Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
STAR SUPPLY STORES, Cea experts, General Grocers, and provision iftercbants. STARAGALLA TEA, best value, is. 4d. & is. 6d. per lb., in Quarter, Half, & One Pound Packets. Other Blends of Tea, 1/ 1/2, 1/8, l/IO, and 2/ BUTTER. Star Cream, The Finest J  ? Star Prints, Delicious t per lb. CHEESE. I PALE or COLOURED, 71d. per lb. BACON. Mild Streaky, Pale, per lb. 7id. 1 Rolled, Smoked or Pale, 7!d,. Danish, Pale, by the Side 9d. HAMS. Breakfast, Pale, per lb. 7Jd. Picnic, Pale, per ib. 6d. Orange Marmalade, per 21b. jar, 6d. Strawberry Jam, per 21b. jar, 9d. Damson Jam, per 21b. jar, 7|d. Delicious Cakes, always Fresh, a large choice. Biscuits, all leading kinds stocked. Come to us for all Groceries. give finest quality at prices charged by Our Tinned Fruits, Fish and Meats, Tongues, &c., are imported direct from the Packers, we are therefore able to give finest quality at prices charged by our competitors for common goods. Apncots, Pears, Peaches, Pineapple, Salmon, Lobsters, Sardines, Roast Beef, Corned Beef, Lunch Tongues, Ox Tongues, Rabbity Tomatoes, &c., &c.. „ Mote the Name and Address— Star Supply Stores, 30, Church Street, Bl. Festiniog.
-Trefriw. ----|
Trefriw. | Mae'r ymwelwyr yn dal ynlluosog iawn yma. Gwelsom Dr. Johns, Llanelli; Bishop Lester; S. T. Jones, a llu eraill wrth y Ffynon. Edrychir yn mlaen am gael clywed newydd da am y Cor Meibion sydd yn paratoi mor brysur at Eisteddfod Caernarfon. Cynelir cyfarfodydd hynod o bleserus wrth y Ffynon, a'r Telynor Dall yn cael hwyl noded- ig gyda'i Delyn. Dyma fel y canodd un Foneddiges iddo. ar ol ei glywed yn chwareu mor fedrus:— 0 fy hen gyfeillion mwyngu, Dewch yn nes i glywed canu, Fath hyfrydwch sydd wrth ddilyn David Francis gyda'r delyn. Gan fod merched yn ei foli, B'asa llawer llanc yn d'rysu; Dal ei serch yn bur ddiysgog. Mae y gwron o Ffestiniog. Gwell na dwr y Ffynon Felyn Y'w cael canig gyda'r delyn; Syna pawb uwch ben ei sana, Pan mae hwn yn tynu'r tannau. Byddwn barod yn ein haelioni, Dyma gyfle in i'w helpu: Peidio gw'rafun Ein ceiniogau, Hyd nes llanw ei logellau. Cofiwn fod y ganaf gerwin, Eto i guro ar ei fwthyn A bod llygaid Duw yn gwylied, Rhag gwneyd cam ag un amddifad. Parheir i werthfawrogi y Ddarllenfa agorwyd yma yr wythnos o'r blaen gan nifer helaeth o wyr hoff o oleuo eu meddyliau yn maesydd gwybodaeth ac addysg. Sibrydir fod boneddwr o'r ardal wedi cael ei daflu i brofedigaeth trwyfyned yn gyfrifol dros un a droes ei got ychydig flynyddol yn ol. Can' punt," meddir, ywy swm a gostiodd y dysgybl hwn i'r cyfaill caredig. Da genym ddeall fod swn adfywiad yn y Gweithfeydd. Chwarel Clogwyn y Fuwch am ail gychwyn gyda nifer fawr o weithwyr, ar North Western Speltor Syndicate am gymeryd rhagor i mewn. Hyfryd iawn yw cael gair o'r fath y dyddiau hyn. Holir yn ddyfal pa bryd a pha beth sydd yn dod o'r son mawr fu am agor Gwaith Trydanol yn Dolgarog. A oes ryw obaith i hyny droi allan yn rhywbeth heblaw siared ?
[No title]
Y mae pedwar cant a haner o lowyr Point-of I Ayr allan ar streic. Hyderir gallu llwyddo i ddod i ddealltwriaeth buan. Collodd bachgen chwech oed ei fywyd yn Cefn, Ruabon, trwy i gareg syrthio gydag ef o ben wal yr ysgol a'i daraw ar ei ben. Aeth i ben y wal er mwyn gweled y pleidleisio gymer- ai le ar y pryd. Y mae James Allmand, clerc yn llythyrdy Croesoswallt yn y ddaifa ar y cyhuddiad o ladratta Ilythyr yn cynwys 13s 6c.
Family Notices
Genedigaethau. I Williams.—Awst 22, priod Mr. Robert Rowland Williams, Glyn House. Bethania, ar I fab.
Advertising
lilt AIT SWST COUNTY DUAL SCHOOL. THIS SCHOOL is now equipped with all — modern requirements, and provides accommodation for 80 Boys and 60 Girls. In addition to the usual subjects, instruction is given to Boys in the use of Tools and Practical Chemistry and to Girls in Cookery and Laundry work. The Staff consists of the following thoroughly qualified and experienced Teachers Head Master-REV. J. I. FARR, M.A. Science & Technical Master- MR. WILLIAM WILLIAMS. Assistant Master-MR. RD. HENRY JONES. do. —MR. L. M. THOMAS, B.A. Senior Assistant Mistress- Miss EDITH HOLT, B.A. OooTcery dec. Mistress-Miss M. WILLIAMS. School Fee £ 5 per annum. The Winter term commences on the 18th September, 1906. Miirra DMiumm. Assembly Rooms, BI. Ffestiniog. Traddodir DARLITH Yn y lie uchod, Nos lau, Hydref 18fed, 1906, Gan J. R. PRICHARD, Ysw., Portmadoc, Pryd yr eglurir y Ddarlith trwy gyfrwng y Magic Lantern. Cadeirydd-Dr. CAREY EVANS, Llys Meddyg. Yr elw er cynorthwyo y brawd DANIEL ELus, Park Square, yr hwn sydd yn analluog i weithio er's blynyddau. CIMO BANE.—Difethir LLAU, CHWAIN, PRYFED DILLAD, DREWLAU (Bugs), CHWILOD DUON, a phob pryfetach anymunol eraill trwy ddefnyddio "Cimo Bane," y Powdwr Newydd i ladd pryfaid. Gwerthir mewn tyniau, pris 3c., 6c., a Is., cludiad Ic.-Geo. W. Harrison, Chemist, 118, Broad Street, Reading, Agent i Lanrwst:—A. PARRY, CHEMIST, STATION ROAD, LLANRWST. IMPORTANT TO MOTHERS. Every 1. Mother who values the Health and Clean- liness of her Child should use HARRISON'S "RELIABLE" NURSERY POMADE. One application kills all Nits and Vermin, beautifies and strengthens the Hair. In Tins, 4d and 9d. Postage Id.—Geo. W. Harrison's, Chemist, 118, sBoard Street, Reading. Agent for Llan- rwst, A. Parry, Chemist, Station Road. Agent for Blaenau Festiniog, J. Lloyd Jones, The Pharmacy. Agent for Bettwsycoed, R. Parry, Chemist. Sales by Messrs. Robert & Rogers Jones, Llanrwst & Colwyn Bay. MONDAY, AUGUST 27th, 1906.-TALY- CAFN MART SALE of Fat and Store Cattle, Sheep and Pigs. OWENS & SONS, HAIRDRESSERS, &c., Have now opened at Garth Dderwen, Bettwsycoed All Business entrusted to them will have their prompt and personal attention. Umbrellas Neatly Repaired and Re-covered. RAZORS GROUND AND SET. Bydd 0. V. JONES, 15, CHURCH STREET, Bl. Ffestiniog, (Hen Siop y Glorian), yn gwneyd SALE FAWR am 14 Piwrnod, yn dechreu Dydd Sadwrn, Awst 25. Yr holl Ddilladau i'w Clirio am Brisiau 1SEL iawn i wneyd lie i STOC Y GAUAF. Yr holl Nwyddau yn Newydd: Dim Hen Stoc. Eisteddfod Gadeiriol a Choronog COLWYN BAY, DYDD GALAN, 1907. Prif Gystadleuaethau. Pryddest-" Heddyw y byddi gyda Mi yn Mh' adwys" (Luc xxiii. 43). Gwobr £ 1 Is., a Chadair Dderw hardd. Corau Meibion-" Cydgan y Pererin- ion" (Dr. Joseph Parry). Gwobr £20. Corau Meibion-" Cydgan yMorwyr" (Dr. Joseph Parry). Gwobr £ 5. Corau Cymysg—" Cyfodwn ac Esgyn- wn i Sion" (Tanymarian). Gwobr £ 10 a Choron. Cystadleuaeth Seindyrf—"Worthy is the Lamb," ac "Amen Chorus" (Handel). G.wobr laf, £ 15 ail, £ 5. Pob manylion pellach i'w cael gan yr Ysgrif- enyddion R. JONES, Gwynfor, Old Colwyn. T. C. DAVIES, Bethafen, Old Colwyn. Testynau drwy y post, lic. List of Sales by Messrs. Blackwall, Hayes & Co., Llanrwst. CAE PLAS BRITH, LLANRWST. TUESDAY AUGUST 28th, 1906. IMPORTANT Sale of about 60 Tons of — excellent recently harvested Meadow and Seed Hay. 10 Tons of last years Prime Hay. The Aftergrass (about 20 acres) up to 31st December, 1906, and about 400 Hurdles (6, 5, & 4 feet), by instructions of Messrs. P. & H. Lewis, Limited. Sale at 1.30 p.m. Usual Credit. Cryddion yn Eisiau. GWEITHWYR Newydd a Trwswyr. Sicr- heir digonedd o waith drwy'r flwyddyn i Ddynion Sobr. Cyileusdra ardderchog i ben- teulu am le da. Ymqfyner a Wm. Hughes, Britannic Boot Stores, Llanrwst. EDUCATION ACT, 1902. SECTION 8 (1) DENBIGHSHIRE LOCAL EDUCATION AUTHORITY. NOTICE IS HEREBY GIVEN, in accord- ance with the provisions of Section 8 (l) of the Education Act, 1902, that the County Council of Denbighshire, being the Local Education Authority for the purposes of Part III. of that Act, propose to provide a new Public Elementary School for about 50 children at NANTYRHIW, in the Parish of Llanrwst (Rural). The School will be available for the following area The Parish of Llanrwst (Rural). Signed W. R. EVANS, Clerk to the Local Education Authority. Dated 22nd June, 1906. Section 8 (1) of Education Act, 1902. provides as follows (1) Where the Local Education Authority or any other persons propose to provide a new Public Elementary School, they shall give public notice of their intention to do so, and the Managers of any existing School, or the Local Education Authority (where they are not themselves the persons propos- idg to provide the School), or any ten rate- rc payers in the area for which it is proposed to provide the School, may, within three months after the notice is given, appeal to "the Board of Education on the ground that the proposed School is not required, or tha a School provided by the Local Educatior "Authority, or not so provided, as the cas may be, is better suited to meet the wanf of the district than the School proposed f be provided, and any School built 1 contravention of the decision of the BoaP of Education on such appeal shall "treated as unnecessary." Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Davies & C., Swyddfa'r "RHEDEGYDD," Blacllu Ffestiniog.
- -BLAENAU FFESTINIOG.- I
Parhad o tudalen 5. 0 barch dwfn tuag ato ar yr amgylchiad, a chydymdeimlad ar weddw yn ei galar mawr ar ei ol. Yr oedd Mr. David Davies, Arolygydd Cwmni Yswiriol y Refuge a'r holl staff gyda'u gwragedd wedi dod i ddangos eu hedmygedd o hono, ac anfonasant flodeu-dorch i'w dodi ar ei arch. Bu ef yn Arolygydd i'r Cwmni byd i fyny i chwe mis yn ol, pan y penodwyd Mr. Davies yn ei le ar ei ymddiswyddtad. Oddiwrth newyddiadur y Rbyl, canfyddwn i'r dynion oeddynt yn y Cartref yno ddangos ffyddlondeb mawr trwy gerdded gyda'r corph i r Orsaf, a dodi blodeu-dorch ar ei arch. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. J. Hughes, Tanygrisiau, ac yn yr Eglwys a'r fynwent gan y Parch. Cadwgan Price, M.A. LLWYDDIANT EISTF-DDFODOL.-Ein llon- gyfarchiad calonog i'n cyfaill Bryfdir ar ei Iwyddiant yn enill deg punt am Bryddest Goffa a phum gini am Fyfyrdraeth, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Rhagorol yn wir. Hefyd i'r cyfaill galluog Mr. D. R. Jones yr hwn a enillodd wobr o bymtheg gini ar draethawd. DIRWESTOL.—Cynhelir cyfarfod dirwestol] yn ymyl gorsaf y Duffws nosSadwrn nesaf am haner awr wedi chwech pryd yr anerchir gan y Parchn T. Griffiths, Salem, R. Roberts, Min- ffordd a Teifi Davies, Maesteg. Os na bydd y tywydd yn ffafriol cynhelir y oyfarfod yn Schoolroom Jerusalem.—W. E. I MARWOLAETH Y DIWEDDAR DAVID DAVIES (IEU.), PENYGARTH.—Boreu Marwrth, yn blyg- einiol iawn, ehedodd ymaith yspryd y brawfi ieuanc uchod at yr Hwn a'i rhoes tra yn y bedwaredd-flwydd-ar-bymtheg o'i oedran. Mab ydoedd i Mr a Mrs David Davies, Penygarth, ac un o aelodau ieuainc prydferthaf yr eglwys yn Seion (B.) Derbyniodd ei addysg yn ysgol- ion elfenol y Slate Quarries ac yn ddilynol yn, yr Ysgol Ganolraddol. Bwriadai gyfaddasu ei. hun at fod yfi fferyllydd, a bu'n gwasanaethu fel egwyddor-was gyda Mr Parry, High street, ond profwyd yn ei achos ef fel llawer achos arall nad eiddo dyn ei ffordd. Brwydrai er's dros bedair blynedd a dolur y galon, ac wedi llawer gornest galed yn y rhai y cai efe y gwaethaf bob tro daeth yr ergyd olaf, a'i haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd, Perth- ynai iddo nodweddau a enillent iddo hoffder ac edmygedd pawb a'i hadwaenai. Yr oedd iddo yspryd rhywiog, rhodiad boneddigaidd, a thafod diabsen. Dygai heulwen i'w ganlyn i bob cwmni, a phleser fyddai ei gyfarfod ar y ffordd gyda'i wyneb siriol a'i gyfarchiad moesgar. Er gwaeiha ei "fynych wendid" gwnaeth ymdrech deg i fyw a mynodd lawer tro fod gyda'i wersi a'i waith pan y ceisid gadddo orphwyso. Di- oddefodd ei gystudd yn ddirwgnach, ni chwynai, eithr bob amser canmol wnai. Bu fyw yn obeithiol, a bu farw yn dawel. Tra y bwriadai efe gymhwyso ei hun ar gyfer bywyd ar y ddaear trefnai yr Iesu a chymhwysodd gras ef i ddechreu ar unwaith ar ei fywyd yn y nef. Cymerwyd ef ymaith yn gynnar: yn gyn- nar ar ei fywyd ac yn gynnar ar y dydd. Aeth adre' yn y bore', ac aeth adre'n fore', ac yn ngwlad y bore tragwyddol mwynha fywyd perffaith. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honno yn nghladdfa Bethesda heddyw (dydd lau)-angladd anghyhoedd-pryd y gwasan- aethwyd gan ei weinidog, y Parch. Moses Roberts. Caffed y rhieni a'r plant gymhorth i ddywedyd er chwithed yr amgylchiad, Ie, 0 Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti." Y SEINDORF.-Bydd gan y Seindorf ymar- feriad yn y Neuadd heno, (nos Iau), am haner awr wedi wyth. Y maent yn hyderus iawn am enill y gamp yn Nghaernarfon. ARWERTHIANT.-Dymunwn alw sylw at yr arwerthiad Anifeiliaid yn Cae Drain, Taly- waenydd, dydd Sadwrn nesaf; a Dodrefn rhagorol yn Peniel Ter., Ffestiniog, dydd Llun Bydd Mr. John Davies yn dechreu yr arwerth- iad yn Cae Drain am ddau o'r gloch, ac am bump o'r gloch yn Peniel Terrace. GWIBDAITH.-Heddyw, aeth holl wasan- aethyddion Miss Brymer ar wibdaith i Gaer- narfon. Mae caredigrwydd Miss Brymer at ei gwasanaethyddion yn ddiarhebol, ac yn haeddu cael ei efelychu gan holl fasnachwyr y He. Fel y gwelir oddiwrth y Cyhoeddiadau Sabbothol, bydd Dr. Owen Davies, Caer narfon, yn gweinidogaethu yn Seion a Moriah y Sabboth nesaf.