Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

"Tuiose."I

News
Cite
Share

"Tuiose." I Dyma'r enw ar yr hwn y gelwir rhyw syl- wedd, sydd yn 01 y Proffeswr Behring, yn foddion effeithiol i wella rhai a ddioddefant oddiwrth y darfodedigaeth. Nid dyrna'r tro cyntaf i'r byd gael ei hysbysu fod medd- yginiaeth sicr wedi ei darganfod, a chael ei siomi wedyn. Yn ol un o newyddiaduron Paris, nid yw'r Proffeswr yn cyfrif fod y feddyginiaeth newydd wedi ei phrofi i fesur digonol iddi gael ei rhoddi yn nwylaw meddygon cyffredin eto; ond rhoddir y sylwedd yn rhad i'r yspytai a ofynant am dano. Gellir ei gymeryd trwy ei lyngcu neu ei chwistrellu dan y croen. Tra'n gobeithio y'i profir yn effeithiol, mae llawer rhyngom a chredu y gwneir, oblegid yr ydym wedi cael ein siomi gynifer o weithiau. Da, fodd bynag, ydyw gweled dynion a ragorant mewn gallu yn treulio amser ac yn cymeryd poen i geisio darganfod rhywbeth a etyl rwysg y clefyd ofnadwy sydd yn gwneyd y fath ddifrod ar fywyd dynol yn mhob gwlad o'rbron. Nid o ddiffyg ymdrech ac ym- roddiyd a hunanymwadiad y ffaelir. Ac os ffaelir, haedda pob ymdrech deg wobr, ac y mae yr ymdrechwr yn derbyn gwobr hefyd. Er nad yw yn ei chael yn y ffurf y dymunai nid yw yn cael ei adael yn ddiwobr.

Codiad Oyflog.---I

Gwrthsafiad Goddefol.I

[No title]

Agoriad y Gallu Trydanol ynI…

1- - ---LLANRWST.-

Advertising

- - - - - - ,- - -Eisteddfod…

I Eglwysbach. I

- -BLAENAU FFESTINIOG.- I

Advertising

Cinio i Blant yn yr Ysgol.