Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

I Argiwyddes Warwicka'r Sosialwyr.…

I Penrhyndeudraeth.-I

IDonioldeb uwchben y Bit Addysg.…

Marwolaeth Mr. William Williams,…

1-- -Arwerthiant Taiycafn.I

Beddgelert. I

DAEARGRYN -YN -CALIFORNIA.…

Marwolaeth Mrs Roberts, Plasmeini,…

Family Notices

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL I

Dinystr San Francisco. !

Etholiad Eifion.

I Gwaeiedd Syr Horatio Lloyd.…

IHau'r Gwynt.

Y Pabyddion yn Yingynghori.

Gwadu haeriad Mr. Keir Hardie.I

I Cyfarfyddiad y Senedd.

I Aberystwyth yn erbyn y Bala…

News
Cite
Share

I Aberystwyth yn erbyn y Bala a Threfecca. Cytuna y Methodistiaid Calfinaidd oil fod cynyg Mr. D. Davies, A.S., Llandinam, yn gynyg haelionus iawn a gwir ardderchog, a chydnebydd pawb o bob enwad hyny. Ond pan ofynir a ddylid derbyn y cynyg ni cheir cytundeb, ac nid yw hyny yn beth i ryfeddu dim ato. Y mae cysylltiadau'r Bala a Threfecca yn rhai cysegredig iawn, ac arwydd ddrwg yn ein golwg ni fuasai parod- rwydd i'w tori a chalon ysgafn. Mae'r mater wedi bod o dan ystyriaeth y Gym- deithasfa fwy nag unwaith. Penodwyd pwyllgor i roddi iddo ystyriaeth fanylach, a chafodd y pwyllgor hwnw fod penderfynu y mater yn waith anhawdd. Dygodd ei ad- roddiad ddydd Mawrth i Gymdeithasfa Chwarterol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Rhathyn. Argymhellai y Pwyllgor eu bod yn ddiymdroi yn ceisio llais yr enwad yn Ngogledd Cymru ar y priodoldeb o gael un Coleg yn Aberystwyth yn lie y ddau sydd yn awr, y naill yn y Bala a'r llall yn Nhre- fecca. Cymerodd amryw wyr blaenllaw ran yn yr ymddiddan neu'r ddadl, a gwelwyd fod cryn wahaniaeth barn rhyngddynt. Ar wahan i'r ffaith eu bod yn hwyrfrydig i dori'r hen gysylltiadau barnai rhai mai anfantais yn hytrach na mantais fyddai dwyn eu coleg i gysylltiad agos iawn a choleg y Brifysgol. Yr oil a ddywedwn ydyw fod mwy i'w, ddywedyd dros y farn yna nag a wyr rhai.