Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

1Briwsion o Ffestiniog.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Cynghor Egiwysi Rhyddion Blaenau Ffestiniog. Cynhaliwyd cylarfod o'r uchod nos Fawrth, Ebrill lOfed. (1) Darllenwyd apel oddiwrth Bwyllgor Addysg Gelfyddydol yn gofyn am gydweithrediad y Cynghor ynglyn a'r Ysgolion Nos a drefnir yn y gauaf ar gyfer y bobl ieu- aingc. Wedi ymdrafodaeth faith ar y mater, pryd yr amlygodd llawer y fantais a ddeillia oddiwrth ffyddlondeb i'r ysgolion hyn, pasiwyd yn unfrydol, Ein bod yn datgan ein cydym- deimlad a'r ymdrechion a wneir gan garedig- ion addysg yn y cyfeiriad hwn, a'n bod yn cyf- lwyno yr apel i sylw yr eglwysi, gyda chais am iddynt wneyd yr hyn a allant er hyrwyddo yr vsgolion hyn vn vstod v tvmhor nesaf." (2) Derbyniwyd a chymeradwywyd adroddiad yrls-Bwyllgor, a phasiwydyn unol a'i awgrym- iad i alw sylw y rhieni trwy y gwahanol eg- lwysi at y perygl anianyddol a moesol sydd yn deilliaw i'r plant o ysmygu Cigarettes. Pasiwyd i gysylltu a'r adroddiad anghymeradwyaeth i Raiilo a gymer le mor fynych yn y wlad. (3) Pasiwyd ein bod fel Cynghor yn cefnogi y Mesur sydd o flaen y Senedd yn gwahardd gwerthu Cigarettes i rai dan 16eg, ac yn dymuno iddo ddyfod yn ddeddf yn fuan. (4) Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn o berthynas i'r Mesur Addysg presenol, a'i fod i'w anfon i'n haelod Seneddol-Mr A. Osmond Williams, ac i'r Prif Weinidog,—Y Gwir Anrhyddedus Syr H. Campbell Bannerman. "Dymuna Cyngrair Eglwysi Rhyddion Blae- nau Ffestiniog ddatgan ei ymddiried llawn yn Llywodraeth ei Fawrhydi, a'r llawenydd di- ffuant a deimla o herwydd fod Mesur i symud y camwri dybryd wnaed ag Anghydffurfwyr Lloegr a Chymru gan Ddeddf Addysg 1902, wedi ei ddwyn o flaen y Senedd gan y Gwir Anrhydeddus A. J. Birrel, gweinidog Addysg. Teimla'r Cynghor hwn yn nodedig o falch wrth weled y sicrheir gan y Mesur hwn lywodraeth- iad gan y bobl ar bob ysgol a gynhelir o'r dreth, a diddymir pob prawfion crefyddol ar athrawon, ac y cedwir allan o'r ysgolion dar- paredig addysg grefyddol enwadol." (5) Pasiwyd fod dirprwyaeth o'r Cynghor i j groesawu Cymanfa Gyffredinol y Metho dish iaid i'r ardal. Penodwyd fel Dirprwyaeth y personau canlynol: Parchn. J, Rhydwen Parry, Isfryn Hughes, John Hughes, Mri. D. G, Williams, Church Street; W. W. Jones, Brynawel; a William D. Jones, Brynegryn. (6) Pasiwyd hefyd fod dirprwyaeth o'r Cynghor i groesawu Undeb yr Annibynwyr Cymreig i'r ardal. Penodwyd y personau canlynol i weithredu fel Dirprwyaeth:— Parchn. David Jones, Garregddu; T. Isfryn Hughes, D. D. Jones, Tanygrisiau; D. Hoskins, M;A., Mri. Andreas Roberts, a Rd. Jones, Salem Cottage. (7) Pasiwyd ein bod i dalu arian y Girls' Guild yn ol i'r Gymdeithas. (8) Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a pherthynasau y diweddar Hugh Hughes, a gollodd ei fywyd drwy gyfarfod a damwain angeuol yn y Chwarel, yr oedd yn aelod o'r Cynghor, a gair da iddo gan bawb. (9) Dadganwyd gwerthfawrogiad o fywyd a llafur y diweddar Barch David Roberts, Rhiw. Yr oedd yn wr mawr yn Israel, cafodd ffafr gan Dduw, a pharch gan yr holl bobl. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r teulu yn eu galar. I GEORGE DAVIES, Brynbowydd.

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Advertising