Cynghor Dlnesig Ffestiniogs Cynhaliwyd Cyfarfod Rhaith o'r Cynghor uchod nos Iau diweddaf, pryd yr oedd yn bres- enol Mri William Owen, Cadwaladr Roberts, Hugh Jones, John Lloyd Jones (ieu.), David Williams, John Hughes, E. Lloyd Powell, Richard Roberts, William Jones, William Evans, W. J. Rowlands, W. Daniel Jones, Evan Jones, John Cadwaladr, H. H. Roberts, Lewis Richards, R. O. Davies (clerc), W. E. Alltwen Williams (Arolygydd a Pheirianydd); ac Evan Roberts (clerc cynorthwyol). Y Clerc a ddywedodd mai cyfarfod Rhaith oedd hwn, a chan fod tymor swyddogol.y Cad- eirydd, yr Is-gadeirydd, a'r holl Bwyllgorau ar ben er y 15fed o'r mis hwn, yr oeddynt wedi ymgynull i ethol yr oil o'r newydd. Dyna brif ac unig waith y cyfarfod. Y peth cyntaf oedd ganddynt i'w wneyd ydoedd ETHOL CADEIRYDD. Mr Hugh Lloyd a ddywedoacl ei fod yn teimlo y dylent, cyn myned at y gwaith o ddewis Cadeirydd newydd, ddiolch i'r cyn-Gadeirydd. Aeth y cyfarfod diweddaf heibio heb iddynt gael cyfleusdra i wneyd hyny. Teimlent oil i Mr William Owen gyflawni ei waith yn deilwng iawn, er hwyrach nad oeddynt yn cydolygu ag ef ar bcb pwynt. Byddai ymgynghoriad a dadl ar ben pe byddai pawb o'r un farn, ac ni wyntyllid dim ddeuai ger bron.Ir Cadwaladr Roberts a gefnogodd.—Pasiwyd yn unfrydol. Mr William Owen a ddiolchodd am yr ar- wydd o deimladau da a ddangoswyd tuag ato. Tra yn y gadair, gwnaeth ei oreu i gario y gwaith yn mlaen yn ddiduedd, gan gadw golwg ax eu cyfrifoldeb mawr i'r trethdalwyr. Hy- derai na bu iddo ddywedyd gair i archolli teim- lad neb yr oedd yn hollol sicr na fwriadodd wneyd hyny yn ystod y ddwy flynedd y bu yn Gadeirydd. Yr oedd yn cynyg eu bod yn ethol yr Is-gadeirydd am y ddwy flynedd ddiweddaf —Mr E. M. Owen-i fod yn Gadeirydd am y fiwyddyn hqn. Bu Mr Owen yn ffyddlon iawn, a chymerai adyddordeb arbenig yn ngwaith y Cyngor.—Mr Evan Jones a gefnogodd. Yr oeddynt oil yn gwybod am ffyddlondeb Mr E. M. Owen, a'i natur addfwyn a charedig. Mr E. Lloyd Powell a gynygiodd eu bod yn ail-ethol Mr William Owen i orphen tymor y Cynghor. Byddent oil yn gorphen eu tymor ddiwedd y fiwyddyn hon. Bu Mr W. Owen yn Gadeirydd rhagorol, a gosododd urddas ar y gadair yn ystod yr amser y bu ynddi.—Mr William Evans a gefnogodd. Mr William Owen Y mae yn groes i reol arferol y Cyngor, er's pan y mae yn Gynghor, i. ethol un am ragor na dwy flynedd, ac yr oedd hon yn rheol dda. Os oedd y swydd yn un o anrhydedd dylai fyned i bob aelod yn ei dro. Ethol yr Is-gadeirydd a ddylent. Mr Cadwaladr Roberts a ddywedodd fod hon yn flwyddyn bwysig iawn, yn enwedig gyda'r benthyciadau. Ystyriai ef ei fod yn bwysig i Mr William Owen ddal y gadair o dan yr amgylchiadau eithriadol yr oeddynt ynddynt, gan ei fod wedi bod o'r fath wasanaeth i gael pethau i'r fan yr oeddynt yn awr.—Mr H. H. Roberts a ddywedodd nad oeddyn credu mewn newid Cadeirydd er mwyn newid. Yr oedd yn anmhosibl iddynt gael cystal Cadeirydd a'r oedd ganddynt," ac yr oedd'ef yn gryf dros ei ail ddewis.—Mr John Hughes, Yr oeddynt oil yn cydweled i Mr William Owen fod yn gadeirydd rhagorol, ond siarad ynfyd perffaith ydoedd dywedyd "fod yn anmhosibl cael ei gystal." Anwyd neb yn Gadeirydd, ac ni anwyd Mr William Owen yn Gadeirydd. Nid oedd ef yn credu y collid gwasanaeth Mr W. Owen wrth beidio ei ethol i'r gadair, gan nad tal am gael y gadair oedd ei wasanaeth, ond ityddlondeb i'r rhai a'i hetholasant yn aelod ar y Cynghor. Fe geid Mr Owen gyda hwy mor selog ag erioed, er nad yn y gadair. Methai ef a gweled paham nad allai Mr E. M. Owen wneyd y gwaith i foddlonrwydd. Os oedd yn garedig a goddefgar, yr oedd hyny yn well na bod yn unbeniaethol a sarug. Cynorthwyo y Cadeirydd i wneyd ei waith a ddylent, ac nid ceisio ei rwystro. Credai ef yn nghymwysder arbenig Mr William Owen i'r swvdd, ond yr oeddynt yn rhwymedig i Mr E. M. Owen eu His-gadeirydd i'w ethol i'r Brif Gadair.—Mr Cadwaladr Roberts a ddywedodd ei fod ef yn rahell iawn o feddwl am awgrymn dim yn fychan am Mr E. M. Owen, yr hwn a berchid mor fawr ganddynt oil. Yr hyn a barodd iddo ef siarad dros Mr W. Owen fel y gwnaeth oedd amgylchiadau eithriadol v Cynghor ar hvn o gylciiiadau eitbriaclol v C??n g ?ior ar h?, -ii o Y Clerc a roddodd y ddau enw i fyny, a plileidleisiodd 8 o bobtu. Y Clerc, "Y mae gorchwyl anymunol iawn wcdi disgyn i fy rhaii a phe gallaswn rywfodd ei osgoi buaswn yn gwneyd hyny. Ni ddigwyddodd peth o'r fath o'r blaen yn hanes y Cyngor. a rbaid i mi dori y ddadl. Er fod Mr William Owen yn gyfaill psrsonol i mi, yr wyf yn teimlo, wrth ystyried pobpeth raai dros Mr E. M. Owen y dylwn roddi fy mhleidlais. Bu ef yn Is-gadeirydd fh-ddLm am ddwy flynedd, a chyn h?ny yn Gadeirydd amryw bwyllgorau, ac y n?ae ei ftyddlondeb yn nodedig. "—Pleidleisiodd yr 1, 1 O?k,ei. holl aelodau,dros Mr E. M. Owen. ETHOL LS-GA-DEIRYDD. Mr Cadwaladr Roberts a gynygiodd Mr David Williams, a chefncgodd Mr Richard Roberts. Cynygiwyd tri c enwau craill onc1 un o a gemogwyd.—Ethol wyd Mr David Williams yn unfrydol. Mr D. Williams wrth gymeryd y gadair yn ,absenoldeb y Cadeirydd newydd, yr hwn ccdd yn absenol trwy aftechyd, a ddiolchodd am yr arwydd hono o anrhydedd a osodwyd arno fel yr aelod ieuengaf ar y Cyngor. Hvderai y ceid gan bob aelod y gefnogaeth a deilyngpi y svvyddi y Gadair a'r Is-gadair, ac y byddai y :vn yn un o waith teilwng. Y PvvyLLGoRAir.—Ail-etholwvd y Pwyllgor Arianol, y Pwyllgor lechydol a'r Ffyrdd, a'r Pwyllgor Dwfr a Goleuni. PWYLLGOR Y LLYFRGF.LLOLDD.—Ail-ethol- wyd yr aeiodau oddiallan i'r Cynghor oeddynt' ar y Pwyllgor hwn ond gan i'r Cynghorwyr I oeddynt arno fod mor hynod o anftyddiawn, dewiswyd naw o rai newyddion, set Mri W. J. Rowlands, H. H. Roberts, E. Lloyd Powell, Owen Jones, John Cadwaladr, William Jones, W. D. Jones, Richard Roberts, ac Evan Jones. PWYLLGOR CELFYDDYDOL.—Yr oedd 16 o aelodau ar y Pwyllgor hwn, a dewiswyd y per- sonau canlynol arno o newydd,—Mri Owen Jones, William Owen, John Cadwaladr, William Jones, Hugh Jones, Hugh Lloyd, William Evans, W. J. Rowlands, Evan Jones, C. Roberts, John Lloyd Jones (hynaf), J. LI. Jones (ieu.), Richard Jones a W. D. Jones, yn nghyda Dr. Jones a'r Parch. Silyn Roberts, M.A., oddiallan i'r Cyngor. Pasiwyd i'r Pwyllgor Dwfr a Goleuni gyfar- fod. nos Lun; Pwyllgor Arianol nos Fawrth a'r Pwyllgor lechydoi nos Fercher, er mwyn adrodd i'r Cyngor nos Wener. Y PWYLLGOR GWAITH.-Mr. Wm. Owen a ofynodd beth oedd yn dod o'r Pwyllgor Gwaith ? A oedd hwnw i gael ei alw yn fuan ? Y Clerc a atebodd nad oedd gwaith i'r Pwyllgor hyd nes y ceid y benthyciad ofynwyd am dano, gan nad oedd arian at fyned yn mlaen ar raddfa eangach nag oeddynt yn bresenol. Yr oedd ef wedi sicrhau yr arian gofynol, a bu ddwy waith yn Swyddfeydd Bwrdd y Llywodr- aeth Leol, a chredai y ceid gair ffafriol oddiyno i'w hawdurdodi i fenthyca yn ebrwydd ar ol gwyliau'r Pasg. Mr William Owen, a ddywedodd i ddyn an- fon llythyr i'r Cynghor i ofyn am waith, ond hysbyswyd ar y pryd nad oedd gan y Cyngor angen neb at y rhai oedd ganddynt. Heddyw, aeth y dyn hwnw i lawr i weled y gwaith, a gwelodd yno ddau ddyn wedi cael eu cymeryd i mewn yr wythnos hon. Paham y gwnaed hyny, a gadael y dyn hwn o'r neilldu ?—Mr Alltwen Williams, Yr oedd y ddau gymerwyd i mewu wedi bod o dan sylw y Pwyllgor.—Mr E. Lloyd Powell, a ofynodd a oedd hyny yn iawn yn Mr Williams. Pa le y ceid terfyn ar gymeryd i mewn os byddai i Mr Williams gael cymeryd ei ddewis-bobl i mewn, a hyny pan y myno ?•—-Mr Alltwen Williams, Y mae Mr E. Lloyd Powell yn siarad o dan ei ddwylaw yn hollol, ac yn ceisio priodoli i mi bethau na ddylai. Ni chafodd neb waith genyf ond oedd wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor a'i gyflog wedi ei benodi. R. Williams, Penygelli terrace a T. Hughes, Devon terrace yw y ddau ddaeth i mewn ddiweddaf. Yr oedd y ddau ar y list gyntaf ac i gael gwaith o flaen y rhai oeddynt ar yr ail list.—Mr Hugh Jones, A oes rhai yn cael dod yn ol i weithio ar ol gadael eu gwaith am le arall? "-Mr Williams, "Do, cafodd un neu ddau felly ddod yn ol. "—Mr William Owen, Oni ddylai Mr Williams gael cyfarwyddyd i beidio cymeryd neb i ail weithio na chymeryd neb o'r newydd ond trwy bender- fyniad o eiddo y Cyngor. Listiau at yr adeg basiodd oedd y rhai roddwyd i Mr Williams." —Mr Williams, Ni ddywe-dwyd gair o gwbl i'r cyfeiriad yna o'r blaen, ac os dyna deimlad y Cyngor, ni cfsymerir neb o gwbl i mewn eto." -Mr Cadwaladr Roberts, Dylasai Robert Edwards gael gweithio, os at hwnw yr oedd Mr Owen yn cyfeirio (Mr William Owen,"Ie.") Yr oedd y ddau y soniai Mr Williams am dan- ynt wedi colli eu hawl, gan y dylasent fyned at eu gwaith y pryd y pasioad eu henwau, ac nid ar ol cymeryd gwaith mewn lie arall. Yr wyf yn cynyg i Robert Edwards gael dechreu gweithio. Y mae yn hen drethdalwr, ac yn weithiwr rhagorol, ac y mae wedi anfon atom er's dau fis i ofyn am waith. "-Y Cadeirydd, Y mae yn afreolaidd dew is neb ar wahan i'r Pwyllgor, ac felly nis gellir rhoddi y peth i bleidlais.—Mr William Euans a gynygiodd, a chefnogodd Mr Evan Jones, eu bod yn ail ddewis y pwyllgor.—Mr John Hughes, Yr wyf yn cynyg ein bod yn gohirio penodi pwyllgor. 1 mae wedi cyflawni mesur ei anwiredd lawer gwaith drosodd, a dylai gael teimlo hyny hefyd. Os ydyw y dyn yr ydych yn dadleu drosto yn weithiwr mor eithriadol o dda, sut na fuasai y Cwmni y gweithiodd fer ei esgyrn gyda hwy yn ei gadw ? Dywedir ei fod wedi talu trethi yn y lie, oni wnaeth y dynion a wrthodwyd gan y Pwyllgor yr un peth. Dylem fod yn gyson a ni ein hunain wrth drafod arian y trethdalwyr. Ar yr un pryd yr wyf yn ffafriol i Robert Edwards gael gwaith genym, ac yr wyf yn cynyg hyny.—Mr Hugh Lloyd a gyn- ygiodd eu bod yn dewis pwyllgor o newydd, a chefnogodd Mr Williym Jones. Pasiwyd hyny, ac awd yn mlaen i ddewis y pwyllgor yn cyn- wys un o bob rhanbarth :—Mri C. Roberts, W. J. Rowlands, W. Owen. O. Jones, J. Cadwal- adr, J. Lloyd Jones (hynaf), H. Lloyd, J. Hughes, ac E. Jones. s Arhosodd y Pwyllgor ar ol. .=- m
Glanau'r Fachno. [GAN YR F)ENI CWRDD I-'LWYF.—Yn yr Ysgoldy nos Sad- wrn, cynhaliwyd yr uchod. Bu siarad ar y Liyfrgell yn ffolineb disynwyr. Gwn fod rhai o honynt yn graph ac i'r pwynt, ond oraclau swn oedd y lleill, yn crwydro yr anialwch heb bwrpas na neges. Yr hyn oeddwn yn rhyfeddu oedd,-bod yn drethdalwr yn unig yn hawl- fraint mor rad a graddau America. Bu gwaith dwr y Cwm yn asgwrn y gynen ond nid oedd gweledigaeth eglur, a'i adael wnaed fel ei caf- wyd ar y cychwyn, heb fod yn well na gwaeth. Y prif-siaradwyr oeddynt Mri. R. T. Evans, Bradford House; John Morris, Ysgwyfrith; John Griffiths, Arosfa; John G. Evans, Cwm E. W. Roberts, Cwm a David Williams, Llan. Llanwvd y gadair yn anrhvdeddus gan ein Meddvg rhadlon Dr. Williams, Mostyn Villa. AT EI WORK.—Yr wythnos hon rhaid i ni groniclo marwolaeth un o gynieriadau puraf ein hardal, sef Mr. William Roberts, Carrog Terrace. Yr oedd yn gymeriad hoffus gan bawb o'i gydnabod. Yr oedd yn ein gwrthrych gyrnliwysderau neillduol, darHenni y Bcifcl, nid yn achlysurol, ond darllenai lawer arno, ac yr oedd wedi cydnabyddu yn bur helaeth a'i wirioneddau, ac yfed o'i ysbryd. Nid ydym yn meddwl ei fod yn perchenogi gallu mecldyliol uwchlaw y cyffredin, ond yr oedd wedi gwneyd defnydd da o'i fanteision, ac ystorio ei feddwl a gwybodaeth YsgrythyroL Yr oedd hefyd yn ddyn o dymer hynaws, heb ddim o'r sarugrwydd Ysbryd hwnw, sydd yn gwywo pobpeth o'i gwmpas, nid cenllysg oer a difaol oedd ei eiriau, ond ymadroddion ddis- gynent fel gwlith. Meddai ar galon gynes a chariadus, yr hon a osodai ei lliw a'i naws ar bobpeth a wnelai. Enillai ei dynerwch a'i addfwynder bawb i'w hoffi. Yr oedd yn esiampl i bawb yn y lie yn ei ddiwydrwydd gyda phob moddion o ras, byddai William yno bob amser—Sul, Gwyl, &c., os na byddai rhyw rwystr anorfod ar y ffordd. Mae nifer fawr fel mae'r gwaetha'r modd o'n pobl mwyaf cefnog, nad ydynt un amser yn myned i'r Ysgol Sul, yn enwedig dynion parchus ein cynulleid- faoedd gan ymesgusodi oherwydd rhyw fan bethau. Mae lie i ofni na ddaliant y wyntyll diwrnod glanhau y llawr dyrnu. Nawn Sad- wrn daeth tyrfa i dalu y gymwynas olaf iddo trwy ei gludo i orphwys i fynwent y plwyf, Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. Edward Davies, (W.), ac ar Ian y bedd gan y Parch. Ben Jones, Rheithordy. Teimlir chwithdod ar ei ol, yn arbenig Eglwys Shiloh, lie bu'n aelod gwasanaethgar. TAIR TALENT.—Llun y Pasg yn Eisteddfod Eglwys Bach yr oedd tair talent yn cynyrchioli ein hardal D. Pryce Davies, Post Office, fel Beirniad Cerddorol, ni raid iddo ef wrth gan- mcliaeth, gan fod ei enw fel Beirniad a datgan- wr mor adnabyddus. Dewi Machno, prif englynwr y cylch, nid yw Dewi fel llawer bardd cadeiriol mewn ardal yn cynyg testyn, a hwnw yn gyfyngedig i gylch ei gapel, ac ar yr un pryd yn cynyg ei hun, ac yn myn'd a'r wobr, na, enciledig yw Dewi, a phe yn ymgeisio yn fynychach, byddai lIai o son am ambell fardd cadeiriol gwyntog, a llai o fedals yn taslio ar ei frest. Lloyd Williams, Fourcrosses House, yntau wedi enwogi ei hun am y Penhillion Coffa i'r diweddar Barch. J. P. Roberts gyda chanmoliaeth uchel, ac yn oreu o ddigon yn ol y Beirniad adnabyddus Cadvan. Bardd ieuanc yw Lloyd Williams, ond yn brysur ddringo i enwogrwydd, ar hyd grisiau barddoniaeth, mi wel darllenwyr y Rhedegydd fod Penmach- no yn cynyrchu bechgyn athrylithgar mewn gwahanol ganghenau, ac yn glod i'w hardal ramantus. "Higher up fechgyn." YN WELL.—Pleserus iawn i ni ydyw deall fod Mrs. Elias Jones, Machno Terrace, gryn dipyn yn well ar ol bod am wythnosau yn yr Ysbytty yn Lerpwl. Bu o dan Driniaeth Llaw- feddygol, hynod o lwyddianus, a disgwyliwn ei bod wedi cael iachad lIwyr. Hyderwn y parha y chwaer hynaws hon i wella llawer eto, ac y cawn ei gweled yn fuan gyda ei gwahanol ddyledswyddau. NEWYDD DA.—Dywedir fod rhagolygon disglaer, yn yr agor newydd agorir yn Rhiw Fachno. Hyderwn y deuir o hyd i lygaid da, ac y ceir lie i luaws weithio. Gyda Haw credwn ei bod yn hen bryd inigael gweithio amser llawn bellach. Yr ydym wedi dioddef gormod o ormes a thrais. Mae yn hen bryd i ni ddeffroi fechgyn. MANUS.—Mae llu yma ac acw ar hyd y Cwm a'r Llan yn parhau i gystwyo "Yr Hen Ddyrnwr. Effaith dweyd y gwir sydd wedi peri iddynt ffromi feddyliwn, ac am hyny tor- wyd pen loan Fedyddiwr, ac mae Yr Hen Ddyrnwr yn barod i gyfarfod ar un dynghed, a diolch fed genyf ben i'w dori, ac nid "peg fel ambell un. Gwylied y rhai hyny imi glywed rhagor am eu campau o wythnos i wythnos yn y cyfeiriad yma rhag ofn bydd fy ffyst yn disgyn ar glap un o honynt nes ei chwalu fel manus.
Nodion o Dolwyddelen. GAN DRAENOG. CYNGOR PLWYF.—Cynhaliwyd nos Wener diweddaf, yn yr Ysgoldy, pryd yr oedd y cynghorwyr canlynol yn bresenol,-Mri. R. P. Huws (isgadeirydd) T. Pritchard, O. E. Parry, T. Pierce, R. Williams, T. B. Mandle, E. Jones. J. R. Jones, W. P. Hughes, John Roberts, ynghyda'r Clerc (Elis o'r Nant). Yr oedd hwn yn Gyngor pwysig. Dyma gyfarfyddiad cyntaf y flwyddyn a'r gwaith ydoedd ad-drefnu y Swyddogaethau at y flwyddyn ddyfodol, cael pob peth mewn trefn, in working order, ys dywedir. Yn absenoldeb y Cadeirydd, cymerwyd ei le gan yr Is-gadeirydd. Agorwyd yreisteddiad yn y drefn arferol. Gyda darllen cofnodion y cyfarfod blaenorol gan y Clerc, cadarnhawyd hwy fel rhai cywir. Yr hyn gymerodd le. DARLLEN GOHEBIAETHAU. Darllen- wyd llythyr oddiwrth y Gorsaf-feistr yn hysbysu ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth y Cyngor, yn cynwys cwyn Mr. Foster oherwydd nad oes goleuni ar Bont yr Orsaf, a'i fod wedi cyflwyno yr ohebiaeth i'w uwch-swyddcgion yn Nghaer. Gofynebjv Public Works Loan Commission- ers ddaeth o dan sylw nesaf am y swm o lOp 15s 6c. Pasiwyd i anfon cheque am y swm ar gynygiad Mr. J. R. Jones, a chefnogiad Mr T. Pierce. Atebiad Mr. H. D. Brandreth mewn perth- ynas a physgota. Dywedai iddo hysbvsu Mr. O. E. Parry fod tocyn i'w gael i'r ardaiwyr yn rhad, ond rhaid ei hadnewyddu yn wythnosol. Cadarnhawyd hyn gan Mr. 0, E. Parry, ond nid oedd yn credu ei fod at ei ryddid i wneyd detnydd o hyny. am nad oedd ganddo ar ddu a gwyn. COPY O'R ASSESSMENT—Darllen wyd llythyr yn dal pertliynas a phenderfyniad y Cwrdd Plwyf diweddaf, sef cael copy o'r Assessment i fod yn arhosol, ac yn eiddo y plwyf. Yn 01 y llythyr fe gyst y swm o [1 lOs. Atebiad Mr. Owen, TryscrYdd nev/ydd y Cyngcr, yn cydnabod derbyniad y llythyr am ei benodiacl ac yn gofyn am y manylion angea- rheidiol. Llythyr oddiwrth Mr D' Davies yn cyflwyno( ei ymddiswyddiad oherwydd gadael yr ar dai. Cyflwynai Mr. T. B. Mandle ei ymddi- swyddiad oherwydd yr un rhesymau, sef ei fod yn ymadael i fyw. Yn nesaf y gwaith ydoedd dewis swyddogion a'r gwahanol bwyllgorau. (l) Cadeirydd. Dewisiwyd Mr. R. P. Huws gyda mwyafrif ar ei gyd-ymgeisydd, Mr. E, B. Lloyd. Dewis- wyd Mr. O. E. Parry yn Is-gadeirydd, ar gynygiad Mr. T. B. Mandle, a chefnogiad Mr. T. Pritchard. OVER-SEERS.—Mr. O. E. Parry a alwai sylw at yr arferiad pan yn dewis Overseers, fod un o gwr uchaf y plwyf, Ilall o'r canol, a'r trydydd o'r gwaelod. Bydd hyny yn fanteisiol eleni gyda'r Assessment gan fod hono i fyned o'r naill Overseers i'r llall bob bedwar mis. Enwyd pedwar. Cynygiwyd Mr. Evan Jones gan Mr. T. B. Mandle, a chefnogai Mr. Mandle. Cynygiwyd Mr. R. Williams gan Mr. J. R. Jones, a chefnogiad Mr. W. P. Hughes.— Cynygiwyd Mr. Edward Roberts, gan Mr. O. E. Parry, a chefnogwyd gan Mr. Mandle.— Cynygiwyd Mr. T. T. Roberts, Penlan, gan Mr. T. Pierce, a chefnogodd Mr. J. R. Jones. Pleidleisiwyd fel y cynlyn:—Mr. T. T. Roberts, 8: E. Roberts, 6; R. Williams, 8 E. Jones, 4, Dewisiwyd y tri uchaf. PWYLLGORAU: GOLEuo.-Fel y canlyn:- Mri. O. E. Parry, T. Pritchard, W. P. Hughes ac E. Jones. GLADDFA.—Mri. R. Williams, J. R. Jones, J. Roberts, T. Pritchard, ac E. B. Lloyd. ARIANOL.-Mri. O. E. Parry, Ed. Roberts, R. P. Hughes, E. Jones, a T. Pierce, I arwyddo y Cheques, y ddau fu y llynedd i barhau, sef Mri, R. Parri Huws ac O. E. Parry, ar gynygiad Mr. John R. Jones a chefnogiad R. Williams. DEWIS CLERC.—Dewisiwyd yr hen Glerc yn unfrydol, ar gynygiad Mr. J. Roberts a chefnogiad Mr. W. P. Hughes. Diolchodd yntau am yr ymddiriedaeth. Ar gynygiad Mr. T. Pritchard a chefnogiad Mr. O. E. Parry pasiwyd fod y cyfarfodydd i'w cynal eto yn yr un drefn-yn fisol,—os na ddaw rhyw amgylchiadau yn rhwystr y rhaid eu taflu. LLENWI Y BYLCHAU.—Y blychau ar y Cyngor drwy ymddiswyddiad Mri. Davies a Mandle. Yn ol y drefn arferol, yr oedd Mr. E. B. Lloyd yn cymeryd sedd Mr. D. Davies, ond nid oedd neb arall ar y List. Penderfyn- wyd fod y mater o ddewis un yn lie Mr. Mantle i fod ar yr Adgenda at y cyfarfod nesaf. Hysbysodd y Clerc nad oedd atebiad wedi dod oddiwrth yr un o berchenogion yr afon Ledr a'r Aberoedd, ond oddiwrth Mr. Brandreth. FFORDD TANYBENAR ETO.—Galwyd sylw unwaith yn rhagor at y ffordd hon gan Mr. John Roberts. Gofynai beth oedd atebiad y Cyngor Dosbarth. Y Clerc a atebai nas gall- ent ei chymeryd drosodd heb i'r perchenogion ei gwneyd i fyny i ddechreu, a hyny oblegid nad ydoedd yn ffordd cyn 1835. Dywedai fod y plwyf wedi bod yn ei hadgyweirio. Edrychid ar y bob! yn Nhanybenar yn cael cam, gan eu bod yn talu trethi uchel, fel pawb arall ohonynt, ac y dylid eu cynorthwyo rhywfodd os oedd yn bosibl. Pasiwyd i wneyd cais at y Dosbarth i wneyd y ffordd i fyny, ac i'r ddau gynrychiolydd ddadleu eu goreu, a siarad teimlad y Cyngor yno. Galwyd sylw at y llwybr cyhoeddus i gyfeiriad Bertheos oedd yn cael ei beryglu gan dy newydd Mr. Thomas Pierce gan Mr. W. P. Hughes. Atebwyd gan Mr T. Pierce y byddai y llwybr yn aros yr un fath, ac nad oedd ganddo ef un bwriad i'w gau o gwbl.—Ar gynygiad Mr. E. Jones a chefnogiad Mr. T. Pritchard, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch y Cyngor a'i deulu.—Mr. J. Salisbury am eu caredigrwydd yn cadw agoriad y gladdfa. Y Clerc i'w hysbysu drwy lythyr. WEDI MYNED HEIBw-Dyma hanes gwyliau y Pasc a'r Groglith eto, yr un peth a phob gwyl arall. Y mae rhyw gymaint o adgofion am danynt yn clymu gyda ni yn ddiameu. Llawer o bregethu fu yn y gymydogaeth, a llawer o swn mwynhad a chanmol sydd i'w glywed yn yr ymddiddanion. Cafwyd pregethau grymus yma gan y Parchn, Gwilym S. Rees, B.A. a S. T. Jones, Trealaw; yn ngwyl flynyddol yr Annibynwyr a chan y Parch. Jonathan Jones, Llanelwy, yn Moriah. Y cam nesaf fydd disgwyl y ffrwyth, bywyd gwell, mwy o ymroddiad, a sel a brwdfrydedd dros y da a'r uchel, yr ymddiddanion yn foesolach. CWRDD PLWYF-Cwrdd pentymor penigamp gafwyd gyda Gobeithlu yr Annibynwyr. Rhoes Mr. T. R. Williams, o Drefriw foddlonrwydd cyffredinol fel beirniad. Hyderaf y cedwir mewn cof ei gynghorion a'i gyfarwyddiadau i'r plant. Brysied yma eto. lVlEWN .TROFEDIGAETH—:Dynaiianes amryw yn ein hardal erbyn heno. Mewn galar a thristwch oherwydd rhai anwyl. Y mae angeu wedi bod gyda'i orchwyl yn brysur y dyddiau diweddaf, ymhlith yr hen a'r ieuanc. Dydd Mercher diweddaf, hebryngwyd gweddillion henafgwr dros bedwar ugain mlwydd i gladdfa Llanrhychwyn, Mr. Robert Jones, o Gae Heber, Trefriw, ond a arhosai er's amser bellach yn Nhan'rallt, ac a ofalwyd yn dyner am dano.—Prydnawn dydd Sadwrn drachefn, yr oeddym wrth y gorchwyl ac yn talu y gymwynas olaf i Mr Wm. Roberts, Ty'nycwm, Penamcn. Cafodd ef fisoedd lawer o gystudd poenus.-Yr wythnos hon eto bu llaw oer 1 angeu yn gwneyd ei v?aith ar blentyn bach rr John ac Ellen Hughes, Pentrebont. Pregethau yw'r amgylchiadau hyn i bawb o honom. Y cwestiwn yw a ydym yn deall eu cenadwri ? A oes yna ymgais ac osgo ynom i'w deall ? Wrth dynu y lien dros yr olygfa, nid oes genyf ddim yn well na dymuno heddwch a distawrwydd. Huno oddiwrth en llafur a'u lludded yn mhriddellau y dyffryn. R> AM WAIN.—Dydd Sadwrn diweddaf, cafodd ein parchus Ficer ei clafiu oddiar ei ddeurod, a'i anafu drwrn. Bydd yn dda gan bawb o'i gyfeilhon ddeall ei fod yn esmwythach.
W. S. WILLSAMS (Llanrwst), Lid., London House, LLANRWST; AND j NEW LONDON HOUSE, BL/IENAU fESTINDOG i Coming of Spring OUR NEW GOODS Have been Hourly Arriving from PARIS, BERLIN & LONDON I Call to see our Millinery, Costumes, Coats, &c. Our Showrooms con- tain the most perfect examples procurable NEW LINOLEUMS ■ AND OILCLOTHS. i ■ t j QQQ PAIRS of New a ? o  Lace Curtains. < Smart Suitings & Raincoats. LLA RM T ASD  rR:< fC' ANP. BL?E?i??j FE?T????