Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
GFanaM'F* Fachno.
GFanaM'F* Fachno. [GAN YR HEN DDYRNWR]. I.;yfnewidiol yw'r hin yma ar hyn o bryd wedi wythnosau teg, pryd y canasom uwch beddrod y gauaf, ond bedd gwag âyehymy oeddu. rhydd ernes y dyddiau hyn nad yw wedi IIwyr drengu, a theifl ei gysgodion tros ein !!fcaweddau trwy gawodydd o eira a chenllysg. Gwelsom amI flodeuyn gwylaidd yn holi am yr haf, ond dyma awelon miniog y gauaf yn heneddio ei bryd, a'r llwydrew yn gwenwyno {sfvytansoddiad gwan, am ei ryfyg o godi i ed:ych tu'r haul. Mcr debyg i blant dymon Olide, yn cael eu denu gan liwiau, tra gobaith yn ymestyn i'r dyfodol pell, heb gono fod glyntoedd oerion trailed a phrofedigaethau yn amwy'r byd, ac fod llwydrew angeu yn gwywO blodeu yn y Gwanwyn. TORIAD GwAWR.—Dechreu'r wythnos gweddnewidiwyd ein hardal gan y newydd da, fod t ni gael gweithio amser IIawn yn Rhiw dctmo. wedi misoedd o wasgfa enbyd. Cawsom chwedl Havhesp gerydd gan ami yn ystod y misoedd aeth heibio, na ddylasem gwyno; ac y dylasem fod wedi paratci ar gyfer amser o'r fath,&c. Ac mae hyn yn wir am lawer o honom, end ai tybed, oni wyr y chwarelwr yn gystal ar Amaethwr ei amgylchiadau a'i ddyledswyddau, ac etto yr "hybernates" hyn sydd yn myn'd a mynu diwygiad yn ein plith. Gresyn fod allweddau ystordai yr Hollalluog yn nwylaw ychydig dir- feddianwyr, afIgwir berchenogion y ddaear, sef y gweithwyr yn gorfod bod ar drugaredd y rhai hyn, am gyflog eu Ilafur, ac yn nychu a chrebachu eu heneidiau i enill ffafrau awdur- dodau dynol, mor briodol yw geiriau Elfed onide Nid, carded i ddyn ond gwaith Mae dyn rhy fawr i gardod; Mae cardod yn magu craith A chraith yn magu nychdod. CWYN COLL.—Y Sadwrn diweddaf, daeth rhewynt angau heibio yr hen chwaer hynaws Betsan Roberts, White Street, ag o dan ei anadi difaol, gwywodd a syrthiodd yn araf a gwylaiddi'rpridd. Mae'n ddiau nad oes neb yn yr ardal yn cono erioed gyfarfod ag un fwy, os mor grefyddol ac ysbrydol ei hymddiddan- ion. Yr oedd yn wraig o galon garedig, ac yn ddt-dwyll a di-dderbynwyneb. Cyfranai yn haelionus at bob achos da. Gellir dweyd am ei bywyd, mae bywyd o "ddilyn yr Oen" ydoedd, ac yr oedd nodweddion yr Oen wedi eu hargraphu yn nyfuderoedd ei henaid, y rhai a arddangosid yn ei hoi! ymddygiadau. Uwch- law pobpeth gellid dweyd am dani ei bod yn gyfeilles gywir—ni fradychodd erioed unrhyw gyfrinach. Ni chlywid hi un amser yn siarad yn niweidiol am neb. Magwyd hi yn awyr y weinidogaeth, a mawr oedd ei pharch i weini- dogion y Gair hyd y diwedd. Darllenai lawer ar Air Duw, yr oedd ei phrofiadau yn ei chystudd yn dangos hyny. Dioddefodd ei chystudd am firnyddoedd mewn ysbryd tawel a boddlongar. Gadawodd briod a mab Sydd- Jawn a gofalus i alaru ar ei hoi. Huned yn dawel yn ei hargel wely hyd foreu caniad yr udgbrn, pan bydd dinas y meirwon yn rhoddi i fyny ei thrigolion. CENAD HEDD.—Nos Wener, Ebril! 27ain. yn nghape! Bethama (W.), bu Mr. W. John Roberts, Cwm, yn pregethu i gynulleidfedda. Ntd oes ond canmoliaeth gyffredinol i'w glywed i'w weinidogaeth, a dymunir o gaion am iddo frysio yma. etc ar yr un neges. OVERSEERS.—Dewisiwyd Mr. Cadwaladr Jones, Hafod y Ffraith, dros y Cwm, yn lie Mr. E, W. Roberts (yr hwn sydd yn ymddi- swyddo), gyda Mr John Williams, Fourcrosses, dros y LIan. MARW SYDYN.—Mae marwolaeth y Band yn peri ini fod yn brudd ein hysbryd, Gofid- iwn iddynt werthu yr offerynau drudfawr, a hanes llawn o wasanaeth mor-ddirybudd. Bu Seindorf arall offerynol farw wedi cychwyn yn i yn dda. Beth sydd yn cyMI am hyn tybed ? _c.J
f -Nodion o Dolwyddelen.I
f Nodion o Dolwyddelen. GANDRAENOG. GWYL LLAEUR.—Y mae yr wyl Ucho'd bron a'n goddiweddyd. Does dim ond o hyd ddydd Llun. Y mae yn eithaf posibl y bydd yni lu o honom ya troi ein hwynebau tua Llandudno i gyrddau yr Wyl. ac am ddiwmod o bleser a mwynhad, ar Jan yr belt. Os cawn bin weddol fel y gobeithiwn y cawn, bydd liawer yn sicr b gymeryd mantais ar y tocyn rhad, rhad gan Undeb y chwarelwyr! dim ond dau swilt! Ymddengys mai y prif areithwyr eleni fyddant, W. Llewelyn Williams. Ysw., A.S., W. Jones, Ysw., A.S.; a John Ward, Ysw., A,S., un o aelodau plaid Llafur. Lie mae'n bosibi cael gwell doniau. a disgteiriach talentau. CYMANFA GANU.—Yn ychwanegol at Gymanfa bynciol meibion HafurynLlandudno ddydd Llun, bydd Gymanfa Ganu yr Annibyn- wyr yno hefyd yr un diwmod o dan arweiniad y Bonwr Tom R. Williams o Drefriw. Well done, wir, am roddi cefnogaeth mor ragorol i dalent ac athrylith un wedi ei eni a'i fagu yn nghylch y Gymanfa. Y mae y cyfaill uchod yn cwbl-deilyngu hyn oddi ar eich Haw. Does neb a wyr ond Un, maint ei lafur ar ran caniadaeth y Cyssegr. Ac y mae hefyd wedi dringo i'r safle anrhydeddus y mae ynddi fel cerddor drwy hunad-ddiwylliant. Hir oes iddo i wasanaethu ei Enwad, ei Genedl a'i Dduw. O'R DRYCH.—Yr wyf wedi gwneyd amryw gyfeiriadau o dro i dro at weithgarweh a Ilwyddiant bechgyn y Ddol yy ochr draw i'r weilg, yn nhiriogaeth y cefnder Jonathan. Yr oedd yn IIawenydd darllen y Drych hanes brwydr corau meibion mewn Eisteddfod yn Utica, yn ddiweddar arganu"YCroesgadwyr" a chor o dan arweiniad y Bonwr Dan Lloyd Davies, yn fuddugoliaethus a'r Bonwr John G. Jones, yn fuddugol yn yr un Eisteddfod ar ganu yr Unawd Baritone, "Yr Ornest." Yn ddiweddarach drachefn yr oedd y Bonwr Dan Ll. Davies yn anerch Cymdeithas Lenyddol ar Dr. Joseph Parry a Bonwr J. G. Jones yn cymeryd rhan mewn canu triawd Duw bydd drugarog" Nid rhaid dweyd ein bod yn cyflwyno ein cofion serchog at bawb o'r cyfeill- ion yr ochr yna i'r afon. Mawr Iwyddiant iddynt eto. DAMWAIN.—Tanwyd ein hardal i ddychryn gahnewydd pruddaidd fod Mr. Wm. Williams Bron Haul wedi cyfarfod a damwain ddifrifol yn chwarel Oakeley. A coyn pen yr ychydig oriau yr oedd ei ysbryd wedi hedfan at y Duw a'i rhoes a'i amrantau wedi cau am byth i bob peth y fuchedd hon. Mor ansicr yw einioes dyn! Mor frau a siomedig yw gobeithion y byd hwn Chwith iawn genym golli y brawd yma o'n plith. Yroedd'ynnyddlona gweith- gar gyda chrefydd yn arbenig wedi dyddiau y Deffroad wawrio ar ein gwlad. Heddwch fo i'w weddillion, a chaffed ei weddw drallodus gynhorthwy y Dwyfol i fyned drwy ystorm y brofedigaeth. Gofelir am holl drefniadau y Gladdedigaeth gan Mr. Edward Roberts, Bwlch.. MARW ETC.—Newydd trist iawn ddaeth i deulu Ty'nIIan, sef am farw Mr. Isaac Roberts. Gwr ieuainc ydoedd ef ond un ieuainc wedi gorfod dioddefodd biynyddau lawer o anechyd poenus. Daeth y genad ddiweddaf i wysio ei ysbryd i wlad nad oes goen na neb yn glaf o fewn ei ffiniau mi gredaf. Y mae fy nghydym- deimlad dwysaf a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. Bwriedir claddu nawn lau.
IBwrdd Llywodraethwyr AddysgI…
I Bwrdd Llywodraethwyr Addysg I Dosbarth Ffestiniog. Prydnawn ddydd LIun, cyfarfyddodd y LIywodraethwyr canlynol yn yr Adeiladau Sir- ol, BIaenau Ffestiniog,—y Parch J. Rhydwen Parry (yn y Gadair), Dr, R. Roberts; Parch John Owen, M.A., John Hoyd Jones John Cadwaladr; Ellis Hughes (Llan) Samuel Pierce a R. T. Jones (Penrhyn) R. 0. Davies (Clerc) ac Edward Jones (Clerc cynorthwyol). ATHRAW NEU ATHRAWES I'R PENRHYN.— Y clerc a ddywedodd iddynt yn y cyfarfod diweddaf ofyn i Miss Jones, yr Athrawes Gynorthwyol, arcs yn ei He. Darllenwyd llythyr Miss Jones yn datgan nas gallai dynu yn ol, am ei bod yn dechreu yn ei He newydd ddydd Llun nesaf. Yn ngwyneb hyn, yr oedd ef (y Clerc) yn barnu mai goreu iddynt ydoedd cynyg y He i Miss Annie Owen Davies, enw yr hon oedd o'r blaen pan oeddynt yn gwneyd y penodiad i ysgol MaenoSeren. Yr oedd wedi wedi derbyn Llythyr oddiwrth Mr. R. T. Jones. un o Reolwyr y Penrhyn yn dywedyd ei fod ef, Mr. Pierce, a Mr. R. G. Pritchard o'r un farn mai Athraw cynorthwyol ddylid ei benodi. Ond anfonodd ef (y Clerc) at Mr. Llewelyn Williams yr Athraw, a dywedodd Mr. Williams nad oedd o bwys ganddo pwy a benodid, ac y gallai wneyd y iawn gydag Athrawes.— Y Parch John Owen! "Yroeddyn dywedyd yr un fath wrthyf nnau."—Mf. S. Peirce; "Yr oedd yn hollol wahanol gyda fi heddyw pryd- nawn pan elwais i'w weled 'M- y mater."—Mr. R. T. Jones: Dadleuasom ni mor gryf dros gael Athraw am ein bod yn cael ein promtio gan Mr. Williams ei hun."—Y Cadeirydd "Ypwngc ini i'w benderfynu yw, pa un a'i penodi yr un awgryma y Clerc. ynte hysbysebu am un. Os gwnawn hysbysebu, fe gymer ddau ns cyn y gallwn lenwi y He."—Mr. S. Pierce a ddywedodd fod yn well gan Mr. Williams hyd yn nod gymeryd benthyg Athraw nac i Athrawes gael ei phenodi.—Y Clerc: "Addaw- odd Mr. Williams ysgrifenu atom erbyn heddyw. fel na buasal dadi ar y peth, ond in wnaeth.—Y Cadeirydd: "Hwyrach pe buasai wedi ysgrifeou y buasai yn wahanol i'r hyn ddywedodd wrthym hyd yo hyn."—Mr. J. Cadwaladr: 0 dan yr amgylchiadau hyn, y JWattagers ea hunain ddylai famu beth sydd oreu i'w wneyd. Nid oes genyf fi ddim amheuaeth nad Athraw ddylid benodi. Mr. S. Pierce: "Yr wyf yn cynyg eich bod yn hysbysebu am Athfaw."—Parch. J. Owen: Onid ellid anfon up lawr t gynorthwyo hyd yr holidays, a bod yr en ddewisiwyd i ddechreu ar ol yr holidays ?"—Pasiwyd t hysbysebu yn ol cynygiad Mr. Pierce ac awgrym Mr. Owen.—Mr. J. Cadwaladr a ofynodd oni ddylid aafon Athraw t lawr i gynorthwyo ?—Y Clere a atebodd ei fpd yn hollol gUr- rntd oedd aellld,ei hebgOr. Yr oedd y tri P.T. yo y Penrhyn wedi pasio yn Ex., P.T's.. ae felly yr oedd yno staff at 217 tra mai 185 oedd cyfartaledd y presenoldeb.— Mr. S. Price a gynygiodd a chefnogodd Dr. Roberts, eu bod yn gofyn i Mrs Williams gynorthwyo hyd yr holidays.-Mr. J. Lloyd Jones a ofynodd a oedd mewn gwirionedd angen am benodi rhywun a'r staff fel oedd ?— Y Clerc a ddywedodd eu bod yn dri mis olaf y flwyddyn, a dylai yr Ysgol gael bob chwareu teg ar yr adeg hon o'r nwyddyn.—Mr. R. T. Jones: Ac y mae yr Ysgol wedi bod yn isel iawn trwy yr anechyd fu yn y He a phobpeth." —Pasiwyd i ofyn i Mrs Williams gynorthwyo hyd y gwyliau. YsGOLiON Y LLAN.—Pasiwyd I anfon Adroddiad yr Arolygydd lechydol ar sefyllfa yr Ysgol i'r Bwrdd Addysg Sirol: yr oedd Adroddiad y Pwyllgor Ymweliadol wedi ei anfon eisoes, a'r ddau Adroddiad yn cytuno a'u gilydd. CYDYMbElMLAD.—Ar gynygiad y Cadeirydd pasiwyd i anfon cydymdeimlad y Bwrdd a Mr. Williams, Tanygrisiau, yn ei brofedigaeth lem. ac Hawn gymeradwy gwaith y Clerc yn rhoddi wythnos o seibiant i Mr. Williams er adnewyddu ar ol ei or-lafur a'i bryder mawr- trwy y cystudd fu yn ei dy. DEDDF NEWYDD ADDYSG.—Ar gynygiad y Parch. J. Owen a chefnogiad Mr. R. T. Jones, pasiwyd i beidio trafod dim ar y Ddeddf Newydd yn y cyfarfod hwn am fod y niter oedd yn bresenol mor ychydig.
—. ? — — — — — — ? — ? ? —…
—. ? — — — — — — ? — ? ? — ? — ??? 1- ?fcfdys? ypt Me/?/on. Nos Fawrth, yn y Senedd, mewn atebiad i Mr A. Osmond Williams, A.S., dywedodd Mr John Burns, Llywydd Bwrdd y LIywodraeth Leol, fod Cyngor Sirol Meirion yn dymuno cynyddu y grants o drysorfa y Sir i'r pum YsgolGanolraddoIasefydtwyd cyn i Ddeddf Addysg 1902 ddod i rym, a dymunent yn gan- lynol fod y swmiau etiid godi mewn unrhyw nwyddyn allan o'r trethi i amcanion Rhan II. o'r Ddeddf yn cael eu heangu. Yr oedd yr Ar- olygydd a gynhaliodd ymchwiliad ar bwngc yr eangiad hwn yn ei ystyried yn bwysig i gael gwybod derbyniadau a chostau yr Ysgolion hyn yn y biynyddoedd blaenoro!, yn ogystal ac am- can-gyfrifon y gwariadau yn y flwyddyn bres- enol, cyn iddo gyflwyno ei adroddiad. Ni fyddai rhoddi y wybodaeth hon, yn ol barn Mr Burns, yn gostus. Derbyniwyd y rhan fwyaf o honi ddydd Gwener, ac addawyd y gweddiM. Pan ei derbynid, bydd i'r Arolygydd orphen ei Adroddiad, ac mor fuan ac y byddai yn bosibl ar ol hyny deuid i benderfyniad ar y pwnc.
I- - - - - - - - - - - - -…
I- -I Penrhyndeudraeth. -I GAN GEE PEE. I Dydd Mawrth, cyfarfu Mr. John Pntchard, Penlan, a'i ddiwedd mewr modd adfydus iawn. Fel y mae yn hysbys i lawer y mae llu o ddynion yn tori coed ger y Llenyrch, ac yn eu plith John Pritchard. Ry'-A-fodd neu gilydd tra yn cymynu dydd Mawrth, syrthiodd coeden arno gan falurio eu asenau a'u gwthio i'w ysgyfaint. Bu farw ar ol ei ddwyn i'r Penrhyn. Yr oedd yn hen gymeriad diddan ac yn dra adnabyddus yn yr ardal. Dyddorol iawn fyddai ei glywed yn canu yr hen alawon Cymreig yn ei ddull hen ffasiwn ei hun. Chwith fydd gan bawb ddeall iddo gyfarfod a'i ddiwedd mor ddisymwtb. Y mae cwmni y Cambrian wrthi yn brysur yn gorphen y llwybr heibio gorsaf Minffordd i ffordd Plas-newydd. Hwylusdod mawr i'r cyhoedd fydd cael y llwybr hwn yn rhydd i'w gerdded heb gael gwg, na chuchain, na bygythion yr un o'r rhai oedd mor barod i'w rhoddi. Y mae nifer wedi gadael yr ardal yr wythnos hon eto, am y Deheudir. Drwg genym golli preswylwyr yr ardal o un i un fel hyn, ond fel ydywed yr hen air, "Daw tro arfydeto," a buan wedyn y disgwyliwd eu gweled yn dod yn ol i hen ardal y Penrhyn.
Beddgetert alr Amgylchoedd.
Beddgetert alr Amgylchoedd. Prif destyn siarad yr ardaloedd yn awr ydyw, pwy fydd y gwr mwyaf cwmwys fel olynydd i Mr Bryn Roberts dros Einou. Cyn- haliwyd Cyfarfod Rhyddfrydol, er fed rhai Toriaid yn bresenol, nos Fawrth diweddaf, i'r amcan o enwi ymgeisydd. Enwyd dau fel y rhai mwyaf tebyg, sef Mri. E. W. Davies a D. P. Williams. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. Parry Williams. Ysgol Feistr Rhyd-ddu. Ysgrifenydd Mr. Evan M. Powell, Beddgelert. Nos Fercher dilynol cynhaliwyd, yn bur ddirgelaidd, Gyfarfod o Blaid Geidwadol. Teneu iawn oedd eu cynulliad. Nos Sadwm diweddaf cynhaliwod Cyfarfod Cyhoeddus i'r amcan o geisio ail sefydlu y Seindorf, pa un oedd wedi myned i lawr. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Evan Williams, Tanymarian. Dewisiwyd nifer o ddynion ieuanc yn bwyllgor gweithiol i geisio cael y Seindorf ar ei thraed unwaith eto. Mri Robert Roberts, Robert Jones, John Parry, Richard Williams, Evan Williams, Griffith Parry, David Williams, Walter Jones, Ellis Jones yn Ysgrif- enydd. Mae materion pwysig etc i'w trafod nos Sadwm nesaf. Gobeithio fod dyfodol disglaer etc yn arcs.' WEDI GLANIO.—Diau y bydd yn llawenydd gan luaws gyfeillion y IIanciau aeth oddi yma i'r America, glywed eu bod wedi glanio yn ddiogel, Cawsant fordaith led hapus ac eithrio rhyw ddiwrnod neu ddan. Dyddorol ydoedd darllen eu Ilythyrau a dderbyniwyd eu bod yn porthi pysg y mor. Anhawsder mwyaf "yr hen Jones," (chwedl yrhogia) ydoedd ei fod yn methu ag eillio gan fod y Hong yn ysgwyd. Cawsant drochfa at eu crwyn unwaith a chan fod cymaint o filoedd eisieu glanio ar unwaith yn New York, bu y IIanciau' yn y Hong am dridiau cyn cael mynediad i'r tir. Yr oeddynt yn canmawl y bwyd, ond nid yn canmawl y 'cooks' chwedl Ty Crwn.' NEWYDD 0 AWSTRAHA.—Cyfarfyddodd Mr. John Edwards (ieu) a damwain mewn glofa yn y wlad bell yna, trwy i ddarn o graig gwympo ar ei goes a'i thori. Mae yn awr yn orweddog mewn Yspytty. Un o hogia y Pentref ydyw, aeth i ffwrdd naw mlynedd yn ol, a bu yn lied Iwcus. Ni fu cymaint ag un diwrnod o golli gwaith yn ystod y biynyddau yna, hyd nes y cyfarfyddodd a'r ddamwain. Mawr hyderwn iddo adferiad buan.—Ap GELERT.
Family Notices
MARWOLAETHAU. EYNON.—Ebrill 30, yn 40 mlwydd oed, Mr. David Williams Eynon, Commercial Hotel, BIaenau Ffestiniog. Brodor genedigol o Penygraig, Rhondda ydoedd, ond yr oedd wedi dodi'r ardal honer's rhai biynyddoedd. a chwe biynedd i Awst diweddaf priododd gyda Miss Miriam Jones. Maenofferen Hotel, BIaenau, a sefydlodd yr adeg hon yn y Commercial Hotel. Yr oeddyn ddyn hynod odyneracharedig.acwedi darllen Ilawer. Gadawa briod a merch 16eg oed (o'i wraig gyntaf) yn eu galar ar ei ol. Mae Miss Eynon yn adnabyddus fel un o ser ieuangc y byd cerddorol, ac wedi cipio llawryfon yn yr Eisteddfod Genedlaetbol fwy nag unwaith Hebryngwyd ei weddillion i fynwent St Michael boreu heddyw (ddydd lau) cynheb- rwng angyhoedd. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. W. J. Nicholson, Porth- madog, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Davies, B.A. JONES.—Ebrill27. yn73 mlwydd, wedi cystudd trwm, Mr. Owen Jones, 83, High Street, BIaenau Ffestiniog. Gadawodd briod un ferch, a dau fab, yn eu galar ar ei ol. Y mae un mab yn Birkenhead, Miss Jones gartref, a Mr. R. O. Jones, yn cadw masnach- dy chwegnwyddau (groceries) yn Compton House, High Street. BIaenau. Yr oedd yn aelod hynafyn Nghapel y TabernacI (M.C.), i'r hwn y symudodd o Hen Gapel Bethesda. Claddwyd ei weddillion ddydd Mawrth. pryd y gwasanaethwyd gan y Parch R. R. Morris, ei weinidog. Y mae brawd iddo yn America a dymunir ar i newydd- iaduron America gofnodi y farwolaeth hon. JONES.—Ebrill 27, yn 36 mlwydd oed, Mr. Joseph Jones, Maenofferen BI, Ffestiniog, Goruchwylydd Yswiriol gyda'r Prudential. Yr oedd Mr. Jones yn hynod o gymeradwy yn yr ardal, yn ddyn deallus a chywir; cafodd gystudd trwm, ond byr, yr hwn a oddefodd yn nodedig o dawel. Claddwyd ef yn mynwenn Bellaesda dydd Mawrth pryd ygwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch D. Hoskins, M.A., ac yn y fynwent gan y Parch R. R. Morris.—Mae cydym- deimlad dwfn a'i briod a'r teulu yn eu galar. PA?/OMMt/. GilI—Prithard.—EbriII 27am. yn Nghapel Bethania Blaenan Ffestiniog, gan y Parch. D. Davies, Preswylfa, yn mhresenoldeb Mr. Richard Jones, Cofrestrydd, Mr. Charles Richard Gill, Adeiladydd Organau, Caer- dydd, a Miss Margaret Thomas Pritchard, Gweinyddes, merch y diweddar Mr. William Pritchard, Conglywal.
Advertising
?:  l .1 0 A. a MAE.. RHAID MYNEO. ) AT. 'Y< < GWAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r North Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y chwi yn eu mysg-yn agored i niter fawr o glefydau. Paham felly ? Am fod Anmhnrdeb yr Awyr, Aumhurdeb y Dwfr, Anmhnrdeb Bwydydd, M Anmhurdeb peth&n amgylchynol yn cren Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED ynca.eleilygru.a'i wenwyno, Mae yn gwneyd yn bOBibl i'r SCURVY, ECZEMA, TARDDIANTAU Y CBOEN, LLYGRIADAU. RASH. COESAU OLWYFEDIG PENDDYNOD, RHEUMATISM, j OORNWYDON, NEURALGIA, A llu o Glefydau eraill y OorS a'r Ymenydd, i rnthro at wahacol ranau o'r cyfanaoddia.d. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydan ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yr BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN El GADW YN BUR. <aarMynweh weled Hun y Galon ar bob box Heb hyny Twyll ydyw. Os byddweh yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL OORFFRWTMEDD, POEN Y CEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWTLDERAU T GWYNT, OYLLA A'R ARENAU. ISEL YSBRYD, OoSwch fod gwreiddym y drwg yn y GWAED. a bod yn rhaid myned at y &WAED cyn y gellir cael iach&d gwirioneddol. Mae HUGHES S BLOOD PILLS yn cael effaith umongyrchol ar y GWAED, ac ar yr hot gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lie, 2a 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. 0. at JACOB HUGRES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, OardiS. /???? ?? I ?\!???&- Rhoddweh brawf ar corner's. Ba)m. MAE "COMERS BALM YN EL1 ATXBOB OLWYF, AC YN HYNOD AC ANFFAELEDIQ AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALLANOL Y OOFFB. A oes genych Goes Ddrwg. Y mae GOMER S BALM yn iachan y Olwy braidd yn wyrthiol. Hefyd ArchoUion, Llosgiadau, Tarddiantan y Cnawd, Exzema Cedwir tiawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y m&e yn iMhan Orach ar y Pen a Gwyneban Plant, YBoaIdanan, Piles. LIygriadan Plant a Benywod, Malaethau, Tarwden. Traed Chwysedig, Gout, Gwynegon, Scurvy. Blood Poison. Gair at Faman, Gweithwyr Haiam, Alcan, GIo, Cerrig Ffermwyr, Morwyr. Engineers, Ymdeithwyr, CrefTtwyr o bob math, m eUir cael dim mor eafeithiol a sicr a GoMef's Balm at bob Archoll a Damwain i'r Onawd. a sicrhad Bioo Poison marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.—Mae eich Eli, set 6'omeM.B-(!m, yn feddyginiaeth rhyfedd o eTeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldann yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fnan ag oedd yn bosibl, yn mhen yr wythnos yr oedd yn abl 1'w gael ei wisgo, ac yn bnr fnan yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad Uym iawn tran y Blast (nen:Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Balm yr hwn gwellhaodd mewn ychydig ddyddian. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity to nad yw pawb ddim yn gwybod am dano.-H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT SAUCER. Syr.-Ni alIaf byth ddiolch am ewh Gomer's Balm, y mae yn iachau fy nglnn flym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am mawr cymaint a scucer, ac yn boon., l iawn, pawb yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi es nt ythan y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario pnnoLad lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Dalarston. Rhodder Praw arno. Gofyner am Gomers Balm. '«' Na thwyller chwi, mynwchweled enw "JACOB HUGHES" ar bob blwch. Ar werth ca.n bob Chemist neu werthwr Patent Medicine am Is 1¡\-c., neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P, 0. i'r gwLenthurwr, JACOB HUGHES, M P S,L D S MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF
IDAMWEINIAU ANGEUOL YN-CHWARELI…
oedd yn hollol sicr a oedd yn y rhaff ar y pryd y gwelodd ef gyda'i drosol yn tynu cerig ilawr. Gwelodd ef yn syrthio, ac yn disgyn o fewn tua haner can' Hath i'r fan yr oedd ef yn sefyll. Yr oedd yn gweithio uwchben y rhai eraill oedd yno. Aeth peth o'r graig i lawr o'i flaen a pheth ar ei ol. Gwelodd ef gyntaf a throsol yn ei law yn IIithro i lawr, ac yna yn rowlio cyn disgyn dros y graig i lawr i'r gwaelod. Gwaeddodd ef (y tyst) am help I fyned ato. Yr oedd careg wedi disgyn ar ei gorph yn y gwaelod. Gofynwyd iddo IIe'r oedd pan syrthiodd, a dywedcdd wrth Mr. Davies, yr Is- Oruchwyliwr"nawyddai yn wir lle'roedd, pa un a'i yn y rhaff, a'i allan ohoni." Yr oedd y rhaff wrth ei ochr adeg y ddamwain, ac yn gyfan ar ol hyny. Awd ag ef i'r Ysbytty gynted ag y gellid, edaeth y meddygon yno ar unwaith. Yr oedd yn bwybod am y Trangcedig fel creig- Iwr pronadol er's 30 mlynedd, ac fel un cyfar- wydd iawn a'i waith. Yr oedd yn gweithio ar y Fall o'r dechreu, ac yn ddyn nodedig o ofalus. Gan yr Arolygydd Williams, clywodd rwb yn syrthio, a thynwyd ei sylw trwy hyny at y Trangcedig. Tynu rwb i lawr yr oedd ar y pryd. Yr oedd ei raff yn bnr hir, ond tua dwy lath oedd o honi dros y bon. Tybiai ef y buas- ai mwy o honi drosodd pe y Trangcedig yn hongian ynddi adeg y ddamwain. Gan un o'r Rheithwyr,—Gallasai y Trangc- edig fyned i'r He yr oedd heb y rhan', a gweith- io yno hefyd hebddl. Gan y Blaenor.—Ni thorwyd y rhaff, ac ni thynwyd hi i lawr. Edward Jones, Ardydwy Terrace, Trawsfyn- ydd, a dystodd ei fod yn gweithio yn y fall adeg y ddamwain i'r Trangcedig, ac yr oedd o fewn deg Math i'r fan y syrthiodd. Clywodd ef yn gwaeddi pan yn dod i lawr ran o'r ffordd ar ei draed, a daeth dan droi ar ol hyny. Syrthiodd tna 30, ac yr oedd cerig yn disgyn o'i flaen ac ar ei ol. Ni welodd ddim yn ei daraw cyn iddo gychwyn i lawr. Sylwydd arno fyw bum mynud cyn y ddamwain yn gafael yn y rhaff ag un Haw. Yr oedd maen IIathen wrth naw modfedd wedi syrthio ar ei ol, ac ar d goesau. Efe oedd y cyntaf ato ar ol iddo Syrthio. NiddywedoddairdgwbL Adwaen- ai ef fel gweithiwr yo y fall er's 18 mlynedd, ac yr oedd yn ddyn hollo! gyfarwydd a'i waith. Gan Mr. Williams.—Yr eedd yn gweithio ar gwr uwchat y fall.. iel aad oedd yn bosibl i ddim ddod i lawr a'i dar&w. Edward Evans. IsaIIt, Trt.wsfynydd 11 dyst- iodd ei fod yn llafurwr yn y fall. Gwelodd y Trangcedig yn gweithio yno ddydd Gwener. a Gwelodd ef pan oedd o fewn dwylath i'r fan y cychwynodd lithro. Gwaithiai ef o iewn rhyw wyth neu ddeg Hath i'r fan y disgynodd. *!ethodd ddal i edrych arno yn dod i lawr, a *'haid fu iddo droi draw. Pan welodd ef yr Oedd fel pe yn gwoeyd egni i droi er cael gafael mewn rhywbeth. Robert Pugh, Ysgoldy Bach, Tanygrisiaa, a "ystiodd ei fod yn greigiwr yn yr Oakeleys .Miryw weithiau yn y6.tud plydnawn ctdydd Gwener yn gweithio Ryd:t rhaff am ei g!un. Gwelodd ef yn tynu y t' aff oddiam ei glun amser caniad y corn "Pdwar o'r gtoch, Twrw y trosol ar y graig Qynodd ei sylw ef ato. Gwelodd ef yn syrthio A1.1 o'r ceryg yn syrthio ar ei goesau. Caf- °°d godwm o tua deg llath yn unionsyth. Yr Qedd yn amiwg ei fod wedi ei anafu yn drwm tawu.. Gan Mp. WIlHams,—Bu yn gweithio heb fod yo. mbeM oddiwrtho am o 30 i 35 mlynedd, ac y Oedd yn ddyn cyfarwydd nodedig a'i waith. b 11 nihen tua haner awr ar ol y corn pedwar y 1-u, ddamwain. Nid oedd yn arwydd o ddi- MaJwch o gwbl fod y trangcedig yn gweithio lie yr odd heb fod mewn rhaff, gan fod stepiau ¥110 iddo sefyll arnynt. Gwyddai y trangcedig C'Ystal a neb ar y chwarel sut i weithio, pa un a i rnewn rhaff neu allan o honi. Dr. Richard Jones, a dystiodd i'w gynorth- yrwr Dr. Williams fyned yn uniongyrchol i'r *spytty pan anfonwyd gair i'r Feddygfa. ac aeths yntau ei hun yno oddiwrth y tren haner a.wr wedi pump. Bu iddo ei archwilio, a r-hafodd ei fod wedi ei anafu yn drwm iawn. l "aich wedi ei malurio wrth iddo godymu i lawr, 94 i ddwy glun wedi eu chwtlfriwio trwy r n disgynodd amynt. Yr oedd man ar- "oUton a.]- ei wyneb a'i ben. Pan welodd ef, a* ,edi cael ymgynghoriad gyda Dr. Roberts. eth t']. casgliad fod.yn anmhosibl iddo fyw. uasat yn rhaid tori ei ddwy goes a'i fraich alth, pe wedi gallu dod dros yr ysgydwad Qerbynloddt trwy y niweidiau. Bu farw tua Btth o'r gloch. Yr oedd yn ymwybodol ac yn drad hyd y diwedd. Bu farw o effeithiau y arnwain. Dychwelwyd Rheithfarn unol a thystiolaeth y Meddyg:—"Marwolaeth ddamweiniol. asiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eil Profedigaeth chwerw.