Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
IT PARIS 9 .VIENNA BERLIN NEW YORK LONDON. Efallai nas gallvvch fforddio i fyned i'r lleoedd hyn i weled y ffashiwn ddiweddaraf mewn Ties, Collars, Hetiau, &c., &c. Peidiwch digaloni, maent oil i'w gweled yn SHOP YR ERYR, t I CHURCH STREETS R-W. ":lo" -C' AR BEN YR YSGOL. TE 1/8 ■ Y CO-OPERATIVE. CO-OPERATIVE SOCIETY LTD., CHURCH STREET, BLAENAU FFESTINIOG. LLANGOLLEN SHOW. President: R. H. STOREY, ESQ., The Tower, Llan- armon D. C. Vice-President: MR. R. ELLIS, Llantysilio Farm. THE SECOND ANNUAL SHOW will be held in the HAND HOTEL FIELDS, (Kindly lent for the occasion by Miss Winby, Hand Hotel), LLANGOLLEN, On Thursday, September 13th, 1906. £ 300 IN PRÐZS. Horses, Cattle. Sheep? Pigs, Corn, Wool, &c. Leaping & in Prizes, Dog & Poultry Section ifMOQ in Prizes 66 Glasses. 53 Specials, including 4 at 21/ a Silver Cup and numerous j Cash Specials of 10/6 each. Entries Close—Agricultural Section, August 31st, 1906. Dog and Poultry Section Sept. 6th, 1905. Schedules from Secretaries—E. D. Jones and T. J. E d ?var, 1 :3, L-' T. J. Edwards, Medical Hall, Llangollen," j
AT EIN GOHEBWYR. --
AT EIN GOHEBWYR. Y mae amryw ysgrifau wedi eu gadael allan yr wythnos hon o ddiffyg gofod, gwnawn ddefnyd o honynt yr wythnos nesaf. Y BEIRDD.-Byddwch amyneddgar, da frodyr. Caiff yr eiddoch weled goleu dydd yn eu tro.
NODIADAU WYTHNOSOL. I
NODIADAU WYTHNOSOL. I F ofedigaeth y Prif Weinidog. Cafodd Syr Henry Campbell-Bannerman golled drom a phrofedigaeth lem trwy farw- olaeth ei briod ddydd Iau diweddaf. Bu farw y yn Marienbad, yn Awstria, lie yr aethai i geisio gwellhad. Er's amryw flynyddoedd yr oedd cyflwr ei hiechyd yn anfoddhaol iawn, a'r amser yr ymddiswydd- odd Mr. Balfour yr oedd mor wael fel yr ofnid y byddai yn rhwystr ar ffordd Syr Henry i ymgymeryd a'r swydd a gynygiwyd iddo ac a dderbyniodd, a'r hon y mae yn ei llenwi er dod iddo ei hun a mantais fawr i'r deyrnas. Er na welid y foneddiges ymad- awedig ar lwyfanau cyhoeddus un amser, yr oedd cymeryd dyddordeb cryf iawn mewn gwleid) ddiaeth, ac y mae yn ddigon hysbys ei bod yn deall gwleidyddiaeth yn Ilawer gwell na'r rhan fwyaf o'n seneddwyr. Dy- wedir fod gan Syr Henry y fath ymddiried yn ei barn aeddfed a'i gwelediad clir fel na fyddai byth yn traddodi araeth bwysig nac yn cymeryd unrhyw gam pwysig heb ym- gynghori a hi a chael ei chymeradwyaeth. Dengys hyn ei fod trwy ei marwolaeth wedi cael colled nas gellir ei gwneyd i fyny, tra mae'r anwyldeb neillduol oedd rhyngddo ef a hi yn gwneyd ei brofedigaeth yn llymach nag y buasai amgen. Caiff gymorth i ddal y brofedigaeth trwy y cydymdeimlad cyff- redinol y mae yn ei gael. Brysiodd ei Fawrhydi y Brenin i ddatgan ei gydymdeim- lad dwys ag ef drwy lythyr a ysgrifenodd a'i law ei hun. Pa mor werthfawr bynag ydyw y cydymdeimlad brenhinol yn ngolwg Syr Henry, mae cydymdeimlad pobl Pryd- ain Fawr yn sicr o fod yn Hawn cyn werth- fawroced. Caiff yn y dydd blin hwn gyd- ymdeimlad rhai o'i wrthwynebwyr oeddynt hyd yn ddiweddar yn gwarafun iddo barch cyffredin. Yn awr cydnebydd y prif new- yddiaduron Toriaidd fod yn perthyn iddo alia, rhinweddau a rhagoriaethau sydd yn teilyngu parch ac yn hawlio edmygedd. Gresyn iddynt fod gyhyd yn gwneyd hyn. Pe buasent wedi ei wneyd yn gynt fel y dyl- asent, cawsent yn awr yr hyfrydwch o deim- lo eu bod wedi peri rhyw gymaint o fwynhad a llawenydd i'r foneddiges hynaws yr hon tra yn gystuddio! ei hunan a gynhaliodd freichiau ei phriod ac a gryfhaodd ei galon yn ngwyneb ymosodiadau geirwon a wnaed arno gan bersonau yn sefyll mewn lleoedd uchel-personau ag yr oedd yn naturiol i ni ddisgwyl gwell pethau oddiwrthynt. Ychydig fisoedd yn ol collodd Syr Edward Grey, yr Ysgrifenydd Tramor, briod hawdd- gar a hoffid gan bawb a'i hadwaenent ych- ydig wythnosau yn ol, aeth angel marwolaeth i dy Arglwydd Curzon a chymerodd ymaith ei briod ef, yr hon oedd wedi bod yn ymgel- eledd gymwys iddo ac wedi estyn iddo gym- orth effeithiol i gyflawni ei dyledswyddau cyfrifol fel Is-deyrn yr India am flynyddoedd. Yn awr, mae Syr Henry Campbell-Banner- man yn weddw. Er ein bod yn gwybod ei fod yn 70 mlwydd oed, pair ei yni a'i ireidd- dra i ni anghofio hyny yn fynych. Erys yn unig iawn, oblegid gwr diblant ydyw. Nid oes genym i'w wneyd ond gobeithio y nerthir ef i oddef y brofedigaeth heb i'w galon lesg- au nac i'w ddwylaw laesu yn y gwaith mawr a phwysig ag mae'r wlad yn ddisgwyl wrtho i'w wneyd. +
Gwerth Gwircdydd Poethfore…
Gwerth Gwircdydd Poethfore i Gleifion. Ychydig flynyddoedd yn 01 cyfrifa physyg- wyr fed gwiriodydd pocthion o werth mawr iawn mewn Ilawer o achosion o afiechyd o wahanol fathau, ac y mae yn rhaid i ni gredu fod Ilawer trwy eu cymeryd pan oeddynt gleiffon wedi cymeryd y cam cyntaf yn y llwybr a'u dygodd i fedd meddwyn. Hyfrydwch i garedigion sobrwydd ydyw gweled fod prif feddygon y deyrnas wedi newid eu barn ar y peth yma, a'u bod yn ddigon gonest a gwrol i gydnabod a chy- hoeddi hyny. Cynhaliwyd cyfarfodydd blyn- yddol y Gymdeithas Feddygol Brydeinig eleni yn Toronto (Canada), ac mewn gwledd ddirwestol a fu yno dywedodd Syr Victor Horsley fod meddygon Prydain Fawr wedi cael allan faint o wir werth sydd mewn alcohol fel cyffur meddygol, ac (meddai) yn fy marn i nid oes ynddo ddim gwerth." Rhoddodd ffigyrau 1 ddangos gymaint mwy o hono a arferid mewn yspytai yn y dyddiau fu nag a arferir yn y dyddiau hyn. Yn Yspyty Brenhinol Salisbury bum-mlyneddr ar-hugain yn ol gwerid jESOO y flwyddyn air wirodydd i'r cleifion £ 7 y flwyddyn a werir yn awr. Cyferbynes a hyn y cynydd yn swm y llaeth a brynir gan saith o brif yspytai LIundain. Cynyddodd o R3000 yn 1862 i £ 8000 y llynedd. Mae gan ein meddygon ddylanwad mawr dros ben yn y wlad gallant wneyd Ilawer tuag at sobreiddio y bobl. Fel dosbarth maent yn hawlio parch am eucym- wynasgarwch a'u hynawsedd mawr. Gwnant lawer o garedigrwydd yn ddirgel; mae eu dyledwyr yn lluaws; felly mae eu dylanwad yn fawr iawn. Yn awr, pan y mae'r mwy- afrif o honynt yn cytuno a Syr Victor Horsley, ceir ganddynt gymorth gwerthfawr i atal y diota sydd yn arwain i feddwdod ac yn cynyrchu mwy o afiechyd nag y bu gwir- odydd erioed yn foddion i'w wellhau, heb son am y tlodi a'r troseddau a'r trueni sydd yn canlyn yn mhob man.
-.- I AnghydfFurfwyr Gweiniaid.I
I AnghydfFurfwyr Gweiniaid. I Ychydig wythnosau yn ol, bu i Mr. D. Lloyd George A.S., mewn araeth a dradd- ododd yn Mhwllheli wrth agor Nodachfa yno ddywedyd geiriau miniog am rai Anghyd- ffurfwyr sydd pan oddicartref yn yr haf yn gwadu eu Hanghydffurfiaeth ac yn myn'd o'r tu arall heibio i'r capel er mwyn myn'd i Eglwys y plwyf i addoli. Dichon mai yr hyn a ddywedodd a roddodd achlysur i sylw gael ei alw ato yn ngholofnau rhai o'r newyddiaduron Seisnig. Mae Ilythyrau wedi eu hysgrifenu sy'n cadarnhau geiriau yr aelod dros Fwrdeisdrefi Arfon, a Ilythyrau eraill wedi eu hysgrifenu i geisio esgusodi os nad cyfiawnhau y cyhuddedigion. Ni ellir gwadu y peth mae'n rhy gyffredin. Hysbyswyd ni yn ddiweddar gan weinidog ag y mae ei enw yn adnabyddus iawn i ddarllenwyr y RHEDEGYDD ei fod yn preg- ethu mewn He y cynhelid gwasanaeth Seis- nig yn y cadel pob boreu Sul yn ystod mis- oedd yr haf. a'i fod wedi gweled Sais oedd yn flaenor mewn Eglwys Anghydffurfiol tua 50 milltir o'r lie hwnw, yn cerdded (gyda'i deulu) heibio ddrws ylcapel ac yn myned i'r Eglwys Sefydledig. Nid Saeson ydyw'r unig rai sy'n gwneyd peth felly pan ant oddi- cartref. Gwyddom fod gweithwyr Cymru ynghyd a rhai sydd yn debyg o ran eu hamgylchiadau yn ffyddlon i'w henwad a'u hymneillduaeth yn mha le bynag y byddant; ond mae'n wir am lawer iawn o'r thai sydd dipyn yn well arnynt eu bod yn rhy hoff o fwrw eu coelbron yn mhlith yr Eglwyswyr yn enwedig pan y byddant ar ymweliad a lleoedd a gyfrifir yn ffasiynol. Mae genym barch i Eglwyswyr egwyddorol; mae genym barch cymaint iddynt hwy ag sydd genym i Anghydffnrfwyr gonest; ond am y rhai sydd yn cymeryd arnynt fod yn Anghydffurf- wyr gartref ac yn ceisio ymddangos fel Eglwyswyr gan ant oddicartref am eu bod yn tybied fod hyny yn fwy respectrble, maent yn ddirmygus yn ein golwg. Pe torent pob cysylltiad A'r Eglwysl Rhyddion byddai y rhai hyny ar eu henill, oblegid byddai ynddynt lai o wendid a ffug a choeg- ni nag sydd tra yr arhosant hwy ynddynt. A phed ymgysylltent a'r Eglwys Sefydledig, ni allem beidio tosturio wrthi. +
IRhyddfrydiaeth a Socialaeth.I
Rhyddfrydiaeth a Socialaeth. I Meistr Elibank ydyw Chwip y Rhyddfryd- wyr Y sgotaPdd, a disgwylir i Chwip tu hwnt i bawb ymgadw rhag dywedyd gair i ysgaru a chwalu oddiwrth eu gilydd y rhai a ddylent fod yn gytun. Hyny, gwaethai modd, a wnaeth Meistr Elibank ychydig ddyddiau yn ol. Rhyngodd bodd iddo son am berthynas Rhyddfrydwyr a Phlaid Ani- bynol Llafur, ac wrth wneyd hyny daeth ar draws etholiad Cockermont lie y syrthiodd sedd i ddwylaw'r Toriaid am fod ymgeisydd Rhyddfrydol ac ymgeisydd Llafuroi ar y maes. Dygodd dystiolaeth glir iawn i allu, gwybodaeth a medrusrwydd y gwyr sydd yn gwneyd i fyny Blaid Anibynol Llafur yn Nhy'r Cyffredin, ond gwell ganddo (meddai) alw y blaid hono ar ei henw priodol, sef y Blaid Socialaidd. Yn ol Meistr Elibank ni ddichon cyfarfod fod rhwng Rhyddfrydiaeth a Socialaeth. Ymddengys i ni y dywedasai lai pe meddyliai fwy, a gorfodir ni gan ei eiriau i gredu nad yw yn deall Rhyddfryd- iaeth :er ei fod yn galw ei hun yn Rhydd- frydwr) mwy nag y mae yn deall Socialaeth. Yr ydym yn credu, ac am ein bod yn credu yr ydym yn tystio nad oes dim gwahaniaeth rhwng Rhyddfrydiaeth wir a Socialaeth ddeallus y rhesymcl. Nid Rhyddfrydwrneb onid yw'n Sosialydd hefyd. Nid oes genyrn ewyllys i atal oddiwrth Mr. Keir Hardie y parch sydd yn ddyledus iddo, ond nis gallwn am foment gydnabod ei fod yn awdurdod ar Sosialaeih. Byddai cydnabod hyny cyn, I floled peth a chydnabod fod Meistr Elibank yn awdurdod ar Ryddfrydiaeth. Hen arwyddair Rhyddfrydol ydyw I. Rhyddid a chydraddoldeb gwladol a chrefyddol, ac os nad yw y geiriau hyn yn llawn hyd yrymylon o Socialaeth, gofynwn Beth, yn enw rheswm, sydd ganddynt ? Addefwn na ellir cysoni Rhyddfrydiaeth lasdwraidd Meisir Elibank a Socialaeth fflamgoch ac eithafol Mr. Keir Hardie. Mae'r naill yn rhy debyg i'r Dori- aeth a'r llall yn rhy debyg i Anarchiaeth. Fel y dywedasom cyn hyn yt ydym yn dywedyd eta-da genym weled cynifer o wir gynrychiolwyr Llafur yn Nhy'r Cyffredin. Chwaneger at eu nifer, a hyny'n fuan. Ar bo enw bynag y gelwir ganddynt eu hunain neu y gelwir hwynt gan eraill, nid ydynt hwy a Rhyddfrydwyr y dyddiau presenol cyn belled ag yr oedd Rhyddfrydwyr a Radical- iaid y dyddiau gynt. Cyn bo hir bydd Rhyddfrydwyr cymhedrol (fel y'n cyfrifir y pryd hyny) yn dal y golygiadau a ddelir gan y Cyffredin o aelodau Plaid Anibynol Llafur yn awr. Yn y cyfamser peidied Meistr Elibank ar y naill law na Mr. Keir Hardie a thybied mai hwy ydyw apostolion penaf Rhyddfrydiaeth a Socialiaeth. Yr oedd yr aethau hyn cyn eu bod hwy; a byddant yn aros wedi iddynt hwy fyned.
Camgymeriad Arlywydd. I
Camgymeriad Arlywydd. I Pan mae tymor ei arlywyddiaeth yn brysur ddirwyn i ben mae'r Arlywydd Roosevelt wedi gwneyd camgymeriad gresynus. Nid ydym yn meddwl y bydd i'r camgymeriad ganlyniadau pwysig i neb ond i Mr. Roosevelt ei hun; er hyny drwg genym ei fod wedi ei wneyd. O'r dydd y dewisiwyd ef yn Arlywydd y Weriniaeth Fawr. dangosodd hyd yn awr ddoethineb, pwyll, aeddfedrwydd barn. ynghyda gwroldeb moesol a enillodd iddo barch a gwarogaeth gyffredinol. Blin yw ei weled yn awr yn gyffgwawd llaweroedd. Fel hyn y bu. Bu pwyllgor o Americanwyr yn ystyried y priodoldeb o ddiwygiad sillebiaeth cryn lawer o eiriau Seisnig, ac nid cyrit y cyhoeddasant eu hadroddiad nag ylcyhoedd- odd yr ArlywyddJJyn ei ffrwst y byddai i bob llyjthyr ysgrifenedig neu argraphedig a anfonir allan o'r Ty Gwyn yn Washington gael ei ysgrifenu &c., yn yr orgraff ddiwyg- iedig a argymellir gan y pwyllgor. Fel y mae'n digwydd bod, mae rhai o'i argymell- ion hyny yn chwerthinllyd neu wrthun i'r eithaf. Tystiolaeth unfrydol y Wasg ydyw nad oes yn yr Arlywydd Roosevelt unrhyw gymhwysder i arwain mewn mater fel hyn. Rhaid i bawb addef fod mawr angen am ryw gyfnewidiad, ond y peth priodol i'w wneyd fuasai penodi cyd-bwyllgor o ysgolheigion Prydeinig ac Americanaidd i edrych i fewn i'r mater, ac adrodd arno ac argymell, O'r braidd y mae yr hyn a wnaeth Mr. Roosevelt yn gweddu i Arlywydd Gwerin- iaeth. Mae gormod o sawr unbenaethol arno. Gweddasai yn well i Csar Rwssia neu i Ymherawdwr Japan nag i Mr. Theodore Roosevelt. Y peth goreu allai ei wneyd ydyw addef ei fod wedi gwneyd camgymer- iad, a glynu wrth yr hen drefn hyd oni cheir hamdden i lunio eu gwell.
Ardalydd Mon.I
Ardalydd Mon. I Mae Ardalydd Mon, ynghyda'i fam yr Arglwyddes Alexander Paget a'i frawd Ar- glwydd Victor Paget, wedi penderfynu dysgu yr hen iaith." Am hanef awr wedi saith bob boreu aiff ysgolfeistr o'r gymydogaeth i Plasnewydd i'w haddysgu, a dywedir eu bod yn dyfod ymlaen yn rhagorol-yn enwedig yr Arglwyddes Paget. Nid yw Ardalydd Mon am orphwys hyd oni bydd yn gallu anerch ei denantiaid yn eu hiaitheu hunain." Bei-dith arno a llwyddiant iddo.
Bwrdd Llywodraethwyr yr Ysgol…
Bwrdd Llywodraethwyr yr Ysgol Ganolraddol. Cynhaliwyd cyfarfod o'r bwrdd uchod yn Ysgol Uwchraddol y Bechgyn, dydd Mercher diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol Mr. R. Walker Davies (Cadeirydd) Miss Jones, Mri. J. Parry Jones, J. Lloyd Jones, D. G. Jones, Parchn. John Owen, M.A., T. H. Hughes, a D. Hoskins, M.A., Mr. F. P. Dodd, M.A., Mr. M. R. Phillips, B.Sc., a'r Clerc, Mr. Edward Jones. Wedi cadarnhau cofnodion y cyfarfod diw- eddaf, darllenwyd nifer o lythyrau, ac yn eu plith adroddiad yr Arolygydd ar waith yr ysgol am y flwyddyn ddiweddaf. Yn ol yr adroddiad yr oedd gwaith yr Ysgol^drwyddi yn foddhaol. Gelwid sylw at y ffaith fod mewn un dosbarth ar rai adegau dros ddeugain o ysgolheigion. Yr oedd hyny yn ormod i allu gwneyd gwaith effeithiol ac yn y dyfodol yr oedd yn rhaid eu eu lleibau. Daeth pedwar-ar-ddeg o geisiadau am Bur- saries, o'r rhai yr oedd saith o'r Penrhyn, tri o Drawsfynydd, dau o Danybwlch, un o Maen- twrog Road ac un o Minffordd. Yr oedd swm o tua £ 0 ar gyfer y rhai hyn. Ar gynygiad Mr. Phillips pasiwyd i'w caniatau. Yn y cyfarfod o'r blaen yr oeddis wedi can- iatau pymtheg o ysgoloriaethau, o ba rai yr oedd un yn cael ei gwrthod a phasiwyd i'w rhoddi i'r nesaf ar y rhestr, sef Ellen Jones. Yn unol ag argymelliad y Prifathraw Mr. Dodd, pasiwyd ar gynygiad Miss Jones ac eiliad y Parch T. H. Hughes i adnewyddu naw o ysgoloriaethau y flwyddyn ddiweddaf, a bod dwy o'r Ysgoloriaethau Mewnol yn cael eu rhoddi i'r rhai uchaf ar y rhestr yn Arholiad y Bwrdd Canolog, Ystyriwyd ymddiswyddiad Miss Lee, yr hon sydd yn ymadael am le arall, a cbadarnhawyd gwaith y Prifathraw yn penodi Miss Lomax, B.Sc., i gymeryd ei lie. Nid oedd Miss Lee wedi gallu rhoddi y rhybudd priodol, ac ni chafwyd amser i alw y Llywodraethwyr ynghyd cyn gwneyd y penod- iad. Ar argymelliad y cadeirydd datganwyd barn yn anghymeradwyo gwaith athrawon yn ymddiswyddo wedi tymor rhy fyr o wasanaeth ac heb rybudd digonol. Ac ar gynygiad y Parch John Owen, pasiwyd i ddwyn hyn isylw yr holl athrawon. Gohiriwyd y mater o godi cyflog un o'r athrawesau hyd y cyfarfod nesaf er mwyn rhoddi rhybudd rheolaidd o'r cynygiad. Ystyriwyd cynygiad y Prifathraw am ddarpariaeth ar gyfer y manual instruction. Yr oedd y mater wedi ei ddwyn i'w sylw gan un o'r Arolygwyr, ac yr oedd yn angenrheidiol gwneyd rhywbeth ar unwaith. Pasiwyd i gyfyngu yr addysg yn yr adran yma am un flwyddyn i Waith Coed yn unig ac ar gynyg- iad y Parch Jonn Owen yn cael ei eilio gan Mr. J. Parry Jones, pasiwyd hefyd i ofyn am deler- au llywodraethwyr yr Ysgol Uwchraddol am fenthyg ystafell y gwaith coed yn yr ysgol hono am haner diwrnod o bob wythnos.
Diangfa Gyfyng i Foneddiges…
Diangfa Gyfyng i Foneddiges o Blaenau Ffestiniog. Prydnawn ddydd Mercher, yr oedd galwad am i Miss Jones, prif cynorthwydd Mr.Griffith, Post feistr Blaenau Ffestiniog, fyned i'r gangen-swyddfa yn Tanybwlch. Cymerodd ei holwynfarch ac aeth pobpeth yn mlaen yn foddhaol hyd nes y daeth at ganol y Ceunant Sych, pan y cpllodd y rheolaeth ar atalfeydd y peiriant. yr hwn a aeth gyda chyflymder arswydus i lawr yr allt, a phan gyrhaeddwyd pont Rhydsarn tarawyd yn ei herbyn gyda y fath nerth fel yr aeth yr olwynfarch a Miss Jones yn glir dros y bont i'r afon. Llwyddodd i allu ymlusgo o'r dwfr, agwelwyd hi gan ddau a ddeuent heibio, ac estynasant gynorthwy iddi trwy ei chario i dy gerllaw, lie y cafodd bob ymgeledd a charedigrwydd. Codwyd ei holwynfarch o'r afon gan gyfaill arall. Yr oedd ei chodwm yn gyfryw ag a allasai brofi yn angeuol gan fod y dyfnder mor fawr o ben y bont, ond da genym ddeall iddi ddiangc yn wyrthiol gyda dim ond anafu ei chlun. Drwg genym am ei hanffawd, yr hwn ar yr adeg bresenol pan y mae ein Prif Bostfeistr yn gorwedd yn wael. Mae i'r ddau gydymdeim- lad yr holl ardal.
ADOLYGIAD.
ADOLYGIAD. Y TRAETHODYDD.—Daeth rhifyn Medi o'r hen gyhoeddiad onwog i law yn brydlon ac y mae yn un rhagorol ar lawer cyfrif. Agorir y rhifyn hwn gydag ysgrif addysgiadol gan y Proff. T. A. Levi, Aberystwyth, ar ei Ymweliad a Gwlad yr Aipht." Arweinia y darllenydd, gan ymgomio yu ddifyr, trwy ddinasoedd enwog Alexandria a Cairo. Sylwa ar Hynafiaeth y Wlad, a Llyfrau yr Aiphtiaid dyry benod helaeth o hanes Sylwa ar ddar- ganfyddiadau diweddar a'r diwrnod newydd sydd yn dechreu gwawrio ar y wlad. Mae hon yn ysgrif ddarllenadwy ac yn dda drwyddi. Terfyna Mr. John Morgan, Wyddgrug ei adgofion dyddorol am Daniel Owen yn y rhifyn hwn a cheir ar ddiwedd yr ysgrif Farwnad o waith Daniel Owen ei hun. Mae y casgliad o Ddiarhebion y: Wyddeleg, wedi eu cyfieithu gan Arthur Hughes, Bangor, yn eithaf defnydd diddanwch" fel y bwriada y cyfieithydd iddynt fod. Ysgrifena Glan Alaw yn rhagorol ar "Marcus Aurelius a'i Fyfyrdodau." Ceir hefyd ysgrif athronyddol ar "Syniadau hen a diweddar ar Gyfansoddiad Mater" gan Gwilym Owen, o Brifysgol Lerpwl. Mae yr ysgrif ar Ddyfodol yr Eisteddfod" yn amserol ac yn cynwys sylwadau gwerth dal arnynt. Daw barddoniaeth y rhifyn hwn o'r dyfnder ac o'r uchelder, gan De Profundis a Llais o'r Nen, ond o'r dyfnder y mae y farddoniaeth oreu o ddigon y tro hwn. Mae nodiadau Llenyddol Anthropos fel pobpeth o'i waith yn ddoeth a darllenadwy.
NODION O'R CYLCH.
NODION O'R CYLCH. Yr oedd y tywydd yn hynod o ffafriol dydd Mercher diweddaf pan gynhaliodd y St. John Ambulance eu Review am y tro cyntaf, a throdd allan yn llwyddianus iawn. Diau y bydd yn dda gan bob dyngarwr am hyny. Mae cymdeithas o'r natur yma yn haeddu cefnogaeth yn enwedig mewn dosbarthiadau gweithfaol felardaloedd y chwarelau a'r pyllau glo. Ond ofnwn er hyny nad yw eu gwerth a'u gwasanaeth yn cael ei gydnabod fel ag y dylai gael. Meddylier er engraifft am un a aelodau yr Ambulance yn rhoi ei law ar ddy* wedi ei anafu, nid yw yn rhydd, yn ol rheolau y gymdeithas, i roddi y cyfryw un allan o'i law nac i'w drosglwyddo i ofal neb ond i feddyg trwyddedig. Mewn Ilawer amgylchiad, golyga hyn ei fod ar ei law yn hir, a bod raid ei gludo ynmbell, achollrdarn diwrnod owaith. Ond pa beth a dderbynia mewn ad-daliad? Dim. Ni ofynir iddo pa faint o amser a gollodd. Ac er iddo gerdded o'r Blaenau i'r Llan neu Maentwrog, dyweder, gan gario ei faich drud yr holl ffordd, gadewir iddo fyued yn dlotach am ei garedigrwydd, a bydd yn waeth arno ddiwedd y dydd na'i gydweithiwr llai medrus ei law mewn achos o ddamwain. Yn sicr, nid yw hyn yn gefnogaeth deilwng i'r achos da hwn, ac nid yw yn ateb i ddyngarwch y meistri na'r gweithwyr. Dylai ygweithwyr drafod y mater yn eu plith. ac edrycb a oes dim modd cydnabod gwyr yr Ambulance yn well na thr.wy eu cosbi am fod yn garedig at eu cydweithwyr anffodus. Bydd yn dda genym gyhoeddi barn rhai o honynt ar y pwnc.
[No title]
Aeth dau ddyn o Fon i ymladd a'u gilydd, a dydd LInn buont o flaen ynaden Porthaethwy- Codir enwau eu cartrefi yn y newyddiaduron Seisnig yn engraifft dros brofi fod cryn lawer mewn enwau. Hugh Hughes, Tynymynydd, Llanfairmathafarneithaf, ft David Lewis, Tai- caregyralltwen, Llanf airpwll g wyngy 1 lgogor- gerychwyrndrobwll-llantysiliogogoch.