Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ICyfarfod Ysgol .(M.C.) DosbarthI…

News
Cite
Share

Cyfarfod Ysgol (M.C.) Dosbarth I Machno. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf yr ucdod yn Nolwyddelen. Oherwydd i'r hin droi mor hynod o ffafriol, cawsom gynnrychiolaeth weddol gyflawn. Yr oedd yr holl gynnrych- iolwyr yn bresenol ac eithrio rhai .ysgolion Capel Currig a changen-ysgol y Garnedd. Y Llywydd ydoedd Mr. David Hughes, o Ryd-y- meirch, a'r Arholwr, y Parch. T. O. Jones, Ysbytty. Yr oedd cyfarfod y boreu fel arfer yn gyfarfod arbenig y plant. Yr oedd y canu o dan arweiniad Mr. G. Hughes,^Brondderw, a Mr. David Jones, Rathbone ?Terrace, yn cyfeilio. Canodd y plant amryw ddarnau yn swynol dros ben. Holwyd hwy gan y Parch. T. O. Jones. yny 5 benod o'r Rhodd Mam. Holi ac ateb bywiog a da. Dywedwyd ychydig o eiriau i galonogi y dosbarth gan Mr. Job Parry. Cynghorai hwy, beth bynag a wnant, am roddi y goreu i Iesu Grist. Agorwyd y mater apwyntiedig,—"Ymddyg- iad gweddus yn nhy Dduw," gan Mr. Morris Davies, Ysbytty. Ategwyd ei sylwadau gan Mri. Robert Roberts, Penmachno, Henry Roberts, Bettwsycoed, a'r Parch. T. O. Jones. Edrychai yr oil ar y mater fel un hynod amserol, ac eto gresynid fod angen galw sylw ato ar adeg fel y bresennol yn hanes crefydd Cymru. Hyderir y bydd Eglwysi y Dosbarth ac yn arbenig eiddo Dolwyddelen ar eu man- j tais o'r sylwadau. Terfynwyd y cyfarfod hwn* drwy weddi, Mr. R. T. Jones, Bettwsycoed yn arwain. Yn y Cyfarfod o'r Cynrychiolwyr a'r Athraw- on, gynhaliwyd yn ddilynol, hysbyswyd mai tro Rhydymeich sydd i groesawu y Cyfarfod Ysgol yn nesaf. Cynhelid ef y Sabbath cyntaf o Dachwedd, pryd yr holir y gwahanol ddos- barthiadau fel y canlyn :-Dosbarth hynaf, I Pedr, pennod I; Dosbarth canol, Hyffordd- wr pennod vi; Rhodd Mam," pennod, Ill. Y mater y disgwylir sylwadau arno fydd "lawn ymddygiad wrth fyn'd a dod i Dy Dduw.— Nodwyd ar Mr. R. T. Jones o Bettwsycoed i'w agor. Yn ddilynol, darllenwyd cofnodion y Cyfarfod Ysgol diweddaf gan yr Ysgrifenydd, a chadarnhawyd. Mewn perthynas i benderfyniad ynglyn a Rheolau yr Ysgol Sabothol hysbysai yr Ysgrif- enydd iddo ohebu a'r Parch D. O'Brian Owen ond fod pob copi o'r Blwyddiadur wedi ei werthu. Yn ddilynol cynygiai Mr. John Richards, a chefnogwyd gan Mr. Richard R. Jones. Fod cais yn cael ei wneyd at Bwyllgor Undeb yr Ysgolion Sabbothol, ar iddynt ar graffu nifer o'r Rheolau uchod, y rhai pwysicaf o honynt, a'r gardiau Llafur, er eu dwyn i sylw y gwahanol ysgolion. Danghoswyd unfrydedd gyda hyn: Hysbyswyd fodysgol Ysbyttyyn, anfon cenadwri at yr ysgolion mewn aralleirlad o adnod o Lyfr y Datguddiad. Pa, beth y mae'r ysbryd yn ei ddweyd wrth yr Ysgol Sabbothol," gdrwy gyfarfodydd y Gobeithlu, cyrddau darlleu, a'r gwahanol gyfarfodydd- eraill ar gyfer yr ieuengctyd a'r plant. Rhoddwyd anogaeth ar fod y cynrychiolwyr yn gahv sylw yr f-sgolion at yr adeg bresenol, ei bod yn eg cychwyn cyfarfodydd y gauaf, a gofalu fod yr holl ysgolion yn trefnu ar gyfer hyn yn ddiymdroi. Derbyniwyd llais yr Ysgolion ar gwestiwn Cymanfa y Plant. Yr oedd mwyafrif yr Ys- golion yn ffafriol i'r mudiad, ac i gynhal un er rhoddi prawf pa fodd y trydd allan. Ac ar ol cryn drafodaeth penderfynwyd ymddiried y gwaith o drefnu ar ei chyfer i bwyllgor gweith- iol y Cyfarfod Ysgol. Yr oedd yr ysgolion bron yn unfrydol dros adael yr Arholiad Ysgriienedig megis ag y mae ar hyn o bryd. Oherwydd byrdra yr amser oedwyd derbyn llais yr ysgolion ar gwestiwn y Gynhadledd, hyd y cyfarfod nesaf yn Rhydymeirch. Dewis- iwyd y Brawd John Richards, gydag unfrydedd i arwain gyda'r holi hanes yr Ysgolion yn y cyfarfod nesaf. Yn nghyfarfod y prydnawn, holwyd y Dosbarth canol yn y bennod 1 o Lyfr yr Actau. Holwyd Wanes yr ysgolion a'r canghenau o dan arweiniad Mr. John E. Roberts, Rhydymeirch. Pasiwyd anfon ein cofion at y brodyr yn Nghapel Curig a'r Garn- edd y rheswm dros hyn ydoedd na chawsom gwmpeini eu cynrychiolwyr er's llawer o Gyfarfodydd. Yn yr hwyr holwyd y dosbarth hynaf yn Epistol I, Pedr, ar bennod 1, holi ac ateb brwdfrydig.

Advertising

BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

-'-,,-.FFESTINIOG.--.....I

I RHOS A'R CYLCH. I

BLAENAU FFESTINIOG.