Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

NODION OR CYLCH.

News
Cite
Share

NODION OR CYLCH. Cyngor iawel a brawdol gafwyd yn Bettws- ycoed nos Wener, ond gwnaed gwaith da ag ystyried nad yw cylch. y Dosbarth. ond cyfyng- edig a bychan. Cymer yraelodau ddyddordeb j mawr yn eu gwaith, ac aberthant gryn lawer o j amser er ei gyflawni yn ddyladwy. Mae Rheolau y Llaethdai wedi eu mabwysiadu, a'r gwaith o adgyweirio y Sarn wedi ei osod. Bydd hyn yn dodi y Llaethdai o dan reolaeth y Cyngor, a gwneir y Sarn yn dramwyadwy, yr hyn nad ydyw yn bresenfli. Ni bydd gan fasnachwyr Llefrith Ie i gwyno os gwysir hwy am drosedd yn erbyn Deddfau Bwydydd a Gwlybyrau ar ol hyn ac os syrth rhywun i'r afon wrth Glanrhyd, nid y Cyngor fydd i'w feio gan eu bod am Sarn gadarn a phwrpasol yn y lie. Llawen. genym am Iwyddiant cyfeillion o'r cylch yn arddangosfa Bontnewydd, Am gi defaid o dan flwydd oed, cafodd Mr. T, R. Jones, Moss Hill, Penmachno yr ail wobr, y cyntaf gyda ci neu ast blewyn Ilyfn, a'r cyntaf I gyda'r cl neu ast llyfn neu arw; Mr. T. Ffoulkes Morris, Cross Keys, Blaenau yr ail gyda ci neu ast blewyn garw, a Miss Jones, Tanlan y drydedd wobr. jfe Bu i'n cyfeillion ieuaingc o'r Cylch hwn ddod allan yn dda yn yr Arholiadan am Ysgol oriaethau am dair blynedd yn Ngoleg Bangor, Enillodd Kate Winifred Roberts, o Ysgol Ganolradnol y Blaenau ysgoloriaeth £ 20; Mary Dilys Williams, o Ysgol Ganolraddol Portmadoc, ysgoloriaeth £ 15 a chafodd John Morris, ysgol y Blaenau, a Laurah Roberts, ysgol Pwllheli Exhibitions David Williams. Llawenhawn yn eu llwyddiant. Hefyd enill- odd y tri canlynol Exhibitions gwerth [10 yr un yn Arholiadau Coleg Abervstwyth—Ellen J. Jones, Blaenau; R. W. Jones nc E. Griffith Parry, Porthmadoc. Dyma Adroddiad Argraffedig y Bwrdd Canolog o'n blaen, a chynwysa Rheatr o'r Tystysgrifau Anrhydeddus a enillwyd g;in yr holl Ysgolion Canolraddol trwy Gymru. Y mae Ffestiniog a Machynlleth wedi enill 7 Tystysgrif. Rhagorol! Hwy sydd ar ben Rhestr yn hyny o beth. Cafodd Towyn 5, Porthmadoc 4, a Llanrwst 1. Gwelir felly na raid i ni ostwng pen yn y cylch hwn wrth gydmaru canlyniadau yr arholiadau ar yr Ysgolion Canolraddol. Yn Llys Manddyledion Llanrwst cafwyd argoel addawol y bydd i'w Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss wneyd Barnwr cryf, craff, a nodedig glir ei ddyfarniadau. Dywed- odd fod y Llys i'w agor yn ei amser, a bod yn rhaid i bawb fyddo a gwaith ynddo fod yn barod at yr amser; hefyd, nad oedd neb i "chwareu" yn nghylch a'r materion fydd a wnelo ys Llys a hwy. Cafodd un ei ddirwyo i bum punt am anufudd-dod, ac nid yn fuan yr anghofir y geiriau cryfion lefarwyd am waith amaethwyr yn dangos diffyg callineb trwy ddod a'u anghydweliadau i'r Llys yn ddiachos. Boed i'r Barnwr oes bir a phob hawddfyd tra yn ei swydd bwysig. Mewn atebiad i holiadau geir yn fynych yn nghylch Cymdeithas Hen Ddysgyblion Ysgol Ganolraddol Ffestiniog," dymunwn wneyd y nodiad a ganlyn :— Sefydlwyd hi saith mlynedd yn oli'ramcan o gadw'n fyw gymdeithas ym mysg yr aelodau a chadw cysylltiad rhyngddynt a'r ysgolheigion presenol. Atebwyd y dyben hwn hyd y ddwy flynedd ddiweddaf, gan i'r aelodau gyfarfod yn rheolaidd ac hefyd gael gwobr o werth nid bychan rhoddedig gan y prifathraw i'r sawl o'r ysgolheigion presenol a fernid ganddo yn fwyaf teilwng o honi yn flynyddol. Ond er's dwy flynedd nid oes gwobr wedi ei rhoddi, ac ni fuaswyd wedi cael cyfarfod y Nadolig diweddaf j oddigerth i ddau neu dri gymeryd arnynt y j cyfrifoldeb o alw cynulliad i ystyried pethau. j Yno adrefnwyd y rheolau, ac yr oedd y rhagol- ygon yn ddisglaer at y flwyddyn hon. Ond er i dros 300 o gylchlythyrau gael eu hanfon un i J bob hen aelod o'r ysgol, nid oesond pump wedi j anfon tanysgrifiad. Yn safle presenol pethau j nis gall y pwyllgor wneyd darpariaeth am gyfarfod na rhoddi y wobr fel ag y dylasent yn 1 Ol y rheolau. Hyn yn fyr yw eihanes, a dichon y bydd i'n sylw cyhoeddus fel hyn fod yn 1 foddion i adfywio'r achos. Buasai yn wresyn ] iddo farw, yn enwedig ar ol dechreu mor flodeuog a chyda rhagolwg mor glir o bosibl- rwydd buddiol a llesol mewn gwahanol gyfeir- iadau. Efallai fod y Gymdeithas yn ei safle bresenol oherwydd difrawder yn fwy na dim arall, (

Cyngor Dinesig Bettwsycoed.I

- - - - -I - - - - - - - -…

Dymdeithas -Ryddfrydol Meirion.I

- - - - - - - - -..- - -Poeri…

I Cystadleuaeth y Seindyrf…

IHelynt Llogi -Olwynfarch..

--Cyflogau Athrawon SirI Gaernarfon.

...,..Cyrhaedd Oedran Teg.…

Glowyr Deheudir Cymru a'r…

- - - - - - Cynhadledd Eglwysig…

- ----Morwyn yn Lladd ei Baban.

- - - - - - - - - - -I I --Blwydd-dal…

CYFARCHIAD I'R ARCHDDERWYDD.

Y BIBELL. I

Y GAN OREU. I

I ANERCHIAD PRIODASOL I

GARN DOLBENMAEN. 1I

- - - - - - - TREMADOC. -..,-I

[No title]