hyn a nodwch yn eich erthygl ydoedd. Yr wyf yn awr bron methu credu fy llygaid fy hunan wrth ganfod jod y gorchymyn yn gwa- hardd i aelodau yr Heddlu fod yn Wardeniaid Eglwysig, yn Flaenoriaid, nac yn Athrawon yn yr Ysgol Sul. Pwy roddodd y fath orchymyn nis gwn, ond fe wn hyn, na oddef trethdalwyr a chrefyddwyr Meirion iddo gael ei wasgu ar aelodau yr Heddlu. Os daeth o gyd-bwyllgor Heddlu y Sir bod i r Cyngor alw y Pwyllgor hwnw i gyfrif ar unwaith, gan fod yn weddus iddynt gofio fod pob Heddgeidwad sydd yn eu gwasanaeth yn berchen enaid, ac yn gyfrifol i Dduw i wneyd ei ran dros ei achos yn y byd. Nid caethweision yw ein Heddlu i fod, ac nid oes gan yr un Pwyllgor, Cyngor, na Swyddog, hawl i ymyraeth yn eu cysylltiadau crefyddol. Mae genym Heddlu nad oes yn Mhrydain eu gwell, os oes eu cystal, mewn moes ac ym- ddygiad, a'r nifer luosocaf o lawer o honynt yn ddynion crefyddol, ac yn weithgar yn Eglwys Dduw. Gwn y dylai pob Heddgeidwaid fod nwchlaw cario teimladau drwg ac erlidgar, ac y dylai fod yn hollol ddi-bartiaeth; ond y mae gwahaniaeth ddybryd rhwng ymgais i'w cael felly, a'u gwahardd hyd yn nod i fod yn Ath- rawon yn yr Ysgol Sul. Yr wyf yn un o filoedd lawer sydd wedi teimlo i'r dwfn pan ddeallais am y gorchymyn y cyfeiriwch ato, a sicr yw y myn y cyhoedd fwy o hysbysrwydd yn ei gylch. Cynhelir cyd-bwyllgor yr Heddlu ddydd Mawrth nesaf, a bydd adroddiad y Prif GwnstabI am y chwarter yn cael ei ystyr- ied, a bydd cyfrifon yr Heddlu yn y Sir yn dod o flaen y Pwyllgor. Deallwn y gelwir sylw yno at y gorchymyn" roddwyd allan. Dys- gwylir yn ddyfal am y canlyniadau. Yr eiddoch, DYNGARWR.

.Methdalwyr yn Porthmadoc.I

CYNGOR EGLWYSI RHYDDION BLAENAU…

FOOTBALL.

IMarwolaeth Mr. William Roberts,…

Cyngor Sirof Lluridain ac…

I _-_-LLANRWST.

BLAENAU FFESTINIOG. I

Family Notices