Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
THREE SPECIAL LiilES FOR THIS WEEK ON y. Ladies Jap Silk Blouses, Trimmed Val Lace, 2s. llid. j Ladies White Underskirts, Trimmed Torchion Lace, ls. Hid. j Children's White Pique Coats, 21 inches, Trimmed Embroidery, Is. lid.    (LLANRWST)    W. S. WiLLIAmb? <L~' NEW LONDON MUUb? 1 BLAENAU FESTIIMIOG.
BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mri. Owen Jones, (Cadeirydd) William Williams, Edward Llewelyn, E. M. Owen, Dr. R. D. Evans, John Williams, Richard Williams, Owen Hugh Lewis, G. Parry Jones, John Roberts, (Trawsfynydd) J. R. Jones, (Gerallt) Mrs. Casson, Thos. Roberts, (clerc) David Jones, (clerc cyn- orthwyol) D. J. Jones, (Meistr y Ty) Rd. Parry, William Thomas, a J. Bennett Jones, (swyddogion elusenol). YR ELUSENAU A'R TLODION.—Yn nosbarth Tremadoc, talodd Mr Richard Parry yn ystod y bytbefnos diweddaf £72 6s, rhwng 240 o dlodion, ar gyfer £ 77 4s 6c rhwng 274 o dlod- ion yr un tymor y llynedd, gofynoddam £ 73 at alwadau y bythefnos nesaf. Ye nosbarth Ffestiniog talodd Mr William Thomas, 346 o dlcdion £ 106 14s 7c, ar gyfer £94 16s 9c rhwng 321 yr un amser y llynedd, a gofynodd am £ 102 at y bythefnos nesaf. Yn nosbarth Deudraeth talodd Mr J. Bennett Jones £ 72 Is 6c, rhwng 282 o dlodion, ar gyfer 74 13s Ic rhwng 290 o dlodion, a gofynodd am 72. Cyfanswm v taliadau £ 251 2s Ic rhwng 868 o dlodiod ar gyfer £ 246 15s lie rhwng 882, a'r gofyniadau yn £ 247. Dangosa yr uchod gynydd o £ ll 17s 10c yn nosharth Ffestiniog, a lleihad o .£4 18s 6c yn nosbarth Tremadoc a .£2 13s 2c yn nosbarth Deudraeth. Yr oedd f306 12s 3c yn yr Ariandy yn ffafr y Bwrdd. TRWSIO ESGIDIAU.—Rhoddwyd gair uchel i wraig o Danygrisiau oedd wedi anfon esgidiau y plant i'w trwsio,—Y Cadeirydd a ddywedodd fod egwyddor yn y mater, a'i fod yn dangos ymdrech i gynorthwyo y Bwrdd.—Dr Evans, Mae hon yn wraig gynil a darbodus iawn. Pasiwyd i godi 2s yn ei helusen am bythefnos i'w chynorthwy i ddwyn y draul o drwsio yr esgidiau. ADRODDIAD Y MEISTR.—Y Meistr a hys- bysodd fod 68 yn y Ty, ar gyfer 58 yr un tymor y llynedd, a galwodd 31 o grwydiaid yn ystod y bythefnos diweddaf.—Daeth y Swyddog a David Joseph, Ffestiniog, i'r Ty Mehefin 22, a chostiodd hyny los.Niehefin 25, aeth Laurah Jones, gwraig Andreas Jones, Blaenau Ffest.n- iog, a'i phlentyn allan o'r Ty. Yr oedd yn ymddangos fod y gwr oedd wedi myned i'r Deheudir, a gadael ei wraig. Gwelodd yr adroddiad yn y RHEDEGYDD fod y Bwrdd wedi pasio i anfon y Swyddog i'w ddal, ac yr oedd wedi anfon na ddewisiai hyny o gwbl. Yr oedd am dalu am gadwraeth ei wraig yn y Ty, a thalu am ei chludiad ato ef i fyw yn y Deheudir. Pasiwyd i godi traul "cadw y wraig oddiarno. -Y Cadeirydd, Lie mae'r dyn yma yn awr ?" —Mr. William Thomas, Mi glywais ei fod yn Penrhiwceibr, ac yr oedd dyn o Ffestiniog yn myned yno ddydd Gwener i weithio, a dy wedais wrtho y talwn, iddo os llwydda i gael hyd i'r dyn hwn."—Y Cadeirydd (yn bender- fynol), Yr wyf yn protesto yn erbyn eich "waith yn gwneyd yn ol eich meddwl eich hun, yn lie cario allan benderfyniad y Bwrdd! Dylech dalu yr arian eich hun !"—Mr. Wil- liam Thomas, "Yr oeddwn yn meddwl y buasai yn rhatach i'r dyn hwn gael hyd iddo naa i mi fyned yno."—Cadeirydd, Cario allan orchmynion y Bwrdd a ddylech yn mhob achos, a hyny raid i chwi a pob Swyddog arall ei wneyd." Mai 29, bu farw Mary Jones, 60 mlwyddoed o Lanfair, yn y Ty. —Gorphenaf 2, daeth Jane Williams, gynt o'r Gelli, Ffestiniog i'r Ty. Caniatawyd i'r Porter gael gwyliau. Daeth Anne Jane Pughe o flaen y Bwrdd, eisiau cael mvned allan o'r Ty.-Methai y Bwrdd a chydsynio a'i chais, ondyr oedd hi yn bendant am fyned allan. GOFYN Y TY.—Y Swyddog a osododd gais Jane Griffith, gwraig William Griffith, Picton Terrace, Blaenau, o flaen y Bwrdd. Yr oedd ei gwr wedi ei gadael a'i phedwar plentyn, a myned i'r Deheudir, ac ni chafodd ond 13s 6c oddiwrtho er's trimis. Yr oedd yn gofyn am gael dod i'r Ty gyda'i ph!ant, gan fod ei gwr yn ei hesgeuluso.—-Pasiwyd i beidio ymyraeth yn yr aclus, YMWELIAD Y PRIF SWYDDOG.—Bysbys- wyd i Arolygydd yr Archwilwyr cyhoeddus fod yn edrych dros y llyfrau, a galwodd sylw at amryw achosion lie y caniateid e!usen heb fod yramgylchiadau yn cyfiawnhau hyny. Ystyrid ei fod yn dra phwysig i ofalu na wneir hyny eto neu y mae yn rhaid i'r Gwarcheidwaid eu talu o'u llogelli eu hunain. AcHos JETHRO WILLIAMS.—Y Swyddog a hysbysodd iddo roddi gwerth 26s 6c o ymborth i Jethro Williams, Seler, Barlwyd Terrace, Tanygrisiau. yn ystod y bythefnos diweddaf. Yr oedd ef yn bur wael, a theulu lluosog gan- ddo.—Y Cadeirydd a ddywededd ei fod yn gam dybryd a'r dyn hwn fod Cymdeithas Chwarel Maenofferen yn gwrthod talu yn ol iddo yr arian ddaliwyd oddiarno yn y Chwarel.—Dr. Evans a sylwodd fod llawer yr un fath ag arian perthynol iddynt yn y Gymdeithas. Yr oedd y dyn yn bur wael ac yn poeni yn fawr yn nghylch y mater.—Y Cadeirydd, Y mae yn gywilydd i swyddogion y Gymdeithas wrthod talu yn ol i'r dyn hwn yr arian ddaliwyd oddi- arno yn swyddfa y chwarel, ac yntau heb fod yn aelod o'r Gymdeithas. Gwnaed hyny am bum' mlynedd.Dr. Evans a gynygiodd ei fod i gael elusen mewn ffordd o fenthyg, a bod y Clerc i gymeryd cwrs yn erbyn swyddogion y Gymdeithas am yr arian. Cefnogodd Mr. G. Parry Jones a phasiwyd hyny. ACHOS JANE DAVIES,—Yr oedd y wraig hon yn weddw i Robert Davies, Blaenau, a chanddi dri mab, ond yr oedd George sydd yn gynorth- wr mewn masnachdy chwegnwyddol (Grocery) ac yn derbyn 23s yr wythnos o gyflog, wedi troi ei fam dros y drws gan wrthod rhoddi dim at ei chadw.—Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn ofni fod George yn cael ei swcro gan ei Feistr i beidio cyfranu at gynal ei fam.—Y Swyddog a ddywedodd nad oedd stori y ddwy ochr ddim rhy fath a'u gilydd, a bod Yn anhawdd penderfynu pa un oedd yn iawn.- Pasiwyd i Mr William Williams fyned i siarad a George i geisio ei berswadio i gydgyfranu a'i ddau frawd at gynal ei fam. GOFYNIADAU SIROL.—Yr oedd Trysorydd Cyngor Arfon a Chyngor Meirion yn gofyn am daliad gan y Bwrdd o'u galwadau.—Mr David Jones, clerc cynorthwyol, "Nid ydym yn cael amser ganddynt i wneyd treth i ddechreu, heb son am ei chasglu." Y WEINYDDES.—Cadarnhaodd Bwrdd y Llywodraeth Leol benodiad Miss Bessie Pierce Jones yn Weinyddes i'r Ty am y cyflog o £ 25 yn y flwyddyn. ADREF O'R GWALLGOFDY.- Hysbyswyd y Bwrdd gan Glerc Gwallgofdy Dinbych fod un perthynol i'r Undeb fu yn y sefydliad hwnw, wedi peidio a bod yn faich ar y Bwrdd er Mehefin 19.-Mr. G. Parry Jones, Y mae y dyn adref er's dau fis cyn hyny, a dylai awdur dodau y Gwallgofdy dalu 5s yr wythnos yn ol i ni am y ddau fis hyny. Yr ydym yn rhy lac o lawer."—Pasiwyd i'r Clerc edrych i mewn i'r peth. CYDNABOD.—Anfonodd Mr. Rd. Roberts, Plasmeini, Ffestiniog, lythyr i ddiolch i'r Bwrdd am eu cydymdeimlad ag ef yn ei gys- tudd, a'u dymuniadau da am ei adferiad. MARWOLAETH MR. R. G. PRITCHARD.— Mr. G. Parry Jones a gyfeiriodd at farwolaeth Mr. Pritchard, yr hwn a fu yn Warcheidwad am dymor. Yr oedd yn cynyg eu bod yn anfon eu cydymdeimlad a Mrs. Pritchard yn ei phrofedigaeth lem.—Y Cadeirydd a ddywed- odd ei fod wedi bwriadu galw sylw at yr un mater. Yr oedd Mr. Pritchard yn ddynhynod o ffyddlon a chydwybodol, ac yr oedd colli] gwasanaeth un o'r fath mewn byd ac eglwys yn golled anarferol. Cafodd ef a Mr. Pritchard eu cyd-fagu, a gwyddai yn ddaam einodwedd- ion. Dyn ydoedd yn ymdaflu yn llwyr i'w waith yn mhob cylch teimlir colled ddirfawr ar ei ol mewn byd ac eglwys. Y.r oedd yn cefnogi i anfon eu cydymdeimlad a Mrs, Pritchard.—Pasiwyd yn unfrydol. YMNEILLDUAD MR. BIRCHAM.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Bircham yn hysbysu ei fod yn ymddiswyddo y diwrnod hwnw, a gof- idiai nad oedd yn bosibl iddo fod yn bresenol i ddywedyd ei "farewell" wrthynt. Cafodd lawer iawn o hyfrydwch yn ystod y pymtheng mlynedd y bu yn y swydd, "yn neillduol yn ei gysylltiad a Bwrdd Undeb Ffestiuiog."—Y Cadeirydd a ddywedodd fod yn ddrwg iawn ganddynt oil ddeall eu bod i golli gwasanaeth Mr. Bircham. Cawsant ef bob amser yn fon- eddwr, ac yn un a ddeallai ei waith yn drwy- adl. Yr oedd pethau yn y Bwrdd yn dra gwahanol i'r hyn oeddynt pan ddechreuodd ar ei waith, ac yr oedd hyny i'w briodoli i'w ddyl- anwad personol ef gyda hwynt. Chwith iawn ganddynt feddwl am ei golli. Yr oedd olynydd iddo wedi ei benodi, a hwnw yn Gymro ac yn Ymneillduwyr; ond nid ar y cyfrif hwnw yr ] oedd ef yn barod i'w groesawu, gan nad oedd o blaid ygwaeddi, "Sais i'r Seison," a"Cymro i Gymry." Culni a ffolineb ydoedd peth o'r fath hwnw. Cael y dyn goreu a chymwysaf i'r swydd oedd yn bwysig. Cynygiai eu bod yn pasio penderfyniad i ddymuno nawnddydd dedwydd i Mr. Bircham, a datganiad o'u gofid o'i golli o'r cylch.—Cefnogodd Mr. G. Parry Jones, a phasiwyd hyny yn unfrydol. Y Clerc ar ei ran ei huu, a'i gyd-swyddogion a ddymunodd am gael uno a'r Bwrdd yn y pen- derfyniad. Cawsant lawer o gynorthwy ac hyfforddiant gan Mr. Bircham, a hyny gyda'r sirioldeb mwyaf bob amser.
NODION 0 DOLWYDDELEN. I
NODION 0 DOLWYDDELEN. GAN DRAENOG. CYNGHOR PLWYF.—Yr oedd y cynghor- wyr canlynol yn bresenol:—Mri. R. Parri Huws, cadeirydd O. E. Parry, is-gadeirydd J. R. Jones, T. Pritchard, W. P. Hughes, Evan Jones, R. Williams, a'r Clerc. Cymer- odd Dr Williams ei le a'i lw fel aelod o'r Cynghor, yn gynrychiolydd dros y Dywaenydd a'r Siabod Fisheries. Darllenwyd cofnodion gan y clerc a chadarn- hawyd yn unfrydol.—Darllenwyd llythyr oddi wrth glerc y Cwnghor Dosbarth yn hysbysu fod y Cynghor wediapwyntiodau i ddod i olwg ffordd Tan y Benar, gyda chadeirydd ein ein Cynghor Plwyf.-Llythyr o Goleg y Gog- ledd Bangor oddiwrth Mr Thomas Winter, yn rhoddi cynyg i'r ardal hon i gael cyffres o ddarlithoedd ar amaethyddiaeth yn ystod y gauaf dyfodol. Pasiwyd i dderbyn y cwrs ar gynygiad Mr. E. Roberts, a chefnogiad Mr. Robert Williams. Nodwyd ar y rhai canlynol yn bwyllgor i drefnu ar gyfer yr uchod ;—Mri. Thomas Pierce, R. Williems, Bryn Tirion T. McGill, Evan B. Lloyd, ac Ellis Williams, Bertheos, yn gymhellydd. Y Cynhor Plwyf sydd i hysbysu y Darlithoedd, i ofalu am ystafell wedi ei goleuo a'i thwymo, ac i sicrhau ugain o bersonau yn bresenol. YR ELOR-GERBYD.—Mr. Evan Jones a gyn- ygiai wneyd i ffwrdd a thalu am fenthyg yr elorgerbyd i'r rhai o blwyf Dolwyddelen. Cynygiodd Mr. John R. Jones fod 2/6 i'w godi fel tal oddiar y trethdalwyr pa un bynag ai yn y plwyf a'i ynte o'r tu allan i'r plwyf y byddai eisiau ei benthyg; ond fod 5s i'w godi oddiar bawb heb fod yn trethdalwyr plwyf Dolwydd- elen. Cefnogwyd gan Mr. O. E. Parry a phasiwyd. Y DWFR.Nid oedd dim byd pellach wedi dod i law ynglyn a'r pwnc uchod. AMRYW.—Mr, O. E. Parry a alwai sylw at gyflwr truenus Harnis perthynol i'r Elor- gerbyd. Pasiwyd i ymddiried i rai sydd wedi eu nodi i ofalu am fuddianau y Gladdfa i weithredu yn ol eu doethineb. Pasiwyd i dalu Bill o 6/6 am argraffu w Y Rhybuddion i wysio y Cyngor ynghyd. Mr. O. E. Parry a alwai sylw at y ddau fu dros y Cyngor Dosbarth yn ngolwg Ffordd Tanybenar. Ymddengys na chafodd Mr. R. Parri Huws ei hysbysu eu bod yn dod. Dylai Clerc y Dosbarth anfon ato i'w hysbysu. Pasiwyd ar gynygiad Mr. Parry Hughes a chefnogiad Mr.lEdward Roberts "Ein bod fel Cyngor Plwyf yn anghymeradwyo gwaith y Cyngor Dosbarth yn anfon eu cynrychiolwyr heb anfon hysbysrwydd i Mr R. Parry Huws. Ystyrid hyn ganddynt fel yn anwybyddu y Cyngor Plwyf a gofynent am y rheswm pa fodd y bu yr amryfusedd." MARW ETo.-Caf wneyd sylwadau manylach yr wythnos nesaf ar farwolaeth a chladdedig- aeth Mr. Robert Owen, Glanaber. DAMWAIN .-Y Sabbath diweddaf fe amf- wyd gwr ieuanc ar y mynydd rhwng yna a Blaenau Festiniog trwy gael ei daflu oddiar ei Olwynfarch. Ymddengys iddo daflu trybedd ei ysgwydd o'i lie, anafu ei ben a'i fraich. Gwasanaethwyd arno gan Dr. Jones, Isallt, a'i gynorthwydd Dr. Hopkins. Ymddengys mai ar ei daith yr oedd y gwr ieuanc anffodus hwn a'i gyfaill o Borthmadoc am Fettwsycoed. Mae'n ddiameu y cofia am y daith hon tra y bo byw.
I-- - - - - - - I Damwain…
I- I Damwain Angeuo) i Olwynwr. Nos Lun yn Nhroesoswallt cynhaliodd Dr. Aylmer Lewis, drengholiad ar achos Henry Blanchard Richardson, gwrboneddig o foddion anibynol, arferai breswylio yn Llanerchymedd, yr hwn a fu farw y boreu blaenorol mewn canlyniad i niweidiau dderbyniodd trwy gwympo oddiar ei ddeurod ar yr 22ain o Fehefin. Yn ol y dystiolaeth a roddid, yr oedd y trancedig yn gyru i lawr Sweeney Bank, pan ddisgynodd yn sydyn ac yr archollodd ei ben yn ddifrifol. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
Gystadieuaethau y Drefnewydd,
Gystadieuaethau y Drefnewydd, Dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd gwyl dathlu marchogaeth Syr Pryce Jones, yn y Drefnewydd. Cynygid dros £ 300 mewn gwob- rwyon i Seindyrf, Corau Plant a Meibion, a chwareuon. Yr oedd y gwobrwyon canlynol yn cael eu cynyg i'r Seindyrf: £ 35; £ 25; £ 15 ;,C,lO; a £ 5. Dwy gini a gini am Ymdeithgan, a gini am Unawd ar y Cornet. Safai y Seindyrf fel y canlyn, gyda'r ffigyrau a eniliodd bob un 1, Wingates 98. 2, Lindly 97. 3, Aberaman 96. 4, Crossfields 95. 5, Rushden Temperance 93. 6 J Royal Oakeley 192 ) Hebden Bridge f 7, Ferndale 90. 8, Goodshaw 89. 9, Cory Workmen 87. 10, Cwmpark 84. Fel y gwelir yr oedd y gystadleuaeth yn un nodedig o galed, a daeth y Royal Oakeley allan yn gyfartal 6ed. Nid yn y safle hono a fuasent oni bai am y ddau chwareuydd dyeithr y bu rhaid eu cael i lanw y bwlch oedd yn y Seindorf, Siomedig iawn y troisant allan, a dywedodd hyny yn anffafriol yn y gystadleuaeth Enillwyd y wobr gyntaf gyda'r Ymdeithgan gan Ferndale; a'r ail gan Goodshaw; a'r Royal Oakeley yn drydydd. Y Beirniad ydoedd Mr. J. W. Beswick, Manchester. Gyda'r Corau Meibion fe gynygid dwy wobr -£25 a 610; gyda gwobr arbenig gwerth tair gini i arweinydd y Cor buddugol. Y Cor buddugol ydoedd y Moelwyn, a Machynlleth yn ail. Llongyfarchwn y Cor a'r Seindorf yn y modd mwyaf calonog. Cafodd y Moelwyn gymeradwyaeth fyddarol, a rhaid fu iddynt ail ganu ar ol y dyfarniad gan mor selog oedd y dorf am eu clywed.
BEIRNIADAETH Y CORAU MEIBION.
BEIRNIADAETH Y CORAU MEIBION. Diau y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael Beirniadaeth y Proff David Evans, MusBac., Caerdydd, a'r ya Corau Meibion fuont yn cystadlu yn y Drefnewydd dydd Sadwrn ar ddatganu Dewrion Sparta" (Dan Protheroe), am y wobr o £ 25 a gwabr arbenig o dair gini i'r arweinydd, a £ 10 i'r ail. Canodd bob un o'r saith cor yn deilwng o'r wobr gyntaf, ond nid oes genyf yr amheuaeth H eiaf yn nghylch pa un sydd yn cymeryd y wobr gyntaf a'r ail. Gwnaf sylwadau a'r bob cor wrtho ei hun:— 1. TOWYN, (W. Pryce Williams).—Bass a Tenor yn burion. Cydasiad heb fod yn dda awn cydbwysedd da; amser a thonyddiaeth yn da drwyddo. Ar tudalen 4 y ntae yn rhyfedd na wnaeth y ddau gor Seisnig ar yr ad ran Staccato y bar Semi-Staccato yn gywir. Canodd Rhif 1, gyda'r corau cymreig eraill ef yn rhy fyr. Tonyddiaeth yn dna; ymosodiad purion brawddegiad purion. ond nid bob amser o'r fath oreu. Mynegiant purion, a rhaid i mi roddi gair da i'r Unawdydd, gwnaeth ef ei waith yn dda iawn. 2. LLANIDLOES, (John Owen).—Bass da; tenor o ansawdd purion, ond heb gyd-lywio: yr oedd gan yr Unawdydd lais da iawn, a chanodd mewn ysbryd ardderchog. Canodd y Tenors blaenaf E flat ar tudalen 5, nid oedd E flat i denor yno. Nid oedd y donyddiaeth ar tudalen 12 yiv bur; yr oedd y Bass yn forcio. Brawddegu da; tonyddiaeth ar y cyfan yn burion, ond yr oedd y tenor yn ddiffygiol mewn corph o donyddiaeth mewn rai adranau, yn sicr heb fod yn cynyrchu yr undod o don sydd mor hanfodol yn y canu Corawl goreu. 3. MOELWYN, (Cadwaladr Roberts).—Bass cyfoethog iawn a soniarus tenor hefyd yn dda ond ar brydiau braidd yn fetelaidd. Hollol gywir mewn amser a thon. Ymosodiad da: i tonyddiaeth trwyddo da; mynegiant yn ei ystyr uchaf da. Er fod yna rai nodau mynegiant heb gymeryd gofal am danynt, ac weithiau nod achlysurol yn cael ei roddi i mewn, ar y cyfan gweithiwyd allan deimlad y darn yn odidog. Unawdydd da brawddegiad heb fod o'r goreu. Yr wyf yn rhoddi pwys penodol ar deimlad a mynegiad. Mae gan nodau mynegiant eu hystyr, ond pan ofelir am danynt o safbwynt peirianyddol, ni chyfrifa hyny gyda fi ond ychydig iawn. 4. LLANDRINDOD WELLS, (R. E. Davies). —Bass da, ond braidd rhy lym (sharp). Tenor 1 o ansawdd da, ond tuedd yn neillduol y tenor ? blaenaf i brysuro y ?c?o trwyddo. Yr oedd ? gan yr Unawdydd Tenor lais pur a phrydferth. Rhaid i ni roddi gair o glod arbenig iddo, ond yr wyf yn synn yn fawr iddo wneyd cam- gymeriad yn un o'r geiriau "myriads" Yn sicr ni chanwyd yr allegri agitato ar tudalen 8 1 yn effeithiol. Ar tudalen 11 nid oeddwn yn teimlo fod yr arhosiad rhwng y ddau symudiad yn hollol gyfreithlon, ond cadwyd y symudiad hwn yn bur dda. Rhagorai y cor hwn eto yn hytrach yn yr adranau tyner, ac nid oedd gan- ddo ddigon ymafliad (gripe) a'r gwir fynegiant hwn a ddysgwyliwn mewn darn damayddol o'r fath yma. 5. CREWE APPOLO, (Joseph Stubbs).—Bass da; tenor, fel corph, ond purion. Teimlwn yn yr adran gyntaf nad oedd gollyngiad y Bass yn dda, er fod ganddynt leisiau da ac yn yr adran gyntaf nad oedd gollyngiad y Bass yn dda, er fod ganddynt leisiau da, ac yn ddiameu yn gantorion da. Yr oedd yr ymosodiad yn dda. Canwyd y staccato yn briodol. Gwn- aeth yr oil o'r Unawdwyr eu gwaith yn dda, er i rai wneyd y well na'r lleill, nodau uchaf y < rhai oeddynt braidd yn deneuon. Yn tudalen- au 8, 9, a 10, tra yn cael ei ganu yn dda, yr oedd yna duedd at brysuro y tempo yma ac acw. Ymosodiad da, hefyd yr amser a'r don; brawddegu gwastad, ond yr oedd y Cor braidd yn fyr mewn undod tonyddiaeth. Rhoddwyd sylw neilldnol i'r nodau mynegiant, ond, wedi'r cwbl, teimlwn braidd heb fy symud. Nid wyf yn teimlo ei fod yn wirfoddol. 6. WARRINGTON APOLLO, (HarryBerry).- Lleisiau da fel cyfangorph. Canodd y Bass y rhan gyntaf yn weddol. Nid oedd y Tenor yn hollol unedig a'r Bass ar tudalenau o 1 i 4. Nid oedd genyf le i weled bai yn y tudalenau hyny oddigerth bai o beidio yn fwy nag a wneyd. Yr oedd gan yr Unawdydd lais tlws. a chyda'r eithriad o'r ail a'r drydedd syll, a ganodd yn bur dlws. Canwyd tudalen 5 yn bur dda. yn arbenig y frawddeg olaf, ac o'r fan hon hyd y diwedd gwellhaodd y Cor hwn yn fawr iawn. Canwyd y ddau tudalen, 6 a 7, mewn arddull gampus. Yn tudalenau 8 a 9, ymddangosai y tenor blaenaf braidd yn rhan- edig mewn amser. Ni roddasant ysyniadhwnw o ymosodiad ag a fuasech yn ei ddisgwyl. Amser a ton da. Tonyddiaeth a brawddegu da. Yr oeddwn yn teimlo gyda'r holl fan wallau a nodais. Gwhaeth y Cor hwn argraff gampus ar y cyfan, Yr oedd o tudalen 5 i'r diwedd yn hollol y peth, a chododd fi i fyny ychydig. 7.-MACHYNLLETH (J. 0. Williams).-Cor o leisiau da. Eu tempo yn dda trwyddo, dechreuasant braidd mawn arddull dda, ond teimlwn yn achlysurol lais crwydrol mewn ystyr o un o'r lleisiau, dichon yn y bass, yn llusgo o un nodyn i'r llall. Ar wahan i hyny cynyrchent yr un fath tone a'r Cor. Mynegiant a thonyddiaeth da, ac yr oedd gan- ddynt i raddau y gwir ysbryd. Yr oedd y brawddegu yn dda, a'r amser yn dda. Ond yr wyf yn teimlo fod un Cor yma wedi rhoddi gwell datganiad; cyfoethocach ar y cyfan mewn # llais, a'u dysgu i safle uwch mewn mynegiant, ac wedi rhoddi perfformiad mwy dramayddol a gwell ar y eyfan. Y Trydydd Cor (Moelwyn) yn gyntaf, a'r Seithfed (Machynlleth) yn ail. Derbyniwyd y dyfarniad gyda chymecaclwy- aeth byddarol.
I Llysoedd a Dedfrydau. ',I
Llysoedd a Dedfrydau. I Yn Heddlys Conwy, dydd Llun, cyhuddwyd Thomas Mack (neu Gallagher) o dori i Mael- gwyn Villa, Llanrhos, dri o'r gloch y boreu Mehefin 25ain, a lladratta arian oddiyno. Dywedodd yr Arolygydd Rees i ferch Mr Jeremiah Jones ddeffroi yr adeg hono a gweled y dyn yn ei hystafell. Galwodd ar ei thad yr hwn a ddaliodd Mack hyd nes daeth yr hedd- geidwaid. Wedi hyny cafwyd fod arian wedi eu lladratta o boced Mr. Jones. Yr oedd Mack wedi tynu ei esgidiau a'u gadael yn yr ardd gefn. Cadarnhawyd y dystiolaeth uchod, a dywedodd y Cadeirydd onibae fod ffenestr y gegin yn agored buasai yn achos o dy-doriad, a thu allan i hawl y Fainc i'w drin o dan yr amgylchiadau dirwyai y troseddwr i 20s a'r costau neu garchar gyda llafur caled am fis. Yn Llangollen, yr un dydd, cyhuddwyd' Joseph Morris, amaethwr o Maesbury, Salop, a William Morris ei fab, y naill am weithio dau geffyl heb fod yn gymwys i waith, a'r llall am achosi iddynt gael eu gweithio, yn y Waen, Mai lleg. Profwyd achos o groulondeb eith- riadol, a rhoddwyd dedfryd drom iawn. Anfon- wyd un i garchar gyda llafur caled am bedwar diwrnod ar ddeg, a'r llall am dri mis.