Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYFARFOD UNDEB Y CHWARELWYR.

News
Cite
Share

CYFARFOD UNDEB Y CHWARELWYR. Nos Wener, Mehefin 29ain, cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus o weithwyr yn yr Assembly Rooms i'r amcan o bleidio Undeb y Chwarel- wyr. Y prif siaradwyr oeddynt y Parch. John Williams, A.S., dros Ddosbarth Gower, Mor- ganwg, y Parch. Benjamin Thomas, B.A., a Mr. D. R. Daniels, trefnydd yr Undeb. Yr oedd yn bresenol ar y llwyfan hefyd, Mri. T. R. Davies Hugh Lloyd; Thomas John Evans, yr Ysgrifenydd lleol, a Mr. Henry Cunnington, Cadeirydd y Cyfarfod. Hwyr- frydig y bu'r cynulliad yn dyfod at eu gilydd, ond daeth torf fawr yn nghyd a chafwyd cyf- arfod rhagorol. Y Cadeirydd, wedi cyfeirio at sefyllfa anfodd- haol Llafur ar hyn o bryd a gynhorai bobl ieuainc i feddwl am gynllun i wella amgylch- iadau y gweithiwr. Dangosai yr angenrheid- rwydd am fanteisio ar ddeddfau ffafriol iddynt oedd eisoes mewn bod. Dylent wneyd safle gweithwyr dan eu Cynghorau Gwledig a Dinesig yn gynllun o'r hyn y dymunent i weithwyr gael. Fel un oedd a llais yn newisiad ein Cyngor Dinesig yr oedd arno gywilydd o'r cyflog a delid i rai o'r gweithwyr. Sut y gallai ef fel gweithiwr ofyn gyda dim cysondeb am gyflog byw pan yr oedd fel dinesydd yn cyflogi dynion dan gyflog ? Yr oedd cyflwr llafur ar hyn o bryd mor flodeuog ag y bu erioed, ac eto yr oedd tri chwarter miliwn o weithwyr yn anghyflogedig. Yr oedd hyn yn galw am gyfnewidiad yn yr holl gyfundrefn gymdeithasol fel y bodola ar hyn o bryd. Darllenodd Mr. T. R. Davies y penderfyniad canlynol:—" Ein bod yn llawenhau yn herwydd llwyddiant llafur yn mherthynas a deddfwr- iaeth, a'n bod hefyd yn argyhoeddedig mai drwy Uudeb a chydweithrediad y mae'n bosibl i ninau, Chwarelwyr Gogledd Cymru. sicrhau ein hawliau drwy ddeddfwriaeth gymdeithasol iachus." Cynygiodd y pender- fyniad mewn anerchiad pwrpasol yn yr hon y dywedai fod y llwyddiant y cyfeirir ato yn rhywbeth heblaw oedd wedi codi yn yr etholiad —ffrwyth dylanwadau cudd ydoedd. Yr oedd Undebau Llafur wedi bod yn gweithio am flynyddau o'r golwg ond eto yn effeithiol. Daliai mai prif angen Chwarelwyr ar hyn o bryd ydyw Undeb cryf a chronfa o £100,000 wrth ei chefn. Eilwyd y penderfyniad gan Mr. D. R. Daniels yr hwn a welai fod yn y cyfarfod arwyddion fod y mil blynyddau yn agoshau. Llawenhai wrth weled un foneddiges yn bresenol. Carai weled boneddigesau yn cymeryd dyddordeb mewn cwestiynau llafur, yr oedd y rhai hyn yn bwysig iddynt hwy yn gymaint ag mai hwy oedd y Chancellors of the Exchequer. Yr oedd arwydd ar y llwyfan hefyd eu bod yn dyfod yn nes at eu gilydd. Yr oedd pob plaid a chredo grefyddol a gwleidyddol yn cael eu cynrychioli yno. Pwysai ar y gweithwyr ddyfod i'r Undeb gyda theimladau mor gysegredig a myned i'r Seiat. Y Parch. John Williams, A.S., yr hwn a gafodd dderbyniad brwdfrydig, a ddywedodd nad oedd yn credu fod angenrhaid yn Festiniog i anfon am wyr dieithr i'w hanerch, gan fod dynion Ileol oedd yn gwylio yr amgylchiadau wedi arfer ac yn ableto i'w harwain yn ddiogel. Yr oedd symudiad oedd tu hwnt i ddychymyg dyn nac angel yn myned yn mlaen y dyddiau hyn-symudiad mawr cymdeithasol oedd mor gryf a deddfau natur. Yr oedd yr Eglwysi, y Cymdeithasau Dirwestol, Socialaidd a chyd- weithredol oil yn y symudiad mawr ac yn gwneyd daioni bob un yn ei ffordd ei hun ac o dan fendith Duw. Mynai i bob dyn holi ei hun a oedd ef yn y symudiad mawr hwn. Yr oedd y symudiad cydweithiol yn gwneyd gwaith ag yr oedd y wladweiniaeth fwyaf doeth wedi methu. Yr oedd yn cyflym gysylltu teyrnasoedd eraill a'n teyrnas ni, a thrwy y drafodaeth fasnachol yma yr oedd brawdoliaeth yn tyfu rhyngddynt. Yr oedd talaethau Gogledd Europe—Norway, Sweden ac eraill yn anfon eu cynyrch i'r wlad hon a pha fwyaf ddeuai yma rhataf fyddai y bwyd. A'r symudiad cydweithiol oedd yn cadw mantol y prisiau yn wastad, Yr oedd gan Lafur gymaint o hawl i ddefnyddio y peirian- waith gwleidyddol i sicrhau cyfiawnder ag oedd gan unrhyw blaid arall. Yr oedd gweithwyr wedi bod yn rhy ofnus i ddatgan yr hawl yma hyd yn ddiweddar. Ond yr oedd pethau yn dyfod yn well yr oedd Llafur yn dechreu cael sylw, a chyfeiriai at y ffaith ei fod ef Y collier bach 7 yn eistedd gyda Mr. Osmond Williams ar bwyllgor o bedwar i benderfynu cwestiynau masnachol pwysig y dydd blaenorol fel prawf o hyn. Nid oedd yn credu mewn creu anes- mwythper rhwng y cyflogwr a'r cyflogedig, ond yr oedd yn rhaid gosod safon foesol o flaen y ddau mor eglur fel y Ibyddai cywilydd [arnynt ei throseddu. Un peth y gofynent am dano oedd rhan deg o'r cyfoeth gynyrchir gan Lafur. Yr oedd rhywbeth o'i le yn y drefn a gynyrchai filiwnwyr newydd bob blwyddyn. Cymwyso y peth hwn oedd gwaith undebau llafur yn y wlad. Hwynt- hwy oedd i osod telerau llafur i lawr. Ni roddai anair o gwbl i gyfoeth. Yr oedd yn greadur da deuau y drwg i mewn pan elai yn greawdwr. Yr oedd Llafur yr un peth yn mhobman, ond nid oedd amgylchiadau llafur- wyr yr un, Nid oedd cystal yn Germany ag yn Mrhydain ag yn America. Eu nod ddylai fod gwella llafurwyr trw'r byd Nid oedd yn werth cael £ l yn Ffestiniog os byddai dynion mewn lleoedd eraill yn cael dim ond 1/ oblegid yn fuan fe ostynga y £ 1 i 1/ Coder y swllt yn bunt i bob gweithiwr. Cyn y gellid gwneyd hyny yr oedd yn rhaid i holl Undebau y wlad godi y safon o fyw a'r cyflogau i ateb i hyny. Dylai pob gwelthlwr fod yn ddigon o drefnidydd i allu gofyn yn y farchnad lafur y pris uchaf am bob cyneddf a gallu sydd ynddo. Yr oedd y llu anghyflogedig yn teilyngu sylw. Dylai fod rhyw drefniant gwladwriaethol i roi gwaith i bob dyn sy'n barod i weithio. Gofyn- ai am ddeddfau tirol iawn. Yr oedd Duw wedi rhoi y ddaear i'r bobl, a'r ddaear wedi rhoddi genedigaeth i blant ond fel yr oedd pethau ar hyn:o bryd nid oedd yn gallu cadw plant ei chroth ei hun. Yr oedd llawer yn an- ghyflogedig; lie yr oedd cylchynfyd y cyfryw rai i'w feio dylid tosturio wrthynt a'u helpu, ond lie nad oeddynt "yn mwyn a gwaith os gallent "Spongio," eu cosbi oedd eisiau. Credai fod amser gwell wrth y drws. Yr oeddynt yn planu coed y byddai eraill yn cysgodi tanynt, ac yn tynu eu ffrwyth. Dysg- ent iawn brisio llafur. Clywyd rhai yn dweyd onibae fod Mr. Hwn-a Hwn wedi dyfod i'r ardal buasai yma le tlawd. Gallai yntau ateb, ac onibae fod John Jones a Thomas Thomas a Rhys Rees wedi dyfod yno buasai yno le tlawd hefyd. Bu llafur yn byw yn hapus cyn i gyfalaf gael ei eni. Llafur yw tad cyfalaf oud yn fynych fe welais y tad yn diweddu ei oes yn y work-house a'r mab yn y palas. Nid oedd hawl foesol gan un dyn i beidio bod yn undebwr. Dylent aberthu er mwyn eu gilydd. Credai y byddai byw o weled tal henaint yn ffaith. Gofynent gyda hyny am well anedd-dai i weithwyr, bwyd i blant yr ysgolion, gwell deddfau tirol, a diwygiadau eraill. Cyn y sicrheid y rhai hyn yr oedd yn rhaid bod yn unol, a chynllun eu hundod ddylai fod y Drindod Sanctaidd ei hun. Dilynwyd ef gan y Parch Benjamin Thomas, B.D., yr hwn er fod yr awr yn hwyr a gafodd wrandawiad amyneddgar a chymeradwyaeth wresog. Dywedodd fod y chwildroad wedi cymeryd lie eisoes, oblegid yr oedd yn beth newydd iawn yn Nghymru roi y pregethwr goreu yn gyntaf. Wrth gyfeirio at y pender- fyniad dywedodd fod achos cyfiawn i lawenhau at lwyddiant y blaid lafur, a dymunai i'w nhifer gael ei ddyblu. Sylwodd ar yr angen- rheidrwydd am undeb (a) Er mwyn amddiffyn- iad. Yr oedd gan y cyflogwr ei amddiffyniad yn ei boced. Nid oedd gan y gweithiwr hyny, ac yr oedd poced wag yn gwneyd cefn agored i guro arno yn ami. (b) Ermwyn i'r gweithwyr ddyfod i ddeall eu gilydd. (c) Er mwyn cael arian a modd brwydro os byddai raid. Gwrth- wynebid yr Undeb gan rai am ei bod wedi gwneyd camgymeriadau yn y gorphenol, ond adroddai ef ar ol Mr. Cecil Rhodes, "The man that made no mistakes has never made anything else," Dywedid ei bod yn cyfynguar ryddid y gweithiwr; ond dadleuai ef fod llawer gorfodaeth yn fendithiol. Daliai ef fod Un- debaeth yn un o ofynion cyfiawnder, a bod pwy bynag a'i cefnogai y drylwyr ac aberthgar yn bwrw eu bara ar wyneb y dyfroedd ac y byddai rhywrai os na byddent hwy yn medi cynhauaf toreithiog mewn canlyniad. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Cynygiodd Mr. Hugh Lloyd ddiolchgarwch i'r siaradwyr, a dymunai iddynt gofio mai Undebaeth oedd wedi ei gwneyd yn bosibl i Mr. Williams fod yn y safle anrhydeddus y mae ar hyn o bryd. Eu hangen fel undebwyr oedd amynedd a dyfalbarhad. Cefnogwyd gan Mr. Thos. John Evans yr ysgrifenydd lleol, a chariwyd yn wresog.

CYNGOR DINESIG BETTWSYCOED.

BETTWYSCOED.

Garnedd, Llangerniew.i

I" -Cyfarfod Undeb Athrawon…

- - - - - - ITrychineb Arswydus…

0 Lanau'r Fachno.

I Penrhyndeudraeth.

j Trefriw.-----