Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. : -'-I

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

News
Cite
Share

AT "YR HEN DDYRNWR." Mr Gol.Erfyniaf eich caniatad i alw sylw at ohebiaethau "Yr Hen Ddyrnwr" yn y RHED- EGYDD am Ebrill y 7fed ac Ebrill y 14eg, pa rai, fel y dangosaf, sydd yn cynwys llen-Iadrad beiddgar, a hyny yn y rhanau tyneraf ohonynt, —sef yn y coffhad o'r meirw ymadawedig, yr hwn sydd yn gwneyd y pwnc yn un tra anny- munol i'w drin ond hid gwiw gadael iddo fyn'd ymlaen gyda gwaith mor anheilwng heb ei alw i gyfrif. Yn ei sylwadau coffhaol yn y ddau rifyn diweddaf o'r "Rhedegydd," ceir I rhanau helaeth o Nodion yr Hen Glochydd yn y "Gloch" gynt. Nodaf rai o honynt i brofi fy nghyhuddiad, heb enwi y personau na'r dyddiadau yn eiddo Yr Hen Glochydd rhag ofA rhoi briw i neb o berthynasau y rhai ymad- awedig hyny. Dyma fel y dywed"Yr Hen, Glochydd" yn y Gloch" mor bell yn ol a mis Gorphenaf y flwyddyn o'r blaen, "Bu yn rhodio yn hir gyda'i glanau terfysglyd, yn gwrando ar furmur ei thonau, ac yn syllu ar ei hymchwydd, tra gobaith yr fengyl yn taflu ei belydrau Uachar i oleuo iddo y ffordd drosodd i'r glanau bytholwyrdd, lie nad oes nac ing nac ochain," &c., a dyma fel yr ysgrifena Yr Hen Ddyrmvr" dan y penawd Croesi yr Afon," yn y "Rhedegydd Ebrill 7fed, "Bu yn rhodio am fisoedd gyda glanau terfysglyd yr afon, yn gwrando ar furmur ei thonau, ac yn syllu ar ei hymchwydd, ond 'roedd gobaith yr efengyl yn taflu ei belydrau llachar i oleuo iddo y ffordd drosodd i'r glanau bytholwyrdd, lie nad oes nac ing nac ochain. Mewn rhifyn o'r "Gloch" ddechreu y flwyddyn hon, dywed "Yr Hen Glochydd am un ymadawedig, Gwyddai yn dda am brofedigaethau y byd, gwelodd angeu yn tori rhai o'r blodeu prydferthaf, ac yn di- wreiddio y pren oedd yn gysgod iddi ;-tym- hestl ar ol tymhestl yn curo arni; ond gallodd ddal yn hynod o dawel a dirwgnach drwy y dryc-hinoedd i gyd, yn nerth yr Hwn sydd yn cyrhaedd mewn llifeiriant ac yn y dydd blin," &c. Yn y Rhedegydd diweddaf (Ebrill 14), dan y penawd Wedi Mynd," ysgrifena Yr Hen Ddyrnwr" fel hyn-" Gwyddai yn dda am brofedigaethau y byd, gwelodd angeu yn tori rhai o'i fiodau prydferthaf, ac yn di- wreiddio y ganghen oedd yn gysgod iddo,- tymhestl ar ol tymhestl yn curo arno, ond gall- odd ddal yn hynod o dawel a dirwgnach drwy y drychinoedd i gyd, yn nerth yr Hwn sydd yn cyrhaedd mewn llifeiriant, ac yn y dydd blin." Dyna fe, Mr Gol., lawn digon i brofi fy nghy- huddiad, er fod yna ragor i mewn yn y ddwy ohebiaeth dan sylw. Sylwer ar y gair mewn llythyrenau italaidd—"cyrhaedd "—mae yn amlwg ddigon mai gwall argraff ydyw yn "Nodion yr Hen Glochydd," ac y mae yr "Hen Ddyrnwr" wedi ei gopio felly. "Yr Hwn sydd yn cynal mewn ifeiriant," &c., mae yn debyg ysgrifenwyd gan Yr Hen Glochydd." Beth sydd gan Yr Hen Ddyrnwr i'w ddy- weyd yn ngwyneb y cyhuddiad ? Galwaf arno i glirio ei gymeriad os gall, neu yn niffyg hyny wneyd ymddiheurad i'r "Hen Glochydd," drwy gyfrwng y "Rhedegydd," rhag digwydd iddo yr hyn fyddo gwaeth. WIDE-AWAKE.

I Harlech. I