Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-Llanrwst-

Etholiad Eifion-(diwedda,.af)…

FOOTBALL COMPETITION. I

Family Notices

/!\I PWYSIG I CHWARELWYR,

Penrhyndeudraeth. 1

TREFN OEDFAON Y SULI

Advertising

Llofruddiaeth Arswydus Cigydd.-

- ----Adolygiad. - I

IBlaenau Ffestiniog.I

News
Cite
Share

Parhad o tndalen 5. I hytrach na beirniadu i ddal ar y pethau a glywsom," myfyrio llawer arnynt, a gofyn am gynorthwy gras i'w byw. BUDDUGOLIAETHAU.—Enillodd Mr. John Humphreys, Swyddfa'r "RHEDEGYDD," Y wobr gyntaf gyda'i golomen, Show Homer;" hefyd Mr John Hughes, 193, Manod Road, y wobr flaenaf gyda "Dragoon;" a Mr. T. B. Jones, Lord Street, ail wobr gyda Jacobin. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH BLAEN- OR YN WAENFAWR.—Dydd Gwener hebryng- wyd gweddillion Mr. Richard Owen, Cae Trefor, Waenfawr, (Tad y Rhingyll R. Owen) i dy ei hir gartref yn mynwent Bettws Garmon. Gwasanaethwyd gan y Parchn Lewis Williams, E. James Jones, a J. Prydderch. Yr oedd ei briod a naw o blant yn bresenol yn ei gynhebrwng, a thorf fawr o gyfeillion. Yr oedd Mr. Owen yn 69 mlwydd oed, a daeth i'r ardal o Llwyngwril lle'r oedd yn Flaenor defnyddiol gyda'r Methodistiaid yr hon swydd a lanwodd yr un modd gydag anrhydedd yn y Waenfawr. Dyn hynaws, tawel, a charedig ydoedd. ac \11n o'r Ysgrythyrwyr mwyaf cyfarwydd yn yr holl wlad. Gyda'i gof eithr- iadol, a'i fedrfel siaradwr, yr oedd yn aelod defnyddiol iawnogymdeithas. Bu'nmasnachu yn llwyddianus yn y Waen, ac nid oedd neb a berchid yn fwy trwy'r lie nag ydoedd ef. Heddwch i'w lwch.—CYFAILL. Gwelwn fod y Bardd a'r Llenor galluog Dewi Mai o Feirion, yn beirniadn yr adrodd- iadau yn Eisteddfod Carnarvon dydd Llun diweddaf. Rhagorol Dewi. YR ARDDANGOSFA.—Y mae y Pwyllgor Gweithiol yn brysur gyda'r daflen gwobrwyon, ac y maent bron wediei chwblhau. Trefnir yn hyderus ar gyfer cael Arddangosfa eleni i ragori ar ddim a gafwyd erioed yn y lle, ac addewir cynorthwy sylweddol gan gyfeillion oddiallan. COR MEIBION Y MOELWYN.—Bwriada y Cor^uchod gystadlu yn Eisteddfod y Bala, y Llungwyn uesaf, a thaer ddymunir am bresenoldeb yr holl aelodau yn y practice j cyntaf, erbyn 7.30 p.m, yn yr Assembly Rooms nos Wener nesaf Ebrill 20.YSG. I ARWERTHIADAU.-Dydd Sadwrn, cafodd Mr John Davies arwerthiad da yn Brynffynon, Bethania. Gwerthwyd y ty i Mr. Humphreys, Brynffynon am /124. Fel y gwelir yn ngholofn yr hysbysiadau, y mae ganddo arwerthiadau y Sadwrn nesaf, dvddiau Llun, Mawrth a Mer- cher, &c.