Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

.Llys Manddyledion Llanrwst.

News
Cite
Share

Llys Manddyledion Llanrwst. Achosion Pwysig. Cerydd i Amaethwyr. Dydd Gwener, o flaen ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss. LLUSGO GWAITH Y LLYS.—Daeth ei An- rhydedd i'r Llys una'rddeg o'r gloch, ond nid oedd y Cofrestr.ydd wedi cael hamdden i fyned trwy haner yr achosion oeddynt i'w gwrandaw ganddo ef cyn i'r Barnwr eistedd, a bu raid iddo gynal Llys yn yr ystafell arall. Pan alwyd yr achosion dadleuol, nid oedd neb yn barod, a phlediodd y naill gyfreithiwr ar ol y Ilall eu bod yn meddwl mai haner awr wedi deuddeg o'r gloch y byddai y gwglft yn dechreu fel yr arferid gyda'r cyn-farnwr Syr Horatio Lloyd. Nid oedd y pleidiau yn bres- enol na'r tystion. Y Barnwr Rhaid i'r Achosion sydd i'w gwrandaw ddod yn mlaen pan eu gelwir, neu fe'u croesir allan. Mae y Llys yn agor haner awr wedi deg, ac yr oeddwn wedi anfon at y Swyddogion y byddwn yn dechreu ar unwaith. Nid yw o un dyben i chwi gymeryd yn gania- taol na byddaf yma hyd haner awr wedi deuddeg, gan y gallaf fod wedi cyrhaedd y noson cynt. Cynhelir y Llys yn ei amser, acos na bydd y pleidiau yma mewn pryd, ni bydd ganddynt neb i'w feio ond hwy eu hunain." CYNGAWS RHWNG AMAETHWYR 0 EGLWYSBACH. David Davies, Maesadda, Talycafn, a ofyn- odd Edward Jones, Tyntwll, Eglwysbach, o [10 12s Oc, tal am dir pori, tresmas, &c. a gwth-hawliodd Edward Jones £9 5s 6c gan David Davies.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros Davies, a Mr. E. Davies-Jones dros Jones.—Mr. R. O. Davies, dros yr Hawl- ydd, a osododd yr achos i lawr, gan ddywedyd mai yr bawliad gwreiddiol ydoedd j-2 10s Oc tal am dir pori i wartheg yn ol cyiundeb a wnaed rhwng yr Hawlydd a'r Diffynydd. Wedi gofyn yr arian amryw weithiau yn ofer, pwyswyd yn mis Mai am danynt, gy-' 'r canlyniad i'r Diffynydd yn lie talu, anfon bil am £ 9 5s 6c am dresmas gwartheg yr Hawlydd. Wrth weled y fath fil a hwnw, bu i'r Hawlydd vVneyd bil am dresmas anifeiliaid y Diffynydd am y swm o f 8. Cred24 Mr. R. O' Davies, na chlywsid gair am dresmas o eiddo anifeiliaid yr Hawlydd oni bai am y bil am £2 10s Oc. -Y Barnwr, Pwy ydyw y bobl yma, a lie y maent yn byw ?"—Mr. R. O. Davies, Mae yr achos yn un anhyfryd, Syr, gan mai dau gym- ydog ydynt y pleidiau.Y Barnwr, "Ynsicr fe ddylasent fel dau Amaethwr cymydogol allu settlo y peth heb fy ngynorthwy i. Ystorm mewn tepot yw y cwbl, mae'n amlwg.Mr. R. O. Davies, Yr wyf yn barod yn awr. fel o'r blaen, i settlo yr oil ar gael y £2 10 Oc am borfa y gwartheg a gadael i bwngc y tresmas o bobtu fyned heb air pellach o son am dano. Mr. E. Davies-Jones, Nis gallwn dderbyn hyny, gan y medrwn brofi tresmas amlwg gan anifeiliaid yr Hawlydd." David Davies, Groesengan (yr Hawlydd), Eglwysbach, a dystiodd ei fod ef a'r Diffynydd yn gymydogion. Yr oedd yn cydnabod ei fod yn nyled Jones o 15/- ond yr oedd Jones yn ei ddyled yntau o lawer mwy os elid i godi tal am gymwynasau felly. Ar ol iddo anfon bil am £2 10s Oc y clywodd gyntaf am dresmas defaid. Ei fab oedd yn byw yn Groesengan. Yr oedd yn codi wyth punt am y dresmas a wnaeth gwartheg y Diffynydd i'r cloddiau a'r cnydau. Cadwai o haner cant i gant a haner o ddefaid ar y rhan o'r fferm darawai a'r eiddo y Diffynydd, a digon posibl eu bod yn tori trosodd ar adegau fel y gwnelai defaid pawb.—Mr. R. O. Davies a ddywedodd fod bil y Diffynydd am dresmas yn ystod tair wythnos ar amser neillduol o'r flwyddyn, a gellid profi nad oedd ond 62 o ddefaid gan yr Hawlydd ar y lie yr amser hwnw, ac yr oedd yn dodi 1/- y pen arnynt.—Y Barnwr, Ond nid yw hyny yn dod i wyth punt.Mr. E. Davies-Jones, "Y mae y defaid wedi eu cyfrif genym bob tro, ac yr ydym yn dodi chwech cheiniog y pen arnynt.Y Barnwr, "le, ond yr un defaid ydynt o hyd, ac os codwch chwech cheiniog y pen arnynt bob tro y gwelwch hwy fe ewch yn gyfoethog ar unwaith Yr wyf yn teimlo yn fawr fod y peth yn cael ei ddadleu rhwng dau gymydog, a'r manylion mor ddibwys. Gall wneyd y bobl hyn ddylent fod yn gymyd- ogion cyfeillgar yn elynion chwerwon i'w gilydd. a hyny heb achos o gwbl." William Davies, mab yr Hawlydd, a ddy- wedodd mai efe oedd yn byw yn Groesengan, ac efe a osododd y cae i'r Diffynydd am f 2 10s yn Awst 1903. Aeth y bil iddo Medi 13, 1904, ac yn lie ei dalu dechreuodd y Diffynydd dyngu a rhegi, ond ni soniodd air am fil o'i du ef.—Gan Mr Davies-Jones—Cafcdd datws a cheirch o Tyntwll, ond settlwyd am danynt, dranoeth.-Barnwr, "Nid oes son yn y gwrth- hawl am geirch. Yr wyf wedi ffurfio synied cryf yn yr achos trwyddo."—Mr R. O. Davies, Yr wyf yn barod yn awr i settlo, ond cael tal am y borfa yn ol y cytundeb, sef £ 2 10s." Y Bamwr. Gresyn na byddai amaethwyr y wlad yn gallach. Paham nad settlo eu hun- ain yn He dwyn i fyny hen bethau flynyddoedd oed o Baen y Llys. "—Nid oedd awydd gan ochr y Diffynydd am ddod i delerau.—Ychwan- egydd y tyst iddo weled gwartheg y Diffynydd yn ffagio y clawdd yn 1901, a gwelodd 7 o wartheg yn yr yd Awst 14, 1904. Tystiwyd yn mhellach am dressmas y gwartheg gan Richard Williams, Penybryn, Eglwysbach; John Pritchard, Eglwysbach; Jesse Jones, Thomas Owen Jones, a'r Hedd- geidwad Williams, Glan Conwy. Mewn amddiffyniad, a dros y gwrth-hawl, galwyd Thomas Jones, Llan, Eglwysbach, amaethwr wedi yrnneiilduo. Yr hyn oedd ganddo ef i'w ddywedyd ydoedd mai chwech cheiniog y rhwd a delid am adgyweirio clawdd a haner coron am wneyd clawdd newydd, credai nad oedd reswm yn y byd mewn codi wyth punt am waith o'r fath ar glodcIiau Croessngan yn y lie mewn dad-l. Ni wyddai ef ddim am y dresmas. Y Barnwr (yn bA"^erfynol), Yr wyf wedi llwyr alaru ar y hwn. Y mae y tresmas yn gydradd o bobtu, ac yn beth sydd yn digwydd yn mhob ran o'r wlad rhwng ffermydd yn taraw ar eu gilydd, fel nas gallaf roddi dim i'r naill ochr na'r llall ar hyny. Dyfarniad am £ 2 i'r Hawlydd. Yr wyf yn gobeithio y cymer amaethwyr y wlad yma wers oddiwrth yr achos a bod yu gallach o hyn allan, a dysgu setlo man bethau yn eu plith eu hunain."—Mr, R. O. Davies, Yr wyf yn gwerthfawrogi eich sylwadau. Y mae yn rhaid i mi ofyn am gostau gorfodwyd ni i ddod i'r Llys, gan nad oedd fodd cael yr hyn oedd yn ddyledus heb hyny.Mr. E. Davies-Jones, a wrthododd ganiatau costau. Pe buasai yr hawliad yn rhesymol ni wrthwynebasid.—Y Barnwr, Paham na fuasech yn talu y bil o [2 10s Oc pan gawsoch ef ? Nid oedd dim dadl yn nghylch gosod y tir yn borfa i'r gwartheg. Dyfarniad am ddwy bunt gyda chostau ar y swm a hawlid (£12 10s 0c), a chostau i'r Hawlydd ar y gwrth-hawl ( £ 9 5s 6c) gan y Diffynydd. Yr wyf yn gobeithio na ddaw yr amaethwyr hyn yma eto gyda achos mor ddi- bwys a hwn," HELYNTION GWESTYWR 0 TREFRIW. Mr. J. Porter, Conwy, o ofynoddam sylw ei Anrhydedd at atbos Jones v Fruen.—Clerc y Llys, Y mae yma luaws o wysiau yn erbyn y Diffynydd, ac amryw archebion wedi eu gwneyd."—Y Barnwr, A ydyw y Diffynydd ynbresenoI ?"-Clerc, "Nag ydyw, syr. Ni bydd byth yn ateb y Llys.BVnwr, Dylai wneyd. Ond gadewch weled beth ellir ei wneyd gydag ef." Mr. J. Porter, a ddywedodd ei fod yn ym- ddangos dros Mri R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy, y rhai a ofynent Charles Fruen, Belle Vue Hotel, Trefriw o'r swm o £ 25 15s 8c. Nid oedd dim dadl yn cael ei chodi yn nghylch y swm, ond ynghylch cael y cyfryw. Mr. J. D. Jones (Mri Porter, Amphlett & Jones), a rid vvedodd ei fod yn ymddangos yn erbyn yr v )iffynydd ar ran Mri John Hay- wood & Co Manchester, y rhai a hawlient y swm 0£31 15s 6c, i'r oedd dedfryd wedi ei chael ~iewn Llys arall am y swm ond yr arian be!, c d eu talu. Latimer J ones, a ddywedodd ei fod yn ,i iodus yn ymddangos dros ddau Hawlydd yn eruyn yr un Diffynydd, sef dros Mr David G. Wilson, Dilledydd, Station Road, Llanrwst am y swm o £ 15 16s 4c a thros Mr Arthur Parry, Fferyllydd, Station Road, Llanrwst am £ 5 13s 2c. Y Barnwr a ddywedodd ei fod am newid yr Archebion blaenorol yn y pedwar achos gerbron, er rhoddi cyfle i'r Diffynydd gyfarfod y cyfryw. Gwnai Archeb am Cl 15s yr un yn y ddau achos cyntaf, a 15s yr un yn y ddau achos arall: £ 5 y mis rhyngddynt. ACHOS "PERCHENOG A RHEOLWR I CHWAREL" 0 DOLWYDDELEN. DIRWY DROM AM DDIRMYGU Y LLYS. Mr. R. O. Davies a ymddangosodd dros Isaac Newton Grundy, Masnachwr, 15, Cannon Street, Manchester, yn erbyn John W. Williams, Tynycoed, Dolwyddelen.—YBarnwr A ydyw y Diffynydd yn bresenol ?"—Mr. W. P. Roberts (yr hwn a ymddangosai i amddiffyn) Nag ydyw, Syr, y mae yn rhy alawd i ddod." -Mr R. O. Davies, Yr oeddwn ynrhagweled na ddeuai i wynebu y Llys, ac fe anfonais orfod-wys iddo ac arian traul (conduet money), er mwyn ei gael yma."—Y Barnwr, Yr wyf yn ei ddirwyo i bum' punt. Y mae wedi taflu y dirmyg mwyaf a allasai ar y Llys, a rhaid ei ddysgu ef a phawb eraill tebyg, nad yw hyny i gael ei c.ddef.Mr R. O. Davies, "Dyn yw hwn y gwyddom yn dda am dano. Y mae ei bapur ysgrifenu ag argraff arno, "Tynddol Quarry, Dolwyddelen, Bettwsycoed, J. W. Williams, Owner and Manager. Ar sail pethau o'r fath cafodd y nwyddau gan yr Hawlydd. Mae swm y ddyled yn fawr-dros £ 30, ac y mae dedfryd wedi ei chael yn erbyn y Diffynydd mewn Llys arall."—Mr W. P. Roberts, Nid yw y Diffynydd yn Berchenog Chwarel nac yn Oruchwyliwr Chwarel, ond gweithiai ambell ddiwrnod yn y Chwarel, ac y mae mor dlawd ag y gall fod."—Y Barnwr, Archeb am bunt y mis, a'r ddirwy i'w thalu ar unwaith." BONEDDWR AR GOST EI DAD. Mr. A. Lloyd Griffith, ar tan y Weinyddes Sarah Morrel, Lerpwl, a ofynodd am archeb yn erbyn W. N. Smith, Cae Coch, Trefriw. Cofir i'r Hawlyddes gael dedfryd yn erbyn y Diffynydd dro yn ol am ^45 oherwydd niweid- iau dderbyniodd trwy iddo redeg ei olwynfarch ar ei thraws ar ffordd Trefriw. Y Diffynydd mewn atebiad i Mr. Griffith a ddywedodd ei fod yn 23 oed. ac nad oedd yn gwneyd dim at ei fywoliaeth. Nid oedd yn cael arian gan ei dad, ac nid oedd yn cofio pryd y cafodd arian ganddo i'w gwario. Nid oedd ganddo ef ddim eiddo. Mr. Griffith, "Ond y mae genych olwyn- farch. Y chwi dalodd am hwnw ?" Diffynydd, "Nage, thelais i ddim am dano." Mr. Griffith, Pwy yw ei berchenog ynte ?" —Dim atebiad.—Y Barnwr, Welwch chwi, ddyn ieuangc, atebwch yn barchus, a pheidiwch a cheisio bod yn or-gywrain."—Er ei fod yn 23 oed nid oedd wedi ffurfio cynllun at y dyfodol: yr oedd hi ddigon buan i wneyd hyny, ac yr oedd am fyw ar ei dad.—Mr. Griffith, Ond a ydyw eich tad yn gwneyd rhywbeth at ei fyw- oliaeth Diffynydd, "Nag ydyw."—Mr. Griffith, Ar beth y mae yn byw ?"—Diffynydd, Darfum i eriocd ofyn iddo ar beth mae o yn byw."—Mr. Griffith (wrth y Barnwr), Gallaf ddywedyd wrthych, Syr, fod ei dad yn foneddwr anibynol ei amgylchiadau."—Y Barnwr (wrth y Diffyn- ydd), "Ni wna y tro i chwi ddod yma mor ffroen-uchel a dywedyd na wyddoch sut y mae eich tad yn byw, a bod yn ddirmvgus wrth gael eich hoii. Nis gallaf roddi cefnogaeth i beth o-'r fath. Arcbeb am 10/- y mis, a rhaid i chwi er. talu neu gymeryd y canlyniadau." HELYNT CRICKET CLUB LLANRWST. William Lloyd Roberts. Avondale, Llanrwst, a hawliodd 18/9 gan Thomas W. Orton, Tafarchydd (cricketer) proffeswrol, am waith argraffu a wnaed i'r Diffynydd ar ddiwedd tymor chwareu 1905.—Ymddangosodd Mr. A. Lloyd Griffith i amddiffyn. Yr Hawlydd a ddywedodd fod y swm yn ddyledus ar y Diffynydd yr hwn oedd yn chwareuwr proffeswrol gyda Chlwb Tafarch Llanrwst am dymor 1905.-Mewn atebiad i Mr Lloyd Griffith, Efe oedd Cadben y clwb yn 1905. Cofiai mai gweithio i'w fudd ei hun yr oedd Orton gyda'r Clwb. Rhoddodd ef ei hun haner gini at ei elw, Yr oedd cyfarfod budd (benefit) Orton ar Awst 24. Aeth ef ei hun o gwmpas gyda'i het i gasglu i Orton ar ol iddo wneyd score dda wrth chwareu, er na chafodd fawr yn y casgliad. Yr oedd ar ei 1w yn dywed- yd na addawodd argraffu i Orton yn rhad. Ni addawodd ddeg punt at y Clwb, ond rhoddodd ddwy gini ato. Bu iddo addaw cymeryd y clwb i Dolgellau ar:ei draul ei hun, ond pan ddaeth rhai ato i geisio rhagor gwrthododd wneyd dim. Yr oedd yn bendant yn dywedyd na addawodd y gwaith argraffu i Orton am ddim. Hugh Davies, a ddywedodd ei fod yn ngwasanaeth yr Hawlydd yn Awst 1905, a chofiai i Orton ddod i'r Swyddfa i erchi argraphu tocynau, ond ni ddywedwyd gair am pwy oedd i dalu.—Yr Hawlydd a ddywedodd iddo anfon y bil i Mr Morris, Ysgrifenydd y Clwb, gan fod Orton wedi myned o'r dref, ac ni wyddai ei gyfeiriad i anfon y bil iddo ef. Daeth y bil yn ol oddiwrth Mr Morris gyda gair nad oedd y Clwb yn gyfrifol am yr argrafu i Orton. Mewn amddiffyniad, dadleuai Mr Lloyd Griffith i'r Hawlydd addaw y gwaith argraffu yn rhad, ac nad oedd gan y Diffynydd y petrus- der lleiaf ar y mater. Clywodd eraill yn ym- ddiddan a'r addewid, a chymerwyd yr addewid gan yr Hawlydd fel boneddwr heb synied lleiaf y tynid hi yn ol wedi i'r Diffynydd ymadael. Thomas W. Orton, a ddywedodd iddo ddod i lawr o Ddeheudir Lloegr i ateb yr hawliad hwn, yr hyn na wnelsai pe y swm yn ddyledus. Yr oedd yn chwareuwr proffeswrol i Glwb Llanrwst yn 1905, ac yr oedd wedi addaw gweithredu yr un fath eto. Aeth i le argraffu yr Hawlydd i erchi yr argraffu am iddo gael ei orchymyn i fyned. Yr Hawlydd oedd Cadben y Clwb yr adeg hono. Cofiai yn dda am yr adeg y chwareuai, a gwneyd score o dros 60. Yr oedd yr Hawlydd yn neidio o gwmpas gan foddhad ac addawodd wneyd y gwaith argraffu at ei fudd (benefit) am ddim. Yr oedd amryw yn y lie yn ei glywed yn addaw deg punt at y Clwb, a thalu am eu cymeryd i Dolgellau i gystadlu a'r Clwb hwnw; ond ni chyflawodd yr un o'r ddwy addewid. Bu ef yn y dref am dair wythnos ar ol y Budd, ac yr oedd ganddo £ 14 yn ei logell ar ol talu i bawb.—Croes- holwyd gan yr Hawlydd. Ni chafodd gyfle i siarad ag ef ar ol y Budd, gan ei fod yn ei osgoi bob tro y deuent i gyfarfod a'u gilydd. Cymerodd ei air fel boneddwr y gwnelai yr argraffu am ddim, pe yn ei ameu buasai wedi gofyn am i'r peth gael ei roddi mewn ysgrifen. R. B. Whittaker, Trefriw, a dystiodd ei fod ar y cae chwareu ar ddydd Sadwrn ychydig cyn budd Orton, a chlywodd yr Hawlydd yn gorchymyn Orton i fyned i'w Swyddfa i gael y gwaith argraffu yn rhad. Clywodd yr addewid am y £ 10, ac am y daith i Dolgellau. Eric Blackwall a ddywedodd mai efe ydoedd Cadben y Clwb ar hyd y blynyddoedd, ond ar gyfrif addewid anrhydeddns yr Hawlydd y rhoddai ddeg punt i'r Clwb, rhoddodd ei le iddo gael ei wneyd yn Gadben. Yr oedd deall- twriaeth clir fod yr argraffu i Orton i fod yn rhad, er na chlywodd ef yn bersonol yr addewid hono yn cael ei gwneyd'. Mr Lloyd Griffith a ddywedodd mai fel mater o egwyddor yr ymleddid yr achos hwn oedd ynddo ei hun yn un bychan a dibwys. Gan fod y gwaith wedi ei addaw ystyrid yn bwysig i'r addewid hono, a'r lleill gael eu cadw —Dyfarnodd y Barnwr o blaid y Diffynydd gan fod prawf i'r gwaith gael ei addaw yn rhad Nid oedd am ganiatau costau. TYNU YN OL.—Mr Arthur Roberts a gryb- wyllodd Achos Williams v Jones. Yr oedd yr achos wedi ei dynu yn ol ddydd Iau, a hyny heb iddo ef gael gair o hysbysrwydd, fel yr oedd wedi dod a'i dystion i'r Llys i fyned yn mlaen gyda'r achos, Gan fod yr achos wedi ei dynu yn ol yr oedd yn pwyso am y costau.— Mr W. P. Roberts a ddywedodd ei fod wedi tynu yr achos yn ol pan ddeallodd fod yr Ys- tadud i'w ddadleu, am fod y ddyled dros chwe' blwydd oed.—Y Barnwr a ddywedodd ei fod yn caniatau costau y Cyfreithiwr yn unig yn yr achos. GOHIRIO,—Gohiriwyd achos Dr Harrop Parry yn erbyn Thomas Chambers. Ci YN LLADD DEFAID.—Evan Bleddyn Lloyd Gerddinen, Dolwyddelen. a hawliodd £ 2 5s gan Thomas Fletcher Hughes, Station Road, Llanrwst, tal am dair dafad a honid oeddynt wedi eu lladd gan gi y diffynydd. Ym- ddangosodd Mr R. O. Davies dros yr Hawlydd ac amddiffynid gan Mr E. Davies Jones. Robert Owen, Penyfron, Llanddoged, a dystiodd iddo osod lie i'r Hawlydd i gadw 85 o ddefaid ar ei dir dros y gauaf. Ionawr cyntaf, gwelodd ddafad wedi ei lladd, a chi ar gefn y llall yn ei lladd. Yr oedd yno ddau gi, ci y Diffynydd oedd y lladdwr, a'r llall wrth ei gwt wedi bod yn rhedeg ar ol y defaid. Lladdasant ddafad arall dros y clawdd. Gwelodd y ci yn llardio" ac yn sugno gwaed y ddafad.—John Williams a dystiodd iddo brisio y defaid ladd- wyd. Clywodd swn cwn ar ol defaid, a dilynodd gi y Diffynydd i'r ty, a chafodd ef yn orchuddedig a gwaed.— John Myddieton a ddywedodd fod y ci yn ei ofal ef, ac yr oedd v Diffynydd yn lletya gydag ef. Cafodd ei ddirwyo am gadw y ci heb drwydded. Nid ef oedd bia'r ci, a boddodd ef ar gyfarwyddyd y Diffynydd gan ei fod yn lladd defaid. Mewn amddiffyniad, dadleuai Mr. E. Davies Jones mai Myddleton oedd bia'r ci, gan i'r ymddiriedohvr wrthod ei gymeryd pan oedd yn cymeryd eiddo Hughes drosodd yn ystod yr amser y bu yn y Gwallgofdy.—Y Barnwr, "Mae'n debyg nad yw y Twrniaid yn hoffi trafferthu gyda chwn. Beth pe gadawn ni fy nghi yn ngofal rhywun, ac heb ei weled am ddwy flynedd, a' ddadleuech chwi mai nid y fi oedd yn gyfrifol am dano ? Yr oedd y Diffyn- ydd adref er's tri mis cyn adeg lladd y defaid. -Wedi i'r Diffyuydd dystio na bu iddo hawlio y ci pan ddaeth yn ol o Dinbych, ac iddo ddy- wedyd wrth Myddleton y byddai yn well iddo wneyd i ffwrdd a'r ci gan ei fod yn gwneyd drygau, dywedodd y Barnwr fod yn eglur mai y Diffynydd oedd bia'r ci, ond gan fod dau gi yn lladd y defaid, nid oedd yn caniatau rhagor na'r haner yn erbyn y ci hwn. Archeb am 22/6 a'r costau yn erbyn y Diffynydd. Y FERLEN A'R MODUR. I David Roberts, Tynycae, Maenan, a hawl- iodd [10 gan G. S. Topham, Plas Maenan, am niweidiau dderbyniodd ei ferlen ar Mai 22, trwy i'r Diffynydd redeg ei Fodur i'w chyfarfod a'i dychrynu.—Ymddangosai Mr J. Porter dros yr Hawlydd, a Mr C. T. Allard dros y Diffynydd. Tystiodd yr Hawlydd ei fod ef a'i ferch yn dod o Llanrwst ddydd Mawrth, Mai 22, a thua chwarter milltir tu draw i Lodge Plas Madoo, gwelent y Diffynydd yn gyru yn gyflym i'w cyfarfod yn y Modur. Cododd y ferch ei llaw a gwaeddodd, ond ni chymerwyd sylw o gwbl hyd nes oedd y ferlen ar lawr a'r Modur wrth ochr y cerbyd. Anafodd y ferlen ei hun, ac yr oedd yn llai o werth o lawer nag ydoedd cyn y digwyddiad. Cymerodd Mr Topham ei enw, ac addawodd anfon rhywbeth iddo, a'r oil a gafodd oedd haner coron mewn llythyr. Yr oedd yn golygu i'r ferlen dderbyn niweidiau gwerth £ 7 10s, a rhoddodd 10s at gost y Medd- yg Anifeiliaid, a 10s am golli gwasanaeth y ferlen y dyddiau ar ol y ddamwain.—Mr Allard a ddadleuai y dylasai beidio dod a merlen ieuangc felly i'r ffordd fawr heb fod rhywun i neidio i lawr i afael yn ei phen pan ddelai Modur heibio.—Y Barnwr, Yr wyfyn dal fod gan y perchenog hawl, hyd yn nod i ddofi a thori i mewn ei geffyl, ar y ffordd fawr."—Y tyst a aeth yn mlaen i ddywedyd na fynai y Diffynydd arafu hyd nes y daeth gyferbyn a'r cerbyd. Nid ei fraw barodd iddo feddwl pethau o chwith nid oedd ei feddwl yn gym- ysglyd, ac ni byddai byth yn cymeryd diod feddwol i gymysgu ei ben. Bu raid iddo arwain y ferlen adref bob cam.—Mary Jane Roberts a gadarnhaodd dystiolaeth ei thad.— Mr Frank Booth, Meddyg Anifeiliaid, Colwyn Bay, a dywedodd fod y ferlen yn werth £ 23 cyn y ddamwain, ond yr oedd o £ \2 i £ 14 llai o werth yn awr. Byddai ol y niweidiau yn arhosol arni. Mewn amddiffyniad gwedid cyfrifoldeb am y niweidiau am na bu esgeulusdod, ac i'r Modur gael ei atal wyth llath cyn cyraedd y cerbyd a'r ferlen.—Y Diffynydd a ddywedodd iddo atal ei Modur wyth llath cyn cyraedd at y Diffynydd pan welodd y ferlyn ar lawr, a'r cerbyd wedi ei droi ar draws y ffordd. Gwel- odd hwy 60 llath oddiwrthynt, a daeth yn ei flaen yr un fath. Aeth y ferlen i lawr wrth geisio troi yn ol. Ni welodd doriad ar y ferlen ar ol syrthio, ond yr oedd yn ymddangos yn bar ofnus. Gallasai y ferlen fod wedi pasio pe buasai wedi atal ei Modur. Ni welodd y ferch yn codi ei llaw. Yr oedd yr oil drosodd mewn haner mynud.—Mr. R. C. Edwards, Meddyg Anifeiliaid, Caer, a ddywedodd nad oedd y niweidiau gafodd y ferlen yn ddim, a bod £12 yn llawn werth y ferlen gan mai brid gwael ydoedd. Ystyriai fee y Meddyg yn ddigon am yr hyn ddigwyddodd.—Y Barnwr a ddywedodd fod Moduriau yn bethau peryglus ar y ffyrdd, a bod yn iawn i'w perchenogion ddeall mai nid hwy oedd bia'r ffyrdd. Yr oedd hawl gan geffyl ieuangc fod ar y ffordd, ac yr oedd prawf wedi ei roddi i'r ferlen hon basio Modur lawer gwaith o'r blaen, a bod y Diffynydd yn myned yn ol cyflymdra o 17 milltir yr awr. Yr oedd gan yr Hawlydd le rhesymol i gael iawn, ond nis gallasai roddi y swm a ofynai yn llawn. —Dedfryd am A5 a'r costau. HELYNT PRYNU TROL YN I LLANGERNIEW. John Jones, Ffridd Ifan, Llangerniew, a ofynodd Owen Williams, Dawn, Bettws, Abergele. o f 7 10s Oc, tal am Drol a brynodd ganddo, yr hon na ddaeth byth i'w hymofyn.- Ymddangosodd Mr. W. P. Roberts dros yr Hawlydd, a Mr. Joseph Roberts, Rhyl, dros y Diffynydd. Tystiwyd gan yr Hawlydd, ei briod, ac Ellis Williams, i'r Diffynydd brynu y Drol yn Ionawr diweddaf, am £7 10s Oc a dywedyd y deuai i'w hymofyn y dydd LIun canlynol gyda'r arian yn dal am dani. Ni soniodd o gwbl mai dros rhywun arall yr oedd yn prynu. Mewn amddiffyniad ceisid gwneyd allan nad oedd y Diffynydd yn ei synwyr, ac na ddylesid cymeryd ei air ond fel eiddo dyn o'i bwyll.—Y Barnwr a ddywedodd fod cytundeb amlwg wedi ei wneyd, ac yr oedd yn rhoddi dyfarniad am y swm a hawlid yn llawn, gyda'r costau.

Damwain Angeuol yn Chwarel…

BARDDONIAETH.