Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Marwolaeth Mr. Morris G. Jones,I…
Marwolaeth Mr. Morris G. Jones, I Caeclyd. Boreu Sabbath diweddaf, Gophenaf laf, bu farw Morris Gabriel Jones, yn 66ain mlwydd oed. Bu yn dioddef mewn nychdod corph am rai misoedd, ond parhau i fyned o amgylch hyd 0 fewn y pymthengnos diweddaf. Ond yn y diwedd bu raid iddo aros yn y gornel ac yn y gwely a gwanychodd yn raddol hyd nes y cym- erwyd ef ymaith foreu Sabboth. Yn blygeiniol iawn y boreu hwnw yr ehedodd ei ysbryd ym- aith. Pan oedd y wawr yn tori boreu Sabboth nid oes amheuaeth yn meddwl neb a'ihadweinai na thorodd gwawr arall well iddo ef a hono yn wawr Sabbath tragwyddol. Yroedd Morris Jones yn un a berched yn fawr fel gweithiwr diwyd adistaw ar hyd ei oes. Yr oedd yn wr did- wyll a.diymbongar yn Israelied yn wir yn yr hwn nad oedd dwyll. Bu yn aelod ffyddlawn yn eglwys Bethesda am lawer o flynyddoedd ac yr oedd yn meddwl yn uchel o'i eglwys a'i gwaith a'i phobl yn agos iawn at ei galon, a bydd colled fawr ar ol y gwr distaw-ffyddlon hwn. Dioddefodd ei gystudd yn hollol dawel a chafodd brofi yn helaeth o orfoledd yr lach- awdwriaeth yn enwedig tua'i ddiwedd. Ymoll- yngodd yn fwy rhydd i siarad ei feddyliau y dyddiau olaf ac yr oedd ei ymadroddion wrth ei berthynasau a'i gyfeillion yn dangos yr afael dwfn yn'mhethau yr efengyl a'r awydd oedd ynddo am iachawdwriaeth eraill. Claddwyd ef dydd Mercher yn Bethesda pryd y gweinydd- wyd gan y Parch. D. Hoskins M.A.
- Nebo, Llanrwst. j Nebo,…
Nebo, Llanrwst. j Nebo, Llanrwst. Bydd yn dda gan y lluaws cyfeillioni Mr. W. R. Jerman wneuthur iddo ei hun yn ystod ei arhosiad yn Nebo yr haf diweddaf ddeall ei fod wedi pasio ei arholiad diweddas am ei B.A. Brawd yw Mr, Jerman i'r Parch Llew Jerman, gweinidog yr Annibynwyr yn Nebo a Siloam.
......".- -- -:- - - - - -…
Briwsion o Ffestiniog. ANGLADD.—Dydd Sadwrn diweddaf daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf i'n diweddar frawd Price Jones o'r Bont newydd. Awd a'r corff i fynwent Bethesda, gan fod yno bump o rai bychain wedi ei ragflaenu, Blaenorid yr angladd gan Gor Bethel (A.), o ba un yr oedd yn aelodffyddlawn. Arlan y beddgwasanaeth- wyd yn dyner iawn gan Mr. J. Rhydwen Parry a'r Parch R. Talfor Phillips, Bethel. Cafodd angladd parchus, angladd oedd yn brawf sicr fod un anwyl iawn yn cael ei gladdu y diwrnod hwnw. Nos Suldrachefn, traddododd y Parch R. T. Pbillips' bregedd afaelgar a dwys er coffawdwriaeth am wr er wedi marw yn Hefaru eto. Nodded Duw fo dros ei deulu hoff. DARLITH.—Nos Wener diweddaf bu Trebor- fab yn rhoddi ei ddarlith boblogaidd Hen ddiwygiadau Cymru" i gynulliad da yn Vestri Shiloh. Gwahoddwyd ef yma gan gyfeillion dirwest sydd a'u hysgwyddau yn dyn o dan Gymdeithas Cymru Sobr y He, Clywsom deyrnged uchel o glod i'r Ddarlith, a phawb ar bob Haw yn dymuno yn dda i Trebor. Dylai son am ddiwygiadau gwyn y gorphenol fod yn ysprydiaeth i'r saint i gerdded at ddiwygiadau'r dyfodol. LLWYDDIANT Y PARTI A'R BAND.—Mawr dda i'r Moelwyn am beidio llychwino enw da yr ardal yn y Drenewydd. Deallwn iddynt roddi cwrfa iawn y tro hwn eto i Gorau ddylent wrido, wrth gofio llawer croes gododd y chwarelwr diwyd wrth gerdded at Goro'n Drenewydd. Boed iddynt eto lawer o lwydd, ac na fydded i hunan nac ymffrost buddugoliaeth edwino'i goreu i'r dyfodol. Wel, am y Band does genym ond dweyd, Well done, mae gadael :.G°d Shaw ar ol yn beth na raid iddynt byth wrido o x nerwyaa. Ac er yn gobeithio'r goreu nid wyf yn meddwl i neb a chomon:sense yn ei ben, ddisgwyl iddynt guro Crack Bands" megis Wingates, Lindley, Rhusden, &c. oblegid nid mewn undydd-un- nos yr hawlia'r "Cracks" eu safle yn y byd, a boed i chwithau gofio hyn fechgyn a dal ati gan gofio fod Coron mewn Croes a choncwest mewn dyfalbarhad. CYNHALTAF.-Bu,yma ffair ddydd Sadwrn a digon o bobl, crybiniau a phladuriau in hadgofta fod y cynhauaf eto ar ein gwarthaf. Mae y gribin yn brysur bellach, ar bladur yn eithaf effro i wneyd ei rhan yn myd y da gwelltog. Bydd yn dda i lawer gael swydd i'w wneyd yn y Cynhauaf eleni, gan fod gwaith mor brin ac arian mor ddyeithr i lawer i aelwyd lom. Ond ni ddylent gwyno dim ynghanol daioni Duw mewn natur, rhyfedd fel y rhydd Efe bob ffrwytb yn ei bryd. Does Gwanwyn byth yn hwyr yn dod na Haf yn dodyn rhy fuan. LLWYDDIANT.—Derbynied y brawd E. T. Evans, Belle Vue ein llongyfarchiadau cynesaf ar yr anrhydedd sydd wedi disgyn i'w ran drwy gael ei apwyntio yn glerc yn swyddfa Rhiw- bach. Yr oedd yr ymdreeh yn un galed, ac nid anrhydedd i'w dibrisio ydyw hwnw sydd yn disgyn i ran gwr sydd yn gadael 34 o ymgeiswyr giew o'i ol. Deallwn ei fod yn dechreu ar y gwaith yr wythnos hon, a sicr genym y bydd yn eithaf cartrefol yn ei swydd newydd, gan nad yw fflgyrau yn bethau dieithr iddc, na chyfrifo yn beth i'w ddychryn chwaith i Pob llwydd iddo. I
- - - - - - - - - - - - -…
I Beddgelert a'r Amgylchoedd. DAEARGRYN.—Teimlwyd ysgytwad amrhyw eiliad o amser yn blygeiniol boreu Mercher diweddaf. Diau fod hyn wedi peri braw i lawer, gan fod cymaint o son am ddaeargryn- feydd yr wythnosau diweddaf. Mae ein rhwymau yn fawr i ddiolch i'r Hwn sydd yn cynal ar bob amrantiad. CYNHADLEDD.—Nos Sadwrn diweddaf yn nghapel y Pentref yn nglyn ag Ysgolion M.C., y Dosbarth. Yr oedd yn cael ei wneyd i fyny o Swyddogion y gwahanol Ysgolion. Ymdriniwyd o llawer o faterion oberthynas i'r cyfrifon, a'r modd i gael aelodau i'r Ysgol. Ond prif atdyniad y cyiarfod ydoedd darllen papur rhagorol ar "Hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol yn ardal Penuel," cafwyd llawer iawn o'i hanes, a hanes hen athrawon ymroddgar y lie yr adeg hono. Carneddog gymerodd yr anturiaeth o chwilio i mewn i'r hanes, ag yn wir anhawdd fuasai cael neb yn fwy o feistr ar y gwaith. Sicr y buasai Ilawer yn hoffi i'r awdwr medrus argraphu yr hanes er mwyn i'r cyhoedd ei weled a'i ddarllen. Cawn yn y Gynhadledd nesaf bapur gan Mr. David Pritchard, Cwmcloch ar Hen Athrawon Beddgelert." Beth pe buasai yr hanes o'r pedair ardal yn cael eu casglusyn nghyd yn un llyfr. Credwn y buasai yn gyfrol roddasai i ni yr oes hon lawer iawn a addysgiadau, ag y buasai yn werth i ni efelychu y sawl a'n rhagflaenasant. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion M.C. yn Bethania y Sabboth diweddaf. Llywydd Mr. Idwal Owen, Rhyd-ddu. Arholwr y Parch Pryse Ellis; Ysgrifenydd Evan M. Powell. Dydd Llun cynhaliwyd y Cyfarfod Misol yn Bethania, yr oedd llawer o flaenoriaid a phreg- ethwyr wedi dod yn nghyd i'r wledd oedd wedi cael ei pharatoi ar eu cyfer. Pregethwyd nos Lun gan lywydd y C.M., sef y Parch. Ellis J. Jones, M.A., Caernarfon. Cafwyd Seiat ragorol. Anerchwyd gan y Parchn. Robert Williams, M.A., Llanllechid; H. M. Pugh, Carmel; David Hughes, M.A., Caernarfon; ac E. J. Evans, Bwlan. Pan y cyrhaeddasom o'r Bregeth, cawsom y newydd fod bachgen bychan i Mr. a Mrs. Wm. Pierce, Beddgelert, wedi cyfarfod a damwain trwy syrthio, a thori ei fraich, hawdd gellir dweyd damwain o'r Cryd i'r Bedd. Ni chawsom fawr o'r manylion, ond mawr hyderwn y bydd iddo gael gwella ynfuan.
LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…
LLYS MANDDYLEDION BLAENAU FFESTINIOG. ACHOSION PWYSIC. IAWN I CHWAREL WYR., Dydd Mercher o fiaen ei Anrhydedd v Barnwr Gwilym Evans. PWY BIA'R DODREFN.—Yn achos Stelfox v Jane Evans, rhoddodd ei Anrhydedd ei ddyfarniad. Yr oedd Mr. Stelfox wedi codi gwys i werthu eiddo Jane Evans. Lower, Cwmbowycid Road ond pan aeth y swydd og yno, daeth John Williams, y lletywr yn mlaen i hawlio y dodrefn am iddo eu prynu ar waith swyddog arall yn dod yno i'w gwerthu o dan warant. Talodd yr hyn a hawlid y pryd hwnw. a dadleuai Mr. Hugh Williams (o Swyddfa Mr. R. O. Jones & Davies) yn awr ar ei rhan mai efe oedd perchenog y dodrefn, a dyfarnodd ei Anrhydedd yn ei ffafr; ond rhoddodd ddedfryd am y gweddill o'r dodrefn yn ffafr Mr. Stelfox, dros yr hwn yr ymddangosai Mr. J. Jones Morris. lAWN AM NIWEIDIAU I Dy.-Evan Richards, Cloth Hall, Penrhyndeudraeth, a ddaeth a chyngawsyn erbyn W. O. Williams, Home from Home, Penrhyndeudraeth am iawn o £ 50 am niweidiau achosid i'w dy gan adeilad godwyd gan y Diffynydd yn erbyn ei fwr, a gofynai am achos ataliadol (injunction) i dynu i lawr yr adeilad hwnw, Mr. W. Proctor (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri, D. Lloyd George & George) a ymddangosodd dros yr Hawlydd a C. E. Breeze, Porthmadoc, dros y diffynydd. Anfonwyd yr achos hwn i fyny o Llys Porth- i madoc, lie y dechreuwyd ei wrandaw ddydd Llun. Dedfrydwyd am i'r adeilad gael ei ddadgysylltu ag eiddo yr hawlydd mewn tri mis, a thalu iawn o f, 17. GOHIRIO.-Gohiriwyd achos oedd i'w wran- daw. CYFLOGAU Y GWEITHWYR.—Hugh Pughe, Manod Road, Blaenau, a Joseph Roberts, Pantllwyd, a ofynasant Thomas E. Jones, cyn- gymerwyr Prif-ffyrdd o dan y Cyngor Dinesig dal am dori cerig iddo. Yr oedd y Diffynydd yn dal ei fod wedi talu yr oil oedd yn ddyledus i'r ddau, a chyflwynwyd y cyfrifon i'r cofres- trydd i fyned trwyddynt, a dyfarnodd ef fod £1 lis 6c yn ddyledus i Pughe, a £ l 10s yn ddyledus i Roberts.—Mr. R. O. Davies, dros y ddau Hawlydd a ofynodd am ddedfryd ar y ddau swm, a rhoddodd y Barnwr hyny. lAWN I DAD A MAM.—Owen Hughes a Jane Hughes, Tregarth, a wnaethant gais am lawn yn achos Marwolaeth eu mhab Hugh Hughes yn chwarel Diphwys Casson, gyfarfydd- odd a damwain yn y chwarel hono Ebrill 2. Ymddangosodd Mr W. Proctor, Lerpwl, (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri Ellis W. Davies a Evan Jones, Caernarfon, ar ran Undeb y chwarelwyr) a Mr, R. A. Griffith (Elphin), (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. R. O. Davies), dros gwmni y Cnwarel. Nid oedd dadl yn nglyn a mater y cyflog, gan fod y ddwy ochr yn cyd weled fod yr enillion yn dod i £ l Is 6c. Y ddadl ydoedd, a oedd y tad a'r fam /yn dibynu ar y mab am eu cynhaliaeth, Owen Hughes, yr Hawlydd, a dystiodd ei fod yn chwarehvr. Yr oedd ar streic yn helynt chwarel y Penrhyn. Bu heb weithio am dros flwyddyn, yna am bedwar mis, ac ar ol hyny am chwech wythnos. Tra heb weithio felly, yr oedd ei fab yn anfon o 30/- i 40/- y mis iddo o'r Deheudir, a dibynai ar hyny at ei gadw. Aeth i ddyled o tua £ 60 trwy fod allan o waith, a chladdu dau o'r plant. Pan ddechreuodd weithio nid oedd yn abl i enill ond £ 3 y mis tra yn Talsarn, a rhaid ydoedd talu am ei fwyd a'i lety allan o hyny. Yr oedd yn awr yn enill £ 3 2s 6c y mis yn chwarel Pantdreiniog, Bethesda. Cafodd £57 o'r yswiriant ar far- wolaeth ei fab. Mewn atebiad i Mr. Griffith, dywedodd ei fod yn chwarelwr profiadol, yn ddyn iach, ac yn 53 mlwydd oed. 29 oed oedd ei fab gollodd ei fywyd, ac aeth oddicartref pan yn C 2 y rnis am ei fwyd 25 oed, a byddai yn talu £ l y mis am ei fwyd a'i lety pan yn byw gartref gyda'i rieni. Daeth Hugh i weithio i'r Blaenau yn 1904, ac arferai anfon punt y mis adref yn gyson, ac os methai un mis wnelai y diffyg i fyny y mis dilynol. Robert Hugh Pritchard, a ddywedodd ei fod yn awr yn astudio am y Weinidogaeth Wesleyaidd, ac yn gyfaill mynwesol i Hugh Hughes. Aethant gyda'u gilydd i'r Deheudir a manau eraill mewn canlyniad i streic y Pen- rhyn, cydweithiant a chyd-letyent. Gwyddai fod Hughes yn anfon dwy bunt y mis adref o'r Deheudir, a phunt y mis o'r Blaenan. Mewn amddiffyniad, dadleuai Mr. Griffith nad oedd dibyniaeth wedi ei brofi: ac nid oedd prawf clir yn y llythyrau, ond am ddau swm o 10/- yr un. Pe cawsai ei rieni ei holl enillion am dair blynedd, ni byddent ond £ 167 ac eto gofynent am iawn o gan' punt yr un! yr oedd- ynt wedi cael cynyg f 40 gyda'r costau, ac yr oedd hyny yn gynygiad anrhydeddus gan mai i £36 y deuai punt yn y mis mewn tair blynedd. Y Barnwr a ddywedodd fod llawer o anhaws- dero amgylch yr achos. Yr oedd ef wedi ei hollol foddloni i ddibyniaeth gael ei brofi, ond i ba raddau yr oedd y rhieni hyn yn ddibynol ar eu mhab ? Yr oedd ef yn arferol ag anfon arian adref yn rheolaidd, a'r anhawsder ydoedd pa fodd i benderfyny swm yr iawn heb wneyd cam a'r un o'rddwy ochr. Yroedd yn dyfarnn £ 25 i'r Tad, a'r un swm i'r Fam, gyda'r costau ar y Raddfa B. IAWN I WEITHIWR.—Ar derfyn y Llys, daeth achos Richard Williams, 2 Park Square, Blaenau, yn erbyn Cwmni Chwarel Diphwys Casson. Blaenau yn mlaen. Ymddangosai Mr W. Proctor (o dan gyfarwyddyd Mr. W. George, dros yr Hawlydd, a Mr. R. A. Griffiths (o dan gyfarwyddyd Mr. R. O. Davies) dros y Cwmni. Mr. Griffith a ddymunodd alw sylw y Barnwr at y ffaith nad oedd gan y Llys hawl i weithredu yn yr achos. Yn Hydref 1904 cyfarfu yr Hawlydd a damwain, trwy yr hon y, collodd ei law. Enillai 34/- yr wythnos ar y pryd. a thalwyd iddo haner ei gyflog, sef 17/- yr wythnos, hyd i Ebrill diweddaf. Yr amser hwnwcawsantJei fod eifod wedi brynu masnach glo, ac nid oeddid yn foddlawn talu yn mhell- ach hyd nes y ceid allan ei enillion oddiwrth ei fasnach. Yn mhellach, cynygiwyd talu £ 150, a'r swm wythnosol i fyny hyd Mehefin, ac ychydig at ei gostau yn yr achos.—Atebodd cyfreithiwr yr Hawlydd ei fodayn ofni nad oedd yn foddla wn derbyn llai na £ 250. Wedi hyny galwodd swyddog y Gymdeithas Yswiriol gyda'r Hawlydd yn dywedyd wrtbo am fyned i swyddfa y chwarel fel arfer i ymofyn ei dal wythnosol. Yn yr achos nid oedd dim o flaen y Llys i'w b, iaderfyriu gan fod yr arian i'w casl ond,myned am danynt. Mr, Proctor. Bu am ddau fis heb ddim. ac yr wyf yn gofyn am ddyfarniad am swm i wastad- hau a settlo yr achos. Mr. Griffith, Y mae yr arian yn y swyddfa ond y mae y dyn yn gwrthod eu hymofyn. Nid oes angen am ymyriad y Llys. Y Barnwr.—Nid oes yma ddim i ymladd am dano, a bydd i arian gael eu gwario. Yr wyf yn gadael i bethau fyned yn mlaen hyd y Llys ar ol y nesaf, er gweled beth a enillir gyda'r fasnach. Nid oes dim anhawsder o gwbl yn awr yn galw arnaf ymyraeth a rhoddi dyfarniad. ACHOS DYRUS IAWN I WEDDW GWEITHIWR. Mrs. Catherine Jones, Brynmelyn, Traws- fynydd, a hawliodd lawn oddiar Gwmni Chwarel Rhiwbach yn achos marwolaeth ddamweiniol ei gwr, John Jones, trwy i ddarn o rew ddisgyn ar ei ben, Mawrth 25. Ymddangosai Mr. W. lproctor (yn cael ei grfarwyddo gan Mr. W. Caer Jones,) dros yr Hawlyddes: a Mr. R. A. Griffith (yn cael ei gyfarfyddoan Mr. D. White Phillips), dros y Cwmni. Nid oedd y ffeithiau yn cael eu dadleu, ond daliai y Diffynyddion fod esgeulusdod dybryd ac anufudd-dod wedi cymeryd He ar ran y trangcedig neu ni fuasasai wedi cyfarfod a'i farwolalaeth fel y gwnaeth, ac felly nad oedd y Cwmni yn gyfrifol i dalu iawn yn yr achos. Mr Proctor a anerchodd y Barnwr, a gofyn- odd am ei ddyfarniad ar bwynt neillduol, sef, mai y Diffynyddion oedd i fyned o dan y baich o geisio profi eu haeriad i esgeulusdod ac anu- fudd-dod gymeryd lle.-Mr Griffith, Yr wyf yn hollol gydsynio a'r ewrs a awgrymai fy nghyf- aill dysgedig, ac af yn mlaen i alw fy nhystion, gan anerch eich Anrhydedd ar ol hyny, yn lie gwneyd yn awr." Yna aeth Mr Griffith ymlaen gyda'i dystion. Ellis Wynne Evans, 5 Cwmorthin road, Tan- ygrisiau, a roddodd dystiolaeth am y ddamwain. Yr oedd yn gweithio gyda John Jones, a phed- war arall, yn y fan y syrthiodd y rhew o gwr uchaf y graig ar ben John Jones, gan ei ladd yn y fan. Buont yn y lie yn gweithio trwy y boreu. Gweithio yr oeddynt oil i Griffith Morris a Robert Morris y bargeinwyr. Tua haner awr wedi deg daeth y ddau oruchwyliwr heibio, a galwasant sylw at y rhew oedd ar y graig. Buont yn taflu cerig ato, ac wedi methu ei daraw i lawr, dywedodd un o honynt wrtho, Elsyn, yr wyt ti yn fawr, tyr'd yma hefo scraper neu far a tyn hwn i lawr." Mewn joke y dywedodd hyny. Wedy'n dywedodd Thos. Owen Williams wrtho, Mi ddyle hwn ddod i lawr. Well i ti ei symud." O'r goreu, I fyddai i ddim baner awr yn myned ato hefo cadwen." Yr oedd y rhew yno er's bythefnos, a byddai yn diferu ychydig yn llygad yr haul fel yr oedd y boreu hwnw. Yr oedd John Jones o fewn cyraedd clywed y siarad gyda'r gaffar. Pe buasedt yn gwybod fod y rhew yn beryglus, ni fuasent byth yn myned o tano. Gwyddai am Reolau y chwarel, ond nid oedd wedi eu darllen.—Estynwyd y Rheolau iddo, Fedrai ddim darlleu Saesneg.—Mr Griffith, "Ond Cymraeg ydynt. Edrychwch."—Y Tyst, "O ie. Ond dydi hwn yn deyd dim ond am graig, 'does yma ddim son am rew." Ni wyddai pwy oedd i dynu pethau peryglus yn y chwar- el. Croesholwyd yn drwm gan Mr. Proctor, a dywedodd iddo anghofio dywedyd rhai pethau oeddynt yn anffafriol i John Jones pan holwyd ef ar y trengholiad. Bu tri o honynt o dan y rhew yn gweithio ar ol y siarad a'r gaffers, ond ni fuasent byth yn myned pe'n meddwl y dis- gynai. Yr oedd yn gweithio yn y chwarel o hyd, ac ni cheryddwyd ef am beidio symud y rhew. Ni ddywedodd yrth dri dyn pan yn symud y corph, fod yn gywilydd i John Jones golli ei fywyd trwy y gaffers. Yn ol Rheol 5, y swyddog oedd i symud peth peryglus. Wrth "gaffer" y meddyliai y "boss," ac wrth y "boss" y meddyliai y "steward." Robert Morris, 2, Arfhur Terrace, Penmach- no, a ddywedodd ei fod yn o'r bargeinwyr ar y He y bu'r ddamwain. Sylwodd ar y rhew, ac yr oedd yn meirioli boreu'r ddamwain. Gwel- odd y ddau ddyn yn myned o dan y rhew.— Mewn atebiad i Mr Proctor, nid yn eu bargen hwy yr oedd y rhew, a gwaith y swyddogion oedd ei symud: nid ei waith ef na John Jones. Gweithient o dano o 7 hyd ddeg y boreu hwnw Yr oedd yn ofalus ei hun, ac yn ofalus am ei ddynion. Ni fuasai byth yn gadael i John Jones, fyned o dan y rhew pe yn gwybod ei fod yn beryglus. Ni chlywodd ddim am dynu y rhew i lawr, ond y joke gyda'r scraper. Dy- wedodd nad elai i weithio i'r lie ar ol hyny heb i'r rhew gael ei symnd, a cnytunwyd iddo ef wneyd hyny. Cadwaladr Davies, Ty Newydd, Ysbytty Ifan, creigiwr, a ddywedodd ei fod yn un o'r rhai weithient yn y lie y bu'r ddamwain. Ni welodd rhew fel hyn yn syrthio mewn chwarel, na neb yn cael ei osod i'w dynu. Thomas Owen Williams, un o'r goruchwyl- wyr. Gwelodd Ellis W, Evans, John Jones, Robert Morris, a Cadwaladr Davies yn gweithio yn y lie bu'r ddamwain. Yr oedd y rhew ar y graig yn hollol uwchben canol y fargen. Cyfarwyddodd E. W. Evans i dynu y rhew am eisbod yn meiriol. Gallasai fod John Jones ei glywed yn dywedyd wrth Evans am dynu y rhew. Gwaith y dynion oedd tynu pethau o'r fath.—Mewn atebiad i Mr. Proctor dywedodd ei fod yn ystyried rhew yn loose yn ystyr y Rheolau. Barnwr, Beth am Reol 62 a 6 ? Tyst, Nid yw nhw i mewn o gwbl." Gan Mr. Proctor.—"Beth am Reol 2 a 3? Mae eisiau cofnodiadd o bethau welir yn beryglus a welir neu a hysbysir am danynt mewn llyfr."—Tyst. yr oedd wedi tori y rheol hono yn yr achos hwn. Yr oedd yr oil ar y gwaith pan ddywedodd wrth Ellis W. Evans am dynu rhew mewn chwarel. David Edwards, goruchwiliwr yn y chwarel. Dywedodd wrth Ellis Evans am dynu y rhew, a dyledwyd y dynion ydoedd symud peth o'r fath. Dyledswydd y cwmni ydoedd symud pethau peryglus os byddent yn golygu llafur ac am&er mawr. Yr oedd John Jones wedi tori y Rheol am na symudodd y rhew. Gan Mr. Proctor Peryglus oedd peth olygai amser hir i'w symud. Mr. Proctor: "Onid yw lladd dyn yn rhyw- beth yn eich golwg ?" Y Tyst a ystyriai mai y dynion oeddynt i symud y rhew hwn, a dywedodd wrthynt. am wneyd. Ni ddywedodd wrth John Jones yn bersonol am wneyd hyny. Mr. Proctor Sut yr ydych yn meiddio dod yma i ddweyd fod y dyn, druan, wedi an- ufuddhau, ac wedi bod yn euog o esgeulusdod gwirfoddol, tra na ddywedasoch air wrtho am ypeth?" "Yroeddo fewn cyrhaedd clywed fel Ellis Evans." Griffith Morris, Rhiwbach, a ddywedodd ei fod yn greigiwr er's 27 mlynedd. Gweithiai yn Rhiwbach er's tua 16 i 17 mlynedd. Ei arfer personol ef ydoedd symud pethau peryg- lus ei hun, neu adroddai i'r swyddogion. Ni fu erioed yn symud rhew.—Ellis Williams, Cwmorthin Road, Tanygrisiau, a Daniel Hughes, Ffestiniog, a dystiasant yn gyffelyb. Ni welsant symud rhew erioed. Clywodd y tyst olaf y siarad fu rhwng Thos. O. Williams ac Ellis Wynne Evans wrth ddod a'r corph o'r chwarel. Fe ddywedodd T. O. Williams, "Ni feddyliais erioed y buasai y rhew yn dod i lawr," ac atebodd Evans, "Pethau fel yna ddylech feddwl am danynt." Yr Henadur Andreas Roberts a dystiodd iddo fod yn Rheolwr Chwarel Cwmorthin am 19 mlynedd. Y Cwmni oedd i symud peryglon o'r golwg a rhai oeddynt yn golygu llawer o lafur. Y gweithwyr eu hunain oeddynt i symud pethau bychain. Mr. Proctor; Pwy oedd i symud y rhew hwn?"—"Gan mai peth bychan ydoedd, yr wyf yn ystyried mai y dynion." Mr. Proctor, Felly, os bydd rhywbeth yn myned i ladd dim ond un dyn perygl bychan ydyw, ond os bydd am ddeg neu ugain y mae yn berygl mawr; a'i dyna eich syniad ?—Dim atebiad. Mr. Owen Williams, Chwarel Cwt y Bugail a dystiodd am yr arferiad o symud pethau per- yglus, ond ni welodd erioed symud rhew. Dawers, clerc y chwarel a ddywedadd i John Jones fod yn gweiteio yn y chwarel am bedwar mis, a dechreuodd yn mis Medi. 18s 8c oedd cyfartaledd ei enillion yn yr wythnos, a deuai hyny i f 145 18s 6c mewn tair blynedd. Mr R. A. Griffith a anerchodd y Barnwr gyda hyawdledd, a daliai fod yn anhyfryd iddo awgrymu i ddyn beryglu ei fywyd yn wirfoddol trwy fyned i safn marwolaeth fel y gwnaed yn yr achos hwn. Parhad yn tudalen 8,
Advertising
0 i 0 j MAE RHAID MYNED. AT y GWAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y chwi yn eu mysg—yn agored if nifer fawr o glefydau. Paham felly ? Am fod Anmhurdeb yr Awyr, Anmhnrdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylchynol yn cren Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED yu cael ei lygru. a'i wenwyno, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, ECZEMA, TARDDIANTAU Y OROEN, LLYGRIADAU, RASH, OOESAU CLWYTEDIG PENDDYNOD, RHEUMATISM, OORNWYDON, NEURALGIA, A llu o Glefydau eraill y Oorfif a'r Ymenyad, i ruthro ar wahanol ranan o'r cyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydan ag Bydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yr BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN EI GABW YN BUR. SwMynweh Heb ma weled hyny y Galon Twyll ar bob box xjlar ydyw. Os by dwch yn diod4ef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL OORFFRWYMEDD, POEN Y CEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWYLDERAU Y GWYNT, OYLLA A'R ARENAO. ISEL YSBRYD, Cofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod yn rhaid myned at y GWAED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae HUGHES'S BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrchol ar y GWAED, ac ar yr hot gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lc, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. O. at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. ? ? '???*   ? /??? jpSlf Rhoddwch brawf ar Gomer's. Balm MAE GOMElt S BALM YN ELI AT BOB CLWYF, AO YN HYNOD AC ANFFAELEDIG AT BOB MATH GLEFYDAU ALLANOL Y CORFF. A oes genych Goes Ddrwg? Y mae GOMER S BALM yn iachan y Olwy 0 braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd, Exzema Cedwir llawer Aelod. Drwy ddefuyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachall Crach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanau, Piles, Llygriadau Plant a Benywod, Malaethau, Tarwden, Traed Chwysedig, Gout, Gwynegon, Scurvv. Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, Cerrig Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, Crefftwyr o bob math, ni ellir cael dim mor effeithiol a sicr a Gomer's Balm at bob Archoll a Damwain i'r Cnawd, a sicrhad rhag y Blood Poison marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.—Mae eich Eli, sef Gomers B-tim, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldanu yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fuan ag oedd yn bosibl, yn mhsn yr wythnos yr oedd yn abl I'w gael ei wisgo, ac yn bur fnan yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad Ilym iawn ran y Blast (neu Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Gomer's Balm yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity nad yw pawb ddim yn gwybod am dauo.-H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT A SAUCER. Syr.-Ni allaf byth ddiolch digon am eich Gomer's Balm, y mae yn iachan fy nglun yn gyflym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am bum' mlynedd. elwyf mawr cymaint a sauccr, ac yn boenus iawn, pawb yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwythauy poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario punocad lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Dalarston. Rhodder Prawf arno. Gofyner am Gomers Balm. Na thwyller ohwi, mynweh weled enw "JAOÓÊ HUGHES" ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist neu werthwr PatentlMedicino am Is lie., neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P, 0. i'r gwneuttmrwr, JACOB HUGHES, M.P S LD.S MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF
NODION O'R CYLCH.
waid yn y Gymraeg, a gofidiai ami Warcheid wad am nad allent siarad Seisnig wrth drafod pethau yn ei bresenoldeb. Yn marwolaeth Mr. Richard G. Pritchard, collodd y Penrhyn a Sir Feirionydd un o'i dynion rhagoraf. Yr oedd yn un a hoffid gan bawb a'i adwaenai, ac yn gymeriad disglaer a dilychwin. Sylwasom arnoyn y Cyngor Sirol, ar y Bwrdd Ysgol, ac ar y Bwrdd Addysg, yn dadleu dros yr hyn oedd ganddo eisiau gario trwodd, a gwnai hyny gyda medrusrwydd nodedig ac os byddai yn methu llwyddo ar y pryd, gadawai argraff ar bawb ei fod o ddifrif yn credu yr hyn a ddywedai. Yr oedd yn rhy anrhydeddus ac unplyg i ddywedyd un peth mewn Bwrdd neu Gyngor, a pheth arall allan o hono. Cariai lawer o bethau trwodd am mai efe oedd yn eu cynyg, am fod y fath ymddiried gan bawb yn ei farn a'i amcanion. Heddwch i'w lwch. Chwith iawn yw meddwl iddo adael ei le yn wag mor gynar ar ei oes. Boed nawdd y nefoedd dros ei briod alarus.