Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

I Gwneyd lie i Mr. A. Lyttleton.

News
Cite
Share

I Gwneyd lie i Mr. A. Lyttleton. Mae y Mri. Lyttleton a Brodrick, dau o aelodau pwysicaf y Llywodraeth ddiweddar, wedi cael aros allan yn yr oerni byth er's pan gollasant eu seddau yn yr etholiad cyff- redinol. Nid ydynt hwythau yn ddiffyndoll- wyr mor selog a hollol ag y dymunai Mr. Chamberlain iddynt fod. Oni bae am hyny, cawsai y naill neu'r llall ohonynt y sedd a waghaodd Dr. Rutherford Harris ychydig wythnosau yn ol. Yn awr y mae y Milwriad Legge, Cynrychiolydd rhanbarth St. George o'r Brifddinas yn ymddiswyddo. Nid yw ei iechyd gystal ag y bu; heblaw hyny, mae'n ddealledig ei fod yn awyddus i weled Mr. Lyttleton yn dychwelyd i Dy'r Cyffredin. Oblegid mae blaen-fainc yr Wrthblaid mewn cyflwr gwir druenus. Nid oes yn eistedd arni gynifer ag un, heblaw Mri. Balfour a Chamberlain, ag y gallai neb ddywedyd ei fod yn abl i sefyll i fyny yn erbyn gwyr cryf- ion lawer sydd yn eistedd ar flaenfainc y Weinyddiaeth. Ni allai edmygydd penaf Mr. W. H. Long ddywedyd ei fod yn ydos- barth cyntaf o wleidyddwyr a dadleuwyr. Dichon ei fod yn rhywle yn ngwaelod yr ail ddosbarth, a'i gyfaill Mr. Arnold Forster gydag ef. Ychydig iawn yn wir o Doriaid sydd yn abl i gymeryd rhan ddeallus yn y ddadl ar Fesur Addysg. Er mor awyddus ydynt i dreulio amser yn ofer er mwyn atal hynt y mesur trwy Dy'r Cyffredin, y maent (gan mwyaf) yn rhy ddiallu i lunio gwe!Hant- au na thraddodi areithiau fuasent yn ateb y dyben hwnw. Ceir gweled a ydyw Mr. Chamberlain yn teimlo hyn i fesur digonol i'w wneyd yn foddlon i ganiatau i Mr. Lyt- tleton gymeryd lie Mr. Legge. Meistr caled ydyw meistr Mr. Balfour.

Gwobrwyo Ffyddlondeb.I

A -ydyw yn wir?--,II

IMesur Addysg Ad ran ii. I

Cig mewn "tyniau"I

Mr. S. -T. EVANS, -A.S.

ICymanfa Bedyddwyr DinbyCho…

[No title]

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I -I

-" _. -.- - I NODIADAU WYTHNOSOL.…