Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"GWNA'N LLAWEN WR IEUANC."

DRINGO'R WYDDFA. I

I ER COF I

I BLODEUGLWMI

News
Cite
Share

I BLODEUGLWM Ar Fedd y Cyfaill ieuainc Johnnie Williams, Bryntirion, Glanypwll. Dyffryn galar ydyw'r ddaear, Angau'n eistedd ar ei sedd Nid yw'n arbed gwreng na bonedd- Harddwch corph na thegwch gwedd: Llaith yw'n gruddiau'n ami gan ddagrau Galar welir ar bob llaw, Gan fod ef yn deyrn marwolaeth Mae ei ymweliad yn creu braw. Ond i'r Saint mae'n gymwynaswr Iddynt hwy rhyw genad yw, Yn eu dwyn ar edyn Cariad I gartrefu gyda Duw Johnnie Williams—gyfaill ieuaingc Rhoddodd arno yntau nod, Ac fe'i dygodd i ogoniant Pan ar derfyn ugain oed. O'r fath siomniant i ni ydoedd, Gwedd yn gwywo'r bachgen hardd Oedd fel rhosyn yn ymagor, A'i berarogl lon'd yr ardd; Ond mae wedi gadaei perlau Nad anghofir mohonynt byth, Pan yn plygu wrth yr Orsedd Byddai'n llawn o dan y gwlith. Yno yn wylaidd y gweddiau j Dan deimladau dwysion iawn, 0, mor felus y gweddiai- Am faddeuant yn yr lawn Pwy a all anghofio ei weddi Gyda'i ddagrau mawrion hardd, Pan yn myn'd i Gethsemane- Cofio am riddfanau'r Ardd. "Iesu Anwyl," oedd ei weddi, Rwyt i mi yn Fugail Mwyn, "Iesu Anwyl," gad i minnau Gael gwneud rhywbeth er Dy fwyn; "Iesu Anwyl gwna fy arwain Nes y delo foes i ben, Fel y caffwyf Dy folianu A rhoi'r Goron ar Dy ben." Mae rhyw awydd arnaf finnau Am gael codi cwr y lien, I gael gweled Johnnie Williams Yn rhoi perlau ar Ei ben; Plygu Iddo mewn addoliad Am Ei gariad mawr a roes, Ac yn diolch i Simeon- Am Ei helpu i ddwyn y Groes. Chwyddo'r gan bydd mwy i'r Ceidwad Uwchlaw gofid, cur, na phoen, Heb ddim llesgedd mwy i'w flino Yn mwynhau tragwyddol hoen Rhybudd dwys i'r ieuaingc ydyw- Rhoi yr Iesu yn uchaf nod, Cofio o hyd fod Johnnie Williams Yn ei fedd yn ugain oed.

Advertising

[No title]

| PENRHYNDEUDRAETH. I