Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. : -'-I

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

I Harlech. I

News
Cite
Share

Harlech. Yr oedd yrhen drefynllawnach o ddieithriaid dros yr wyl ddiweddaf nag y bu er's llawer blwyddyn. Fe allai fod y tywydd eithriadol braf a gafwyd yn gyfrif am hyny i fesur, ond y cyfrif penaf yw fod y Golf Links yn dyfod yn fwy pobl ogaidd o hyd. Yr oedd llu mawr o ddieithriaid o bob cwr o'r wlad yn cymeryd rhan yn y match eleni. Nos Fercher, yr lleg cyfisol, cynhaliwyd Cwrdd Plwyf yn ysgoldy y Cyngor, o dan lywyddiaeth Mr. Robert Owen, Gorphwysfa, cadeirydd y Cyngor Plwyf, i ystyried cwestiwn gwaddoliadau ysgol Harlech, ac i dderbyn adroddiad arnynt gan y trustees. Cafwyd eglurhad boddhaol arnyntgan Mr. Ed. Griffith, y Postfeistr. Cymeradwywyd gwaith y trustees yn gwrthod caniatad i gynwys ty i'r ysgolfeistr yn nghynllun newydd ysgol y Cyngor. Maent wedi dechreu gweithio ar balasdy newydd i Lord Amhurst, o Serenoaks, yn Brynbua'r gelyn ar fin y ffordd rhwng Harlech a Llanfair. Dywedir fod rhagolygon da am chwarel newydd yn Llanfair. Mae yn awr tua thri ugain o ddynion yn gweithio yno yn gyson. Fe ddywed gweithwyr profiadol fod yno ddefn- ydd cerrig cystal a dim a gafwyd erioed yn Ffestiniog. Wedi blwyddyn o seibiant, ar gyfrif cyfarfod- ydd y diwygiad a gynhelid y llynedd, cynhaliodd Ysgolion y Bedyddwyr Albanaidd yn Harlech ac Engedi, eu Cylchwyl Flynyddol dydd Llun y Pasg, ac yr oedd yr hen sefydliad, sydd bellach dros 30 oed, mor lewyrchus eleni ag y bu erioed. Yn y prydnawn cafwyd te parti yn y ddau le, pryd y gwasanaethwyd gan amryw chwiorydd ewyllysgar, a chyfranogodd llu o blant a pobl mewn oed o'r wledd. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Rehoboth, o dan lywyddiaeth Mr. Robert Humphreys, Bron Reheboth. Arweiniwyd gan Mr J. D. Davies, Llys Maelor. Cynwysai y rhaglen cystadleuaethau mewn canu, adrodd, areithio, ysgrifenu, &c., ac yr oedd llawer o ymgeiswyr ar y rhan fwyaf o honynt. Enill- wyd gwobrwyon gan y rhai canlynol :—Prif Draethawd, Mr. Isaac Jones, Rhos traethawd i rai dan 21ain, Miss A. M. Williams, Garden Cottage; traethawd i ferched, Mrs. Jones, Pantmawr; englyn, Mr. D. Garfield Owen, Bl. Festiniog parti o wyth, partion Mr. wfn. a Mr. Evan Jones yn gyfartal; pedwarawd, partion W. Owen ac Evan Jones yn gyfartal deuawd, dyfarnwyd Misses Ellen Griffith a C. Jones yn deilwng o'r wobr unawd i unrhyw oed, Miss M. C. Owen, Castle Cottage deu- awd i blant, Misses Litzie Thomas ac M. C. Owen, 2il, Misses.Lowry Griffith ac M.C.Owen; unawd i rai dan 16, 1, Lizzie Thomas, 2, Annie Mary Williams, 3, Mary Griffiths; unawd i rai dan 12, Annie Mary Williams, 2, Maggie Jones, Mary Griffiths; unawd i rai dan 8, 1, Nel Griffith, 2, Hugh G. Thomas, 3, Maggie Tho- mas, 4, Ann Roberts; prif arholiad, 1, Mrs. Jones, Pantmawr, 2, Miss C. Jones.Werngron, 3, Mrs. Jones, Prince Shop, Tremadoc arhol- i rai dan 21, Miss C. Jones, Werngron arhol- iad i rai dan 18, cyfartal oreu Miss Jennie M. Williams, Porthmadog, ac M. C. Owen 3, Mr Evan Williams, Garden Cottage; arholiad i rai dan 16, 1, Miss M. C. Owen, 2, Miss Annie Price, Penygarth, 3, Miss Lizzie Thomas; copio ton, dosbarth laf, 1, Miss M. C. Owen, 2, Miss Annie Price, 3, Mr. Evan Williams, dosbarth ail, 1, John Williams, Porkington, 2, Lowry Griffith, Tyddyn Du, 3, Louisa Thomas; ysgrifenu penill i rai dan 10, 1, Elsie Price -adrodd, 1, Miss J. Matthews Lloyd, Porthma- dog, 2, Mr. Joseph Williams, 3, Miss Annie Griffith, Foel; adrodd emyn, 1, Annie Mary Williams, 2, Maggie Jones, 3, Elsie Price; adrodd emyn i'r plant lleiaf, 1, E. Williams, 2. Willie Parry, 3. Enid Williams adrodd unrhyw adnod a ofynid o Datguddiad i. M. C. Owen ac Elsie Price yn gyfartal araethio, test yn., "Amser "Miss Ellen Griffith, Erw Wen. Yn ystod y cyfarfod canwyd amryw ddarnau yn dra swynol gan y Cor c dan arweiniad Mr. W. Owen, a chan Gor y Plant dan arweiniad Mr Evan Jones, yrhwn hefyd oedd Ysgrifenydd y Cyfarfod. Beirniad y canu oedd Mr. Isaac Jones, Rhos, yr hwn a wnaeth ei waith yn feistrolgar a boddhaol dros ben, Yr oedd yr Wyl yn mhob modd yn wir lwyddianus.