Hide Articles List

10 articles on this Page

LLYTHYR oddiwrth gutyn EBRILL.

LLANRWST.-

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

I DALIER _SYLW.

Ysgolion Nos Llanrwst.I

I BETTWSYCOED.I

NODION 0 PENMACHNO.

I _- BLAENAU FFESTINIOG.

Advertising

- - - - -Bwrdd, Addysg Dosbarth…

News
Cite
Share

Bwrdd, Addysg Dosbarth Geir-j ionydd. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd dydd Llun yn Bettwsycoed, pryd yr oedd yr aelodau canlynol yn bresenol Mri B. Fisher, yr is- gadeirydd yn y gadair Peter Mc'Intyre; H. Hughss (Penmachno) Ellis Pierce, (Dolwydd- elen) R. E. Thomas (Trefriw); Henry Roberts (Bettwsycoed) H. Roberts (Talybont) Mrs Ockeston (Trefriw) Mrs Parry (Bettwsy- coed); Parch H. H. Roberts; Evan R. Davies (Clerc) a T. Parry (Swyddog Gorfodol). Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr. Mc'Intyre pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y diweddar Mr. Thomas Williams, Factori, Trefriw, yn eu profedigaeth a'u galar ar ei ol. Gan fod teimlad cryf wedi codi yn y Bettws yn erbyn y lie a ddewisiwyd at godi ysgolion newyddion, pasiwyd i droi y mater yn ol i'r pwyllgor ei ail ystyried. Methwyd a sicrhau He i gynal ysgol yn Capel Curig tra y byddid yn ail adeiiadu yr hen ysgol. Cymeradwywyd Mr. John Roberts, Bwlcty- maen, Penmachno, i gael dod i wasanaeth y Bwrdd fel Dysgybl-athraw. Yr oedd cwyn wedi dod o Lanbedr yn nghylch ymddygiad yr Ysgolfeistr at blentyn o'r Ysgol. Gan fod y plentyn wedi dod yn ol, a'r anghydwelediad wedi ei settlo, pasiwyd i adael petbau fel y maent. Pasiwyd i dderbyn cynyg Mri. Owen Evans a'i Fab i gyflenwi yr Ysgolion a glo; a bod pedair punt yn cael ei dalu am lanhau Ysgol y Cyfyng. Penodwyd Mrs. Ockestone, y Parch Graian- ydd Williams, a'r Milwriad Gee yn Rheolwyr Lleol.