Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. Pwysig i Aniaethwyr. Dydd Iau (heddyw) o flaen Dr R. D. Evans, a W. P. Evans, Ysweiniaid. MEDDW.—Yr heddgeidwad John Jones, a gyhuddodd Thomas Owen, lletywr yn Glyn- llifon Temperance Hotel, o fod yn feddw ar y brif-ffordd Ebrill 24.-Dirwy o swllt ac 8s 6c o gostau. FEL JEHU.—Yr heddgeidwad J. M. Jones, a gyhuddodd Lennard Bishop, Granville Tem- perance,Penrhyndeudraeth o yru ei olwynfarch yn orwyllt yn Ceunant Sych, Ebrill 13eg, fel ag i beryglu ei fywyd ei hun a bywyd pobl eraill hefyd.—Cyhuddodd hefyd Robert Wil- liams, o'r un lie, o fod gyda Bishop, a thros- eddu yr un modd.—Tystiodd y Swyddog a'r Heddgeidwaid Morgan fod y ddau yn dod i lawr yr allt beryglus uchod gyda chyflymder arswydus, fel mai diangfa gyfyng a gawsant rhag cyfarfod a damwain. Gwaeddasant arnynt ond i ddim dyben. Aeth y Swyddog Morgan ar eu holau, a chafodd eu henwau.—Dirwy haner coron yr un a 9s. 6c. o gostau. MERCHED YN CWERYLA. -Catherine Ann Roberts, Groesffordd, Glanypwll, a gyhuddodd Kate Jones, 1, Groesffordd, o ymosod arni Ebrill 8. Amddiffynid gan Mr R. O. Davies. -Yn ol y tystiolaethau yr oedd y merched wedi gafael yn ngwallt eu gilydd, a'u gwyr a ddaeth- ant i'w tynu yn rhyddion. Tystiodd William Roberts, cymydog iddynt iddo weled yr Ach- wynyddes yn rhuthro i'r Ddiffynyddes, ac iddi hi amddiffyn ei hun goreu gallai a'r plentyn ar ei braich.-Taflwyd yr achos allan gyda phob un i dalu eu costau eu hunain yr Achwynydd- es 9s 6c, a'r Ddiffynyddes 3s., gyda rhwymo y ddwy i gadw yr heddwch. TROI DYN 0'1 FFERM. î Daeth achos gohiriedig Henry Jones, Dol- moch, yn erbyn Roberts Davies, Gelliewigod, yn mlaen. Cais oedd hwn am gael archeb gan y Faingc i orfodi Robert Davies i fyned o'r Fferm yn unol a'r rhybudd a gafodd,—Ym- ddangosai Mr D. White Phillips dros Henry Jones, a Mr R. O. Davies dros Robert Davies. Mr D. White Phillips, a ddywedodd iddo brofi yn y Llys diweddaf i'r rhybuddion gael eu rhoddi yn briodol. Rhoddwyd y rhybuddion i Davies i ymadael am ei fod yn cadw cwn, y rhai a aflonyddent ddefaid Jones. Bugeildy bychan ydoedd Gelliewigod ar fferm Doly- moch, a gosodid y lie i Davies fel y cyfryw. Gan nad oedd am roddi heibio cadw cwn, pen- derfyn vyd tynu allan gytundeb yn Gorphenaf. Ni fu eglyd (Waver) o gwbl wedi rhoddi y rhybudd. Addawyd arwyddo cytundeb new- ydd, ond gwrthodwyd gwneyd hyny pan alwyd ar Davies i'r perwyl. Yn awr yr oedd yn gofyn am i'r Faingc wneyd gwarant i orfodi Davies i fyned allan o'r fferm. "Mr R. O. Dayies, a ddadleuodd fod Gellie- wigod, fel y gwyddai y Faingc yn dda, yn Fferm fechan, ac nid Bugeildy fel y dywed- odd Mr Phillips, ac yr oedd yr ardreth yn ugain punt. Yr oedd Robert Davies yn denant y lie er's 13 mlynedd, ac wedi gwneyd gwelliantau mawrion ar y lie. Rhoddodd Jones rybuddion iddo ymadael er's pum mlynedd, gan ddywed- yd fel rheswm dros hyny ei fod yn edrych am fferm arall ei hun, ac felly yn rhwym o roddi rhybudd i Davies am fod ei le ef yn rhan o Dol- moch. Y tro diweddaf y cafwyd rhybudd, yr oedd yn awyddus i wybod a oedd ystyr iddi, ai un fel arferol ydoedd. Os oedd yn rhaid ym- adael fod ganddo eisieu trefnu gyda'i eiddo ar y He. Dywedodd Jones wrtho ddwywaith nad oedd arno eisiau iddo fyned ymaith, a golygai yr ymddiddan yn glir fod y rhybudd yn cael ei dynu yn ol. Yn Mai bu y wraig yn Dolmoch yn talu y rhent, ac ar ddyddiad arall bu yno yn gofyn yn bendant beth am y rhybudd, ac ateb- odd Jones nad oedd i sefyll, ac y deuai i fyny i wneyd gwelliantau yn y ty. Pan ddaeth i fyny Gelliewigod dywedodd fod y rhybudd i'w basio yn ddisylw, ac felly deallwyd yn hollol glir i eglyd gael ei roddi, a bod y tenant i aros yn ei gartref fel o'r blaen. Henry Jones, a ddywedodd ei fod yn dal Dolymoch o dan Mr. Oakeley, a'i fod yn gosod Gelliewigod i Robert Davies. Yr oedd y lie hwnw yn nghanol ei dir defaid, a rhoddodd amryw rybuddion o'r blaen am fod Davies yn cadw cwn y rhai a aflonydnent ei ddefaid dyma y rheswm penaf a chyntaf dros roddi y rhyb- uddion. Dichon iddo grybwyll wrth Davies ei fod yn edrych am fferm arall yn nes i gartref ei wraig. Rhoddodd y rhybudd cyn Mawrth 25. Yn nechreu,Gorphenaf bu ymddiddan rhyngddo a Davies am wneyd cytundeb ar bapur, ond gwrthododd wneyd dim a'r rhybudd. Tynodd y rhybuddion eraill yn ol am reswm neillduol. Gwrthododd dynu y rhybudd yn ol, ac did oedd yn cofio ymddiddan rhyngddynt i'r perwyl hwnw. Gan Mr. R. O. Davies,—Nid oedd yn cofio Mrs. Davies yn Dolmoch yn talu y rhent, ond yr oedd yn hollol sicr fod y rhent wedi ei dalu yn ei amser, yr hyn a wneid yn ddifeth ar hyd yblpyddoedd. Nid oedd wedi dywedyd wrthi hi, "Yr wyf wedi dywedyd wrth Robert Davies, nad oedd eisiau iddo gymeryd sylw o'r rhy- budd." Bu j'n Gelliewigod, a gwelodd fod eisieu adgyweirio y pobty, a bu ef a'i fugail yn camu Y, feitce er mwyn cau y lie i fyny. Ni ddywedodd yn Gelliewigod wrth Mrs Davies, yn nghlyw y terch, fod y rhybudd i basio yn disylw. Nid oedd yn cofio taliad y rhent yn f achwedd, ond yr oedd yn sicr ei fod wedi ei dalu. Galwodd Mr. R. O. Davies sylw difrifol y amgc at y cytundeb y y gofynid i Robert JJavies ei arwyddo. Yr oedd yn gytundeb fwyaf anfadus a ddodwyd ar bapur erioed, ac yn un o'r rhai erchyllaf a allesid byth ofyn i dyn oedd yn glynu wrth ei gartref i'w, harwyddo cyn y cawsai aros yno." Gan Air. R. O. Jones.—Nid oedd i gadw ci. cwyn ynghylch cwn oedd o hyd. Yr oedd gan Davies bump o wartheg, ac yr oedd ei ddefaid yntau (Henry Jones) yn pori o amgylch y lie. Mr. Davies, Ac yr ydych yn erbyn i'r dyn yma gadw cwn am eu bod yn gyru eich defaid oddiar ei dir pan y maent yn yroedd yno yn pori bwyd ei wartheg ?" Y peth nesaf yn y cytundeb oedd, fod y diffynydd i beidio cadw ceffyl ar y Ffridd, yr hon oedd yn 60 erw, a bod y Ffridd i'w phori o ddechreu Awst hyd ddiwedd Hydref gan ddefaid Dolmoch. Henry Jones, "wyddwn ni ddim fod peth fel yna i mewn. Mae y peth yn nghylch y ceffyl yn iawn. Mr. Davies, A fuasech chwi yn synu clywed peth arall,-fod yr holl fferm i'w phori gan eich defaid chwi o Ebrill 25 hyd Hydref 25. Henry Jones, Gwarchod ni! 'Does dim sense mewn peth felly. Lie caffai anifeiliaid y dyn ei hun fwyd felly?" Mr. Davies, "Dyma fydd y cytundeb, a hwnw wedi ei baratoi gan eich cyfreithiwr! Mr. Phillips, Camgymeriad ysgrif (clerecal- error) ydyw." Mr. Davies, "Nage! nid cyn-ysgrif frysiog (draught) yw hwn, ond arysgrif fanwl (en- grossed document) Gan y Faingc,—Y Ffridd yn unig oedd i'w phori ganddo ef am dymor byr bob blwyddyn, ar delerau neillduol gyda Davies. Gan Mr. Davies,—Yr oedd y cytundeb yn gofyn am bum punt rhagor o rent, a Davies i dalu y trethi, a felly yr oedd ef i gael £ 25 o rent yn glir. Gofynwyd i Davies arwyddo y cytundeb yn Mawrth diweddaf y tro cyntaf. Gwyddai nas gallai Davies godi tal am y gwell- iantau a wnaeth ar y lie oni anfonai hawliad i mewn cyn i'r rhybudd ddod i fyny, ac ni adaw- odd i bethau redeg hyd o fewn ychydig ddydd- iau i derfyniad amser y rhybudd er mwyn ysgoi gorfod talu am y gwelliantau. Rhoddodd ei gyfreithiwr ar waith i wneyd y rhybudd yn Gorphenaf, a gadawodd arno i drefnu iddo gael ei arwyddo. Nid oedd yn bwriadu i Davies fyned i ffwrdd heb gael ei dalu am y gwelliant- au a wnaeth ar y lie. Nid oedd yn gwybod maint y gwelliantau, ond nid oeddynt yn Ilawer Gwnaed gwelliantau at ol y rhybudd, a chredai y deuent i gytundeb a'u gilydd. Gan Mr. Phillips—Yr oedd yn foddlawn talu am y gwelliantau ar brisiad dyn anmhleidiol. Yr oedd ef am gau y lie i mewn ar ei gost ei hun. Gadawodd y cytundeb am y flwyddyn o'r blaen fyned yn ddisylw am nad oedd yn iawn. Yr oedd pob cytundeb i fod yn ysgrifenedig o hyny allan. Mr. Davies,—"Ond y maey cytundeb yma yn dweyd fod Robert Davies i roddi y lie i fyny i chwi heb ddim tal am unrhyw welliant a wna ar-Y lie," Robert Davies a ddywedodd ei fod yn,denant i Henry Jones yn Gelliewigod. Rheswm Jones bob tro wrth roddi rhybudd iddo ydoedd, ei fod yn edrych am fferm arall ei hun, a bod yn rhaid i'w denantiaeth ef derfynu gydag eiddo Dolymoch. Wedi cael y rhybudd diweddaf, bu yn ymddiddan gyda Henry Jones yn Maen- twrog, a bu son am wneyd cytundeb. Gwelodd ef yn benodol yn Gorphenaf er mwyn cael gwybod sut i wneyd gyda'r gwair, ac os oedd i fyned o'i fferm nis gallai ei ddodi yn yr Adeiladau, ond dywedwyd wrtho fod pobpeth i fyned yn mlaen fel arferol. Arhosodd adref o'r chwarel am y saith mis diweddaf ar gais Henry Jones ei hun, yr hwn a ddywedai y talai gwella y ffarm yn well iddo na myned i'r chwarel. Ni fuasai mor ffol a llafurio felly i agor yr afon, a gwneyd ffos fawr i sychu y tir, pe yn meddwl ei fod i ymadael a'r Ile. Ni ofynwyd iddo arwyddo y cytundeb hyd o fewn llai nag wythnos i adeg terfyn y rhybudd. Gwas Mr. Phillips ofynodd iddo fyned i'r swyddfa. Pan aeth gofynwyd iddo arwyddo y cytundeb hwn ddarllenwyd iddo yn Saesnig, ac a eglurwyd gan Mr. Philips yn Gymraeg. Ni chaffai gopi o hono, na'i gymeryd i'w ddangos i rhywun arall. Gwrthododd ei arwyddo am ei fod yn gytundeb rhy afresymol: yr oil oedd yn ei gael o dani oedd talu am y tir i Henry Jones gael ei bori. Y siarad clir rhyngddo ef a Henry Jones ydoedd eu bod i weled eu gilydd i ddod i delerau, a bod y cyfryw i gael eu hysgrifenu a'u harwyddo. Yr oedd y rhent i'w godi £ 5 os gellid deall eu gilydd ar wahanol bethau yn nglyn a'r Ile. Daeth clerc Mr. Phillips i ofyn iddo arwyddo y papur, a chafodd lythyr bygythiol oddiwrth Mr. Phillips. Dywedodd Henry Jones lawer gwaith fod y rhybudd yn cael ei dynu yn ol.— Gan Mr. Phillips, ni ddaeth Henry Jones ato i wneyd cytundeb, nag hyd yn nod i son am y telerau. Cytundeb rhyngddynt hwy eu dau oedd i fod. Y Cadeirydd, "yr ydym yn gweled yn hollol glir fod eglyd (Waver) wedi ei roddi i ddirymu y rhybydd, ac felly nid ydym yn gwneyd archeb i droi Robert Davies o'i fferm."

--Llys Ynadol Lianrwst.--I

-Nodion -o Droed y Wyddfa.-I

Methdaliad Tafarnwr o'r Penrhyn.I

Un Miliwn a'r ddeg o luddewon.

IMoesoldeb Isel -adeg y -Diwygiad.

GWYL LLAFUR Y CHWARELWYR.

[No title]

ICymanfa GyfFredinol y Methodist-I…

--Cynghor Dinesig Llanrwst.