Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LLYS METHDALIADOL BLAENAU…

News
Cite
Share

LLYS METHDALIADOL BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Mawrth o flaen Mr. Thomas Jones, Cofrestrvdd. \CHOS JOHN ROBERTS, 8, CLOS- YGRAIG, BLAENAU. Daeth John Roberts i fyny am ei Arholiad cyhoeddus, a dangosai ei gyfrif i'r Derbynydd Swyddogol ei fod mewn dyled o [108 9s 6c. 20 o ofymvyr am nwyddau brynwyd ganddo a thri o hcnynt wedi cael archebion yn Llys y Manddyledion yn ei erbyn. Yr oedd 4 dyled yn cyraedd y swm o [78 12s 2c, a thros [10 yr un. Dywedodd ei fod yn greigiwr 4. mlwydd oed, yn enill [I 4s 6c yr wythnos, ac yn byw yn Tanyfron, Closygraig er's deng mlynedd, i'r hwn le y symudodd o Freeman Terrace, a bu yn byw mewn manau eraill yn Blaenau Ffestiniog. Saith mis yn ol aeth i weithio i Tylorstown, Dyffryn Rhondda, fel glowr, ond wedi bod yno am beth amser dychwelodd i ail dfiechreu gweithio yn y Blaenau. Ei unig eiddo oedd ei ddodrefn y rhai a werthodd i Mr. John Davies, i gael arian i wneyd hi hun yn Fethdalwr. Bu yn Fethdalwr o'r blaen Medi 3, 1904, ac yr oedd ei ddyledion y pryd hwnw yn [100 10s Oc, ac ni tbalwyd dimi'rgofynwyr hyny. Rhoddodd achos ei Fethdaliad i lawr i afiechyd a marwolaethau yn y teulu yn achosi costau trymion, a theulu mawr i'w cynal."—Cauwyd yr arholiad gyda'r sylw can- lynol gan y Derbynydd Swyddogol: Y mae yn dod i hyn, y mae y dyn hwn yn gwneyd can' punt y flwyddyn wrth wueyd ei hun yn Fethdalwr."—Y Cofrestrydd, Mae y busnes yn talu iddo." ACHOS GRENVILLE T. HUGHES, LLANRWST. Daeth Grenville Thomas Hughes, Saermaen 8, Bridge Street Llanrwst yn mlaen am ei arholiad cyhoeddus.—Yr pedd Mr. R. O. Davies yn ymddangos dros y prif ofynwr, a Mr Twigge Ellis, Bethesda dros y Methdalwr. Yn ol y Derbynydd Swyddogol, yr oedd y dyledion yn £61 14s lOc. Rhoddai fel rheswm dros ei Fethdaliad, "colli Cyngaws yn Llys Manddyledion ddygwyd yn fy erbyn yn Llys Llanrwst gan fy nghefnder Thomas Fletcher Hughes," Yr oedd y Methdalwr yn 24 mlwydd oed, yn saerman, dibriod, yn enill 22/- yr wythnos o gyflog yn byw mewn Ilety gyda'i dad Gwysiwyd ef yn Llys Manddyledion Llanrwst gan ei gefnder, Mr. T. Fletcher Hughes am £ 24 Os Oc a roddwyd iddo gan ei gefnder pan ydoedd ac ei ffordd i Wallgofdy Dinbych. Wedi i'r cyngaws fod o flaen y Llys amryw weithiau, rhoddwyd dyfarniad yn ei erbyn am f 45 5s lc yn cynwys y costau. Yr oedd cost- au ei gyfreithiwr ef ei hun yn yr achos yn £7 145 0. Dywedodd iddo werthu ei olwynfarch a'i enwair bysgota ym £ 3 5s Oc, ei oriawr am t2, a benthycodd £ 4 15s 2c oddiar ei frawd i wneyd y £ 10 at fyned yn fethdalwr. Nid oedd ganddo eiddo o gwbl yn awr.—Holwyd ef yn galed gan y Derbynydd Swyddogol, a gwadai yn bendant iddo gael arian gan ei gefndeeer i'r Barnwr ddyfarnu yn ei erbyn. Pan ofynwyd iddo lle'r aeth yr arian, yroedd yn awgrymu yn gryf mai i John Myddleton gan iddo ei weled yn dal ei ddwylaw allan am gael rhywbeth. Yr oedd ei dad hefyd yn y lie, ond yr oedd yn sicr na chafodd ef ddim o'r arian.-Mewn atebiad i Mr. R. O. Davies dywedodd mai yn mhen tua mis ar ol i Fletcher Hughes fyned i ffwrdd y prynodd yr olwynfarch am £ 4. Wedi cynilo yr arian yr oedd yn Nghlwb Mrs Hyde, yn Scotland Street. Gweithiai fel saerman yn Gwydir am 22/- yr wythnos, a lletyai gartref gyda'i dad i'r hwn y talai 12/- yr wythnos am ei le. Ni wyddai i'w gyfreithiwr gynyg talu yr arian yn ol 7/6 y mis, Nid oedd yn bwriadu talu dim o'r ddyled. Gwerthodd ei dair gen- wair a'i olwynfarch i Joseph Roberts, Scotland Street am £ 3 5s Oc. Ni wyddai beth oedd bil ei Dwrne, ond talodd dair gini iddo i ymladd yr achos rhyngddo a'i gefnder.— Cauwyd yr arholiad. ACHOS W. P. ROBERTS, CYFREITH- IWR, LLANRWST. William Pierce Roberts, Cyfreithiwr, Llan- rwst, gynt o Firm Mri. David Jones a Roberts, a ddaeth i fyny am ei Arholiad Cyhoeddus. Yr oedd v Derbynydd Swyddogol wedi gohirio yr Arholiad yn Awst 1903. hyd amser anmhenodol ar gyfyif fod y cyfrifon wedi eu cadw mor anfoddhaol gan y Firm. Yr oedd Mr. Roberts yn awr yn awyddus am gael ei ryddhad fel Methdalwr, a chyn y gallasai gael hyny, yr oedd yn angenrheidiol iddo gael ei Arholiad wedi ei gau, a gwnaeth gais am hyny. Aeth y Derbynydd Swyddogol trwy bentwr anferth o bapurau allyfrau cyfrifon, a holwyd Mr. Roberts am oriau. Awd trwy y cyfrifon cysylltiol a John Williams, Cae Ucha; yr arian gafwyd o Lys Manddyledion Conwy; Richard Hughes, Foty; Mrs. Jeminah Hughes, Plas-y-Blaenau; Thomas Hughes, Gorsaf- feistr Glancon vy; John Davies, Bryn Eidda; John Roberts, Tan-y-benar; W. W. Williams, a J. W. Williams, Oxford Terrace, a Wynne Road, Blaenau Ffestiniog; Robert Hughes, Junction Mrs. Lloyd-Mills, &c. Gan nad oedd y Derbynydd Swyddogol yn cael yr hyn a ofynai yn ddigon clir, yr oedd yn tueddu at Ohirio yr Arholiad hyd amser anmhenodol; ond ar gais Mr. Roberts, caniataodd y Cof- restrydd i benodi Hydref 23 i fyned trwy y cyfrifon, a Mr. Roberts i gael hyd Hydref 13 i fyned trwy yr oil er bod yn barod at y diwrnod penodedig.

Arwesi Farddonol Glangeirionydd.

IMarwolaeth y ddiwedd?;-r-i?r-s.…

- - - I I NODION 0 DOLWYDDELEN.-I

Cyngor Gwledig Geirionydd.I

I FFESTINIOG.

BEDDGELERT.i

EIN HYSGOLION.I

Advertising