Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
ARWERTHIAD MAWR I Glirio Nwyddau yn Sefydliadau Adnabyddus W. S. WILLI ft MS (LL NRWST) w LD09 LONDON HOUSE, LLANRWST; NEW LONDON HOUSE, BLAENAU FFESTINIOG..
Sassiwn Chwarterol y Methodistiaid.
Sassiwn Chwarterol y Methodist- iaid. Fel y crybwyllwyd yn ein rhifyn diweddaf, fe gynhaliwyd y Gymdeithasfa Chwarterol yn Porthmadoc yr wythnos ddiweddaf o dan lywyddiaeth y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caer- narfon) Cynhelir y Gymdeithasfa nesaf yn Nghaer- lleon Tachwedd 19, 20, a'r 21. Wedi trafod materion cysylltiol ag eiddo, ystyriwyd y cais am i Mr W. J. Owen, Bangor, a Mr. W. Bayley Roberts, Lerpwl, gael sefyll yr Arholiad. Pasiwyd i ohirio y ddau achos. Derbyniwyd Mr. George S. Griffith, Llan- gollen, yn bregethwr gyda'r Enwad. Yr oedd ef yn bregethwr gyda'r Annibynwyr yn flaen- orol. Derbyniwyd tair o eglwysi perthynol i'r Wesleyaid Cyntefig (" Wesley Bach ") i mewn i'r Corph. Y mae un o honynt yn ymyl Brymbo, a'r ddwy arallwrth Coedllai. Treul- iodd y Llenor a'r Bardd adnabyddus y Parch. W. Williams (Gwilym ap Gwilym Lleyn), ei oes i weinidogaethu gyda'r tair Eglwys hyn, Cafwyd trafodaeth faith ar y Symudiad Ym- osodol a'r Genhadaeth Gartrefol; a theimlid nad doeth oedd i'r Symudiad Ymosodol ddechreu Achosion mewn lleoedd nad oedd obaith am iddynt allu eu cario yn mlaen a'u cynal. Bu ymdriniad maith ar fater o uno'r Colegau a'u symud i Aberystwyth, a phasiwyd i beidio uno, a bod diolch y Gymdeithasfa yn cael ei anfon i deulu Llandinam am eu haelioni a'u caredigrwydd i'r Enwad. Darllenwyd adroddiad am waith Coleg y Bala, a materion cysylltiol ag ef, a datganwyd dymuniad am gael Pregethwr o fri yno yn ■ Broffesor, er mwyn gosod o hono ei argraff fel pregethwr ar y myfyrwyr. Rhoddwyd croesawiad cynes i'r brodyr oeddynt drosodd o'r America a gwledydd eraill, a rhoddwyd llythyr cyflwyniad i'r Parch Evan Jones ar ei ymweliad ag America. Cymeradwywyd yr adroddiad arianol ddar- Ilenwyd gan Mr. Peter Roberts, Llanelwy, Trysorydd y Gymdeithasfa. Pasiwyd i gynal Gwyl Diolch am y Cyn- hauaf y trydydd ddydd Llun yn Hydref. Gwnaed cyfeiriad tyner at y Brodyr ym- adawedig. Cafwyd oedfaon grymus ddydd Iau, ac eneiniad amlwg ar y weinidogaeth.
NODION 0 DOLWYDDELEN. I
NODION 0 DOLWYDDELEN. I (GAN DRAENOG.) I NOSON GYDA'R CYNGOR PLWYF.—Nos Wener diweddaf, y dydd olaf o Awst ydoedd hono. Ni chawsom noson gyffelyb er's dau fis bellach, oherwydd na ddaeth digon o'r Cyng- horwyr ynghyd i flurfio y Quorum." Daeth y Cynghorwyr canlynol at eu gilydd nos Wener diweddaf, sef Mri. R. Parri Huws (cadeirydd), 0. E. Parry (is-gadeirydd), E. Roberts, Evan Jones, T. Pierce, R. Williams, John R. Jones, a'r Clerc. Agorwyd y cwrdd, a dechreuwyd ar y gweithrediadau yn ol y drefn arferol, sef darllen y rhybudd, rhaglen y noson, a chofnod- ion y cyfarfyddiad diweddaf. Yna symudwyd ymlaen at y gohebiaethau. Darllenwyd llyth- yr oddiwrth Gyngor Gwledig Geirionydd, yn nglyn a ffordd Tan-y-Benar. Cwestiwn sy'n hen ddihenydd am wn i yn ei berthynas a'n Cyngorau. Yr oedd y llythyr hwn yn cynwys adroddiad y Ddirprwyaeth fu ar ymweliad dros y Dosbarth, a Than-y-Benar. Dywedent nas gallent gymeradwyo y cynygiad ar i'r Dosbarth gymeryd.trosodd ffordd Tanybenar i'w had- gyweirio am mai ffordd breifet ydyw. Ffordd at gyfleusderau y tai yn unig ydyw, ac nid yw yn arwain i unman arall. Pasiwyd gan y Dos- barth yr adroddiad uchod, ac i weithredu yn ei 01. Darllenwyd rhybudd oddiwrth Mr Hugh Jones, Rathbone Terrace, y byddai yn terfynu ei wasanaeth fel Bedd-dorwr &c., ar y 3ydd., o Dachwedd nesaf, Gan y byddai angen un yn ei Ie cynygiai Mr. E. Roberts a chefnogai Mr O. E. Parry fod i'r Cyngor hysbysebu yn y drefn arferol, sef trwy osod papyrau ysgrifenedig i fyny ger y lleoedd eyhoeddus yn yr ardal fod Torwr beddau yn eisiau. Fod y ceisiadau i ddod i law y Clerc ar neu cyn yr 20fed., o Fedi. Yna fod Pwyll- gor y Gladdia i gyfarfod ac i benderfynu ar ol- ynydd i Mr H. Jones, ac fod eu penderfyniad i p ddod o dan sylw y Cyngor nesaf i'w gadarn- i h.. f PWNC Y DWFE.—Dywedodd Mr: 0. E. Farry sut y mae pethau yn sefyll gyda'r pwnc uchod yn y Cyngor Dosbarth. Yr oedd ef wedi cynyg yn y Dosbarth i nodi Dirprwyaeth i fyned i siarad a Mr. Noel Humphreys. Byddai yn dod i Ddolwyddelen yn ystod y mis yma i dderbyn y rhenti. Derbyniwyd y cyn- ygiad a nodwyd ar y Parch. J. Gower a Mri. Matthew Roberts, Capel Currig; Ellis Pierce, ac O. E. Parry dros y Dosbarth; a bod y Cyngor Plwyf i nodi unrhyw nifer a fynont. Nodwyd felly ar y Cadeirydd, Evan Jones, ac Edward Roberts. Siawns na ddaw rhyw der- fyn ar hyn bellach. GOLEUO Y PLWYF. Hysbyswyd fod yr adeg wedi dod i apwyntio un i edrych ar ol goleuo yr ardal at y gauaf dyfodol. Mewn gwirionedd, dylasai hyn o orchwyl fod wedi ei orphen er's tro, gan fod yr adeg i ddechreu goleuo i fod yn gynar yn mis Medi. Pender- fynwyd hysbysebu fel arfer: y ceisiadau i ddod i law erbyn nos Iau nesaf, Medi'r 6ed, a Phwyllgor y Goleuni i gwrdd nos Wener, Medi y 7fed, a bod yr awdurdod yn cael ei roddi i'r Pwyllgor i benderfynu pobpeth yn derfynol, Pasiwyd i anfon pleidlais o gydymdeimlad a'r Cynghorydd W. P. Hughes. Mr. O. E. Parry a alwai sylw at y cwynion sydd fod y waliau a adeiladir ger plas Mr. Norman Ellis yn cyfyngu ar eiddo y plwyf. Nodwyd ar John R. Jones a Thomas Pierce i fyned i edrych y lie. Mr. Edward Roberts a roddodd rybudd at y tro nesaf y byddai yn galw sylw at le peryglus ger Pont yr Hendre.
BLAENAU FFESTINIOG. I
BLAENAU FFESTINIOG. I DARLITH.-Dymunwn alw sylw at y Ddar- lith a draddodir nos Lun nesaf, yn Nghapel Calfaria, gan y Parch. T. Idwal Jones, Garn, ar Hwn a'r Llall." JrIae yr elw yn myned at achos teilwng iawn, sef i gynorthwyo Mr. W. G. Williams, Artro, i fyned trwy Olrs o Addysg ar gyfer y Weinidogaeth. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y DI- WEDDAR MR. OWEN WILLIAMS (gynt o Anglesea House, Blaenau Ffestiniog), YN BUTTE, MONTANA.—Y mae genym y gorch- wyl pruddaidd o gofnodi y ffaith uchod, yr hyn yn ddiau fydd yn newydd trist i luosog adnab- yddion yr ymadawedig yn Mlaenau Ffestiniog. Fel y gwyddis, ychydig dros flwyddyn sydd er pan ymfudodd ein diweddar frawd a'i deulu oddiyma i Butte, Montano gyda'r bwriad o ymsefydlu yno, ond ar y 3ydd., o Awst y flwyddyn honcymerwyd ef yn wael o'r pneu- monia, ac er cael y medrusrwydd meddygol goreu a gofal tyneraf priod, plant, brodyr, a chyfeillion, ehedodd ei yspryd ymaith am un- ar-ddeg o'r gloch boreu y 13eg o Awst, ac efe yn 55 oed. Ganwyd yr ymadawedig yn Pen-y- greigwen, ger Amlwch, Mon, a daeth i Ffestin- iog gyda'i dad-John Williams, yn fachgen ieuanc oddeutu 44 o flynyddoedd yn ol. Gweithiodd y rhan fwyaf o'i amser yn chwarel Votty a Bowydd, a bu yn llwyddianus iawn fel miner. Daeth i amgylchiadau cysurus fel gweithiwr trwy ei ddiwydrwydd a'i fedr, a gwelond ei blant i gyd bron yn abl i ofalu am danynt eu hunain, Ychydig dros flwyddyn yn ol penderfynodd symud i'r Gorllewin i weithio yn mines Montana, ond yr oedd dyddiau caled waith wedi eu rhifo yn ei hanes, ei nerth wedi ei dreulio, a'i yni wedi pallu. Profodd y cyf- newidiad hinsawdd a'r bywyd yn ormod iddo, daeth hen elyn y dosbarth hwn o weithwyr o hyd iddo, a phrofodd yn angeuol iddo. Cladd- yr hyn oedd farwol o hono ar y 15fed., o Awst yn mynwent Mount Moriah, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch R. E. Williams, gweinid- og yr eglwys Gymreig yn Butte. Cafodd ei hebrwng i'w fedd gan gynulliad parchus o Gymry. Cludwyd ei arch gan y Mri. Morris Pierce (Ffestiniog), Harry Edwards (Talywaen- ydd), William F. Hughes, nai y Parch R. R. Morris, Tabernacl, G. Caradoc Edwards (Fes- tiniog), Edwin Jones (Tabernacle Terrace), a William Jones brodor o Mon. Yn mhlith y galarwyr heblaw ei anwyl briod a'r meibion a'r merched, yr oedd y Mri. John J. Williams a Samuel J. Williams (brodyr), a'u teuluoedd, yn nghyd a Samuel H. Jones (nai), gynt Rich- mond Terrace. Mae amryw eraill o'r teulu erbyn hyn o ran eu hyspryd wedi sefyll uwch- ben ei fedd a thywallt deigryn i wlychu y pell- enig fan. Er nad oedd wedi cyrhaedd ond canol oed, enillasai orphwysdra cynnar. Gwr diarbed o hono ei hunan ydoedd efe, ni chredai mewn diogi a segurdod, a diau i'w ddyfalwch a'i ymroddiad diorphwys brysuro diwedd y daith. Rhoddasai ei enaid i'w gadw i'r Hwn fu farw drosto flwyddi lawer vn ol fel nad oedd raid brysio pan ddaeth yr alwad. Nawdd y Duw bia yr holl ddaear a'i chyflawnder fyddo dros y weddw a'r plant yn eu hunigedd a'u galar. Er eu pellder o wlad eu maboed, bydded iddynt deimlo yn fwy bresenoldeb Barnwr y weddw a Thad yr amddifad, a chofio os yw'r ffordd yn bell i Gymru, fod y ffordd at yr orsedd yn fer a hawdd ei theithio. Gor- phwysed llwch ein brawd wrth odreu y Mynyddoedd Creigiog, a chysgod Craig yr Oesoedd fyddo dros y teulu oil. CYFARFOD YMADAWOL.—Cynhaliwyd swper a chyfarfod ymadawol gan gyfeillion Mr. John Prydderch Williams, cyn ei ddychweliad i America, yn y Greffyn Temperance. Arwein- iwyd gan Bryfdir. Awd trwy y Rhaglen ganlynol:—Can gan Mr. E. Ffestin Jones. Gair gan Mr. John Davies, Cwmbowydd Road. Can gan Mr. John Edwards, I fyny fo'r nod." Gair gan Mr Ben T. Jones, Manod Road. Can gan Mr. Ted Lloyd, y geiriau gan Bar- lwydon. Gair gan Mr. Beavan, Ysgolfeistr y Manod. Can gan John Edwards, y geiriau gan Bryfdir. Gair gan Mr. Griffith Owen, Bethania. Can gan Mr. Ted Lloyd. Gair gan Mr. R. J. Davies (Barlwydon), Mr. E. Ffestin Jones, a Mr. William Hughes, Manod Road. Terfynwyd noson ddifyr nod- edig trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Gweler penillion Bryfdir a Barlwydon yn y Golofn Farddonol. CODIAD YR HAUL.—Cymer canoedd fan- tais ar y tywydd braf presenol i ddringo i ben y Manod er gweled yr haul yn codi. Dywedir fod yr olygfa yn odidog mewn gwirionedd. GWIB-DAITH.—Cymerodd dros ddau gant fantais ar y tren rhad i fyned i Fanceinion ddydd Llun. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt mor bryderus am beidio colli y tren fel y cer- ddent yn ol a blaen at yr orsaf o 12 o'r gloch hyd dri. Hwyrach yr ant y tro nesaf i edrych a fydd yr orsaf yn ei lie y noson cynt. ARHOLIAD.-Llawen genym :oedd clywed i Mr. Charles Hughes (Ap Elfyn) a Mr. H. Ifor Jones, Old Post Office, fyned yn Ilwyddianus trwy eu harholiad am y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Y SEINDORF.—Aeth y Seindorf i Bias Tan- y-bwlch prydnawn Sadwrn, a chawsant dderbyniad nodedig o groesawus gan Mr. a'r anrhydeddus Mrs. Oakeley. YMFUDO.—Y mae Mr. William Jones, Pen- ygroes, yn nodedig o brysur y dyddiau hyn gyda gwneyd trefniadau i lu mawr ymfudo i'r America a Canada. Ceir pob cyfarwyddid ganddo ar ymfudo, a gwneir pobpeth yn y modd mwyaf boddhaol mewn trefnu i ofalu am y teithwyr a'u nwyddau o ddechreuad hyd ddiwedd y daith. SAETHU.—Dydd Sadwrn, ar Forfa Conwy, bu nifer fawr o gystadleuon saethu. Yn eu plith yr oedd Her-gwpan Plas Coch rhoddedig gan y Milwriad C. Hunter, Plas Coch, Mon. Gyda'r gwpan elai Tlws aur a chyswllt gwerthfawr, a phunt i'r ail. Gwnaeth y Rhingyll John Jones, o Adran E. Conwy 28, ar Rhingyll R. Crook, o adran B. Caernarfon yr un nifer. Bu raid i'r ddau ail saethu, ac enillodd Jones gydag un pwynt. Y mae y Rhingyll Crook yn adnabyddus fel un o'r rhai sicraf ei nod gydai ddryll. LLWYDD.—Da iawn genym glywed fod Miss Ethel M. Williams, B.A., merch Mr. R. Wil- liams, Ysgolfeistr, Tanygrisiau, wedi ei hapwyntio yn Athrawes yn Ysgol Sirol Pen-y- groes, allan o luaws mawr o ymgeiswyr. Mae hyn yn glod iddi hi, ei theulu, a'r ardal y magwyd hi ynddi. Bydded iddi gael eto rwydd hynt i fyny grisiau dyrchafiad.-CYF- AILL. ODDICARTREF.-Deallwn fod y Parch John Hughes, gweinidog Carmel, Tanygrisiau yn pregethu yn Nghymanfa yr Anibynwyr yn Lerpwl y mis hwn. CYFARFODYDD PREGETHU.—Fel y gwelir yn ngholofn y cyhoeddiadau, fe gynhelir cyfar- fod blynydddl Calfaria y Sabboth nesaf. Dech- reuir nos Wener a pharheir hyd nos Sul gyda'r oedfaon.—Hefyd cynhelir Cyfarfod Blynyddol Caersalem y Sabboth nesaf. YN GWELLA.-Llawen genym weled y Cyngorydd Hugh Lloyd, wedi gwella yn ddigon da fel ag i allu dod o gwmpas. Hyderwn y bydd y seibiant a gymer yn awr oddicartref yn foddion i'w gwbl adfer i'w iechyd cynefin, ac y v iechyd cynefin, ac y cawn lawer o'i wasanaeth eto fel ardal.-Hefyd da genym glywed fod y cyfaill ieuangc, Mr Robert E. Roberts, Maenofferen, yn troi ar wella. Cafodd gystudd caled iawn. Ymwelodd ein Haelod Seneddol ag ef ddydd Gwener, a dangosodd hynawsedd mawr tuag ato. Boed iddo adferiad buan.
_TREFN OEDFAON Y SUL I
TREFN OEDFAON Y SUL I Y METHODISTIAID. ENGEDI.-Parch. John Jones, Penmorfa. PENIEL.—Parch. Owen Ellis, Llanuwchllyn. BETHESDA.—Parch. J. Gwynoro Davies, Abermaw. TABERNACL.—Parch. R.H.Watkins, Bryncrug GARREGDDU.—Mr. Robert Williams. MAENOFFEREN.—Parch. T. J. James, Pen- machno. BOWYDD.—Parch. E. J. Evans, Penrhyn. RHIw-Parch. Thos. Williams, Gwalchmai. BETHEL.—Parch. Francis Jones. Abergele. CAPEL SEISNIG (English Chapel).—Rev. J. Owen. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—10, Mr. J. Vernon Lewis, B.A., B.D. 6, Parch. R. Talfor Phillips. HYFRYDFA.—Parch. J. Williams-Davies. BETHANIA.-Proff. J. E. Davies, M.A., Bangor JERUSALEM.—10, Parch. George Davies, B.A. 6, Mr. J. Vernon Lewis, B.A., B.D. BRYNBOWYDD.—10, Parch. R. Talfor Phillips. 6, Parch. George Davies, B.A. SALEM.—Parch. T. Griffiths. CARMEL.—Mr. Ellis J. Roberts, Pentrefoelas. Y WESLEYAID. I DISGWYLFA.—10, Mr. D. O. Jones, Blaenau. 6, Mr. Richard Roberts. SOAR, RHIW.—10, Mr. G. G. Roberts. 6, Parch. D. D. Jones. EBENEZER.—10, Parch. D. D. Jones, 6, Parch. R. Morton Roberts. FFESTINIOG.-IO, Mr. R. Morton Roberts. 6, Mr. J. E. Davies, Blaenau. TANYGRISIAU.—10, Mr. Rd. Roberts, Blaenau 6, Mr. W. H. Jones, Blaenau. Y BEDYDDWYR. SEION —Parch. Moses Roberts, CALFARIA.— CYFARFOD BLYNYDDOL. Nos Wener am 7 o'r gloch, pregethir gan y Parch. T. Idwal Jones, Garn. Sadwrn am 2-30, Cyfeillach. Nos Sadwrn am 6.30 pregethir gan y Parch. T. Tower Hughes, Mountain Ash. Sul am 10, Parch. T. Idwal Jones. 2, Parch. T. Tower Hughes. 6, Parchn. T. T. Hughes a T. 1. Jones. MORIAH.-10, Cwrdd Gweddi. PISGAH.- CAERSALEM. CYFARFOD PREGETHU. — Gwasanaethir gan Mr. James Jones, Rhos; Mr. Cadwaladr Humphreys, Rhyd-ddu, a brodyr eraill.
IPENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. ETHOL CYNGORYDD.—Cymerodd etholiad le ddydd Sadwrn i lenwi sedd y diweddar Mr. R G. Pritchard ar y Cyngor Sirol. Achwynid yn fawr ar y dull dirgelaidd y cariwyd pethau yn mlaen, a'r costau dialw am danynt osodwyd ar y plwyf sydd eisoes o dan feichiau mor drymion. Pwy sydd yn gyfrifol am beth fel hyn ? Pe galwesid Cwrdd Plwyf, buasid yn osgoi yr holl draul ac yn atal llawer o deim- ladau chwerwon. Nid fel hyn y dylai pethau gael eu cario yn mlaen, a gall y rhai sydd yn gyfrifoj am bethau o'r fath fod yn gwbl sicr na oddefir hwy lawer yn hwy. Ar y dechreu cafodd pedwar eu henwi, sef Mri. Joseph Humphreys, Gwalia; David Pritchard, Peir- ianydd R. T. Jones, Manchester House a William Jones, Penbryn Isaf. Tynodd y ddau gyntaf eu henwau yn ol, a chanlyniad y pleid- leisio rhwng y ddau ddiweddaf ydoedd,—Mr. R. T. Jones, 148; a Mr. W. Jones, 60. Gwelir felly i'r etholwyr ddewis dyn o'r lie i'w cyn- rychioli, a diau y gwna Mr. Jones aelod rhag- orol ond iddo ymdaflu i'r gwaith o ddifrif. Llongyfarchwn ef ar ei ddewisiad i'r swydd.
Dirwyon Trymion am Lygru.…
Dirwyon Trymion am Lygru. I Cafodd y Comet Chemical Co., Manchester, eu dirwyo i again punt mewn dau achos, 19s. 0c. trwy'r oil, am lygru cream of tartar. Dywedodd yr Ynad ei fod y dull gwaethaf o ladrad am ei fod yn cael ei wneyd o danf esgus o fasnach gonest.
Lladd ei hun a FfSamaga^.I
Lladd ei hun a FfSamaga^. I Mewn trengholiad gynhaliwyd ar gorph llafurwr o Lerpwl, tystiwyd ei fod allan o waith er's tro, a phrynodd geiniogwerth o ffiamegau (matches) yrhai a roddodd i fwydo mewn dwfr. Yfodd y dv/fr, a bu farw o wenwyniad.
BEDDGELERT.'
BEDDGELERT. Dydd Llun diweddaf ymweloddArglwydd ac Arglwyddes Roberts a'n hardal. Arhosasant beth amser. Bu y boneddwr anrhydeddus yn siarad a'r Heddwas Pugh. Yr oeddynt yn mwynhau golygfeydd rhamantus yr ardal yn fawr. Mae canoedd lawer bob dydd yn talu ymweliad a'r ardal, a mawr yw eu syndod wrth weled adfeilion yr hen Bont. Maent yn brysur yn ei hail adeiladu yn gadarn. Cawn fod un rhan o'r hen bont yn aros i'r oesoedd a ddel. Prysur fuwyd gyda chael y gwair i ddiddos- rwydd. Mae yn dda genym hysbysu fod yr oil erbyn hyn wedi ei gael i mewn. Aeth llawer oddiyma i Uchel Wyl y Methodistiaid Calfin- aidd yn Porthmadog yr wythnos ddiweddaf, a thystiolaeth yr oil ydyw nad aiff Sassiwn 1906 Porthmadoc, byth o'u cof. Cawsom deimlo pethau nerthol yno. Mae yn dda genym feddwl fod Ysbryd y Peth Byw yn cyniwair trwy Cyrddau Gweddi Bobl Ieuainc ein hardal. Mae yr awydd yn gryf o blaid cael Cyfarfod Gweddi Undebol o'r ardaloedd i geisio eto gyneu y tin nefol. Dydd Sadwrn nesaf bwriada Aelodau Ysgol y Safonau yn y Pentref gael Picnic allan yn ymyl ffermdy Mr. John Thomas, Cwmcloch Isaf, pa un sydd wedi bod yn hynod o garedig Iy blynyddau diweddaf yn parotoi lie i'w derbyn Hyderwn y ceir tywydd hafaidd i'r rhai bach gael mwynhau eu hunain. Hynod o ddyddorol ydoedd hanes un o lanciau y Pentref yn methu ei ffordd wrth ddod adref o Eisteddfod Caernarfon, yn lie dod o Rhyd-ddu aeth i Rhostryfan, ond cym- ered gysur nid efe ydoedd y cyntaf.-AP GELERT.
Gochel Streic -Fawr yn y De.
Gochel Streic Fawr yn y De. Yr oedd dros un-fil-a'r-ddeg o lowyr Dyffryn Rhondda a Maesteg ar streic ddydd Sadwrn, fel gwrthdystiad yn erbyn gwaith y meistri yn cyflogi rhai heb fod yn Uhdebwyr i ddod i'r glofeydd. Dydd Llun, yr oedd y dynion hyn oil wedi uno a'r Undeb, ond y mae yr Undeb- wyr yn benderfynol o gael dealltwriaeth clir nad oes neb ond Undebwyr i gael eu cyflogi o hyn allan.
Ffodion i'r Canghellydd.
Ffodion i'r Canghellydd. Y mae Mr. Asquith wedi bod yn hynod o ffodus gyda'r dymuniadau i'r Trysorlys trwy dollau ar etifeddiaethau. Yn. ei Gyllideb yr oedd yn amcan gyfrif ei "dderbyniadau o'r ffynonell hon yn [13,200,000 y flwyddyn, neu gyfartaledd o [254,000 yr wythnos, ond i fyny hyd Awst 5 y mae wedi derbyn cyfar- taledd c [300.000 yr wythnos. Yn awr y mae Mr. William Sturdy, Lindfield, Sussex, wedi marw a bydd y doll ar ei eiddo ef yn unig yn gan' mil o bunau.
_Anghofio eu Rhieni.
Anghofio eu Rhieni. Wrth i Mr. Bentham, y Dirprwywr Beiniol fyned trwy lyfrau elusenol Undeb Rhuthyn, darganfyddodd nifer fawr o rieni oeddynt yn derbyn cymorth plwyfol tra yr oedd eu plant yn enill cyflogau sylweddol. Dywedodd fod y ffaith hyn yn waradwydd i unrhyw Undeb, a'i fod yn cyfrif i raddau mawr am dreuliau ucheI y tlodion yn Nghymru o'i chydmaru a Lloegr.
[No title]
Y mae y boneddwr haelfrydig, Mr. Howell J. Williams, Llundain, wedi addaw cadair dderw i Eisteddfod Caernarfon y Pasg nesaf.
Advertising
CIMO BANE.—Difethir LLAU, CHWAIN, PRYFED DILLAD, DREWLAU (Bugs), CHWILOD DUON, a phob pryfetach anymunol eraill trwy ddefnyddio "Cimo Bane," y Powdwr Newydd i ladd pryfaid. Gwerthir mewn tyniau, pris 3c., 6c., a Is., cludiad lc.-Geo. W. Harrison, Chemist, 118, Broad Street, Reading, Agent i Lanrwst:—A. PARRY, CHEMIST, STATION ROAD, LLANRWST. TMPORTANT TO MOTHERS. Every i Mother who values the Health and Clean- liness of her Child should use HARRISON'S "RELIABLE" NURSERY POMADE. One application kills all Nits and Vermin, beautifies and strengthens the Hair. In Tins, 4d and 9d. Postage Id.—Geo. W. Harrison's, Cllemist, 118, sBoard Street, Reading. Agent for Llan- rwst, A. Parry, Chemist, Station Road. Agent for Blaenau Festiniog, J. Lloyd Jones, The Pharmacy. Agent for Bettwsveoed, R. Parry,, Chemist.