Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. : -'-I

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

News
Cite
Share

O'R PEDWAR CWR. I Yr ydych yn ffieidd-dod cyhoeddus: chwi a phawb tebyg i chwi," meddai yr Ynad yn Heddlys Gorllewin Llundain, wrth ddyn a ddirwywyd i ddwy bunt am siarad yn aflan mewn tren. Nid y fi sy'n gyfrifol, ond y gilt" meddai dynes a ddirwywyd am feddwi yn Acton ddydd Llun. Hysbysir fod Mr. Michael Davitt yn gorwedd yn beryglus wael yn ei gartref yn Dalkey. Dioddefa oddiwrth waed-wenwyniad. Gan na roddai Gwarcheidwaid Aberystwyth godiad cyflog i Dr. Bonsall eu mheddyg, bu iddo ymddiswyddo. Hysbysebant yn awr am un i lanw y swydd am y cyflog o )640: deg punt mwy nag oedd Dr. Bonsall yn ei gael. Fel yr oedd pedwar dyn ieuangc ar eu gwyl- iau yn olwyno yn Coalville, ehedodd nifer o ieir ar draws y ffordd, ac aeth un ohonynt i olwyn flaen yr olwynfarch cyntaf. Taflwyd y pedwar ar draws eu gilydd, ac anafwyd hwy yn drwm. Nos Sul, yn hynod sydyn, bu farw Mr. Ed. Vaughan" (Celynin), yn 71 mlwydd oed. Nid oedd ond ychydig fisoedd oddiar y symudodd o Criccieth i'r Dyffryn. Cyfansoddodd Mr. J. W. Jones, Tanygrisiau yr Englyn canlynol wrth glywed un yn gofyn am gini am gadwen oriawr, a hono heb fod yn arian :— A oes genych eisiau gini-am hon ? Y mae yn hynod ddrud Parri; Da frawd 'rwyn dweyd mewn difri Tri a chwech wna'r tro i chwi.

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

I Harlech. I