Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

NODION O'R CYLOH. I

News
Cite
Share

NODION O'R CYLOH. I Ni welsom nifer mor fychan yn bresenol yn Nghyngor Dinesig Ffestiniog er ei ffurfiad yn Gyngor, ag oedd yno nos Wener diweddai dim ond deg allan o'r tri a'r hugain. Drwg genym fod un o'r aelodau ffyddlonaf—y Cyng- horwr Hugh Lloyd ynabsenol oherwydd af- iechyd. Cafodd darawiad 0 pleurisy y diwr- nod hwnw, ac hyd yn hyn nid yw wedi codi o'i wely. Cydymdeimla pawb ag ef yn ei wael- edd ac eiddunir iddo wellhad buan. Ond gwnaed gwaith da gan y ffyddloniaid ddaethant ynghyd. Pwysig iawn ydoedd y drafodaeth ar y cyflenwad Llaeth ddygir i'r ardal. Mae holl Gyngorau y wlad yn cael eu galw at eu gwaith yn nglyn a hyn gan Fwrdd y Llywodraeth Leol. Yr oedd awgrymiadau Dr. Jones ar y mater yn nodedig o werthfawr, a byddant yn cael eu corphori yn Man-ddeddfau newyddion y Cyngor, os daw y rhai hyny allan cyn y mil blynyddoedd: mae son am gael rhai wedi myn'd yn ddiflasdod, gan i hyny fod o'r naill Gyngor i'r Ilall oddiar ydym yn cofio. Mae'n bryd eu cael bellach. Gobeithio ein bod wedi clywed yr olaf am Ladd-dy Tynant. Pa sawl penderfyniad basiwyd ar y lie ? a sawl gwaith yr adroddodd yr Arolygwyr Iechydol yn anffafriol arno ? Yn sicr, fe ddylid bod yn sicr beth fyddis yn ei gylch cyn pasio penderfyniadau ar hwn nag unrhyw Ie arall. Gormod o frys sydd i basio pethau, ac wedi hyny eu gadael heb ddim pellach, a thuedd hyny yw gwanhau effeithiol- deb a dylanwad y Cyngor yn ngolwg y treth-I dalwyr wedi pasio peth, fe ddylid gofalu am ei gario allan; ond fel arall y byddis gan amlaf yn gweithredu. Gwir fod y Cyngor yn diwygio Ilawer yn hyn rhagor y bu, ond eto y mae lie. Hyderwn na welir cyfarfod mor ddiraddiol ac anfoneddigaidd byth eto a'r un fu yn Ys- tafell Undeb Llanrwst ddydd Mawrth diwedd- af. Gallasai unrhyw un ddigwyddasai fod oddiallan feddwl fod ryw ddwsin neu ddeunaw o wallgofiaid o'r Ty wedi eu gollwng at eu gilydd i walltio a rhegi y naill a'r Ilall, gan mor uchel y gwaeddiadau, ac afreolus oedd y gweithrediadau. Yr ydym o'n calon yn gres- ynu gweled gwr o safle y Parchedig John Gcwer yn ymostwng i dir morisel ag y gwnaeth ddydd Mawrth. Er pob ymdrech o eiddo y Cadeirydd i gadw trefn, yr oedd ef yn myned ar draws pob rheol. Pa reswm sydd dros fod yn rhaid iddo ef gael siarad laweroedd o weith- iau ar yr un peth, a gwaeth na hyny, siarad ar draws pawb fel pe heb fod yn mysg pobl war- eiddiedig erioed. Fe wyr Mr Gower yn eithaf da sut i ymddwyn, ond y mae ei dymer mor danbaid fel ag i'w arwain dros ben pob gwedd- usder a threfn, ac yr oedd yn eithriadol felly ddydd Mawrth. Mae, er bob ffrae yn faddeu- gar a diedliwgar ac yn ddiddadl yn gofidio awer am y pethau a ddywed pan wedi cyn- hyrfu. Anffodus iawn yw y drafodaeth barhaus a godir yn nghylch gwaith Meistr y Ty yn dywed- yd wrth y Weinyddes Gyhoeddus am beidio ymweled a'r lie. Yr oedd yr hyn wnaeth y Meistr yn hollol iawn, gan nad oedd eihangen. Mae yn syndod i ni paham y codir y fath gyn- wrf am y peth. Buasem yn hoffi gwybod gan aelodau y Pwyllgor ar ba dir y grwgnachaat ? Golyger fod gwasanaeth y Weinyddes yn cael et. ofyn gan rhyw deulu oherwydd afiechyd, ac wedi iddynt wella, iddi gael gair na byddaieisiau ei galwadau yn hwy, a ydyw hi yn hawlio cael niyned yno er y cwbl ? Os nad ydyw, paham yr hawlia gael myned i'r Tlodty y mae Mr. a Mrs. Thomas yn gyfrifol am dano ? Galwyd Mr. Thomas i'r Bwrdd i roddi ei reswm yn Ilawn dros atal y Weinyddes ddod i'r Ty ond gwaeadwyd yn ei wyneb am beidio dywedyd ond darn o'i adroddiad, fel y mae y mater yn awr yn waeth nag oedd, a'r cyhoedd yn rhwym ° fyned yn ddrwg dybus. Dalasai y Meistr gael dywedyd yr oil oedd ganddo. Ffolineb ™gymysg y w son fod y Reporters yn bresenol tei esgusawd dros gadw pethau o dan len, boed Y cyfryw dda neu ddrwg ni raid ofni goleu 08 yw pobpeth yniawn. Os gwuaeth y Nurse gamgymeriad, neu os gwnaeth y Meistr hyny, myneger y peth er mwyn i'r naill neu'r llall gael cyfle i'w uniawni. Bellach ofnwn y rhaid cael adroddiad llawn, er mwyn y Meistr, ac er mwyn y Nurse. Yr oedd yr achos teuluaidd o Eglwysbach, ^ndawyd yn Heddlys Llanrwst, yn un eithriadol o ofidus, a chafwyd prawf eglur na ? 5 eini y par ieuangc yn agos mor ddoeth ag Y ylasent fod yn nglyn a'r plant. Y mae gweled pobl ieuangc fel hyn, bron newydd hf1dl, yn mynychu y Llysoedd i wario eu hariar, mwn cyfreithio, ac i wyntyllio eu ?mgylchiadau teuluaidd o flaen y byd, yn beth i resynu ato. Nid oes dim, mewn modd Yn y byd, yn cyfiawnhau y fath beth. a da y Qae y cyfreithwyr ddod a'r pleidiau i delerau; a bendith ar ben y Milwriad wrth OfYn i'r ddau dad ysgwyd dwylaw yn y Llys. de1era.^ r 8d°dbaei! itllio y buasai hyny yn derfyn ar vr h f helynt, drwg genym ydoedd cael ar ? fod yr achos i ddod yn mlaen yn yr UcVi e yr wythnos nesaf. Gyda Haw, ar pa ,jjr mae Cadeirydd yr Ynadon yn dangos y fath^ ^S>yd chwerw a anoddefgar pan fydd tvst 1S1^U siarad yn Gymraeg? Os nad yw ef vn ?H Wls gwrandaw ar Gymro uniaeth yn rhnrP- 4i dystiolaeth yn ei iaith ei hun, dylai beidio eistedd ar y Faingc o gwbl. Y mae WPH; myned yn ormod o ddydd i'r Cymro gym- ervd /\Sarha" yn ei wlad ei hun, oherwydd siar ohono ei briod-iaith; ac ni oddefir hyny law ? hwy, heb i'r awdurdodau priodol gael gal?v eu sylw at y mater.

T refriw.I

LLANRWST. I

[No title]

HEDDLYS LLANRWST. I

DIOLCHGARWCH.I-I

IMilwyr Afreolus a Thrystfawr.

ADOLYGIAD.

MARWOLAETH MRS. WILLIAMS,…

IY Cor Cymreig o flaen yI…

Etholiad Bodmin. - I

Cariad Cyntaf ei hail Wr.…

Bil y Ci.

I BLAENAU FFESTINIOG.I

Advertising