Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

I ER 'COF--

News
Cite
Share

I ER COF I Am fy anwyl gyfaill Evan Edwards, 2, Porkmg- ton Place, Harlech. Seiliedig ar ei benill olaf yr hwn sydd fel y canlyn v— Mae Duw yn llon'd pob lie, Presenol yn mhob man Y nesaf yw Efe 0 bawb at f'enaid gwan, Wrth law o hyd i wrando'm cri Nesau at Dduw sy 'n dda i mi." Mae galar am fy nghyfaill, M Yn gwneyd fy mron yn brudd, Mae heilltion ddagrau hiraeth, Yn llosgi ar fy ngrudd. Ei anwyl benill olaf A'r olwg welodd e' Un fendigedig, meddai, "Mae Duw yn llon'd pob lie." Wrth rodio'r dyffryn tywyll, Yn unigeddau'r fan, Ni welai ddim ond Duwdod Presenol yn mhob man." Pan ballodd gallu ceraint, Yn llwyr, o'r trymllyd le, Fe gana'n ogoneddus Y nesaf yw Efe." Cyn iddo groesi'r afon Am y nefolaidd lan, Ef yw'r nesaf," meddai, "0 bawb at f'enaid gwan." Fe welai Frawd o Ddwyfol fri, Wrth law o hyd i wrando 'i gri." A chanu wnaeth mewn tonog li, Nesau at Dduw sy 'n dda i mi." Mae marw 'n Nuw i mi yn hedd, Ac i'r Anfeidrol Fod yn wledd." Os wyt wedi croesi, Yr afon o fy mlaen, Dof inau pan ddaw 'r alwad Os byddaf ddi-ystaen; Caf hwnw gefaist dithau, I afael yn fy llaw- I'm dwyn trwy 'r tonog genlli I'r bur baradwys draw. Can Evan am yr Aberth, Fu ar Galfaria Fryn, A'r gwaed sydd yno 'n golchi Pechadur du yn wyn. 0 mae yn ddifyr arnat 0 gyraedd byd a'i boen, Myfi o hyd mewn trallod A thithau 'n moli 'r Oen. Llanystymdwy. W. DWYFOR JONES, I

Tai am Ddwy Bunt yr un.

Maer Lludain yn Chwarel yI…

-"-"""".............-......,...-.........,.…

IDyrysu'r Wyl.I

Advertising

MYFYRDOD HIRAETH

ER COF I

I - - - Corph Marw ei Thad.