Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NOD/ON OYR CYLCH.

Cynghor Dosbarth Glaslyn.…

-Cyngor Dosbarth Deudraeth.-I

Cicio am y Gwpan Genedlaethol.…

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyndeudraeth.

PENILLION COFFA I

News
Cite
Share

PENILLION COFFA I Mrs. Dr. R. D*. EVANS, Llys Meddyg, Blae- nau Ffestiniog. (Buddugol yn Eisteddfod yr Anibynwyr, 1905). Nid yw blwyddyn wrth heneiddio Heb newydd-deb yn ei threm Galar weithiau, i'w bwysleisio Ddaw mewn profedigaeth lem Dyma newydd fedd ar yrfa Boneddiges heb ei hail, Dagrau ardal ar y gladdfa Geir yn disgyn gyda'r dail. Yn ei mebyd hawdd oedd adwaen Ynddi, ferch rinweddol, fwyn Fel y chwa ar fron Dolbenmaen, Cyfareddol oedd ei swyn Collodd gysgod ei rhieni Pan yn ieuangc ac yn wan Ond ni chollodd Dduw y weddi Aeth i'r nefoedd ar ei rhan. Er i lenni'r boreu gilio, Er ei thaflu o don i don Methodd LIundaiu fawr ysbeilio Gwrid cymeriad hawddgar hon laith a chrefydd gwlad y Brython Gadwodd dan gysgodau'r glyn Yn ei Beibl, yn ei chalon Cadwodd y trysorau hyn. Yn ngefynau hudoliaethau Gwelodd lawer un yn gaeth Ond drwy gryfder temtasiynau Cerdded yn ddilychwin wnaeth Megis heulwen drwy y niwloedd Treiddiodd i 'stafelloedd trist, A chyfieithodd i weithredoedd Egwyddorion crefydd Crist. Daeth fel gwawr drwy gymyl duon I Llys Meddyg ar ei hynt Gyda'r gwres oedd yn ei chalon Fe dynerodd oerni'r gwynt Cafodd le yn serch y teulu Heb amharu cylch mor hardd, Fel yr heulwen sydd yn medru'r Ffordd at fywyd blodeu'r ardd. Nid am le yn mrig cymdeitbas, Y cyffroid uchelgais hon Gweled harddwch, golud urddas Uwch a wnai mewn gweini 'n lion ;— Gweini i gyfreidiau'r teulu Wnai heb ddanod poen na phwn Mae profiadau 'r plant yn canu Drwy linellau 'r penill hwn. 'Roedd ei chroesaw fel dihareb Dlos i wreng a bonedd gwlad 'Roedd ei chalon yn cyfateb I'wgweithredoedd pur, di-frad Daeth y rheidus at ei rhiniog Yn grynedig lawer tro Ond dychwelodd a'i galonog Fawl yn deffro bryniau'r fro. Gyda'i phriod, wylo'i dagran Wnai i'r don gynhyrfus, gref Gydag ef mawrygai gamrau Llywydd y plant o dref i are Gwir ddoethincb oedd yn gryfach Na g-xaedoliaeth yitddi hi ;— Nis gall awen ro'i dysgleiriach Perl yn nghoron aur ei bri. Drwy ofalon cylch y teulu, Drwy bryderon cariad mam. Gwel'd y ffordd i ddilyn Iesu Wnai yn oleu, gam a cham Dyma gyfaill haedda'i garu Oedd ei phrofiad yn Ei law ;— Trwsio'i thelyn wnai i ganu'n Llawer gwell yr ochr draw. Pallu wnaeth ei chalon dyner Yn nghanolddydd gwyn ei hoes; Pan y tybiai'r byd fod pellter Mawr o'r cartref hwn i'r groes Ei marwolaeth a ollyngodd Lif o wae i'r ardal hon; Ond mae'r bywyd a arweiniodd Megis haul ar frig y don. BRYFDIR.

LLONGYFARCHIAD

Can' Mil o Bunau i Grydd Tlawd.

Gwario Arian y Cyhoedd o dan…

TREFN OEDFAON Y SUL