Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-Llanrwst-

News
Cite
Share

Llanrwst- St. ÑIary.-ll. Parch. T. Felix, 6, Parch J. Morgan. St. Crwst.—10-30, Parch. Morgan 6, Parch. T. Felix. Seion.—Parch. H. H. Roberts, B.A., Capel Cut-rig. Scotland Street.—Parch. David Jones, Rhudd- Ian. Tabernacl.—Parch. W. Cynwyd Williams. Ebenezer.—Myfyriwr o Goleg Bangor. Horeb—10, Parch D. Davies, Penmachno. 6, Parch W. G. Williams, Eglwysbach. St. James-Mr D. Tompkins, Colwyn Bay. Penuel-Parch H. Cernyw Williams, Corwen. Yn Arddangosfa Conwy ddydd Llun, cafodd y Mri D. Pierce, Dyffryn Aur a R. Roberts, o'r dref hon, wobrwyau gyda'u ceffylau. Yn Eisteddfod Criccieth yr un dydd enillodd Mr D. R. Jones, Swyddfa'r "Rhedegydd," Marble Timepiece, am arwain ei gor i fuddugoliaeth. Efe hefyd oedd yn fnddugol ar yr unawd Bass. Y FARCHNAD.—Y mae y marchnadoedd fel pe yn bywiogi ychydig y dyddiau hyn. Gwerthai yr Ymenyn am Is 3c a Is 4c y pwys; Wyau. 16 am 1; Fowls, 0 3s i 5s y cwpl; a Perchyll o 21s i 25s yr un. Y BEL DROED.—Daeth unarddeg o glybiau i gystadlu am dlysau arian ddydd Gwener di- weddaf, yr enillwyr oeddynt y Gwydyr Rovers Llanrwst. Yr oedd gan rai o'r bechgyn ddaeth i'r dref oernadau tebycach i fwystfilod rheibus nac i fodau dynol. Y GROGLITH,-Cynhaliodd Eglwys yr An- nibynwyr yn Ebenezer ei chyfarfod blynyddol, nos Iau a Cwener y Groglith. Traddodwyd y Gair gyda grymusder neillduol gan y Parch D. Wynne Evans, Caer, a'r Parch H. R. Williams Colwyn Bay. Nid oedd y cynulliad yn deilwng o'r wledd. Y PASG.—Y Sabboth a LIun y Pasg, cynhal- iodd y Wesleyaid yn Horeb eu cyfarfod blyn- yddol. Y gweision. wahoddwyd oeddynt y Parchn David Jones, Liverpool, un o brif feddjlwyr y Genedl; a Richard Jones, B.A., Bwlchgwyn, gwr ieuanc o Drawsfynydd, ac yn bregethwr ardderchog. Yr oedd y capel yn orlawn nos Lun, a bu i un enaid droi at y Gwr y canmolid gymaint arno. ARWERTHIANT.-Cynhaliodd y Mri Black- wall, Hayes, & Co., arwerthiant, ddydd Mawrth yn Caergraig, yr oedd y cynulliad yn dda wedi dod ynghyd a bu i amryw o'r anifeil- iaid newid dwylaw. Gwerthai Bustych tew o lOp 10s i 13p; Gwartheg gyda lloi, o lOp 10s i 17p 5s Eto rhai cyflo o 2p 5s, i 13p 17s 6c; Bustych a Heffrod Blwyddiaid, o 6p 10s i 8p; Defaid-Cyplau o 23s i 32s; Mamogiaid o 25s i fyny Wyn tew o 23s. DA 'RLITH. Yr Hen Bwerau," oedd testyu dyddorol y Ddarlith ragorol gafwyd yn nghapel Ebenezer (A), nos Fawrth diweddaf, gan y Prif-fardd Dyfed. Llywyddwyd gan Mr. T. Rogers Jones, Dale Cottage. Daeth cynulliad da yn nghyd, a mawr ganmolid y darlithiwr. Elai yr elw at yr achos yn Ebenezer. Archdderwydd arwydd ora,—Evan Rees, Fyn roi'r Hen Bwera; Ynghalon fawr fy Ngwalia I Goreu dysg, i greu y da. Llanrwst. R. E. I

Etholiad Eifion-(diwedda,.af)…

FOOTBALL COMPETITION. I

Family Notices

/!\I PWYSIG I CHWARELWYR,

Penrhyndeudraeth. 1

TREFN OEDFAON Y SULI

Advertising

Llofruddiaeth Arswydus Cigydd.-

- ----Adolygiad. - I

IBlaenau Ffestiniog.I