Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
It SEBONI." I Er cyraedd aur ac arian-a chael hwyl, A chlod i chwi 'n gyfran Ac i fod mewn teca' fan,— Sebonwch yr oes ben wan! CIG CHICAGO." I Os oes rhywun am huno-yn ei arch, Cyn i'w adeg wawrio, Yn fwyd o hyd, cofied o, Ddewis cigoedd Chicago "Y DDAEARGRYN." I Arswydol gyffro sydyn-a ry' wae I Yw y gref ddaeargryn Hi gryna fyd fel gronyn Sibrwd lor i sobri dyn. CYFFDY. I
AWEL 0 GYDYMDEIMLAD I
AWEL 0 GYDYMDEIMLAD I t Chwarelwyr Gogledd Cymru, yn benaf gwyr Bl. Ffestiniog a'r cylchaedd, yn yr iselder masnach presenol, 1906. Chwi ddewrion ebillwyr y creigiau, Gwynebwyr peryglon bob dydd Tarawyr y clawdd a'i drysorau, Er dadrys ei haenau yn rhydd I'ch gorchwyl yn ami drwy'r cymylau Yn dorf bererinol yr ewch, Y cwmwl sy'n awr uwch eich penau, Ei deimlo yn drymach a gewch. Chwi ddewrion ebillwyr y creigiau, Meib llafnr, meib diwyd eich bryd, Mae'r awyr yn duo o'ch amgylch, A'r gal on sy'n gofyn Pa hyd?" A gauir ar faes eich diwydrwydd ? Ai cyfyng y lie i chwi droi ? Ai byr yr a ffon eich cynhaliaeth, A chwithau'n bell ymaith raid ffoi? Chwi ddewrion ebillwyr y creigiau, Eich pwyll a'ch amynedd sydd fawr Fel cedyrn goddefwch flinderau Sydd agos a'ch gwasgu i'r llawr Fel gwylwyr yn aros y wawrddydd, Fel byddin yn barod i'r gad, Diysgog ar lwybrau'ch dyledswydd, Heb laesu-mewn gobaith rhyddhad. Chwi ddewrion ebillwyr y creigiau, Os duach a'r cwmwl uwchben, Os deifio wna awel eich llwyddiant, Dieuog fo chwi o bob sen; Os atal eu tro wna'r olwynion, Os sychu wna dyfroedd y rhod, Fe erys colofnau'ch ymdrechion Yn addurn i'r oesau sy'n dod. ■uewi Sant, BENJAMIN THOMAS. I Bl. Ffestiniog.
0 Lanau'r Fachno.
0 Lanau'r Fachno. (GAN YR HEN DDYRNWR). DAN GWMWL.—Dydd Gwener diweddaf daeth y newydd gyda sydynrwydd i'n bro, fod chwarelwyr diwyd Rhiw Fachno yn gorfod gweithio 5 diwrnod. Taflodd y newydd hwn ein hardal dan gwmwl, gan nad oes ond byr amser er's pan y maent wedi dechreu gweithio amser llawn. Gresyn fod yn rhaid i'r chwarel- wyr druan dderbyn y dynghed hon yng nghanol haf, tra y gauaf a'i oer awelon yn tremio o hir- bell arno ni chafodd bron amser i ysgwyd caledi y gauaf diweddaf nac mae un arall yn i oddiweddyd, yr hen elyn angen i'w ei gwm- peini yn y dyddiau diweddaf hyn. Anhawdd yw dal gwynt y Gogledd, er yn dymhorol mae fel pe yn llesmeirio Cymdeithas ond er i'r newydd hwn ddyrysu llawer cynllun mewn llawer aelwyd a rhoddi rhyw drawsgyweiriad i'r gwenau; rhaid yw dibynu ar yr Un hwnw roes fodolaeth i bobpeth am gael awyr glir uwch ben masnach ein gwlad. PRIODAs.-Am unarddeg boreu Iau Gorph. 19fed yng Nghapel Rhydymeirch (M.C.) unwyd mewn glan briodas, Miss Kate Evans, Ddol: gyda gwr ieuangc o'r Bala. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. T. J. James, yn I mhresenoldeb y Cofrestrydd Mr. Alfred Hughes Llanrwst. Daetb llu o ewyllyswyr-da i weled rhoi iiw aur am y Ilaw,,ven, o. arwyddion a dymuniadau calon yn y cawodydd rice. Mae Miss Evans yn fawr ei pharch yn y Plwyf, a deallaf fod ei gwr yn ddyn ieuangc o gymeriad dilychwin. Dymunaf bob llwydd iddynt. PLESERDAITH.-Llun diweddaf, aeth ein Rheithor parchus agalluog y Parch. Ben Jones, a pobl ei ofal am bleserdaith i Landudno ar ei draul ei hun. Yr oedd natur ar ei oreu yn Llandudno, fel pe am roddi diwrnod hapus iddynt. Cawr y wybren yn ymddisgleirio ac yn taflu gwrid i'w gwynebau. Deallaf iddynt dreulio diwrnod hynod o ddifyr a didramgwydd. CRIBINION.- Y mae llawer o feibiom a merch- ed ieuangc yr ardal yn awr adref ar eu tro. Yn eu plith gwelais yr enwogion Mri. D. Ll. Morris, Dugoed; E. Hughes, W. J. Hughes, School House a John H. Richards, Park Hill; a'r bachgen ieuangc llygadgraff Tom bach, Tal- y-waen (chwedl hogia'r gymydogaeth). Hefyd yr hen General, Ellis Thomas (brawd Perthog) yntau wedi dod o'i deithiau morwral o wledydd tramor. Da genyf ei weled yn edrych mor dda, a thrwsiadus: prawf nad yn ofer fu effeithiau y Diwygiad arno, er wedi cefnu ar gartref. Hedd a hwyl i'r oil o honynt tra yma gyda ni. Llwyddodd Mr, Bob Thomas, Bryn Hyfryd (yr hwn sydd yn ddisgybl i Mr Price Davies, Post Office) i enill tair Tystysgrif Gerddorol beth amser yn ol; a nos Sadwrn diweddaf enillodd un arall. Yr arholydd y tro hwn ydoedd Mr. W. Jones, Gwern Howell, Ysbytty If an. Dyma un o'r ffyrdd i godi Cenedl, a gyru yr Hen Wlad yn ei blaen. I'w rhan eto deued myrdd o wenau dyrchafiad a llwyddiant. Gwelaf fod ygwronT. R. Jones, Ysw., Moss Hill, yn un o Feirniaid cwn yn Arddangosfa fawreddog Ardudwy. Ni raid dweyd am dano ef, ei fod yn feirniad campus. Mae wedi enill enw iddo'i hun ar gyfri ei orchestion yn ar- ddangos cwn.
Cor Cymreig i Ganu gerbron…
Cor Cymreig i Ganu gerbron y Brenin. Cafodd Cor Meibion Rhymni orchymyn i ganu gerbron y Brenin a buont yn gwneyd hyny yn Mhalas Buckingham dydd Mercher diweddaf. Dyma y waith gyntaf i gor Cymreig gael gorchymyn gan y Brenin Edward VII. Rhifa y cor tuag 85 o aelodau, y rhai ydynt oil yn lowyr. Yr arweinydd ydoedd Mr. Daniel Owen, yntau yn gweithio tan y ddaear. Ffurnwyd y cor hwn saith mlynedd yn ol, ac er yr adeg hono gwnaeth y fath gynydd fel y ystyrir ef yn brif gor meibion y Dywosogaeth. Enillodd dros ^450 mewn gwobrwyon er 1889. Yr oedd yn hwyr nos Sadwrn pan gafodd y Cor y gorchymyn i ymddangos gerbron y Brenin, a dydd Sul bu yr aelodau yn rhanu rhwng y gwasanaeth crefyddol a practice y cor yn weddol gyfartal, 'I ——.
Advertising
THE ?-? ? ?. ? NORTH WALES  CYCLE, MOTOR AND Uf¡, ,¡ rti j/ 0 T CO L-, SP R S C0- v\ ;'1'11 -f /]1:1 T\)' }'I N E W R 0 A D Blaenau Festiniog. Other Branches at Llandudno and Colwyn Bay. Beg to inform the Public:that they now show a Grand Selection of New Machin s from £ 5 to L15 15S following we knows Makers- II Humber, Rover. Singer, Swift, Raleigh, Premier, Budge Whitwcrth, New Hudson, Royal Welsh. on the Easy Payment system. Particulars on application. jTneflatest Two Speed Gear Machinelcomplete for Z12 12s Cash. We have the Largest and Cheapest List of Second SECOND-HAND. hand Cycles and Mail Carts in North Wales. Shall be pleased to send it to anyone on rece pt of Post Card All the best and latest Motor and Cycle Accessories kept in Stock, at London Store Prices TYRES from 7s 6d each. GAS LAMPS from 4s 6d each. Enamelling Platting and all kinds of Repairs executed at Reasonable Prices. Free Wheels I and Rim Brakes fitted to Old Machines also two speed gears. Catalogues and im es on Application. PRYNWCH EICH DILLAD YN Y MANCHESTER CLOTHING STORES, LLHNRWST, SALS STAWSl AR BOB MATH 0 IIKL Do L A DP, uIL WEDI DECHREU DYDD m&WJRTiS, MU.KSiJr.fil. it, AC I BARHAU AM DAIR Wythnos. 0. WILLIAMS. Beth am eich Siwt Newydd ? Dyma 'r ad-eg i roddi eich. arel-ieblorl. Deuwcli i weled y patrymau Newydd, Dewisiad rhagorol alll brisian isel. Gwneir i fyny Fretliymm wedi eu pryn u mewn ornr h yw fan. JOSEPH JONES, & SOUS, 2, Cromwell St., BI. Ffestiniog. OWENS & SONS, HAIRDRESSERS, &c., Have now opened at Garth Dderwen, Bettwsycoed All Business entrusted to them will have their prompt and personal attention. -:0:- Umbrellas Neatly Repaired and Re-covered. RAZORS GROUND AND SET. AT DRIGOLION BLAENAU FESTINIOG a'r CYLCH DYMUNA JOHN LOTT, CRYDD, BETH- ANIA, hysbysu y cyhoedd ei fod wedi ail ddechreu gweithio ar ol y ddamwain a'i cyf- arfyddodd. Teimlaf yn ddiolchgar am y gef- nogaeth a dderbyniais oddiar eich llaw yn y gorphenol, a hyderaf y caf yr un gefnogaeth eto yn y dyfodol. Gwneir fel arfer ESGIDIAU cryf ac ysgafn, a hefyd trwsir pob math o I Esgidiau. Gwarantir gwaith da a gonest am y j prisiau mwyaf rhesymol. "Ty a'i glod ar dant gwledydd, Tro i fewn-dy gartre' fydd." -:0:- GORPHWVSfA, HARLECH. C.T.C. QUARTERS. PRIVATE and COMMERCIAL HOTEL. GOOD ACCOMMODATION FOR CYCLISTS, TOURIST, &c. APARTMErTS. E. ELLIS, Proprietor. (YN AWR YN BAROD). Perlau'r Diwygiadau: sef Casgliad o Hen Benillion genid yn Nghyrddau Diwygiadau Cymru, gan JOHN OWEN. DOLWYDDELEN gydag Anerchiad gan y Parch. J. J. Roberts (1010 Caernarfon). PRIS TAIR CEINIOG. Dwsin ac uchod yn ddidraul drwy y Llythyr- dy am 2s 6c. Pob archebion i'w gwneyd Casglydd- Bwth Meredydd, Dolwyddelen. ipHE QFEAT SKIN CURE. BUDDEN'S S.R. SKiN OINTMENT. Budden's S.R. Skin Ointment will cure Itching after one application; destroys very form of Eczema heals old Wounds, and Sores acts like a charm on Bad Legs, prevents Cuts from Festering; will cure Ring-worm in a few days; removes the most obstinate Eruptions and Scurvy. Boxes 7d and Is lid. Agent for Blaenaa Festiniog- W. H. Parry, Chemist.—Agent for Portmadog—Ivor J. Jones, Chemist. Agent for LIanrwst-E. Evans, Chemist. DR. HRLET S MEAT AND MALT AND TONIC WINES. The Greatest Restoratives. A Nourishing Food, Prepared with Liebig's Meat, Extract of Malt and Matured Port Wine. DR. HALE'S COCA WINE. (THE GREAT NERVE TONIC). Prepared from the Peruvian Plant. Thousands of Testimonials have been received Among them the following DR. T. GREEN DE WOOLFSON, 7, Devonshire Street, Portland Place, London, writes :— "I have tried most of the Tonic Wines but none have I found give the relief in case of sleeplessness and netvous complaints as Dr. Hale's. I shall at all times recommend it. The Theatrical Profession highly com mend it for its sustaining power. AGENT:— Charlton's Stores, Family Grocers, Wine & Spirit Merchants, "WJilffitvsr. DANEDD riÁNEDD r — Bydd MR. WILLIAMS yn talu ymweliadau fel y canlyn BLAENAU FFESTINIOG, DVDD LLUN, a DYDD MERCHER, yn GARMON HOUSE. PENRHYNEUDRAETH ei weled bob DYI D IAU yn NHY MRS. KOBERTS.gyterl" ar GREFFIN HOTEL o 1 o'r giocb prydnawn hyd 4-30. PORTWIADOC Bob Dydd GWENER o 11 hyd 5 o'r glceh, >-g nhy MR. HUGHKi, STATIONER' 67, High Street. TRAWSFYMYDD, SADWHN laf a'r 3ydd yn mhob mis yn nhy Mr. M. W. MORRIS, Draper, Clifton Hous1 o 3 hyd 6 o'r gloch. Hefyd yn LLAN FFESTINIOG, bob 2 a 4 ddydd SADWRN, yn mnob mis, yn nhy Mr. R. E. JONES, Brvr House o 3 hyd 6 o'r gloch. LLAMRWST Bob dydd MAWRTH a DIWRNOD FFAIR o 1-50 hyd 5, yn nhy MR. LEWIS DAVIES, PARIS HOUSE, STATION ROAD. Qosodir mewn Aur, Platinum, Ebonite nen Vulcanite, am brisiau hynod o resymcL GWAREFTTIR FIT DDA Tynir neu llenwir dannedd naturiol, gosodir rbai newvddion yn y d Jliau diwedd- araf, a mwyaf celfyddydol. II L.tIAMS Garmon House, Olanypwll, BLAENAU FFESTINIOG
AANWYL GOFFADWRIAETH. ) A…
A ANWYL GOFFADWRIAETH. ) A 'F -R ANWYL GOFFADWRIAETH. I Jirn y diweddar Robert Jones, Oxford Ter- race (Bethesda gynt) yr hwn a hunodd yn yr Iesu dydd IauMawrth 15,1906, ac a gladd- Wydjyn Mynwent Eglwys St. Michael, Ffestin- 109 dydd Llun Mawrth 19, 1906. Dyma'r gwanwyn unwwaith eto, Gyda gwisg o ffurf y nef Bob amrywiaeth o bob natur, Dangos maent ei wyneb ef Ond beth yw tymor gwanwyn yma, I dragwyddol wanwyn draw; Lie mae holl ogoniant Dwyfol, Yn disgleirio ar bob llaw. O'r fath ddedwydd hAf sydd yno,- Stormydd gauaf, byth nid oes Ni fydd raid i'r blodyn gwanaf, Ofni yno farig nos Ni fydd raid i'r brawd a hunodd Brofi mwyach rin y Glyn Gan fod gwedd y Dwyfol yno, Yn agweddau Pen y Bryn. Os yw hiraeth yma'n para, Os mai wylo mynych sy Hiraeth oedd yn mysg Angylion Am ei gwmni fyny fry Os yn dawel yn yr Eglwys, Os yn ddistaw gwnaeth ei ran Nid yw Duw yn gofyn nemawr Ddim, ond goreu eiddil gwan. Llawer gobaith fu yn gwibio, Trwy ei feddwl lawer awr, Lawer noson bu yn gorwedd Yn hiraethu am y wawr Weithia'n deffro nghanol breuddwyd, Pan fa'i pryder gwyllt ei wedd. Yn ei fynwes wan ynbygwth, Agor iddo dywyll fedd. Llawer diwrnod cafodd gwmni, Pan fa'i hiraeth wedi dod; Pan fa'i eraill wedi cefnu, Cana'r hedydd bach ei glod Tybiai weithiau glywed canu, Amthen fawr Calfari-t fryn, Gyda'r llu o'r hen Emynau Ddysgodd yntau dro cyn hyn. Ymdrech wnaeth i ganu yma, Ar y ddaear er mor wan; Ond 'r addewid oedd i ganu, Pan gyrhaeddai arall lan AA/lr eddwl byddai am y diwrnod, ?awr y byddai ar ei daith; ( Dechreu canu, dechreu canmol,") ()c Yn mhen mil o oesoedd maith. 010, High Street. E. JONES,
BEN FYNWENT BETTWS' COED.
BEN FYNWENT BETTWS' COED. Hen lanerch oer, ddigysur, A'i gwedd yn welw, drom, Hen lecyn neillduedig I fod yn gartref Siom Gwarchodlu Teyrn y Beddrod Ar wyliadwriaeth 'roed,— I geisio cadw Gobaith o fynwent Bettws' Coed. O i hamgylch y mae natur A'i thanau bron yn fud, ^Gonwy ymlonydda Fel baban yn ei chryd Mae Rhyfyg ar ei eithaf, Yn ofni sangu 'i droed, I dori ar ddistawrwydd Hen fynwent Bettws' Coed. Hen randir y galaru, Dy ddaear sydd yn llaith, O'r dagrau a gostrelaist Ar hyd yr oesau maith Sawl enaid dan drallodion, A welwyd yma 'rioed,— Yn tywallt ffrydiau calon Ar fynwent Bettws' Coed. Holl genedlaethau'r ardal Ar hyd yr oesau fu, Orphwysant heddyw'n dawel 0 dan dy briddell ddu; Tylodion, a boneddwyr, 0 bob rhyw radd ac oed, Sy'n huno yn nhawelwch- Hen fynwent Bettws' Coed. A minau, y presenol Sy'n cyrchu tua 'i chol, Tros fryniau niwlog amser Yn gyflym ar eu hoi; Yn nghanol hoender bywyd Pob cam a 'rydd ein troed, Sy'n tynu i gyfeiriad Hen fynwent Bettws' Coed. Hen fynwent er y tristwch 'Mawr o dy amgylch sydd, Mae Gobaith trwy'r tywyllwch Yn canfod Toriad dyddj" Y dydd sydd wedi 'i selio Mewn Arfaeth fawr erioed,— Bydd Duw yn mynu 'i eiddo 0 fynwent Bettws' Coed, Bettws-y-coed. R. D. JONES,