Hide Articles List

10 articles on this Page

NOD/ON OYR CYLCH.

News
Cite
Share

NOD/ON OYR CYLCH. Cyngor Rhaith ydoedd yr un gynhaliwyd nos Iau diweddaf yn y Blaenau, ac felly yr oedd yn rhaid dewis Cadeirydd ac Is-gadeirydd. Llanwyd y swyddi hyn am y ddwy flynedd ddi- weddaf gydag urddas teilwng, gan Mri. Wm. Owen ac E. M. Owen, a chafwyd dwy flynedd gweddol dawel a di-dramgwydd. Yr oedd y ddau gyda thri arall yn gwneyd y pump aelod hynaf ar y Cyngor. Gan mai una'rbymtheg o aelodau oedd yn bresenol ar adeg etholiad y Cadeirydd, bu i'r pleidleisio ddigwydd troi yn gyfartal rhwng y ddau Mr. Owen. Disgynodd y gorchwyl o dori y ddadl ar Mr. R. O. Davies y Clerc medrus a chraff. Rhoddodd ef bwys mawr ar yr hyn ddywedodd y Cyn-gadeirydd, sef rheol sefydlog y Cyngor o'r dechreu i newid Cadeirydd y fan bellaf ar derfyn yr ail flwydd- yn; hefyd, ffyddlondeb eithriadol Mr. E. M. Owen. Yna cododd pob llaw yn y Cyngor dros Mr. Owen. Yr oedd ef ei hun yn absenol trwy ymosodiad trwm o'r anwydwst, ond tra'r oedd ef yn ei wely felly anrhydeddwyd ef a'r urddas uwchaf allai y Cyngor ddodi arno. Dymunwn ei longyfarch ef a Mr. David Wil- liams, yr Is-gadeirydd newydd, ar eu penodiad, gan ddeisyf iddynt flwyddyn ddedwydd a lhvyddianus. Drwg genym ddeall i'r Gwddf-glwyf fu ac sydd yn y Llan brofi o natur mor lym, ac i amryw o'r plant golli y dydd trwyddo er y gofal arbenig ddangosodd y meddyg caredig G. J. Roberts a'i gynorthwywr Dr. Pring. Aw- grymodd Dr. R. Jones yn ei adroddiad misol, ac o flaen Bwrdd y Llywodraethwyr Addysg, ei fod yn ofni mai un cyfrwng i ledaenu yr afiechyd ydoedd y pwyntiliau coed arferid yn yr Ysgol. Yr oedd y plant yn dodi y rhai hyn yn eu geneuau i'w sugno, ac, yn ol Dr. Jones, yn gadael hadau afiechyd arnynt i'r sugnwr nesaf eu cael. Swnio braidd yn rhyfedd i ni y mae hanes y "sugno pwyntiliau." Onid all yr athrawon atal hyn ? Yn sicr ni ddylent gan- iatau i'r plant sugno y pwyntiliau, a dysgyblu ymaith arferion drwg felly yw rhan o waith ysgol. Gallai yr athrawon roddi terfyn ar y peth yn hynod o ddi-gwmpas trwy ei wahardd. Pe megid ein plant yn naturiol gan y mamau, yn Ile rhoddi poteli iddynt, byddai llai o sugno yn cymeryd lie yn yr ysgolion. Y mae gwartheg fyddant yn pori ar diroedd lIe tyf lysieuyn neillduol yn cael branar oddiwrth y llysiau hyny, a byddant yn cael eu poeni gan | fath o ysfa ar eu danedd fel y cnoant ddillad, hen esgidiau, a cherig er ei dori. Mae plant y Poteli a'r tethi rhwbyr yn cael y clwyf sugno, a phlant shwcw a fyddant ar hyd eu hoes oni ddiddyfnir hwy. Wrth son am y Gwddfglwyf yn y Llan a'r achos o hono, y mae arnom awydd nodi dau beth fel yn deilwng o sylw di- atreg yr awdurdodau: — (l) A oes telmau (traps) ar ffos-dyllau y carthffosydd cyhoeddus yn y Llan ? Os nad ydym yn camgymeryd nid oes ond rhylliad (grating) yn unig arnynt, ac felly y mae yn ffynonellau uniongyrchol i afiechydon. (2). Beth am yr arferiad o adael ffieidd-dod yr anifeiliaid leddir yn y Lladd-dy cyhoeddus ar y domen gerllaw i gwn eu lusgo o amgylch yr heolydd a'r ffyrdd ? Cwynir yn fawr oherwydd hyn, ac y mae yn debycach o fod yn ffynonell y Gwddfglwyf na'r pwyntiliau. Paham y goddefir y Carthffosydd a'r pethau hyn fel y maent ? Yr oedd y Gwarcheidwad wedi ymgasglu yn llu i'r Penrhyn ddydd Mawrth, ac ambell vvyneb i'w weled yno nad i'w yn ganfyddadwy and yn achrysurol. Aeth etholiad y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd heibio yn ddiseremoni a ffurfiol. Er i Mr. Owen Jones awgrymu yn gryf iawn na byddai yn y gadair ar ol y cyfarfod blaenorol, yr oedd meddwl pob aelod yn troi ato ef fel y gwr i'w benodi i'r swydd bwysig hono, a gwnaed hyny gydag unfrydedd hollol. In tyb ni, y mae Cadeiryddiaeth Bwrdd Gwarcheidwaid y swydd bwysicaf yn ein gwlad gan faint y profiad sydd yn ofynol i'w chyflawni a r cyfrifoldeb sydd yn nglyn a hi. Nid yw cadair y Cyngor Sirol yn ddim i'w gydmaru a hon. Yn y gadair Sirol nid oes gan y gwr *ydd ynddi dim i'w wneyd ond galw y Rhaglen allan, a gofyn pleidlais y cyngor ar y gwahanol "ethau ddodir ger bron bydd y gwaith wedi ei wneyd yn flaenorol yn y pwyllgorau, a bron holl orchwyl y Cyngor fydd codi Haw o blaid neu anfon peth yn ol i'r pwyllgor i'w ail- ystyried. Y cyfarfodydd mwyaf ffurfiol ac an- tarddonol yn y Dywysogaeth yw eiddo ei Chyngorau Sirol. Gyda'r Gwarcheidwaid y Mae yn hollol wahanol. Yno y mae "cwyn y tlawd" i'w ystyried, a gofyna am bwyll, doethineb, athynerwch pob aelod uwch ei ben. ra yn gosod yr achos gerbron, a thra yn ei rafod y mae baich y gwaith yn disgyn ar y Cadeirydd gall ef reoli y drafodaeth yn y fath fodd fel ag i gadw y manylion a hanfod y gwyn o'r golwg, neu gall ofyn am yr oil yn digel er mantais i'r tlawd ac i'r Bwrdd wrth ystyried ei achos. Rhaid cael cymwysderau arbenig mewn Cadeirydd drachefn gyda dodi ar glawr yr hyn sydd i fod yn yr achos hwnw. Llongyfarchwn y Bwrdd hwn ar feddu dyn nodedig o aeddfed ei farn a'i brofiad i lywio eu gweithrediadau. Yn nglyn a'r Bwrdd yn y Penrhyn, yr oeddid cynal cyfarfodydd cyntaf y flwyddyn o'r Cyngorau Dosbarth: Dosbarth Deudraeth, a osbarth Glaslyn. Aeth Cadair ac Is-gadair J aalyn i'r rhai a'u llanwent ynjj flaenorol, a Phrofasant yn wyr abl i'r swyddi yn y gor- < Phenol, fel y mae pob l lie i gredu y cerid pctnau yn mlaen yn foddhaol eto yn y dyfodol o chn eu rheolaeth. Y mae Mr. R. 0, imams yn "hen law" gyda materion P wytol ac iechydol; a Mr. Morgan Roberts VVy clir ei farn, ac yn prysur enill profiad ar y cvfryw. Yn Nghyngor Deudraeth, y mae y aith yn llawer mwy, gan fod yno gwestiynau > Dwfi a Charthllosiaeth Trawffynydd, Dwfr ?ariech, aCharthffosydd y Penrhyn. Gyda Ibv.: y mae sefyllfa Iechydol Trawsfynydd yn,l o i-n ei threiniadau iechydol. Pa reswm sydd mewn goddef i Iluaws mawr o dai fod yn nghanol y pentref: heb unrhyw fath o ddarpariaeth iechydol yn perthyn iddynt: nid fod y darpariaethau yn ddiffygiol, ond nad oes darpariaethau o fath yn y byd. Dylid cau y tai neu orfodi y perchenogion i'w gosod mewn cyflwr cyfaddas i fodau dynol eu preswylio. Bu ymdrechfa galed iawn am Gadair y Cyngor rhwng y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, a'r Clerc a dorodd y ddadl rhyngddynt. Gwnaeth Mr. Roberts hyny mewn dull di- gwmpas iawn, ac yn hynod siriol. "Wel," meddai, "rhaid i mi dori y ddadl." Yna aeth i'w logell am geiniog yr hon a chwareuai yn ngeudod ei ddwylaw fel pe am dosio, a gwaeddodd rhywun, Dydi hi ddim yn gyfreithlon i chi wneyd fel yna." "Ho!" meddai yntau tan wenu, Dydio odds yn y byd. Heads am yr Is-gadeirydd (Mr. Tegid Jones), a Tails am y Cadeirydd (Mr. R. Richards). Heads pia hi. Dowch i'r Gadair os gwelwch yn dda Mr. Jones." Llongyfarch- wn Mr. Tegid Jones ar ei Etholiad. Y mae ei fedr a'i brofiad y fath fel nad yn ami y ceir un a gystadleua ag ef. Gwasanaethodd ei blwyf am dros 34 mlynedd a hyny er mantais dirfawr i'r trethdalwyr a'r tlodion. Bydd y Cyngor hwn yn greadur od ar gyfrif nad oes ganddo Is-gadeirydd, ac anoethineb dybryd ydoedd peidio ethol un fel arferol i'r swydd hono. Pe na buasai rhai allasai wneyd y gwaith yn aelod o'r Cyngor buasai pethau yn newid, ond nid felly y mae.

Cynghor Dosbarth Glaslyn.…

-Cyngor Dosbarth Deudraeth.-I

Cicio am y Gwpan Genedlaethol.…

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyndeudraeth.

PENILLION COFFA I

LLONGYFARCHIAD

Can' Mil o Bunau i Grydd Tlawd.

Gwario Arian y Cyhoedd o dan…

TREFN OEDFAON Y SUL