Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN.

News
Cite
Share

YMGAIS I DDINYSTRIO TREN. Awdwr y Chwedl yn Saethu ei hun. Lie hynod am chwedlau o'i heiddo ei hun yw Llangollen, a phan fydd rhyw ddigwyddiad bychan dibwys yn cymeryd lie yno, bydd yr hanesion yn y wasg Seisnig wedi chwyddo i faintioli anferthol, ac yn cael en hadrodd gyda'r fath fedrusrwydd dyfeisgar fel yr arweinir y cyhoedd i gredu y cwbl hyd nes y ceir y gwir yn mhen dyddiau ar ol hyny. Ychydig wythnosau yn ol, cafodd Llangollen ddaeargryn o'i heiddo ei hun, ac yr oedd yr effaith ar y llestri yn y tai, ac ar bethau eraill mor gyffrous fel ag i achosi dychryn ac ofnad- wyaeth trwy fynwes yr holl drigolion'! Ond wedi aros hyd dranoeth, cafwyd nad oedd y daeargryn yn ddim ond effaith ergyd mewn craig yn ymyl ty y gohebydd sydd yn digwydd bod yn berchenog ar ddychymyg Iled fywiog. Yn y newyddiaduron ddydd Sadwrn cafwyd adroddiad cyffrous fel y canlyn :-Fel yr oedd signalman o'r enw Rowland Ellis Evans, yn myned ar hyd y ffordd tua una'rddeg o'r gloch nos lau, clywodd swn ar y gledrffordd am y clawdd ag ef, aeth drosodd a gwelodd ddau ddyn yno yn gosod coed cledrau (sleepers) ar y llinelI, ac yn y fan tarawyd ef a phastwm nes y syrthiodd ar lawr, ac wrth syrthio teimlai rhywbeth miniog yn tori ei wddf. Collodd ei ymwybyddiaeth, ond daeth ato ei hun yn mhen ychydig eiliadau. Yr oedd y ddau ddyn wedi diflanu o'r lie, a rhedodd yntau mor gyflym ag y gallai i'r signal-box i droi yr arwydd o berygl er atal y tren gan y byddai iddi gyfarfod a thrychineb anaele os deuai yn mlaen i'r pentwr coed oeddynt ar y cledrau. Yna cofiodd na byddai i'r tren sefyll wrth gael yr arwydd ond arafu yn unig. Cafodd afael mewn Ilusern ar yr Orsaf, a rhed- odd a'i holl egni ar hyd y llinell i gyfarfod y tren er mwyn ei hatal gyda'r goleu coch chwareuai ol a blaen. Pan ddaeth y tren syrthiodd fel marw ar ochr y Ilinell, a chodwyd ef i'r gerbydres, Ar ol symud y coed awd yn mlaen i'r orsaf, a bu Evans yn anymwybodol hyd yn hwyr nos Wener, ac ofnid am ei fywyd. Dyna'r stori. Ychydig o honi yn wir, nid oedd ol dim ar gorph Evans, ni bu yn anymwybodol yn ngolwg neb, ac nidoedd arwydd leiaf fod ar ei iechyd. Gwaith y Gohebydd yn dych- mygu yw y pethau hyny. Cynhaliwyd ym- chwilian manwl i'r hyn ddywedodd Evans, a'r oil o'r cyfryw gaed yn gywir ydoedd, iddo fynedx i'r Signal Box a throi yr arwydd yn erbyn y tren, ac ar ol hyny redeg i lawr y llinell gyda goleu coch ar ei lusern i atal y tren a bod coed ar y cledrau. Er pob ymgais i gael ar- wyddion i gadarnhau chwedl Evans ni chaed dim; a'r unig gasgliad ellid ddod iddo ef osod y coed yno ei hun; cael prawf o hyny ydoedd an- hawdd drachefn gan eifod yn un o'r dynion ieu- aingc rhagoraf ei gymeriad oedd gan y cwmni. Pwysid arno am eglurhad ar ei fod yn y lie yr adeg hono o'r nos, a phaham na fuasai yn symud y coed ei hunan oddiar y cledrau yn hytrach na rhedeg ol a blaen i'r Orsaf ? Nid oedd ei gyfrif yn foddhaol i'r awdurdodau, a phwysai hyny yn fawr ar ei feddwl trwy ddydd Gwener a Sadwrn, ac ofnai gael ei ddodi yn ngharchar ar ymchwiliad pellach i'r amgylchiadau. Nos Sadwrn, aeth Evans o Langollen am ei gartref yn Pantyceubren, Llanuwchlyn. Treul- iodd y Sabboth bron yn gyfangwbl yn ei wely, a methai ei fodryb yn lan a'i sirioli, Boreu ddydd Llun, ar haner ymwisgo, aeth allan gyda gwn, i "edrych am wningod meddai ef wrth ei fodryb, Tystiodd y gweision iddynt ei weled yn pasio yr adeiladau ychydig wedi saith o'r gloch, a gwn yn ei law. Ychydig wedi wyth o'r gloch, darganfyddwyd ei gorph marw mewn llyn o waed gyda'r gwn wrth ei ochr. Yr oedd wedi gosod ffroen y gwn ar ei fynwes, a gollwng yr ergyd i'w galon gyda darn o wialen oedd yn ei ymyl. Ni adawodd air o gwbl i egluro y chwedl am y coed ar y Llinell. Yr oedd y trangcedig yn ugain oed. Dywedir ei fod wedi darllen ffugchwedlau yn ddiweddar am anturiaethau arwrol, a gall i bethau o'r fath effeithio ar ei feddwl nes ceisio gwneyd arwr" o hono ei hun. Y TRENGHOLIAD. Dydd Mawrth, yn Pantyceubren, Llanuwch- llyn, cynhaliodd Mr. R. O. Jones, y Trenghol- ydd Sirol, drengholiad ar y corph. Eglurodd Mr. Jones i'r Rheithwyr mai dyledswydd Cwmni v Rheilffordd ydoedd chwilio i mewn i'r digwyddiad yn Llangollen, ac mai ei gwaith hwy oedd chwilio i achos marwolaeth y trangc- edig yn unig. Tystiwyd gan y teulu sut y bu gydag Evans a'r gwn, a'r modd y cafwyd ef yn gorwedd yn farw a'r gwn wrth ei ochr, Dy- wedodd David Richard Roberts, Bala, ei fodar ymueliad a Pantyceubren dros wyliau y Groglith a'r Pasg, ac wrth ymddiddan yn nghylch "digwyddiad Llangollen" bu i Evans I ddywedyd ei fod wedi cael cerydd gan awdur- dodau Cwmni y Rheilffordd am na cheisiodd symud y coed oddiar y Llinell. Y Prif-arolygydd W. Thomas a ddywedodd fod Evans yn ngwasanaeth y Cwmni er Mawrth 30, 1903. Yr oedd ei ddyrchafiadau yn hynod gyflym. Nid oedd wedi ei atal o gwbl. Trengholydd: A; ni chyhuddwyd ef o fod wedi gosod y pethau ei hun ar y Llinell ?— Naddo. Trengholydd Dywedodd wrth un o'r tyst- tonlei fod wedi ei geryddu yn Ilym.-Rhaid mai dychymyg noeth' ar ei ran oedd hyny. Dychweiwyd Rheithfarn o, Saethu ei hun tra mewn cyflwr o orphwylledd dros dymor." Hysbysodd y Trengholydd fod dau lythyr wedi eu derbyn yn Llangollen gyda chyfeiriad Evans arnynt. Gwobr o bunt yr un i Evans am ei ddewrder yn atal y tren oeddynt, y naill oddiwrth J. Dayman,-Abertawe, a'r llall oddi- wrth Ledlsy Taylor, White Lodge, Steering- ham. Ery: y digwyddiad hwn yn ddirgelwch, gan nad oes dim arwyddion wedi eu darganfod er cynorthwyo yr awdurdodau i allu penderfynu a oedd dau ddyn ar y lie a'i peidio.

1Briwsion o Ffestiniog.

Cynghor Egiwysi RhyddionI…

IBeddgelert a'r Amgylchoedd.

IBuddugoliaethau'r Groglith…

ICytundebau y Tafarnau Rhwym.I

i Ilentyn yn Saethu ei Fam.I

I Cymdeithas Ysweiriol y Britannic.

IBlaenau Ffestiniog.I

Advertising