Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

1Briwsion o Ffestiniog.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

News
Cite
Share

I Beddgelert a'r Amgylchoedd. Prydnawn Sadwrn cynhaliwyd Cyfarfod Ymadawol i'r llanciau ieuaingc canlynol:—Mri Robert Goodman, William Jones, Rt. Jones, a John Williams, yr oil o honynt wedi eu geni a'u magu yn yr ardal, y maent erbyn hyn ar eu taith i wlad y Gorllewin. Cafwyd cyfarfod rhagorol a buddiol iawn mewn canu, adrodd, ac anerchiadau. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:—Canu, Eos Gwynant, Rt. Roberts a Evan Roberts. Adrodd, John Parry, Anerch- iadau Barddonol, W. O. Williams ac Evan Williams. Cafwyd gair gan Mri. Jack Jones, Robert Roberts, David Pritchard, Griffith Wil- liams. Cafwyd gair o ddiolchgarwch am y teimladau a'r cynghorion da tuag y cyfeillion gan Mr. Robert Goodman. Cododd y dorf ar eu traed i ddangos eu dymuniadau goreu iddynt Cyfeiliwyd gan Mr. Morris Parry, Llanberis. Arweiniwyd y cynherdd gan Mr. E. Evans. DARLITH.—Yr un noswaith cafwyd gwledd ragorol i'r Meddwl a'r Ysbryd gan y Darlith- ydd enwog Ap Glaslyn ar y testyn amserol Y Tan Cymreig," yn nghapel y Pentref.- Cymer- wyd y gadair gan y Parch. J. T. Job, Bethesda. Yr oedd y teimladau wedi codi i dir uchel, yr oedd mewn yspryd rhagorol, yn neillduol pan yn canu rhai darnau cysegredig. Cafwyd gair gan Alafon, Job, a Mr. Williams, Gweinidog Moel Tryfan. Yr oedd y cyfeillion ieuangc wedi bod yn ddoeth iawn i ddiweddu cyfres cyfarfodydd y gauaf yn y dull hwn. MARW HENAFGWR.—Prydnawn Sadwrn di- weddaf, bu farw Mr. Edward Owen o Rhyd- ddu, wedi cyrhaedd oedran teg o 80 mlynedd, Ychydig dros flwyddyn sydd er pan y bu farw ei briod, cafodd y ddau oes faith gyda'u gilydd. Hen gymeriad di-rodres a gwreiddiol ydoedd Edward Owen, yr oedd yn gwerthu glo er's llawer (J) flynyddau. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Beddgelert prydnawn heddyw (dydd Ian).-Ap GELERT.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Advertising