Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
^msmmmmi—i nilwm wiiniimn niiii«ier>ra»aB I MAE RHYW FODDHAD I ?H mewn gwybod fod Het yn eich siwtio. Efallai nas ?' Bf gallwch ddweyd eich hunaÏnpa un a ydyw a'¡ peidio. H Mae Hawer yn cyfaddaf &u bod yn hollol analluog i I I GALWC" ■ GYDA GVDA v ac fe ddywedwn wrthych paham mae un Het yn eich siwtio pan na wna y Hall. Mae genym Stock helaeth o Hetia N e\vyddion wedi dod adref i siwtio pob pen a phwrs, o Hetia B Brwyn, 2lc. yr un, i Real Panama, 16/6 a 21/- yr lW. |fl — Rhoddir Pocket Mirror i bob un a bryno Het IB gwerth 2/- a throsodd. IB SHOP YR ERYR, STREEETT.. I fMYND I FYNY.] E, mynd i fyny wrth 1 y miliwnau bob blwyddyn mae gwerth- iant y Co-operative Societies drwy y deyrnas, ac mae yn ymddangos nad oes dim a all attal y llifeiriant. Yr ydym ninau yn Blaenau Festiniog wedi dechreu symud. A gawn ni eich help i fyn'd yn uwch ? Cewch ddod i'n canlyn. í f. Blawd "White Rose" 14/3 BAYG. TE is. 6c. Goreu yn y Blaenau. Apricots, Gic. y tin. Pears @c» y tin. Salmon Be. a 7-12 c. y tin. Ac. 4c. CO-OPERATIVE SOCIETY, Ltd., Bi. FestiniQg. R.iY. 10,000 Hosanau Dynion a Merched.   oddiwrth wreutliur-,vyr Hosaiiau, yr hwn sydd yn ?\YMUNWN alw sylw ein bod wedi prynu oddiwrth wneuthurwyr Hosanau, yr hwn sydd yn  ? rhoddi fynu "busnes," ei holS Siock, am bris hynod o isel, yr hyn a'n galluoga ni eu gwerthu am brisiau a bar syndod. Hosanau Cryfion i Ddynion (Lliw Tywyll) 10c y par. Hosanau Gwlan Cryf i ddynion (Drab neu Grey) Is 4c y par. Hosanau Merched, Cashmere, plain & ribbed (Black neu Tan) lie y par. Hosanau Merched, Cashmere goreu is 4c y par. Hosanau Merched, Embroidered neu Open Lace Work 3s 4c y per. Gellir eu cael uewn unrhyw size. c y Par yn 13ai os cymerir 3 par. Telir y Gludiad. ,< Anfonir yr Hosanau gyda throad y Post ar dderbyniad Postal Order neu Stamps: Os wedi eu gwerthu cyn dderbyniad eich Order, anfonir yr Arian yn ol. 'I J, t H. ROBINSON, & Co., 10, Norfolli St, Manchester
AT EIN GOHEBWYR. [
AT EIN GOHEBWYR. [ MARTIN.—Nid yw pawb yr un syniad am "chwaeth dda a moesol," ac nid ydym yn meddwl ei fod yn deg i'r naill newyddiadur feirniadu y IlaIl, oni bydd egwyddor yn y cwestiwn.
I NODIADAU WYTHNOSOL. I
I NODIADAU WYTHNOSOL. I Y Diweddar Syr Wilfrid Lawson. Chwith ydyw ysgrifenu y gair diweddar o flaen enw y barwnig da. Ond rhaid gwneyd, oblegid bu farw boreu Sul diweddaf, yn saith-deg-a-saith mlwydd oed, o fewn deu- fis. Efe, dybygwn, oedd yr aelod hynaf o Dy'r Cyffredin, er nad eisteddodd yno yn hollol ddifwlch. Ymgeisiodd am gynrych- iolaeth Gorllewin Cumberland-sedd oedd yn hen feddiant gan y Toriaid-yn 1857, ond aflwyddianus fu. Yn fuan wedi hyny, etholwyd ef yn aelod dros Carlisle, a chyn- rychiolodd y ddinas hono a'r etholaeth a enwyd eisoes am flynyddoedd meithion. Yn Etholiad Cyffredinol 1900 gwrthodwyd ef gan Orllewin Cumberland, ond ar fyrder dewiswyd ef gan etholwyr Camborne (yn Nghernyw) i'w cynrychioit hwy. Pan ddaeth yr Etholiad Cyffredinol diweddaf ymgeisiodd drachefn am law ei gariad cyntaf, a llwyddodd. Cafodd 563 o fwyafrif ar ei wrthwynebydd. Nid yw yn ormod dywedyd nad oes yn yr holl wlad enw yn fwy adnabyddus iddi na'r eiddo ef. Gwyr pawb am ei ffraethineb neillduol iawn, a gwyr llawer am ei ymdrechion dyfal diflino cyson ac egniol yn mhlaid achos sobrwydd. Efe oedd tad y Permissiol Bill drwy yr hwn y mynai roddi i drethdalwyr pob tref a phlwy yr hawl i benderfynu a werthid diod feddwol o fewn eu terfynau a/i peidio. Yn y flwyddyn 1864 y dygodd i y mesur hwnw gerbron Ty'r Cyffredin am y waith gyntaf, ac ni chafodd o,nd 35 yn unig i bleidleisio drosto, tra yr oedd 327 yn ei erbyn. Ni pharodd hyny iddo ddigaloni; dygodd y mesur ymlaen dro ar ol tro, ond gwrthodwyd ef drwy fwyafrif mawr drachefn a thrachefn. Yn 1879, yn lie dwyn y mesur ymlaen fel arfer, cynygiodd benderfyniad yn cymerad- wyo egwyddor Dewisiad Lleol, a phleidiwyd hwnw gan 229, tra y rhifai ei wrthwynebwyr 203. Ymhlith y lleiafrif a'i gwrthwyneb- asant y flwyddyn hono a'r flwyddyn ddilynol yr oedd y diweddar Mr. Gladstone, ond cafwyd y gwr mawr hwnw yn mysg y rawy- afrif oedd o'i blaid yn y flwyddyn 1881. Rhaid cofio fod Syr Wilfrid Lawson wedi pleidio mesurau dirwestol a ystyrir yn awr yn rhesymol ac angenrheidiol, pan yr edrychid ar y rhai a'u pleidient fel penboeth- iaid ffol a hollol anymarferol. Gelwid hwynt yn ynfydion gwawdid hwy gan rai a dir- mygid hwy gan eraill. Er hyn oil ni laesodd y barwnig gwrol mo'i ddwylaw, ac iddo ef yn benaf y mae'r clod yn ddyledus am fod y deddfau sydd yn rheoleiddio'r fasnach mewn diodydd meddwol gystal ag y maent, ac ar y ffordd i gael eu gwneyd yn well. O'r braidd mae'r cyhoedd yn barod i gredu fod gwr ffraeth sydd yn arfer dywedyd pethau ysmala a barant iddynt chwerthin yn ddyn o ddifrif." Boed hyny fel y byddo, yr oedd Syr Wilfrid yn "ddyn o ddifrif" mewn gwirionedd. Yr oedd ganddo argyhoedd- iadau dyfnion, a gwroldeb i lynu wrthynt ac ymladd drostynt er gwaethaf pob gwawd ac anfri. Nid oedd yn y Senedd well Rhydd- frydwr na Radical iachach nag ef cafodd rhyddid a chyfiawnder gwtadol a chrefyddol ynddo ef bleidiwr pybyr iawn. Brwydrodd yn ddewr a brwydrodd yn hir yn achos y werin, a gwnaeth hyny heb chwerwder o gwbl na chasineb at neb; er hyny yn ben- derfynol iawn ac yn hollol onest. Nid oedd iddo elyn ymhlith ei wrthwynebwyr penaf hoffiid ef gan y Senedd a cherid ef gan y wlad. Erbyn hyn nid edwyn ei le yn y Senedd nac yn y wlad ddim o hono ef mwy, ond cofir ei enw yn hir, perchir ei goffad- wriaeth, a gwerthfawrogir ei wasanaeth ffyddlawn i'w genhedlaeth ac i genhedlaetb- au a ddeuant eto.
Blwydd-dal Henaint yn FTrainc.…
Blwydd-dal Henaint yn FTrainc. I Gwnaeth M. Sarrien, Prif Weinidog Ffrainc, yn hysbys ei fod ef a'i Weinyddiaeth yn bleidiol i nwydd-dal mewn henaint, ac yn bwriadu symud ymlaen gyda'r mater. Y cynllun a ffafriant ydyw ffurfio cronfa trwy alw ar bawb i gyfranu swm penodol yn flyn- yddol tuag ati, a gofyn i'r Senedd roddi swm neillduol tuag ati o bwrs y wlad. Rhaid i Brydain Fawr edrych ati, onide bydd gwledydd y cyfandir yn cael y flaenoriaeth arni yn y gwaith da hwn. Ni ddylai y wlad gyfoethocaf ar y ddaear oedi dan yr esgus nas gall fforddio gwneyd hyny. Y ffordd i symud yr anhawsder hwnw ydyw trwy was- I traffu llai. Gwaried lai ar ei llynges a'i byddin a'r llu mawr o segurswyddwyr sydd yn byw yn fras arni, a bydd ganddi ddigon i ddarparu blwydd-dal i rai oedranus i'w cadw uwchlaw angen ac i wario ar ysgolion a cholegau a sefydliadau eraill o'r rhai ni ddichon ddim ond lies ddeillaw i'r bobl cyff- redin ac i rai na fynant eu cyfrif yn eu plith J hwy.
I Cod -Addysg I So S. -I
I Cod Addysg I So S. I Yn Nghod Addysg 1906 ceir amryw beth- au newyddion a haeddant sylw. 0 hyn allar. ni fydd yn angenrheidiol i Arolygwr ei Fawrhydi dalu ymweliad yn flynyddol a phob ysgol. Yn achos yr ysgolion hyny a roddant iddynt foddlonrwydd llawn, byddant yn rhydd i adael i flwyddyn fyn'd heibio heb ymweled a hi. Credwn fod hun yn symud- iad yn y cyfeiriad iawn yn gymaint ag y rhyddha yr athrawon goreu oddiwrth yr angenrhaid sydd wedi bod arnynt hyd yn hyn i dreulio llawer o amser gwerthfawr i barotoi y plant ar gyfer arholiad blynyddol, ac i'w dreulio mewn modd a fydd yn llawer mwy manteisiol i'r plant. Yn mhellach, ordeinir fod chwareuon priodol i fechgyn a genethod i gael eu trefnu yn mhob ysgol, i gael eu chwareu ganddynt yn y prydnawn fel rhan o waith yr ysgol. Fel rheswm dros hyn dywedir y bydd y chwareu yn foddion i ddysgu'r plant i gymeryd, a rhoi," i'w dysgu i arfer chwareu teg," ac i orchfygu heb ymorfoleddu a chymeryd eu gorchfygu heb sori na chwerwi. Mae'n ddiameu genym fod peth arall hefyd mewn golwg, sef atal y dirywiad corphorol ag ycwynir fod yr oes sydd yn codi yn dioddef oddiwrtho. Heblaw hyn rhoddir rhybudd y bydd y Bwrdd Addysg ar ol Gorphenaf 31, 1909 alw am i nifer neillduol o arhrawon pob ysgol fod yn athrawon trwyddedig ac wedi cael hyfforddiant mewn Coleg. Pair hyn lawen- ydd i ni, oblegid yr ydym yn argyhoeddedig fod cryn lawer o'r athrawon sydd heb drwy- dded a heb gael hyfforddiant colegol yn dra anghymwys i'r gwaith y tybir eu bod yn ei wneyd. Nddweddir Cod y flwyddyn hon tu hwnt i'w flaenoriaid gan synwyr cyffredin, ac y mae yn greddyd i Mr. Birrell a'r rhai sydd yn cyd-weithio ag ef.
Blinder yn Nglwb Carlton._j
Blinder yn Nglwb Carlton. Mae'n wybyddus fod nid ychydig o chwerwder yspryd a dolur teimlad yn Nghlwb Carlton-y penaf o'r clybiau Tori- aidd, a Mr. Chamberlain sydd yn gyfrifol am hyny. Glyna y boneddwr gwir anrhyd- eddus wrth ei benderfyniad i ymlid allan o'r gwersyll Toriaidd bob Rhyddfasnachwr, ac ac y mae cryn lawer o'r rhai hyny yn y Clwb a enwyd. Y ffordd a gymer ydyw hon. Mae'r amser wedi dyfod i ethol aelodau y Pwyllgor sydd yn ymarferol yn rheoli y clwb, ac mae'r gair wedi myn'd allan yn ddystaw o Birmingham nad gwiw ethol yr un Rhyddfasnachwr yn ae!od o'r pwyllgor hwnw. Yr amcan sydd mewn golwg wrth wneyd felly ydyw gwneyd y Clwb yn anioddefol i bawb ond y rhai sydd yn foddlon i ddilyn Mr. Chamberlain trwy bleidio diffyn- dollaeth. Gesyd hyn rai Toriaid a Rhydd- frydwyr Undebol mewn lie cyfyng. Os ymleddir hwy allan o'r Senedd ac o'r Carlton ac o gylchoedd neillduol eraill. Pa fodd y gallant barhau yn aelodau o'r blaid Undebol neu Doriaidd. Rhaid fydd iddynt dori eu cysylltiad a hi, a bydd ganddynt i ddewis rhwng ymffurfio yn blaid Anibynol, ar y naill law, a cheisio lie yn y blaid Ryddfrydol a Thoriaid hefyd fel rhwygwr fpleidiau. Ni fu ei gysylltiad a'r Rhyddfrydwyr gynt yn fantais o gwbl iddynt, a "chaiff y Toriaid achos i ofidio ddarfod iddo erioed geisio a chael ganddynt dderbyniad i'w plith hwy.
Mesur Addysg Adran Vi -I
Mesur Addysg Adran Vi Yn ol yr adran hon, fel y'i lluniwyd i ddechreu, ni orfodir plant i fod yn yr ysgol yr adeg y cyfrenir Addysg Grefyddol ynddi. Ymddengys ddarfod i'r Llywodraeth gael achos i gredu fod cryn lawer o Ryddfrydwyr yn anghymeradwyo hyn, ac y byddent yn pleidleisio dros welliant o'r hun y rhoddasai Mr. Walters (aelod Rhyddfrydol) rybudd. Y canlyniad fu i Mr. Birrell wneyd yn hysbys fod y Llywodraeth yn edrych ar y cwestiwn fel cwestiwn agored," a golyga hyny fod y Rhyddfrydwyr yn rhydd l bleidleisio fel y gwelent yn dda, ac na fyddent wrth bleidleis- io dros y gwelliant yn pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth nac yn ei gosod mewn perygl. Nos Lun y daeth yr adran dan ystyriaeth Ty'r Cyffredin, a chynygiodd Mr. Walters ei welliant. Gwnaeth yn hollol eglur nad oedd ganddo ewyllys i orfodi unrhyw blentyn i dderbyn Addysg Grefyddol oni fynai ei rieni; darparai ei welliant fod Addysg mewn rhyw bwnc bydol yn cael ei chyfranu i'r plant na fyddant yn derbyn Addysg Grefyddol. Bu dadl-a hono yn ddadl gyffredin iawn-ar y mater, a chododd am- ryw ryddfrydwr i bleidio y gwelliant. Dy- wedodd Mr. Birrell ei fod ef yn bersonol yn ei erbyn ac yn glynu wrth yr adran yn ei ffurf wreiddiol. Pan ranwyd y Ty gwrthod- wyd y gwelliant drwy fwyafrif o 16, a dim ond hyny. Pleidleisiodd 267 drosto a 283 yn ei erbyn. Gelwir sylw at y ffaith fod amryw o aelodau'r Weinyddiaeth yn yllleiafrif-Syr Henry Fowler, Mr. Bryce, a Syr Lawson Walton (y Twrne Cyffredinol). Hawdd yw deall yn awr pa fodd y bu i'r Llywodraeth adael y cwestiwn yn gwestiwn agored. Gellir bod yn sicr y bydd i fychander y mwyafrif yn erbyn v gwelliant, ynghyd a'r ffaith fod rhai o Aelodau'r Weinyddiaeth wedi pleidio y gwelliant, beri i'r Arglwyddi ei gynyg a'i basio hefyd, ac ni fydd ganeb le i ddywed- yd dim yn erbyn hyny. Gorfodir ni i deimlo fod y Llywodraeth yn dangos fod ynddi wendid mawr ynglyn a'r Mesur yma. Mae llawer rhwng y Mesur a'u boddloni mae mwy fyth rhyngom a chael ein boddloni yn y dull y dygir ef trwy Dy'r Cyffredin gan y Weinyddiaeth, Nid Mr. Birrell yr ydym yn ei feio. Credwn ei fod ef yn gwneyd ei waith gystal ag mae'n bosibl iddo ei wney d yn yr amgylchiadau, ac yn ngwyneb gvvendia j rhai o aelodau'r Weinyddiaeth. Yr ydym — ■ ■' v■ yn mwy na haner ofni na fydd y Mesur wedi y gorphener ef yn werth y papur y mae wedi ei argraphu arno.
Etholaeth Ddinbych Ddwyreiniol.
Etholaeth Ddinbych Ddwyreiniol. Ar y dybiaeth y penodir Mr. Samuel Moss yn Farnwr Llys Manddyledion, y mae Cymdeithas Ryddfrydol ac Undeb Llafur yr etholaeth wrth y gwaith o ddewis un i gym- eryd ei le. Da genym weled fod pob rheswm dros gredu eu hod yn deall eu gilydd ac yn cydweithio yn galonog. Bu cynhadledd ddydd Llun. Ynddi gwnaed yn hysbys fod gerbron Undeb y Glowyr enwau tri o wyr, ac y gofynir i'r aelodau bleidleisio arnynt. Disgwyliant i'r gwr y rhoddir mwyaf o bleidleisiau drosto gael ei roddi yn rhestr fer yr ymgeiswyr ag yr anfonir eu henwau i holl Gymdeithasau Rhyddfrydol yr ethol- aeth bleidleisio arnynt. Gan fod aelodau'r Undeb yn aelod o un o'r Cymdeithasau hyny, cant gyfle yn y gwahanol ardat- oedd i bleidleisio dros yr un a fynent o'r ychydig wyr a'u hehwau ar y rhestr fer. Gellir bwrw felly nad oes berygl y daw tri ymgeisydd allan. Pe dygai y Rhyddfrydwyr allan un ymgeisydd arall, cipid y Sedd gan yr ymgeisydd Toriaid; ond os syrthir ar ymgeisydd a fydd yn gymeradwy gan y Llafurwyr a'r Rhyddfrydwyr, ofer fydd i'r Toriaid ddwyn allan ymgeisydd o gwbl.
:Anrhydeddu Dau Gymro.
Anrhydeddu Dau Gymro. Ar gyrhaeddiad dydd pen ei flwydd an- rhydeddodd y Brenin lawer o wyr cyhoeddus trwy roddi iddynt deitlau. Rhyddfrydwyr ydynt agos i gyd. Yn eu plith mae Syr John Jones-Jenkins yr hwn sydd wedi ei ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi. Cofir ddarfod iddo lawer o flynyddoedd yn ol eistedd yn Nhy'r Cyffredin fel yr aelod Rhyddfrydol dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin a Llanelli. Yn 1885 ciliodd oddiwrth y Blaid Rydd- frydol am ei fod yn erbyn rhoddi ymreolaeth i'r Iwerddon, a bu yn Undebwr am lawer o flynyddoedd. Yn ddiweddar daeth allan i bleidio Masnach Rydd a gwnaeth hafog ar rai o arcithiau Mr. Chamberlain, ac mae'n ddealledig ei fod yn awr yn cyfrif ei hun yn Rhyddfrydwr megis cynt. Mae yr aelod dros Abertawe wedi ei wneyd yn farwnig, ac adwaenir ef o hyn allsn fel Syr David Bryn- mor Jones. Llawenha llawer o herwydd hyn, oblegid y mae Syr David yn un o'r cynrychiolwyr Cymreig sydd wedi gwneyd, ac yn gwneyd, gwell gwaith yn y Senedd na llawer o aelodau sydd yn gofalu fod eu henwau yn cael eu cyhoeddi yn amlach na'r eiddo ef. Eiddunwn i'r pendefig a'r bar- wnig hir ddyddiau a phob rhwyddineb i wasanaethu'r Hen Wlad yn well nag erioed.
NODION O'R CYLCH.
NODION O'R CYLCH. Yr oedd cyfarfod Cyngor Dinesig y Bettws Nos Wener, yn un hynod o dawel, a phob aelod yn ymddangos yn awyddus i wneyd ei ran gydag amgylchiadau y lie. Y mae dull bonedd- igaidd a didramgwydd Mr. Robert Parry, y Cadeirydd, o lywyddu, yn peri i heddwch deyrnasu er gwaethaf pob elfen wahanol allasai lochesu yn y cyfarfod. Gofidiwn wrth weled i Fwrdd y Llywodraeth Leol wrthod caniatadi'r Cyngor fenthyca arian at wella ei cyflenwad dwfr presenol, yn ogystal a gwrthod caniatad i fenthyca at garthffosu Pentredu. Y rheswm yn y neill achos yw, nad yw cymeryd dwfr o afon fel y Llygwy yn foddhaol, ac yn y llall, fod eisiau cyfundrefn gyflawn at drin carthion y dosbartb. Ee allai mai y Bwrdd sydd yn iawn, ond ofnir y draul yn fawr gan y Cyngor, gan y golygai myned i Ffynon Llygwy am ddwfr, draul o tua wyth mil o bunau, ar Carth- ffosydd amryw filoedd yn ychwanegol. Golygai hyny faich mawr ar le mor fychan nid yw treth o swllt ac wyth geiniog yn y bunt yn cyn- yrchu ond /410 3s 5c. Felly byddai gasod tua wyth mil o bunau yn faich ychwanegol yn ystyriaeth bwysig iawn i'r Bettws. Ar waethaf ei olwg anaddawol yn amseff dechreu, trodd cyfarfod y gweithwyr nos Wener allan yn un o'r cyfarfodydd goreu gyn- haliwyd yn yr ardal ers llawer oamser. Siarad- wyd cryn lawer ynddo, a hyny oddiar argyhoedd- iadau dyfnion, ac yr oedd yn amlwg na ddisgyn- ai y geiriau ar ghustiau dienwaededig. Yroedd cydymdeimlad y cyfarfod yn rhedeg yn gryf gyda'r siaradwyr. Credwn y bydd ei ddylanwad yn dda. Dywenydd i ni oedd gweled y Parch. Benjamin Thomas, B.A., yn ymdaflu mor galonog i yspryd y cyfarfod, a'i glywed yn dadleu gyda'r fath sel a donioldeb achos ei gydweithwyr. Diau y chwanega lawer at ei boblogrwydd trwy yr ymddangosiad hwn ar Iwyfan y gweithwyr. Gwnaeth amryw o'r siaradwyr sylw difyrus o'r unig foneddiges oedd wedi anrhydeddu y cyfarfod a'i phresenoldeb, sef Miss S. C. Jones, Ysgol Glanypwll. Ni welsom nifer can lleied erioed yn Mwrdd Gwarcheidwaid y Penrhyn ag oedd yno ddydd Mawrth. Ni ddaeth neb yno at yr amser enwir ar y cerdyn swyddogol, ae felly dechreu- wyd am 11 yn lie 10 fel yr arferid gwneyd yn ystod y tri mis haf. Hysbyswyd yn swyddogol fod Mr. Bircham yn ymddiswyddo ddechreu yr wythnos hon, ar ol cyflawni dyledswyddau ei swydd bwysig gydag urddas a dylanwad, fel na bu un achos tramgwyddus yn y cylch hwn y dylid cwyno o'i herwydd yn ystod y pymtheng mlynedd a basiodd. Gwnaeth Cadeirydd y Bwrdd gyfeiriad caredig iawn ato, ac at benod iad ei Olynydd. Ni hysbyswyd pwy oedd hwnw, ond yn unig ei fod yn Gymro, ac yn Ymneillduwr." Mae ei fod yn Gymro M yn sicr o fod yn fantais yn y cylch hwn, gan fod y ddau Fwrdd,—Penrhyn a LIanrwst,-yn gwbl Gymraeg, ac yn trafod pobpeth yn y Gymraeg. Llaweroedd o weithiau y clywsom Mr Bircham yn cwyno am nad allai anerch y<<jwarcheid-