Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
STAR SUPPLY STORES, Ca Ex D er ts. entral Groce s and roiu merchants. STARAGALLA TEA, best value, is. 4d. & is. 6d. per lb., in Quarter, Half, & One Pound Packets. Other Blends of Tea, 1/ 1/2, 1/8, 1/10, and 2/ 1, BUTTER. Star Cream, The Finest | 11 d. Star Prints, DeHcious j ?? ?' CHEESE. PALE or COLOURED, 74d. per lb. BACON. Mild Streaky, Pale, per lb. 7d. Rolled, Smoked or Pale, tl 7.1d. Danish, Pale, by the Side „ 8d. I 11 HAMS. Breakfast, Pale, per lb. 7d. Picnic, Pale, per lb. 5AcL Orange Marmalade, per 21b. jar, 6d. Strawberry Jam, per 21b. jar, 9d. Damson Jam, per 21b. jar, 7Jd. Delicious, Cakes, always Fresh, a large choice. Biscuits, all leading kinds stocked. Come to us for all Groceries. Our Tinned Fruits, Fish and Meats, Tongues, &c., are imported direct from the Packers, we are therefore able to give finest quality at prices charged by our competitors for common goods. Apricots, Pears, Peaches, Pineapple, Salmon, Lobsters, Sardines, Roast Beef, Corned Beef, Lunch Tongues* Ox Tongues, Rabbits, Tomatoes, &c., &c. t Mote the Name and Address- Star Supply Stores, 30, Church Street, Bl. Fesfrmirtgr
NODION 0 DOLWYDDELEN.I
NODION 0 DOLWYDDELEN. I GAN DRAENOG. I DAMWAIN ETO.-le damwain ddifrifol eto I ar y ffordd yn Mwlch y Gorddinen a'r tro yna i Mr. E. Bleddyn Lloyd. Dychrynwyd ei ¡. anifail y marchogai arno gan drwst Motor Car- nes y taflwyd Mr. Lloyd, ac y mathrwyd ef o dan ei draed. Mae'n parhau mewn poenau mawrion. Sicr genyf fod darllenwyr y RHEDEGYDD yn un yn eu dymuniad am ei adferiad. Gofelir am dano gan Dr. Jones, Isallt, a'igynorthwywyr. MARW A CHLADDU.—Crybwyllais am far- wolaeth Mr. Robert Owen, Clanaber yr wyth- nos ddiweddaf. Yr oedd yn garcharor gan ei afiechyd er's misoedd rai. Cafodd gystudd maith a chaled, fel mai trugaredd ag ef ydoedd iddo gael gollyngdod drwy angeu; eto anhawdd iawn ydoedd gollwng gafael o hono. Gadawodd weddw a plant ar ei ol yn anialwch y byd i alaru wedi colli un fu yn ben teulu gofalus am flynyddau lawer. Claddwyd ef prydnawn dydd Iau yn Mryn-y-Bedd. gan dyrfa luosog. Yr oedd yn aelod o Gyfrinfa yr odyddion, a hwynt hwy oedd i cymeryd y rhan amlycaf yn y gladdedigaeth gyda cludo y corph. Aeth y Parch. A. D. Thomas, drwy y gwasanaeth claddn yn y Ty, ac ar lan y bedd. Y mae fy nghydymdeimlad.dwysaf a'r tenlu yn eutrallod a'u hing. CYFNEWIDIAD.—Yr wythnos ddiweddaf bu tipyn o gyfnewidiad yn rhenc ein llythyr glud- wyr. Y mae Mr. H. O. Hughes wedi ei symud i Llandudnoy mae hyny yn ris yn uwch iddo gydai waith Ac mae Mr. John Williams, Minffordd (gynt o'r Hendre,) wedi ei apwyntio I yn ei le. Pob llwydd i'r ddau yn eu cylch newydd.
ITalyeafn. I
Talyeafn. I TRF-NGHOLIAD.-Dydd Llun, o flaen Mr. Robert Davies, Trengholydd Dirprwyol gwnaed ymehwiliad i achos marwoiaeth Mr. William Pitt, cigydd o Northampton, yr hwn a gollwyd er'r dyddiau o'i lety ynLlandudno, a'r hwn le yr oedd ar ymweliad er's rhai wythnos- au. Diflanodd heb i neb wybod dim o'i hanes. ond dydd Sadwrn bu i rai oddiar Bont Conwy weled corph yn cael ei gario i fyuy'r afon. Awd i fyny ar ei ol mor ?uan ag y gallwyd, a daethpwyd o hyd idno gerllaw Talybont. Dywedodd ei chwaer ei fod ar goll er Mehefin 29ain. Dychwehvyd rheithfarn o "cafwyd wedi boddi." Pasiwyd pleidlais o gydymdeim- lad a'r teulu.
IHarlech. -I
Harlech. I CYRHAEDD Y NOD.—Llawenydd i'n calon ydyw y ffaith fod ein cyfaill ieuainc ymroddgar Mr. Rt. Hugh Davies, wedi enill ei B.A., yn Mhrifysgol Cymru. Gwyddis mai mab i Mr. R. Davies, Glo-fasnacbydd o'r dref hon ydyw y dyn ieuanc gobeithiol hwn. ac nid yn ami y gwelir neb wedi cyrhaedd y safle wir anrhyd- eddus hon, drwy gymaint o anhawsderau ag ef. Am hyn yr ydym yn ei longyfarch o eigion calon, a dymuno iddo oes faith bellach i wasan- aethu Duw yn mhwlpud ei Enwad. Hwn am Raddau a hunan ymroddodd, 0 boen "gwir addysg" y ban gyrhaeddodd. Rhanau o'i 'stadau 'rhei'ny astudiodd, A'i huchel fanau ell chwilio fynodd, Ac a'r yni coronodd,-mewn B.A., A rhoes y gore i'r Iesu garodd. Glanypwll. G. G. THOMAS. I
I Cyngor Gwledig Geirionydd.…
Cyngor Gwledig Geirionydd. I Cynnaliwyd cyfarfod arbenig o'r Cyngor uchod yn Ystafell y Bwrdd, Llanrwst, dydd Mawrth dfweddaf. Yr oedd yn bresenol Mri. E. J. Williams (cadeirydd); O. E. Parry, Ellis Pierce, Dolwyddelen: Evan W. Roberts, Ed. Roberts, Penmachno; Matthew Roberts, Capel CurriS; R. G. Ellis, Trefriw; R. R. Owen (clerk) ac R. H. Williams (arolygydd). Amcan y cyfarfod oedd derbyn adroddiad y Peirianydd a'r Ddirprwyaeth benodwyd yr wythnos flaenorol i edrych i mewn i stad Gwaith Dwfr Cwm Penmachno, Dangofai adroddiad y Peirianydd fod amryw bethau yn anorphenol, ac amryw fan ychwanegiadau yn angenrheidiol cyn y byddai y gwaith mewn cyflwr parod i'w gymeryd drosodd. Gelwid sylw y Contractor at ddiffygion y gwaith. Mewn atebiad i hol- iad y Cadeirydd dywedodd Mr. Williams yr J Arolygydd bod y diffygion yr adroddwydarnynt yn ymddangos yn llawer ar bapur ond y gellid eu cwblhau mewn rhyw wythnos, Hysbysodd y cadeirydd eu bod wedi derbyn rhybudd i wneyd assessment newydd yn mhlwyfi Trefriw, Llanrwst, Bettws-y-coed. Dolwyddelen a Phenmachno yn ngwyneb y trethiant ychwanegol ar gyfrif y Gwaith Dwfr uchod. Cyflwynwyd y mater i ofal yr overseers,
Bettws-y-Coed.
Bettws-y-Coed. MARWOLAETH.—Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth Mrs. Mary Evans, Glan- rafon Cottage, Bettwsycoed, yr hyn gymerodd le dydd Gwener. Gorphenaf 6ed, yn 68 mlwydd oed, ar ol cystudd trwm, yr hwn ddioddefodd yn hynod dawel a dirwgnach. Claddwyd ei gweddillion Gorphenaf 10, yn Eglwys y Plwyf. Gwasanaethwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parch. H. Rawson Williams, M.C., ac yn yr Eglwys gan y Parch. R. Jones. Heddwch i'w llwch. PENODIAD.—Llongyfarchwn Cwmni Hafod- las Slate Quarry yn eu gwaith yn penodi Mr. William Moses Roberts, Gethin Terrace, yn oruchwyliwr yn y lie uchod. Mae yn ddyn sydd yn deall ei waith. Dymunwn ei lwydd- iant, ac y bydd yn lied fuan yn abl i gymeryd rhagor o ddwylaw i mewn, ac y bydd y chwarel uchod yn gaffaeliad i'r ardal yn y dyfodol. Parhau i fyned yn mlaen yn llwyddianus mae Cwmni Coedmawr Pool Mine. Y Sabboth nesaf pregethir yn nghapel Bryn- mawr (M.C.). gan y Parch. John Jones, Llan- drillo; Yn nghapel y Tabernacl (A.), am 9-30 a 6 gan y Parch D. Miall Edwards, M.A.. Aberhonddu. English Service 11 a.m. Cyfarfu Pwyllgor Llenyddol Brynmawr nos Fawrth, er mwyn darparu ar gyfer cyfarfod a gvnhelir ddechreu y flwyddyn nesaf.
---LLANRWST.
LLANRWST. DALIER SYLW.—O hyn allan, cyfeiriwch bob Gohebiaeth ac Hysbysiadau, trwy yr holl Gylch, at- DAVIES & CO., Rhedegydd Office, Blaenau Ffestiniog. St. Crwst-11, Parch. T. Felix. 6, Parch. J. Morgan. St. Mary.-10-30, Parch. J. Morgan. 6, Parch T. Felix. Seion.—Parch. T. E. Roberts. M.A., Aberys- twyth. Scotland Street-Mr. R. Jones. Tabernacl-Parch. Davies, Aberafon. Ebenezer-Myfyriwr o Goleg Bala-Bangor. Horeb-Mr. W..Roberts, Maentwrog. St. James-Mr, Tomkinson, Colwyn Bay. Penuel-Parch. O. Davies, D.D., Caernarfon. ANRHYDEDD.—Nos Lun yr oedd ein cyd- drefwr poblogaidd, Mr. W. G. Owen, Metropolitan Bank, yn Llywydd un o gyfarfod- ydd Dirwestol Undebjyr Anibynwyr Cymreig yn Blaenau Ffestiniog. Traddododd un o'r anerchiadau mwyaf teimladwy ac argyhoedd- iodol yr Wyl. Boed bendith ar ei ben ef a'i deulu. YMADAEL.—Drwg genym fod Mr. W. Hughes, Roewen, am ein gadael am Lundain. Bu yn London House am bedair blynedd, ac yr oedd ei sel gyda phethau crefydd yn amlwg iawn, yn neillduol yn ystod y Diwygiad. Una pawb i ddymuno yn dda iddo. YMWELIAD.-Dydd Sadwrn, bu Seindorf Freiniol Oakeley ar ymweliad a'r dref. Yr oedd eu' hymddangosiad yn ein plith yn lloni y lie, a chawsant dderbyniad calonogol. Brysied y cyfeillion yma eto. PLESF-RDF-ITHIAU.-Dydd Iau ydoedd uchel wyl pleserdeithiau yr ysgolion Sul trwy y dref. Aeth yr oil o honynt oddigerth Penuel, i LlaIÎ- dudno, a mwynhawyd y daith yn fawr iawn; a'r un modd y bu gydag ysgol Penuel ar Ian Llyn Ogwen. "Rhai i'r mor a rhai i'r mynydd," ydyw o hyd yn ein plith; a phawb er hyny yn gymydogion da a chyfeillgar. CYFLOGI.-Cyflogi gweithwyr i'r cynhauaf gwair ydoedd prif waith y Farchnad ddydd ( A Mawrth. Rhoddid o il i 22s o gyflog i blad- urwyr. Gwerthid yr ymenyn o 9i i 10J y pwys. Wyau 13 am swllt. Cywion o 3s 6c i 4s 6c y cwpl. Yr oedd hon yn farchnad boblogaidd. PAROTOI.-Mae swn parotoi at Eisteddfodau Corwen a Chaernarfon. yn mhlith meibion y dref a'r cylch. Gwasanaethai Mrs. John Wil- liams, Metropolitan Bank, fel cyfeilyddes.
Cyfarfod Misol Dvffrvn Conwv.
Cyfarfod Misol Dvffrvn Conwv. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn Nant-bwlch- yr-heyrn, Llanrwst, ddydd Iau a Gwener, a chafwyd hin, cynulliadau, a chyfarfodydd nodedig o ddymunol.-Yn y cyfarfod am 10 y boreu, derbyniwyd a chadarnhawyd adroddiad y rhai fu'n edrych i mewn i achos yr anghyd- welediad yn Eglwys Pensarn, Llandudno Junction.—Rlioddwyd'derbyniad croesawgar i'r Parch. J. O. Jones, gweinidog ieuangc y Cyfyng a'r Tabarnacl.-Cyflwynodd y Llywydd,—y Parch. R. Rowlands, Llanrwst y gadair i'w olynydd,-Mr. David Jones, Llwynfryn, Llan- dudno, a diolchwyd i Mr. Rowlands am ei wasanaeth yn ystod y flwyddyn.-Yn y pryd- nawn, cafwyd hanes yr achos yn y lie, ac yr oedd yn bur foddhaol ar y cyfan.-Gohiriwyd pwngc y Gymanfa Gerddorol hyd y Cyfarfod Misol yn Llanrwst.—Gohiriwyd trafod y mater gosodedig gan nad oedd yr un benodwyd i'w agor yn bresenol.—Pregethwyd yn yr hwyr a dydd Gwener gan y Parchn. Lewis Williams, Owen Williams, R. Roberts, a W. Jones.
Cynhadiedd Meddygon Gogledd1…
Cynhadiedd Meddygon Gogledd 1 Cymru. Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Undeb y Meddygon yn Llandudno ddoe, ddydd Mercher. Y Cadeirydd eleni oedd Dr. Jones, Isallt. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Ni welwyd cystal cynrychiolaeth dan unrhyw amgylchiad- au. Traddododd y Cadeirydd araeth alluog ac amserol a'r U Fwydydd, a'u dylanwad ar afiechydon arbenig." Creodd yr araeth hon ddyddordeb arbenig; a disgwylir am dani mewn llawer cylch tuallan i'r Undeb; a hyder, wn na siomir disgwyliadau neb. Byddai dar- lleniad ystyriol o honi yn fendith i'r wlad.
T rawsfynydd. I
T rawsfynydd. I ENILL CADAIR ETO.—Dyna ydyw hanes y Parch. J. D. Richards, gweinidog galluog Ebenezer. Enillodd gadair dderw hardd, a f 3 o wobr. yn Hendre, ger Amanford, ei ardal enedigol. Dangoswyd yno lawenyddmawr pan ddeallwyd mai un o'i phlant oedd y buddugol.
[No title]
Y METHODISTIAID. ENGEDI.-Parch. Thomas Lloyd, Llanberis. PENIEL.—Parch. R. Hughes, Chirk. BETHESDA.—Parch. J. O. Jones, B.A., Bala.. TABERNACL.—Parch. Edward Joseph, Garn. GARREGDDU.—Parch. R. Richards, Rhyl. MAENOFFEREN.—Parch. R. R. Morris, BOWYDD.—Parch. Hugh Pugh, Dinbych. RHIw-Parch. J. Pryse Davies, M.A., Caer. TANYGRISIAU.—Parch. J. Williams, B.A., Wrexham. CAPEL SEISNIG (English Chapel).—Rev. E. H. Williams, Kassia Hills. YR ANNIBYNWYR. BETHF-L.-10, Parch. J. Williams-Davies. 6. Parch. R. Talfor Phillips. HYFRYDFA.—10, Parch. R. Talfor Phillips. 6, Parch. J. Williams-Davies. BETHANIA.-Parch. 0. Lloyd Owen, Birken- head. BRYNBOWYDD.-IO, Parch. T. Griffiths, Salem. 6, Parch. George Davies. B.A. CARMEL.—Parch. G. Griffihs, Drefnewydd. JERUSALEM.—Mr. J. Vernon Lewis, B.A. B D.. Coleg Mansfleld. SALEM.-IO, Parch. J. Rhydwen Parry. 6. Parch. T. Griffiths. Y WESLEYAID. DISGWYLFA.-IO, Mr. W. Williams, Rhiw. 6. Mr. Rd. Roberts. SOAR, RHIW.—10, Parch R. Morton Roberts, 6. Brodyr oEbenezer. EBENEZER.—Mr, Rd. Roberts. Parch J. Lloyd Jones, Headingly College. TANYGRISIAU.-2, Parch. R. Morton Roberts. 6, Mr. T. Williams. FFESTINIOG.-IO, Parch. J. Lloyd Jones. Headingley College. 6, Parch R. Morton Roberts. Y BEDYDDWYR. PISGAH.-Am 10, Mr. William Humphreys, am 6, Mr. R. Williams. CAERSALEM.-Am:6, Mr.:W. Humphreys. CALFARIA—Parch. E. Cefni Jones. MORIAH.-Parch J. Griffiths, Bodedyrn. SEION —Parch. Moses Roberts.
Advertising
Manchester Clothing Stores. 51ALE FAWR. YN DECHREU Dydd Mawrth Nesaf D. WILLIAMS. Manchester-Cloth i g Stores. Festlniog County SchoolT Old Pupils' Association. A MEETING will be held at the County School, at 7 p.m., on THURSDAY. JULY 19th, to consider important matters. All Old Pupils are requested to attend.—SEC. Sales by Robert and Rogers Jones, Llanrwst. Monday, July 23rd, PERIODICAL SALE at TALYCAFN MART, Fat Store Cattle, &c.
[No title]
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Davies & Co., yn eu Swyddfeydd, High Street, a Church Street, Blaenau Ffestiniog.
Family Notices
Priodasau. ROBERTS-THOMAS.—Gorph. 5ed, yn Nghapel Catherine St., Liverpool, gan y Parchn. T. Cray, W. Jones a G. Jones, Mr. R. D. Roberts, U.H., Bronygraig, Corwen, a Miss Emily Thomas, merch ieuengaf Mr. R. Thomas, Plas Issa, Penmachno. JONES-HUGHES. -Gorphenaf lleg, yn nghapel Bethania, Bl. Ffestiniog, gan y Parch. Geo. Davies, B.A., Mr. J. Morris Jones, Hafod- ruffydd, a Miss Hannah E. Hughes, Gwynfa, Manod Road, BJ. Ffestiniog.
Family Notices
Marwolaethau. JONEs.-Gc,rph. 6ed, 1906, Mr. Owen Jones, Rhiwbach, Cwm Penmachno. yn 42 mlwydd oed. Gadawond weddw ac wyth o blant. Claddwyd ef yn mynwent Penmachno. EVAN s.-Gorphenaf 6, yn Glan yr Afon, Bettwsycoed, Mrs Mary Evans, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o Criccieth ond ar ol priodi daeth i fyw i Tanygrisiau, Bl. F?estiniog ac oddi yno ar ol colli ei phriod daeth i fyw i'r gymydogaeth hon er's dros 20 mlynedd, ac nid oedd yma neb yn fwy ei pharch na hi. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o'r trigolion, yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid. Cafodd gladdedigaeth barchus prydnawn Mawrth diweddaf yn Mynwent eglwys y Plwyf. WYNNE.—Gorphenaf 2fed, bu farw Mrs. Robt. Wynne, George Street, Llanrwst. Cladd- wyd hi dydd Gwener. Genedigaethau. OWEN.—Dydd Iau, Gorphenaf 5ed, 1906. priodMr. Thomas Macaulay Owen, 98, High Street, Blaenau Ffestiniog, ar fab, (cyntaf- anedig) ROWLANDS.—Dydd Sul, Gorphenaf Sfed, 1906 priod Mr. Evan Rowlands, Swyddfa'r RHEDEGYDD, ar ferch. WILLIAMS— Gorph. Sfed, priod y Parch. W. J. Williams, (v/), Eghvysbach, ar ferch (cyn- tafanedig).
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIC.
Parhad o Tndalen 5. Ysgolion Caerdydd, ond apeliwyd at etholwyr y dref, a phleidleisiodd 11 mil, ac yr oedd yn agos ichwe' mil dros y Gymraeg. Ond gofal- odd athrawon Caerdydd am ei wneyd yn feth- iant hollol cyn pen dwy flynedd; ond nid oedd-1 ynt hwy wedi marw, ac ail godwyd y peth, gyda rhybudd i bob athraw nad oeddynt i wawdio y Gymraeg neu y gelwid hwyto books. Yr oedd yr athrawon yn awr yn llawn sel dros yr Iaith. Yr oedd yn gywilydd meddwl fod y rhai hyn yn defnyddio eu cyfie i wawdio y wlad a'r iaith. 3, Rhaid cael awyrgYlch mwy Cenhedlaeth- ol i'n Prif Ysgol a'n Colegau. Rhaid cael awyrgylch genhedlaethol i'r Pwyllgor Gwein- yddiadol Safonol, ac yn arbenig i Senedd y Brif-ysgol. Yr oedd gormod o Saeson ar y Senedd, a rhaid oedd cael diwygiad ynddi. Nid oedd ynddi ddim cydymdeimlad a Chymru na dim gwybodaeth am ein llenorion. Tri o fwyafrif a gafwyd i roddi D.D. i'r Prif-athraw T. Charles Edwards, ond unfrydedd hollol dros Mr. J. Chamberlain. Pan ddaeth enw Mr. Elfed Lewis, o flaen y Senedd am Radd, nid oedd llawer o honynt yn gwybod dim am dano, ac ni wyddent fod gan Gymru Feirdd ( Rhaid cael newid pethau. 4. Rhaid cyfaddasu yr addysg at angenion presenol Cymru. Cyfaddasu yr addysg at alwadau y Ileoedd yr oedd y myfyrwyr i'w llenwi. Dysgir sut i wneyd mymryn o lobs- caws yn awr, ond y ffaith oedd na wyddai haner cant o bob cant o'n mherched sut i goginio ychydig o gig. Dylid dysgu y merched i drwsio hosanau a dyledswyddau eraill fel ag i'w haddysgn at fod yn wragedd teilwng a mamau gofalus, yn lie gwneyd snobs o honynt. Elai 80 y cant o'r dynion ieuaingc i'r gwahanol alwedigaethau. Ysgotyn oedd yn mhob swydd yn awr o'r Game Keeper i'r Esgob. 5. Rhaid gofalu rhag i gagendor gael ei sefydlu rhwng y presenol a'r gorphenol yn addysg ein gwlad. Yr oedd yn gallu edrych yn ol gyda mwynhad at hanes sefydliad Coleg Aberystwyth. Sefydlwyd ef gan ddynion crefyddol, a gofalai y Prif Athraw Edwards am gadw awyr grefyddol yno dechreuid y dydd trwy ddarllen rhan o air Duw a gweddio. Yn nghrefydd y wlad y cychwynid addysg Cymru. Y mae perygl yn awr fod hyn yn cael ei anghofio. Beth am fwy na haner athrawon ydynt allan o gylch crefydd yn gyfan-gwbl, a rhai o honynt yn crechwen ar ben (sneer) ein crefydd. A ydym am oddef hyn? y mae yn bryd "siared yn eglur a digel Beth am y cyngherddau ysmygu, a'r yfed oedd ynddynt ? Gwyddai y caffai ei erlid am ddywedyd hyn, ond ni allai oddef edrych ar ei wlad anwyl a'i sefydliadau addysgol yn cael eu llusgo i lawr i gorbwll trueni gan bobl fel hyn ydynt yn ang- hofio Duw a'i air, (cym.) 6. Rhaid cau allan Enwadaeth'a chlerigiaeth o addysg Cymru. Y mae y mesur Addysg newydd yn darparu at hyn. Dylem wneyd ein goreu o'r Mesur a ni chaiff neb ein pluo fel y buont. Yr oedd hen wraig yn Maldwyn wedi rhoddi brag haidd i'r gwyddau, bwytaodd y rhai hyny mor helaeth o hono nes meddwi a chysgu, a chan feddwl eu bod wedi marw, plu- odd hwynt i gyd. Ganol nos clywodd yr hen wraig y gwyddai yn gwaeddi a chododd. Dyna lie yr oeddynt yn rhedeg o gwmpas y ty yn holloi noeth ac yn clegar yn enbyd. Wel, meddai yr hen wraig, "Y gwydde gwirion. pam na fase chi'n gwaeddi'n gynt ?" Fe god- wn ni ein lief yn ddigon buan fel na chaiff neb ein sarnu, na gwarthruddo ein cenedl a'n gwlad ond hyny, (cymeradwyaeth hirfaith).