Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYNGOR SIROL MEIRION.

News
Cite
Share

CYNGOR SIROL MEIRION. Eisteddodd y Cyngor hwn heddyw (dydd Ian), yn Adeiladau Sirol Blaenau Ffestiniog. Cadeirydd y Cyngor yw yr Henadur John Jones, a'r Henadur Evan Jones yn Is-gadeir- ydd. MAN-DDEDDFAU.—Er fod y Cyngor bellach wedi ei ethol er's yn agos i ugain mlynedd, nid oes ganddo ei Ddeddfau penodol er atal achosion o gwynion yn nghylch atgas- bethau (nuisances), a sicrhau rheolaeth dda trwy y Sir. Yn y cyfarfod hwn fe gymeradwy- wyd Man-ddeddfau dynwyd allan er gwneyd i fyny am y diffyg a nodwyd, ac y maent oil yn dra boddhaol, a byddant o hyn allan yn gyfraith yn y Sir, a bydd pwy bynag a doro un o honynt yn agored i ddirwy o bum' punt am bob trosedd. A ganlyn yw rhai o honynt:— Ni chaiff neb ganu offeryn na chanu ei hun- an o fewn can' llath i unrhyw dy neu swyddfa, os gofynir iddo beidio. Nid yw hyn yn cymer- yd i mewn wasanaeth crefyddol gweddus, ond mewn achos o afiechyd peryglus un fyddo yn ymyl. Ni cheir canu na chwareu offeryn o fewn can llath i addoldy neu le y bydd cynulliad cy- hoeddus i beri blinder neu rwystr i'r cyfryw gynulliad. Ni chaiff offeryn trystfawr c unrhyw fath gael ei chwareu ar gerbydau logir neu ddefn- yddir gyda chwmni yn pleseru, pan yn myned trwy dref neu bentref; ac ni chaniateir canu uchel ar y cyfryw gerbydau er aflonyddwch i'r trigolion. Eithrir gyda chanu corn gan un person ar gerbyd os gwna hyny yn rhesymol. Ni chaiff neb wrth werthu, rhanu, neu hys bysebu ddefnyddio clog, tabwrdd, nac unrhyw offeryn trystfawr arall ar yr heol er blinder neu aflonyddwch i'r trigolion. Ni chaiff unrhyw berson er mwyn gwerthu, hysbysebu, neu gael gwaith aflonyddu neu ar- gymell er poeni neu atal cyfleusdra y florddol- ion. Gwaherddir betio ar yr heol neu mewn un- rhyw le cyhoeddus. Ni chaniateir i swn gael ei wneyd gydag organ neu unrhyw offeryn trystfawr yn nglyn ag arddangosfa, neu offeryn difyrion neu un- rhyw fath arall chwareu; ac ni chaniateir i eoedd felly gael eu codi mewn man gyhoeddus fo *n anghyfleusdra neu yn beryglus i'r cyhoedd. J Gwaherddir arfer iaith ac ymddygiad anweddus ar yr heol neu le cyhoeddus, nac anog i hyny gael ei wneyd gan eraill. Gwaherddir ymladd, nag anog ymladd rhwng dyn nac anifail. Ni chafff neb ymdrochi heb wisg briodol i'r perwyl mewn llai na dau' gant o latheni o heol neu le cyhoeddus. Gwaherddir pob arddangosfa anweddus boed am dal neu yn rhad. Bydd unrhyw ddau neu ragor a gydgynull- ant i atal tramwyfa, neu ddirmygu unrhyw deithiwr, yn agored i ddirwy ac ni chaniateir i neb gasglu at addoldy er rhwystro neu anhwyluso unrhyw un fyddo yn myned neu ddychwelyd o'r cyfryw addoldy. Bydd llusgo neu yru yn araf unrhyw gert i hysbysebu a hyny yn rhwystro y drafnidiaeth yn gosbadwy. Ni chaiff neb daflu croen eurafal, croen banana, na sylwedd peryglus arall ar y llwybrau, na gwydrau ar yr heol er peryglu y drafnidaeth. Ni chaniateir i darw fo dros flwydd oed gael dod i ffordd, heol, na lie cyhoeddus heb ei fod wedi ei ddiogelu ac yn gwbl o dan reolaeth; ac nid yw i'w adael yn rhydd mewn unrhyw faes neu le y bo llwybr trwyddo. Bydd pwy bynag a anurdda neu a niweidia unrhyw eiddo cyhoeddus, neu arwyddion cyhoeddus, yn agored i ddirwy.

ANERCH PRIODASOL. I

Ffestiniog.- - - --'I

I Penmachno.

IMarwolaeth Mr. T. Williams,…

BLAENAU FFESTINIOG. I

CYNGOR PLWYF PENMACHNO._I

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

Advertising