Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. : -'-I

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. Goddefer i ni alw sylw unwaith eto, a go- beithiwn am y tro diweddaf, at arferiad isel a gwrthun sydd yn Blaenau Ffestiniog, o dyru yn gynulleidfa fawr i orsaf Llinell y London & North Western adeg y tren olaf. Yn enw pob dynoliaeth a rheswm, a oes cynifer o ferched a llangciau yn y lie heb ddim i'w wneyd ond tyru wrth y canoedd i'r Orsaf y gwyddant na ddy- lent fod a'u traed arni mwy nag ar erddi eu cymydogion, heb fod ganddynt orchwyl mas- nachol ynddi. Lie i deithwyr yw yr orsaf, ac i'r rhai sydd a gwaith penodol i'w wneyd yn- ddi. Fel y mae pethau yno yn awr, y mae y nesaf peth i anmhosibl i neb allu dod i mewn nac allan yn ddidramgwydd. Wrth gwrs, gwyddom y gall y Gorsaf-feistr, ar ol gofyn i unrhyw un fyned allan, ac yntau wrthod ufudd- hau, ei wysio am fod ar dir y Cwmni ac iddo gael ei ddirwyo i ddwy bunt a'r costau ond tybed fod anwareidd-dra mor uchel ei ben yn ein plith fel nas gwyddom beth sydd weddus a theilwng o honom fel ardal. Dylai y merched, yn arbenig, sydd yn myned yno bob nos i siarad yn hyf ac isel, deimlo ychydig o gywil- ydd pe ond am y ffaith mai merched ydynt, ac mai gwyleidd-dra sy'n addurn penaf eu rhyw. Am y llangciau dyrant i'r lie, gobeithio nad ydynt wedi cwbl ymwertbu i hyfdra a gwyneb- galedwch. Mae Rhestr Ddu" gan swyddog- ion yr Orsaf, a rhaid fydd ei chyhoeddi oni cheir diwygiad. A fydd y sylw hwn yn ddigon gyfeillion ieuaingc ? Da chwi, er mwyn eich teuluoedd a'r ardal, meddyliwch ychydig am eich gwaith darostyngol yn ymgynull i'r orsaf uchod. Yn nghyfarfod misol rheolaidd Llywodraeth- wyr Addysg Dosbarth Ffestiniog, ddydd Iau, cododd amryw faterion pwysig i fyny. Symud- iadau pwysig iawn yn nglyn a'r ysgolion ydyw y bwriad o wneyd cyfnewidiadau yn ysgolion Tanygrisiau aPenrhyndeudraeth. Y mae achos ysgolion y Penrhyn o'r awr gyntaf y daethant' o dan y trefniant newydd o dan y Ddeddf Addysg ddiweddaf. wedi cael eu dwyn ger bron y Llywodraethwyr. Y peth cyntaf a glywodd y cyfarfod am danynt trwy Mr. R. G. Pritchard yr hwn y mae yn ofidus genym ddeall, sydd yn u ael—ar eu gwaith yn dechreu terfynu pethau ydoedd, "fod yr ysgolion yn anghymwys, y lie i ehwareu allan o drefn, yr adeiladau yn rhy fychan ac eisiau eu hadgyweirio ac yr oedd y staff yn llawer rhy wan at y gwaith o ddysgu y plant." Atebwyd ar y pryd, "fod yn gywilydd i Fwrdd Ysgol y Penrhyn adael pethau yn y fath sefyllfa, os oedd yr hyn a adroddid yn gywir." Teimlem yn y cyfarfod hwnw nad oedd ond un peth yn eisiau i orphen y darlun, sef cael fod y plant oeddynt yn yr ysgol yn dwyn delw y lie chwareu a'r adeiladau. Ond ryw ddeufis yn ol gwnaed y diffyg i fynu trwy i Mr. S. T. Jones ddywedyd, "Mae acw blant ofnadwy Does genych chwi ddim syniad am yma." Trwy hir ddygnu gydau hachos, y mae cyfeillion y Penrhyn wedi llwyddo i gael ychydig oleu yn ngodreu eu cymylau. Sym- udwyd yn mlaen gyda nerthu y staff. gyda golwg am fwy yn y cyfeiriad hwnw eto ac y mae cyfnewidiad i gael ei wneyd ar yr adeiladau. Rhwng pobpeth, dichon y daw ysgolion igyflwr boddhaol a chysurus i gyflawni y gwaith mawr sydd ganddynt yn y lie. Mater arall dyddorol a phwysig iawn i ardal Tanygrisiau ydyw, y rhagolwg am uno yr ysgolion yno. Yr anhawsder presenol i wneyd hyny yw maint un o'r class-rooms yn Ysgol y Bechgyn. Buasai Ysgol y Genethod yn ddigon at y pwrpas; ond y mae pellder yr Ysgol arall oddiwrth y boblogaeth yn erbyn symud y Babanod o'r ysgol lie maent i'r ysgol arall. Edrycha y Pwyllgor Sirol i'r holl gwestiwn, mae'n ddiau genym, a threfnant yn y dull dpethaf. Tueddir trwy'r holl wlad yn awr i gpael ysgolion cymysg, a gresyn yw meddwl am y beichiau trymion diangenrhaid dynwyd ar y trethdalwyr trwy waith y Byrddau Ysgol yn codi ysgolion ar gyfer y Bechgyn wrthynt eu hunain, a'r Genethod wrthynt eu hunain. Amcanent yn dda, ond bod eu dull o gyraedd y cyfryw y fath ag a gymeradwya ei hun i ni yn y dyddiau presenol. Mae golwg ar gael terfyn ar y cicio pel gymer le ar dir chwareu dysgyblion ysgolion Maenofferen. Gwnaed dadleniadau difrifol yn y Bwrdd Llywodraethol ar ymddygiadau las- bogiau dyrant i'r lie hwn i gicio peli. Os rhaid i rai gael cicio pel, paham nad edrych am le o'r eiddynt eu hunain i wneyd hyny, yn He myned mor hyf a digywilydd a myned i le nad oes ganddynt fwy o hawl myned iddo na phe'r elent i dy eu cymydogion. Ofnwn fod hyfdra o'r fath yn beth y rhaid delio ato mewn dull dry yn gostus i'r llanciau a yno. Y fath yw yr ymddygiadau a'r iaith fel y teimlir nad yw plant yr ysgolion yn y lie mewn awyrgylch y gellir ei goddef i fodoli yn hwv, a da y gwnaeth y Llywodraethwyr i alw sylw pendant at yr hyn gerir yn mlaen yn y Ile. Gwyliau hyfryd nodedig o ran tywydd a gafwyd y Groglith a'r Pasg eleni. Anaml iawn y cafwyd en cyffelyb yn yr ystyr hono, ac ni buwyd yn ol o gymeryd mantais ar ddymunol- deb y tywydd i droi allan i ymweled a chyfeill- ion, ac i wneyd gwib-deithiau byrion. Y mae cyfeillion ieuaingc ardaloedd y chwareli yn fyw i gyfleusderau fel hyn i fyned allan o lwch a lleithder y chwareli i fwynhau awyr iach mor a mynydd. Tuedd gref sydd gan amryw o'n masnachwyr i feio am hyn ond nid ydynt mor barod i feio eu hunain am gymeryd eu gwib- deithiau wythnosol, a'u pythefnos o wyliau yn Llandrindod neu rywle arall. Na warafuner i'r gweithiwr gonest a diwyd ei seibiant. Gwna les iddo yn gorphorol a meddyiiol, ond ei ddefnyddio yn briodol. Y mae newid golyg- j feydd yn adloniant ac iechyd i ysbrydoedd dyn, ac yn foddion i eangu ei feddwl a chynesu ei gaion. Addefwn fod modd camddefnydio y I gwibdeithiau, a bod hyny yn cael ei wneyd; oEe: pan gychwynir oddicartref gyda nod i'w gyrhaedd, a hwnw yn un teilwng, bydd y dyn ystyriol yn dychwelyd yn llawn adnewyddiad, ac yn barotach i'w waith nag erioed. Hyder- wn mai felly bu yn hanes miloedd aethant oddi cartref dros y Gwyliau. Cyfarfyddasom ag amryw o gyfeillion oeddynt wedi dod drosodd o'r Deheudir a manau eraill i edrych am eu teuluoedd. Da oedd genym weled golwg mor sirlol arnynt, a chlywed eu nhewyddion da. Troes cyfarfodydd y Groglith a'r Pasg allan yn boblogaidd a Ilwyddianus. Cymanfa'r Pasg yn Ffestiniog, cyfarfodyd pregethu yn -s t Bedd- Maentwrog, Dolwyddelen, Borthygest, Bedd-1 gelert, aLlanrwst. Canmoliryr oil yn nodedig ar gyfrif nerth y weinidogaeth a'r dylanwad cydfynedol a'r cyfryw. Nid yw yr efyngyl eto wedi colli ei gafael ar ein gwlad, na'n cydgenedl wedi colli bias ar eigwrandaw. Yr oedd y gwahanol gyfarfodydd cystadleuol yn bobl- ogaidd iawn, a'r un modd yr Arddangosfeydd ar lan y mor yn Ngwmwd Lleyn. Deallwn fod cryn gyfnewidiad wedi cymeryd lie yn ymddygiadau ac iaith y cynilliadau hyn rhagor a fuont cyn yr Adfywiad crefyddol fu yn y wlad, ac eto mae lie i wella. Hyfryd iawn fyddo gallu tystio am ein holl gynulliadau nad oes achos cwyn o gwbl yn eu cylch, a bod pawb yn hen ac ieuangc yn mwynhau eu hunain mewn modd gweddus a theilwng. Fel y gwelir mewn colofn arall, yr oedd gwobrau yn dod i'r cylch hwn o bobcyfeiriad, ac amryw o'n gwyr talentog yn gwasanaethu oddicartref.

LLYFRGELL GYHOEDDUS PEN- I…

Carmel, ger Llanrwst.I I --,I

Llanfachreth.-,-,

Llandudno Junction. I

O'R PEDWAR -CWR.I

Advertising

IAT "YR HEN DDYRNWR."

I Harlech. I