Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NOD/ON OYR CYLCH.

Cynghor Dosbarth Glaslyn.…

-Cyngor Dosbarth Deudraeth.-I

Cicio am y Gwpan Genedlaethol.…

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyndeudraeth.

News
Cite
Share

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyndeudraeth. Dydd Mawrth, yr oedd y Bwrdd yn llawnach nag arferol, a hwn ydoedd cyfarfod cyntaf y flwyddyn. Yr oedd yn bresenol, Mri. D. Tegid Jones, William Owen, John Roberts (Talsarnau) R. O. Williams, John Roberts, (Trawstynydd) Cadben Morgan Jones, Ed. Llewelyn, John Pritchard, O. Bowen Jones, Richard Williams, William Williams, L. Foster Edwards, J. R. Jones (Gerallt), John Thomas, G. Parry Jones, Richard Roberts, Robert Richards. Dr. Samuel Griffith, Robert Richards, H. Lewis, Owen Evans, John Williams, Thomas Roberts (clerc) David Jones (clerc cynorthwyol) D. J. Jones (meistr y ty); a Richard Parry, Wm. Thomas a J, Bennett Jones (swyddogion elusenol) ADRODDIAD Y MEISTR.—Y Meistr a hysbys- odd fod 81 yn y Ty ar gyfer 67 yr un amser y llynedd; a galwodd 88 o grwydriaid yn ystod y bythefnos. Daeth John Parry, gynt o Glan- llyn, Penrhyn, i mewn i'r Ty ar yr 16eg. Aeth Thomas Jones, Teiliwr; Robert Roberts, .LlQngwr; Robert Richards, Richard Jones, o Ffestiniog; a John Richards, Llongwr, allan o'r Ty. Gwrthododd James Ryan, crwydryn, a gwneyd ei waith, ac anfonwyd ef i garchar am 14 diwrnod gan yr Ynadon. Bu Thomas Davies, crwydryn, yn y Ty am ychydig ddyddiau, ac wedi gwella aeth allan. Daeth Matilda Roberts a'i phlentyn yn ol i'r Ty, ac wedi bod yn ystafell y crwydriaid yn ol gorchymyn y Bwrdd aeth adref i aros pender- fyniad pellach o eiddo y Bwrdd. YR ELUSENAU A'R TLODION.—Yn ystod y bythefnos ddiweddaf, talodd Mr Richard Parry yn nosbarth Tremadoc £ 69 9s. rhwng 242 o dlodion, ar gyfer £ 79 3s. rhwng 277 o dlodion yr un amser y llynedd, a gofynodd am £ 10 at alwadau y bythefnos nesaf. Yn Nosbarth Ffestiniog talodd Mr William Thomas £ 103 rhwng 332 o dlodion, ar gyfer £ 95 18s. 5c. rhwng 323 yr un amser y llynedd, a gofynodd am £05 at y bythefnos nesaf. Yn Nosbarth Deudraeth talodd Mr J. Bennett Jones £ 12 9s. 4c. rhwng 274 o dlodion, ar gyfer £ 211 rhwng 274 yr un amser y llynedd, a gofynodd am £ 68 at y bythefnos nesaf. Cyfanswm y taliadau, £ 246 19s. 2c. rhwng 848 o dlodion, ar gyfer £252 Is. 5c. rhwng 874 o dlodion yr un amser y llynedd, a'r gofyniadau yn £ 243. Yr oedd £ 889 12s. 3c. yn yr Arian- fly yn ffafr y Bwrdd. ETHOL SWYDDOGION. Y CADEIRYDD.—Ar gynygiad Mr R. O. Williams, a chefnogiad Mr John Pritchard, ail efholwyd Mr Owen Jones yn unfrydol. Is-GADEIRYDD.-Ar gynygiad Mr Richard Williams a chefnogiad Mr William Williams, ail etholwyd Mr William Jones yn Is-gadeir- ydd.—Yr Is-Gadeirydd wrth gymeryd y gadair yn absenoldeb Mr Owen Jones, a ddiolchodd i'r Bwrdd am ei ethol unwaith yn rhagor. Hy- derai y byddent yn unol, fel arferol, ac y gwnelid y gwalth mor effeithiol ag y gwnaed ef yn y gorphenol. CYDYMDEIMLAD,-Mr William Owen a gyf- eiriodd yn dyner iawn at afiechyd trwm Mr E. M. Owen. Cynygiodd eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dyfnaf ag ef. Cefnogodd am- ryw, a phasiwyd yn unfrydol. Y PWYLLGORAU.—Ar gynygiad Mr R. O. Williams, a chefnogiad Mr Richard Roberts, ail ddewiswyd y Pwyllgor Trethiadol. Galwodd Mr William Owen sylw dwys y Bwrdd at y pwysigrwydd o gael rhai ffyddlon ar y Pwyllgor Ymweliadol. Pwyllgor bychan ffyddlon oedd oreu. Cynygiai fod y Pwyllgor yn cael ei dynu i lawr o 11 i 7, ac yna dewis- wyd y personau canlynol :—Edward Llewelyn, Morgan Roberts, Cadben Morgan Jones, G. Parry Jones, Robert Richards, D. Tegid Jones, a Richard Williams. Ail ddewiswyd y Pwyllgor Arianol.. Y DRETH AMAETHYDDOL.—Hysbysodd y Clerc fod y swm o £ 473 10s. 2c. wedi eu der- byn fel cyfran y Bwrdd o dan y Ddeddf hon. ARIANOL.—Yr oedd y Pwyllgor Arianol wedi pasio biliau i'r swm o £ 200 Os. lc., ac archodd y Bwrdd i'r cyfryw gael eu talu. TLAWD A BALCH.-—Mr J. Bennet Jones a ofynodd am elusen i wraig o'i ddosbarth ef, a chynygiodd Mr Owen Evans ei bod yn cael haner coron yr wythnos.—Mr G. Parry Jones, Yr wyf yn cynyg nad yw yn cael dim. Y mae yn rhy falch i ddod i ymofyn ei helusen fel y tlodion eraill, a bydd yn troi allan mewn gwisgoedd heirdd.-Pasiwyd i'w gwrthod. Y PREGETHWR BALCH.—Mr. Bennet Jones a ofynodd am i'r swllt ostyngwyd yn y Bwrdd diweddaf yn elusen gwraig o'r Penrhyn gael ei godi yn ol i 5s. Yr oeddid wedi gostwng swllt arni.-Un o'r Gwarcheidwaid, "Ond y mae ganddi langc cryf adref yn pwyso ar ei fam. Dylai hwnw weithio."—Swyddog, "Mae hwnw yn myned i bregethu, ac nid yw am i'w enw fod i lawr fel tlodtyn rhag i rywun edliw iddo yn y dyfodol ei fod wedi fagu ar y plwyf. Mr. D. Tegid Jones: Os ydyw yn dlawd gonest, ni raid iddo ef, na neb arall, ostwng pen am ei fod yn derbyn elusen plwyfol.Mr. G. Parry Jones: Wneiff o ddim ond pregethu. Nid yw yn dda i ddim arall. "—Mr. J. R. Jones (Gerallt): "Rhaid cael rhai at hyny mae'n debyg."—Mr. G. Parry Jones Gwir, ond ni ddylai ef a'i fam bwyso ar y plwyf, ac yntau deimlo yn rhy falch i'r wlad wybod mae'r"Undeb sydd yn ei gadw."—Gwrthodwyd codi'r el usen. II DYN ALLAN o WAITH—Mr Bennett Jones a wnaeth gais am elusen i ddyn o ardal y Penrhyn oedd allan o waith er's amryw wyth- nosau.—Mr. William Owen, "A ydyw y dyn hwn yn edrych am waith pa le yr oedd yn arferol a gweithio ?"-Y swyddog, "Yn y Llechwedd."—Mr. W. Owen Do, bu acw yn gweitliio, ond bu yn gwethio ar ol hyny i lawr yma.Yr Is-gadeirydd a Mr. G. Parry Jones, a dywedasant iddo fod yn codi cerig am ychydig yn ardal y Penrhyn."—Y Swyddog, "Y mae allan o waith yn awr, ac nis gall ef a'r teulu saith o honynt fyw ar y gwynt. Mae wedi chwilio am waith yn mhob man ac yn methu cael dim. Mr William Owen, Yn mha le y mae yn ed- rych am waith ? Ataliwyd ef a phedwar ugain arall yn y Llechwedd, ond y mae llawer iawn o honynt wedi cael gwaith yn y chwarel, ac am- ryw wedi myned i ffwrdd. Er gwaethed ydyw pethau, nid yw yn anmhosibl cael gwaith yn chwareli Ffestiniog. Buaswn yn dysgwyl gweled y dyn hwn acw yn gofyn am waith, gan mai oddi acw yr aeth. Bu unwaith yn ystod yr holl amser, a dim ond unwaith. Peth yn myn'd a dod yw chwarel fel pob gwaith cyffel- yb, a dylai y dyn yma ymysgwyd a chwilio am waith. Nis gallwn ni roddi elusen iddo am ei fod allan o waith. Mr John Thomas a gynygiodd eu bod yn rhoddi elusen er mwyn y teulu. Mr. Richard Williams a wrthwynebodd. Yr oedd ugeiniau allan o waith fel yntau. Y Swyddog Y mae ganddo hanes gwaith yn y South. Gofynai am gynorthwy genym i dalu ei dren yno." Mr. Richard Williams: Nid oes genym hawl i roddi arian y trethdalwyr i dalu trens dynion iach a chyfion. Y Clerc a ddywedodd nad ellid rhoddi elusen i ddyn iach a galluog i enill ei fywoliaeth. Y Swyddog, Rhaid i mi roddi iddo Y mae y gyfraith yn fy nal yn gyfrifol am beidio Cadben Morgan Jones, Gellwch ddod ag ef i'r Ty. Y Swyddog, Gallaf. Mr. Bowen Jones, Mae'r Gyfrailh yn dywedyd wrth y Swyddog beth i'w wneyd, 'Does un math o reswm dros roddi elusen i ddyn am ei fod allan o waith. Wiw gwneyd hyny. Pasiwyd i wrthod y cais. Yr oedd amryw mewn amgylchiadau cyfyng oherwydd prinder gwaith a chystudd teuluaidd yn Ffestiniog; ond ni phwysodd y swyddog am elusen oddieithr i'r rhai cleifion. ACHOS Y £ 200.—Daeth Mr. Richard Parry ag adroddiad manwl ar achos hen wraig o'r Garn, yr hon wrthodwyd yn y Bwrdd o'r blaen o elusen, gan y credid fod ganddi arian y foedair punt y flwyddyn o log oddiwrthynt. Mr Parry a ddywedodd iddo fyned at Mr William George, Cyfreithiwr am eglurhad ar yr holl achos, a chafodd hyny yn ewyllysgar. Ym- ddengys i frawd i'r hen wraig hon farw tua deugain mlynedd yn ol, ac aeth y ddau gant punau i'r chancery, fel nad allai hi eu cael allan. Bu Mr Bryn Roberts yn gofalu am y mater ac yn anfon y Hog iddi hi yn flynyddol; ond yr oedd y mater yn ngofal Mri D. Lloyd George & Ceorge er's pymtheng mlynedd, a'r Hog yn dod yri gyson yn ei amser. Yr oedd hi yn awr yn 91 mlwydd oed, a gofynai ef (y swyddog) ar eu rhan am rodd am unwaith, a gallai"hithau gyda hono wneyd dros dymor yr haf heb boeni y Bwrdd.—Ar gynygiad Cadben Jones a cbefnogiad Mr Edward Llewelyn pasiodd y Bwrdd yn unfrydol iddo gael punt o rodd,

PENILLION COFFA I

LLONGYFARCHIAD

Can' Mil o Bunau i Grydd Tlawd.

Gwario Arian y Cyhoedd o dan…

TREFN OEDFAON Y SUL